Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Diben y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth y rhaglen Dechrau’n Deg.

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn 2012-13. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER).

Er i’r pandemig effeithio llai ar 2021-22 nag ar 2020-21, roedd rhai newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth Dechrau'n Deg o’i herwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Prif bwyntiau

Gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ymwelwyr iechyd, yn 2021-22 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol ond roedd yn parhau i fod yn is na'r nifer disgwyliedig.

Gostyngodd nifer cyffredinol y cysylltiadau a gwblhawyd gan ymwelwyr iechyd a'r tîm iechyd ehangach yn 2021-22, gan barhau â'r duedd hirdymor sy’n mynd tuag at i lawr i raddau helaeth.

Gostyngodd nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2021-22 ond roedd cynnydd tebyg o faint yn nifer staff FTE y tîm iechyd ehangach.

Yn 2021-22 roedd canran ychydig yn uwch o blant cymwys i gael darpariaeth Dechrau'n Deg yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol na'r ganran o blant o leiafrifoedd ethnig ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.

Yn 2021-22 cafodd gofal plant Dechrau'n Deg ei gynnig i deuluoedd bron pob plentyn cymwys, ac fe gafodd y cynnig ei dderbyn ar gyfer bron i naw o bob deg plentyn cymwys.

Cafodd cyrsiau rhianta strwythuredig ffurfiol a chyrsiau rhianta/lleferydd, iaith a chyfathrebu anffurfiol eu derbyn gan deuluoedd ar gyfer saith o bob deg plentyn cymwys yn 2021-22.

Roedd ychydig llai na chwarter y genedigaethau yng Nghymru yn 2021-22 yn rai i famau yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg.

Yn 2021-22, fe wnaeth y ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed barhau i gynyddu, ond mae’n parhau i fod yn is na’r ganran o blant a oedd yn cael eu bwydo ar y fron ac yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Yn 2021-22, nid oedd newid i’r ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn eu pen blwydd yn 4 oed ac mae'n parhau i fod yn is na’r ganran o blant wedi cael eu himiwneiddio yn llwyr a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg. 

Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg

Mae nifer y plant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn yn cael eu cyfrifo drwy gyfri nifer y plant sydd â chysylltiad ag ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg. Efallai bod nifer bach o blant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg ond nad oes ganddynt gysylltiad ag ymwelydd iechyd yn y flwyddyn adrodd; ni fyddai'r plant hyn yn cael eu cyfrif yn y data yn Ffigur 1.

Ers 2015-16, mae nifer y plant y mae disgwyl iddynt gael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl diffiniad canllawiau’r rhaglen Dechrau’n Deg, wedi parhau yr un fath ar 36,215.

Image
Roedd nifer y plant sydd yn elwa'n uwch na'r niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o'r rhaglen tan 2020-21.

Roedd nifer y plant a oedd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ag ymwelydd iechyd, bob amser yn uwch na’r nifer disgwyliedig yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer sy'n derbyn gwasanaethau yn 2020-21 yn unol ag anterth y pandemig ac arhosodd yn is na'r nifer disgwyliedig yn y flwyddyn ddilynol.

Yn 2021-22, derbyniodd ychydig dros 34,000 o blant wasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ag ymwelydd iechyd. Roedd hyn 6% yn is na'r nifer disgwyliedig, ond mae'n gynnydd o 7% ers 2020-21.

Mae nifer y plant y mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau iddynt yn cael ei alw’n llwyth achosion. Mae nifer y plant a’r ganran o’r boblogaeth plant yn llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol ac mae Tabl 1 (MS Excel 150KB) yn dangos hyn. Roedd 37% o blant o dan 4 oed ym Merthyr Tudful ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf yng Nghymru), o gymharu ag 16% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru).

Gan fod y cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg yn seiliedig ar ardaloedd, effeithir ar nifer y plant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan nifer y plant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ym mhob blwyddyn. Mae newidiadau i ddemograffeg poblogaeth yn effeithio ar hyn yn ei dro. Mae nifer y plant 0 i 4 oed yng Nghymru wedi gostwng rhwng 1.2% a 2.5% pob blwyddyn ers 2016.

Gan y gall blant symud i ardaloedd Dechrau’n Deg neu ohonynt yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd cyfanswm nifer y plant y cyfrifir eu bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn derbyn y gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyfan.

Gweithgarwch y rhaglen Dechrau'n Deg

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn galluogi plant i gael gwasanaethau gan ystod o weithwyr proffesiynol gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd; gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn ehangach fel deietegwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol; ac aelodau eraill o staff fel cynorthwywyr i staff iechyd cymwysedig. Mae rhagor o fanylion ynghylch grwpiau o staff ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Mae Ffigur 2 yn dangos nifer y cysylltiadau a wneir gan bob grŵp staff ac yn cynnwys pob cyswllt arall wedi'i dargedu sy'n berthnasol i'r plentyn, hyd yn oed pan nad yw'r plentyn yn bresennol.

Image
Mae nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg wedi tueddu i fynd i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng 2014-15 a 2015-16.

Mae nifer y cysylltiadau â phlant hyd at bedair oed gan ymwelwyr iechyd a'r tîm iechyd ehangach wedi bod ar i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng y blynyddoedd 2014-15 a 2015-16. Cafodd cysylltiadau gan aelodau eraill o staff eu cofnodi o 2015-16 ymlaen ac maent wedi aros yn weddol sefydlog ym mhedair o'r pum mlynedd ddiwethaf.

Yn 2021-22 roedd bron i 138,000 o gysylltiadau gydag ymwelwyr iechyd, gostyngiad o 12% ers y flwyddyn flaenorol; ychydig dros 51,000 o gysylltiadau â staff iechyd ehangach, gostyngiad o 19% ers y flwyddyn flaenorol; ac ychydig dros 36,000 o gysylltiadau gyda staff eraill, gostyngiad o 32% ers y flwyddyn flaenorol.

Image
Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn wedi tueddu i fynd i lawr ers i'r data gael eu casglu am y tro cyntaf.

Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau ymwelwyr iechyd fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg wedi bod ar i lawr ers i ddata gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012-13. Yn 2021-22, ar gyfartaledd fe gafodd pob plentyn 4.0 o gysylltiadau ymwelwyr iechyd, is nag yn y flwyddyn flaenorol, ond fymryn yn uwch nag yn y flwyddyn cyn y pandemig (2019-20).

Yn yr un modd, gostyngodd nifer cyfartalog y cysylltiadau gyda'r tîm iechyd ehangach a staff eraill o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ond roedd y ddau ychydig yn uwch nag yn y flwyddyn cyn y pandemig (2019-20).  

Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn amrywio'n fawr fesul awdurdod lleol ac mae hyn i’w weld yn Nhabl 3 (MS Excel 150KB).

Gweithlu Dechrau'n Deg

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data ar gyfanswm yr oriau sy'n cael eu gweithio gan aelodau pob grŵp staff sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg. Yna defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn. Mae un FTE gyfystyr ag aelod o staff yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Darperir mwy o fanylion am hyn yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Image
Ar ôl cynnydd sydyn cychwynnol, bu'r sefyllfa braidd yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn, ond mae nifer yr ymwelwyr iechyd wedi parhau i fod yn agos at 300 FTE.

Cynyddodd nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn sydyn yn ystod blynyddoedd cyntaf y rhaglen. Ers 2014-15 mae’r sefyllfa wedi bod braidd yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'r nifer wedi aros yn agos at 300 FTE.

Yn 2021-22 roedd 271 o ymwelwyr iechyd FTE, gostyngiad o 6% o gymharu â 2020-21.

Cafwyd cynnydd sydyn yn nifer y tîm iechyd ehangach FTE sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg tan 2016-17. Ers hynny gostyngodd y nifer bob blwyddyn tan 2019-20, yna cafwyd cynnydd yn y ddwy flynedd ers hynny.

Yn 2021-22 roedd 235 o staff timau iechyd ehangach FTE, sef cynnydd o 7% o gymharu â 2021-22.

Roedd 100 o staff eraill FTE yn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2021-22, nifer eithaf tebyg i'r saith mlynedd blaenorol. 

Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg

Nifer cyfartalog plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd yn 2021-22 oedd 31,509 o blant, ar lefel Cymru. Mae nifer y plant sydd ar y llwyth achosion yn gyffredinol yn is na nifer y plant sydd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn oherwydd bod teuluoedd yn symud i o ardaloedd Dechrau'n Deg ac allan o’r ardaloedd hynny gydol y flwyddyn, ac wrth i blant dyfu'n hŷn mae’n bosibl y byddant yn dod yn anghymwys ar gyfer gwasanaethau ar raddfa gyflymach nag y daw newydd-ddyfodiaid yn gymwys.

Mae awdurdodau lleol yn darparu data ar rai nodweddion plant a'u teuluoedd, sydd ar eu llwyth achosion.

Image
Ychydig iawn o amrywiad a welir dros y chwe blynedd a ddangosir.

Ar lefel Cymru, ychydig o newid a welwyd ar gyfer y rhan fwyaf o gategorïau dros y chwe blynedd diwethaf.

2021-22

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant o gefndir ethnig lleiafrifol oedd 13%. Mae hyn 1 pwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol. At bwrpas cymharu, amcangyfrifodd Cyfrifiad 2011 (NOMIS) fod 8% o blant 0 i 4 oed yng Nghymru o leiafrif ethnig. Hefyd, mae data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn amcangyfrif bod rhwng 10% ac 11% o fabanod newydd anedig yng Nghymru rhwng 2018 a 2020 o leiafrif ethnig.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf oedd 3%. Nid yw hyn wedi newid ryw lawer ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle nad y Gymraeg na’r Saesneg yw'r iaith gyntaf oedd 6%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle mae gan blant riant/gofalwr anabl oedd 2%. Nid yw hyn wedi newid ryw lawer ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle’r oedd y plentyn yn anabl oedd 2%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Mae’r data ar gyfer pob awdurdod lleol wedi’u cynnwys yn Nhabl 4 (MS Excel 150KB)

Gofal Plant

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Image
Mae’r ganran wedi aros yn weddol gyson gan amrywio rhwng 94% a 99%.

Cafodd teuluoedd 99% o blant cymwys gynnig gofal plant Dechrau'n Deg yn 2021-22, cynnydd o 3 phwynt canran ers y llynedd.

Mae Tabl 5 (MS Excel 150KB) yn dangos bod pob awdurdod lleol wedi cynnig gofal plant i deuluoedd o leiaf 94% o blant cymwys, gydag 13 awdurdod lleol yn cynnig gofal plant i deuluoedd 100% o'r plant cymwys yn eu hardal.

Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y teulu yw derbyn y cynnig ai peidio.

Image
Mae canran y plant sy'n cael gofal plant sy'n cael eu darparu gan Dechrau'n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y naw mlynedd diwethaf, ychydig yn is na'r Ffigur brig o 90% a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Mae canran y plant y mae eu teulu yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi gostwng ychydig yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu 3 phwynt canran yn 2021-22 i 87%.

Mae Tabl 5 (MS Excel 150KB) yn dangos sut roedd y gyfradd dderbyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Cafodd 100% o gynigion eu derbyn yng Nghasnewydd (y gyfradd uchaf yng Nghymru) o gymharu â 71% ym Mhowys (y gyfradd isaf yng Nghymru).

Magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu

Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn yn gymwys am ddarpariaeth Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant bob blwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant. Gall hyn gynnwys cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol a phersonol a sesiynau galw heibio anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.

Yn 2021-22, roedd y nifer a fanteisiodd ar gyrsiau a gynigiwyd i rieni plant Dechrau’n Deg yn 71% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol a 67% ar gyfer cyrsiau magu plant/lleferydd, iaith a chyfathrebu strwythuredig anffurfiol.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 6 (MS Excel 150KB).

Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg

Yn 2021, roedd 23% o’r genedigaethau byw yng Nghymru yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, gostyngiad bach ers 2020.

Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, o 37% ym Merthyr Tudful (yr uchaf yng Nghymru) ac 13% yn Sir Fynwy a Phowys (yr isaf yng Nghymru). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 7 (MS Excel 150KB).

Canlyniadau iechyd: bwydo babanod

Cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn hollbwysig i iechyd babanod a’u mamau. Mae canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed yn un o’r dangosyddion mamolaeth a ddefnyddir i feincnodi gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd lleol.

Image
Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sy’n cael unrhyw laeth o’r fron wedi cynyddu yn gyson dros yr wyth mlynedd (o 48% i 56%) fel y mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (o 32% i 41%).

Yn 2021, roedd pedwar o bob deg (41%) o’r babanod a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oeddent yn 10 diwrnod oed, o gymharu â dros hanner (56%) y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae cyfradd y babanod sy’n bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed wedi bod yn cynyddu mewn ffordd debyg ymhlith babanod ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Dros y cyfnod o wyth mlynedd, mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi parhau’n gymharol sefydlog, gyda chyfradd o 15 neu 16 pwynt canran yn is yn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 62% yng Ngheredigion (yr uchaf yng Nghymru) i 23% yn Wrecsam (yr isaf yng Nghymru).

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 8 (MS Excel 150KB).

Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd

Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.

Image
Mae’r cyfraddau derbyn yn gyson uwch ar gyfer plant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg na’r plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Mae canran yr holl blant sy'n cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn pedair oed wedi aros yn gyson ar y cyfan ers 2013-14.

Yn 2021-22, roedd 83% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed o gymharu ag 88% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae Tabl 9 (MS Excel 150KB) yn dangos y gwahaniaethau mewn cyfraddau imiwneiddio ar gyfer plant cymwys Dechrau'n Deg sy'n byw mewn gwahanol awdurdodau lleol, yn amrywio o 92% yn Ynys Môn a Sir Fynwy (yr uchaf yng Nghymru) i 74% yng Nghaerdydd (yr isaf yng Nghymru).

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (19 allan o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Canlyniadau iechyd: pwysau iach

Rhaglen wyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 yw Rhaglen Mesur Plant Cymru (GIG Cymru).  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 Pedwar a phump 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Mae data cenedlaethol o'r Rhaglen Mesur Plant ar gael ar hyn o bryd tan flynyddoedd ysgol 2017/18 i 2018/19. Tarfwyd ar gasglu data yn sgil cau ysgolion a blaenoriaethu adnoddau mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi’r bwriad i ailddechrau casglu data yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23

Mae’r data a gyhoeddwyd mewn datganiadau Dechrau’n Deg blaenorol yn dangos bod y ganran o blant yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg sydd â phwysau iach wedi bod yn gyson is (3 i 4 pwynt canran) na phlant yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg ers i’r data gael eu casglu gyntaf.

Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir

Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.

Yn 2021-22, cafodd 91% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o gymharu ag 86% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 91% a 94%.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 11 (MS Excel 150KB).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Effeithiwyd ar 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi.

Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
  • roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2020-21. Gweler ddatganiad y llynedd am fwy o fanylion.

Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data 2020-21 a 2021-22 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2020-21.

Grwpiau staff

Mae'r tîm iechyd ehangach yn cael ei ddiffinio fel y staff hynny sydd â chofrestriad iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, a ariennir gan raglen Dechrau'n Deg. Bydd yn cynnwys staff sydd yn:

  • rheolwyr iechyd heb achosion penodol
  • deietegwyr
  • bydwragedd
  • seicolegwyr clinigol
  • seicolegwyr addysg
  • therapyddion iaith a lleferydd
  • gweithwyr cymdeithasol
  • nyrsys cymunedol (gyda chymhwyster priodol)
  • therapyddion galwedigaethol
  • unrhyw weithwyr proffesiynol arall ym meysydd iechyd neu ofal

Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Mae hyn fel arfer yn golygu'r rhai nad ydynt wedi cymhwyso'n llawn a'r rhai sy'n cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso'n llawn wrth ddarparu gwasanaethau.

Amcangyfrif faint o’r gweithlu sy’n gyfwerth ag amser llawn

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data am nifer yr oriau y mae pob grŵp staff yn gweithio ym mhob tymor o'r flwyddyn. Yna, defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn. Mae'r cyfrifiad hwn yn rhoi mesur cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol ac yn ystyried cyfnodau mamolaeth, salwch tymor hir a gwyliau/diwrnodau i ffwrdd.

Mae'r ffactorau trosi yn berthnasol i bob tymor. Gan nad oes gan y tymhorau yr un nifer o wythnosau ynddynt, mae'r ffactorau trosi hefyd yn wahanol. Yn 2021-22 mae'r ffactor trosi yn defnyddio 18 wythnos ar gyfer tymor 1; 15 wythnos ar gyfer tymor 2; ac 11 wythnos ar gyfer tymor 3. Mae cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gyfrif am 37.5 awr sy'n cael eu gweithio bob wythnos ar gyfer pob grŵp staff.

Fformiwla y ffactor trosi yw: nifer yr oriau a weithiwyd yn y tymor wedi'i rannu gyda (nifer yr wythnosau yn y tymor wedi'i luosi gyda 37.5).

Mae data ar nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y GIG yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu casglu mewn ffordd hollol wahanol. Felly nid oes modd cymharu ag unrhyw ddata a gyhoeddwyd gan ddefnyddio ffurflenni monitro data Dechrau'n Deg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru  

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 231/2022