Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgyrch farchnata i ddefnyddwyr ledled y DU i ddechrau, i gynyddu y galw am laeth gwlyb i gefnogi’r sector llaeth yr effeithiwyd arno gan COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae effaith y pandemig byd-eang wedi ei weld ar unwaith ar y sector llaeth, gyda cau y sectorau gwasanaethu bwyd a lletygarwch, a gadael rhai proseswyr heb safle gwerthu hyfyw ar gyfer eu llaeth a’u cynnyrch llaeth.

Bydd ymgyrch newydd i ddefnyddwyr yn helpu i sicrhau cydbwysedd yn y gor-gyflenwad o laeth oherwydd bod y sector gwasanaethau bwyd wedi cau. Mae AHDB yn amcangyfrif bod gwerthiant proseswyr llaeth gwlyb sy’n gwasanaethau’r marchnadoedd gwasanaethu bwyd neu farchnadeodd cyfanwerthu wedi gostwng 50-60%.

Bydd yr ymgyrch, o dan arweiniad AHDB, gyda chyllid ychwanegol gan Dairy UK, llywodraethau y DU, y sector manwerthu a’r diwydiant yn ehangach, yn anelu at gynyddu galw defnyddwyr am laeth 3% dros gyfnod o 12 wythnos. Mae hyn yn cyfateb â 450,000 litr o laeth gwlyb y dydd.

Bydd y fenter yn mynd yn fyw wythnos nesa, drwy ymgyrch wedi’i thargedu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrch deledu. Bydd yn anelu at hybu gwerthiant llaeth gwlyb yn y tymor byr, a chynnal y galw hwnnw dros y tymor canolig yn ystod yr ymgyrch, fesul cam.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at yr angen i gysylltu ag eraill i wella llesiant yn yr argyfwng presennol, a swyddogaeth llaeth ffres yn hynny, er enghraifft cwpaned o de neu goffi rithiol gyda teulu, ffrindiau neu gymydog.

Mae’r ymgyrch newydd yn dilyn symudiadau diweddar i gefnogi’r sector llaeth gyda llachio’r cyfreithiau cystadlu dros dro i alluogi mwy o gydweithio, fel y gall y sector, gan gynnwys ffermwyr llaeth a phroseswyr, gydweithio yn agosach i ddatrys y problemau y maent yn eu hwynebu.

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

Mae’r sector llaeth wedi teimlo effaith cau y sector gwasanaethau bwyd ar unwaith, a’r gostyngiad yn y galw am laeth o ganlyniad i hynny.

Mae mor bwysig i gefnogi ein ffermwyr llaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dwi’n falch i weithio gyda llywodraethau ledled y DU a gyda’r diwydiant ar yr ymgyrch farchnata newydd hon i hybu galw y defnyddiwr am ein cynnyrch gwych o Gymru.

Yn ystod y cyfnodau heriol hyn, mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio’n agos â llywodraethau ledled y DU, ac yn defnyddio’r pwerau sydd ar gael inni i warchod y gadwyn gyflenwi a lliniaru y tarfu difrifol y mae’r argyfwng hwn yn ei achosi i’n cynhyrchwyr a’n proseswyr.

Yn ogystal ag atal y cyfreithiau cystadlu dros dro, bydd yr ymgyrch hon yn helpu i gefnogi’r sector i fynd i’r afael ac i ymateb i’r problemau parhaus sy’n dod gyda’r pandemig byd-eang hwn.