Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg ystadegol o'r ffordd y mae'r rhaglen yn gweithio rhwng ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Mae'n cyflwyno ystadegau o set gwybodaeth reoli. Er enghraifft, niferoedd y plant sy'n defnyddio gwasanaethau Dechrau'n Deg, ynghyd â datblygu ystadegau am ganlyniadau ar gyfer plant Dechrau'n Deg.

Prif bwyntiau

  • Roedd 36,869 o blant wedi elwa, trwy dderbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yng Nghymru ar unrhyw adeg yn 2017-18. Mae hyn yn rhagori’r niferoedd disgwyliedig fesul 2%, ond yn dangos cwymp o 2% ar y nifer o blant mewn derbynneb o wasanaethau yn 2016-17 (37,628).
  • Cafodd plant Dechrau'n Deg o bob oed hyd at 4 oed (oedd ar y llwyth achosion yr ymwelydd iechyd) eu gweld ar gyfartaledd o 6.9 gwaith yn ystod 2017-18 gan ymwelwyr iechyd ac aelodau o'r tîm iechyd ehangach, ychydig yn llai nag yn 2016-17 (7.0 cyswllt y plentyn).
  • Hawliwyd 87% o’r cynigion o ofal plant mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn ystod 2017-18. Mae hyn yn ostyngiad bach ers 2016-17 (88%).
  • Roedd 93% o blant 3 oed, a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir (2017). Gostyngiad bach o 94% yn 2016.
  • Roedd 34% o'r babanod a enir i famau sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg yn cael eu bwydo unrhyw laeth y fron yn 10 diwrnod oed. Mae hyn o’i gymharu â 50% o'r rhai mewn ardaloedd nad ydynt yn rai Dechrau'n Deg (2016).
  • Roedd 82% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg wedi cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn eu 4ydd pen-blwydd (2017-18), dim newid canrannol ers 2016-17.
  • Mae gan ardaloedd Dechrau’n Deg lefel is o achosion o blant pwysau iach (71%) nag ardaloedd nad ydynt yn rai Dechrau’n Deg (74%) (2015-16 a 2016-17).

Adroddiadau

Ystadegau crynodeb Dechrau'n Deg, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau crynodeb Dechrau'n Deg, Ebrill 2017 i Fawrth 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 179 KB

ODS
Saesneg yn unig
179 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.