Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg ystadegol o'r ffordd y mae'r rhaglen yn gweithio rhwng ar gyfer Ebrill 2018 a Fawrth 2019.

Mae'n cyflwyno ystadegau o set gwybodaeth reoli. Er enghraifft, niferoedd y plant sy'n defnyddio gwasanaethau Dechrau'n Deg, ynghyd â datblygu ystadegau am ganlyniadau ar gyfer plant Dechrau'n Deg.

Prif bwyntiau

  • Roedd 36,367 o blant wedi derbyn (elwa o) gwasanaethau Dechrau’n Deg yn ystod 2018-19; 1% yn is nag yn 2017-18 (36,869) ond 0.4% yn fwy na’r nifer disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn.
  • Cafodd plant Dechrau'n Deg hyd at 4 oed eu gweld ar gyfartaledd o 6.2 gwaith yn ystod 2018-19 gan ymwelwyr iechyd ac aelodau o'r tîm iechyd ehangach, ychydig yn llai nag yn 2017-18 (6.9 cyswllt y plentyn).
  • Hawliwyd 88% o’r cynigion o ofal plant mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn ystod 2018-19. Mae hyn yn gynnydd bach ers 2017-18 (87%).
  • Roedd 93% o blant 3 oed, a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir (2018). Dim newid ers 2017.
  • Cynyddodd cyfraddau bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed ar draws Cymru yn 2017 o’i gymharu â 2016, ond yn parhau yn is mewn ardaloedd Dechrau’n Deg (35%) nag mewn ardaloedd nad ydynt yn rai Dechrau'n Deg (51%).
  • Roedd 83% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg wedi cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn eu 4ydd pen-blwydd (2018-19), cynnydd bach ers 2017-18.
  • Mae gan ardaloedd Dechrau’n Deg lefel is o achosion o blant pwysau iach (71%) nag ardaloedd nad ydynt yn rai Dechrau’n Deg (74%) (2016/17 a 2017/18).

Adroddiadau

Ystadegau crynodeb Dechrau'n Deg, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau crynodeb Dechrau'n Deg, Ebrill 2018 i Fawrth 2019: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 254 KB

XLSX
Saesneg yn unig
254 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.