Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn lansio’n swyddogol rwydwaith newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg heddiw yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r rhwydwaith er hybu rhagoriaeth yn targedu gwella sgiliau athrawon mewn gwyddoniaeth a thechnoleg a gwella profiad y disgyblion yn y meysydd hyn tra byddant yn yr ysgol.

Mae dros £4 miliwn yn cael ei fuddsoddi drwy’r rhwydwaith a fydd yn chwarae rôl allweddol yng nghenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion drwy ddiwygio addysg.

Mae’r rhwydwaith yn golygu gweld ysgolion, colegau, prifysgolion a’r pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn gweithio gyda’i gilydd i wella addysgu a dysgu gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru.

Bydd y rhwydwaith newydd yn gwneud y canlynol:

  • dwyn ynghyd yr wybodaeth fwyaf arloesol ar arferion addysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i ddisgyblion rhwng 3 a 18 oed.
  • cydlynu’r  gwaith o ddatblygu a chyflwyno datblygiad proffesiynol cydnabyddedig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i athrawon yn seiliedig ar dystiolaeth fyd-eang a lleol am yr hyn sy’n gweithio.
  • gwella profiadau disgyblion ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion ledled Cymru.
  • galluogi ysgolion i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cyrsiau, adnoddau addysgu ac ymchwil yn seiliedig ar waith yn y dosbarth.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Bydd gan y rhwydwaith gwyddoniaeth a thechnoleg newydd ran hanfodol i’w chwarae yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad a chyflwyno system addysgu sy’n destun balchder a hyder i ni fel gwlad.

“Roedd canlyniadau PISA wedi dangos yn glir bod yn rhaid i ni wella addysgu gwyddoniaeth yn ein hysgolion. Gyda’r cymwysterau newydd a’r symud oddi wrth BTEC Gwyddoniaeth, rydyn ni’n hyderus y bydd y rhwydwaith newydd yn chwarae rôl allweddol wrth godi safonau yn y dosbarth.

“Bydd y rhwydwaith newydd hwn yn dwyn ynghyd addysg uwch, colegau, consortia addysg rhanbarthol ac ysgolion arweiniol ac yn arwain at gyflwyno’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r profiadau gorau er lles ein pobl ifanc.”

Dywedodd Cadeirydd y rhwydwaith cenedlaethol, yr Athro Tom Crick:

“Rydw i wrth fy modd cael Cadeirio’r rhwydwaith gwyddoniaeth a thechnoleg er hybu rhagoriaeth. Mae’n cynnig fframwaith i brifysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill weithio gyda chonsortia rhanbarthol ac ymarferwyr i sicrhau ein bod yn mabwysiadu gwaith ymchwil gwybodus ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth o bob cwr o Gymru a thramor er mwyn cefnogi’r diwygiadau cyffrous sy’n digwydd ym myd addysg yng Nghymru.”