Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

Diben y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth y rhaglen Dechrau’n Deg.

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER).

Er i’r pandemig effeithio llai ar 2022-23 nag ar y ddwy flynedd flaenorol, roedd rhai newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth Dechrau'n Deg o’i herwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Drwy gydol y datganiad hwn, mae’r term ‘blwyddyn’ yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol pan fo wedi ei ysgrifennu fel ‘2022-23’ ac yn cyfeirio at fis Ebrill 2022 hyd at fis Mawrth 2023. Pan na fo hyn yn wir, mae’r misoedd wedi’u nodi.

Prif bwyntiau

Gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ymwelwyr iechyd, yn 2022-23, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol ond roedd yn parhau i fod yn is na'r nifer disgwyliedig.

Yn 2022-23, gostyngodd cyfanswm nifer y cysylltiadau gyda phlant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg gan ymwelwyr iechyd a staff eraill, ond cynyddodd cysylltiadau gan y tîm iechyd ehangach o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Gwelwyd cynnydd bach yn nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2022-23 a gwelwyd cynnydd mwy yn nifer staff FTE y tîm iechyd ehangach a grwpiau eraill o staff.

Yn 2022-23, roedd canran ychydig yn uwch o blant cymwys i gael darpariaeth Dechrau'n Deg yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol na'r ganran o blant o leiafrifoedd ethnig ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.

Cafodd gofal plant Dechrau'n Deg yn 2022-23 ei gynnig i deuluoedd bron pob plentyn cymwys, ac fe gafodd y cynnig ei dderbyn ar gyfer bron i naw o bob deg plentyn cymwys

Cafodd cyrsiau rhianta strwythuredig ffurfiol a chyrsiau rhianta neu leferydd, iaith a chyfathrebu anffurfiol eu derbyn gan deuluoedd ar gyfer saith o bob deg plentyn cymwys.

Roedd ychydig llai na chwarter y genedigaethau yng Nghymru yn 2022 yn rai i famau yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg.

Fe wnaeth y ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed barhau i gynyddu, ond mae’n parhau i fod yn is na’r ganran o blant a oedd yn cael eu bwydo ar y fron ac yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Gwelwyd gostyngiad bach yn y ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn eu pen blwydd yn 4 oed ac mae'n parhau i fod yn is na’r ganran o blant wedi cael eu himiwneiddio yn llwyr a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg

Mae nifer y plant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn yn cael eu cyfrifo drwy gyfri nifer y plant sydd â chysylltiad ag ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg. Efallai bod nifer bach o blant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg ond nad oes ganddynt gysylltiad ag ymwelydd iechyd yn y flwyddyn adrodd; ni fyddai'r plant hyn yn cael eu cyfrif yn y data yn Ffigur 1. 

Ers 2015-16, mae nifer y plant y mae disgwyl iddynt gael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl diffiniad canllawiau’r rhaglen Dechrau’n Deg, wedi parhau yr un fath ar 36,215.

Ffigur 1: Nifer y plant yng Nghymru a oedd yn cael gwasanaethau gan ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg, 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y plant sydd yn elwa yn uwch na'r niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o'r rhaglen tan 2020-21 ac wedi aros yn is na’r disgwyl yn 2022-23.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Roedd nifer y plant a oedd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ag ymwelydd iechyd, bob amser yn uwch na’r nifer disgwyliedig yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer sy'n derbyn gwasanaethau yn 2020-21 yn unol ag anterth y pandemig ac arhosodd yn is na'r nifer disgwyliedig yn y 2 flynedd ddilynol. 

Yn 2022-23, derbyniodd 35,429 o blant wasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ag ymwelydd iechyd. Roedd hyn 2.2% yn is na'r nifer disgwyliedig, ond mae'n gynnydd o 3.8% ers 2021-22.

Mae nifer y plant y mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau iddynt yn cael ei alw’n llwyth achosion. Mae nifer y plant a’r ganran o’r boblogaeth plant yn llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol ac mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos hyn. 

Roedd 43.2% o blant o dan 4 oed ym Merthyr Tudful ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf yng Nghymru), o gymharu ag 16.9% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru). 

Gan fod y cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg yn seiliedig ar ardaloedd, effeithir ar nifer y plant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan nifer y plant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ym mhob blwyddyn. Mae newidiadau i ddemograffeg poblogaeth yn effeithio ar hyn yn ei dro. Mae nifer y plant 0 i 4 oed yng Nghymru wedi gostwng rhwng 0.3% a 3.2% pob blwyddyn ers 2012. 

Gan y gall blant symud i ardaloedd Dechrau’n Deg neu ohonynt yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd cyfanswm nifer y plant y cyfrifir eu bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn derbyn y gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyfan.

Gweithgarwch y rhaglen Dechrau'n Deg

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn galluogi plant i gael gwasanaethau gan ystod o weithwyr proffesiynol gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd; gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn ehangach fel deietegwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol; ac aelodau eraill o staff fel cynorthwywyr i staff iechyd cymwysedig. Mae rhagor o fanylion ynghylch grwpiau o staff ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae Ffigur 2 yn dangos nifer y cysylltiadau a wneir gan bob grŵp staff ac yn cynnwys pob cyswllt arall wedi'i dargedu sy'n berthnasol i'r plentyn, hyd yn oed pan nad yw'r plentyn yn bresennol. 

Ffigur 2: Nifer y cysylltiadau yn ôl grŵp staff, 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg wedi tueddu i fynd i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng 2014-15 a 2015-16.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Mae nifer y cysylltiadau â phlant hyd at 4 oed gan ymwelwyr iechyd a'r tîm iechyd ehangach wedi bod ar i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng y blynyddoedd 2014-15 a 2015-16. Cafodd cysylltiadau gan aelodau eraill o staff eu cofnodi o 2015-16 ymlaen ac maent wedi aros yn weddol sefydlog ym mhedair o'r pum mlynedd ddiwethaf.

Yn 2022-23 roedd 125,092 o gysylltiadau gydag ymwelwyr iechyd, gostyngiad o 9.0% ers y flwyddyn flaenorol; 57,928 o gysylltiadau â staff iechyd ehangach, cynnydd o 12.6% ers y flwyddyn flaenorol; a 33,213 o gysylltiadau gyda staff eraill, gostyngiad o 8.2% ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 3: Nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn, 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn wedi tueddu i fynd i lawr ers i'r data gael eu casglu am y tro cyntaf.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Yn 2022-23, ar gyfartaledd fe gafodd pob plentyn 3.5 o gysylltiadau ymwelwyr iechyd, y nifer isaf ar gofnod. 

Cynyddodd nifer cyfartalog y cysylltiadau gyda'r tîm iechyd ehangach ond gwelwyd mymryn o ostyngiad yn nifer y cysylltiadau gyda staff eraill o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ond roedd nifer y cysylltiadau gyda’r tîm iechyd ehangach ychydig yn uwch ac nid oedd cysylltiadau gyda staff eraill wedi newid o gymharu â’r flwyddyn cyn y pandemig (2019-20).

Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn amrywio'n fawr fesul awdurdod lleol ac mae hyn i’w weld yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod. 

Gweithlu Dechrau'n Deg

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data ar gyfanswm yr oriau sy'n cael eu gweithio gan aelodau pob grŵp staff sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg. Yna defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn. Mae un FTE gyfystyr ag aelod o staff yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Darperir mwy o fanylion am hyn yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Ffigur 4: Nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos bod y sefyllfa wedi bod braidd yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn yn dilyn cynnydd sydyn cychwynnol hyd at 2016-17, ond mae nifer yr ymwelwyr iechyd wedi parhau i fod rhwng 270 a 300 FTE ers 2017-18.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn y gweithlu Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Yn 2022-23 roedd 273 o ymwelwyr iechyd FTE, cynnydd o 0.6% o gymharu â 2021-22.

Cafwyd cynnydd sydyn yn nifer y tîm iechyd ehangach FTE sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg tan 2016-17, yna gostyngiad bob blwyddyn tan 2019-20, cyn cynyddu eto o un flwyddyn i’r llall. 

Yn 2022-23 roedd 242 o staff timau iechyd ehangach FTE, sef cynnydd o 3.1% o gymharu â 2021-22. 

Roedd 111 o staff eraill FTE yn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2022-23, cynnydd o 10.9% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg

Nifer cyfartalog plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd yn 2022-23 oedd 32,754 o blant, ar lefel Cymru. Mae nifer y plant sydd ar y llwyth achosion yn gyffredinol yn is na nifer y plant sydd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn oherwydd bod teuluoedd yn symud i o ardaloedd Dechrau'n Deg ac allan o’r ardaloedd hynny gydol y flwyddyn, ac wrth i blant dyfu'n hŷn mae’n bosibl y byddant yn dod yn anghymwys ar gyfer gwasanaethau ar raddfa gyflymach nag y daw newydd-ddyfodiaid yn gymwys.

Mae awdurdodau lleol yn darparu data ar rai nodweddion plant a'u teuluoedd, sydd ar eu llwyth achosion.

Ffigur 5: Canran y llwyth achosion yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, y Gymraeg ac anabledd, 2016 i 2017 i 2022 i 2023

Image

 

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos mai ychydig iawn o amrywiad a welir yng nghanran y llwyth achosion yn ôl unrhyw nodwedd dros y saith blynedd a ddangosir.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Yng Nghymru, yn 2022-23

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant o gefndir ethnig lleiafrifol oedd 13.3%, yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. At bwrpas cymharu, amcangyfrifodd Cyfrifiad 2011 (Nomis) fod 8% o blant 0 i 4 oed yng Nghymru o leiafrif ethnig. Hefyd, mae data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn amcangyfrif bod rhwng 10% ac 13% o fabanod newydd anedig yng Nghymru rhwng 2018 a 2022 o leiafrif ethnig. 

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf oedd 2.8%. Nid yw hyn wedi newid ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle nad y Gymraeg na’r Saesneg yw'r iaith gyntaf oedd 5.8%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle mae gan blant riant/gofalwr anabl oedd 2.0%. Nid yw hyn wedi newid ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle’r oedd y plentyn yn anabl oedd 1.6%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol. 

Mae’r data ar gyfer pob awdurdod lleol wedi’u cynnwys yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod. 

Gofal Plant

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Ffigur 6: Canran y cynigion gofal plant llawn neu lai a ddarperir gan Dechrau’n Deg i blant sydd newydd ddod yn gymwys, Cymru, 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy’n dangos bod canran y plant cymwys a gafodd gynnig gofal plant wedi amrywio rhwng 94% a 99% dros yr 11 mlynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant sy'n gymwys ac sy’n cael cynnig gofal plant Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Cafodd teuluoedd 97.9% o blant cymwys gynnig gofal plant Dechrau'n Deg yn 2022-23, gostyngiad o 1.1 phwynt canran ers y llynedd. 

Mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos bod pob awdurdod lleol wedi cynnig gofal plant i deuluoedd o leiaf 87.8% o blant cymwys, gydag 14 awdurdod lleol yn cynnig gofal plant i deuluoedd 100% o'r plant cymwys yn eu hardal. 

Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y teulu yw derbyn y cynnig ai peidio.

Ffigur 7: Canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg, Cymru, 2013 i 2014 i 2022 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y 11 mlynedd ddiwethaf, ychydig yn is na'r ffigur brig o 90% a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant sy'n gymwys ac sy’n cael cynnig gofal plant Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae ‘manteisio ar’ yn cyfeirio at a yw’r cynnig gofal plant yn cael ei dderbyn pa un a yw’r plentyn yn mynychu gofal plant wedyn ai peidio.

Mae canran y plant y mae eu teulu yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi gostwng 2 bwynt canran yn 2022-23 i 84.9%.

Mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos sut roedd y gyfradd dderbyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Cafodd 96.9% o gynigion eu derbyn yn Sir Benfro a Merthyr Tudful (y cyfraddau uchaf yng Nghymru) o gymharu â 61.4% yng Ngheredigion (y gyfradd isaf yng Nghymru). 

Magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu

Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn yn gymwys am ddarpariaeth Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant bob blwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant. Gall hyn gynnwys cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol a phersonol a sesiynau galw heibio anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.

Yn 2022-23, roedd y nifer a fanteisiodd ar gyrsiau a gynigiwyd i rieni plant Dechrau’n Deg yn 72.3% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol a 67.4% ar gyfer cyrsiau magu plant neu leferydd, iaith a chyfathrebu strwythuredig anffurfiol, cynnydd o 1.7 pwynt canran a 0.2 pwynt canran yn y drefn honno.

Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru

Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg

Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022, roedd 24.1% o’r genedigaethau byw yng Nghymru yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, cynnydd bach ers 2021.

Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, o 39.1% ym Merthyr Tudful (yr uchaf yng Nghymru) ac 14.6% yng Ngheredigion (yr isaf yng Nghymru). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol. 

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn StatsCymru

Canlyniadau iechyd: bwydo babanod

Cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn hollbwysig i iechyd babanod a’u mamau. Mae canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed yn un o’r dangosyddion mamolaeth a ddefnyddir i feincnodi gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd lleol.  

Ffigur 8: Canran y babanod sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, sy’n derbyn unrhyw laeth o’r fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed, Cymru, 2014 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos bod cyfradd y babanod sy’n bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed wedi bod yn cynyddu mewn ffordd debyg ymhlith babanod ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Babanod sy'n cael eu geni i famau sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn Dechrau'n Deg, a dderbyniodd unrhyw laeth y fron yn 10 diwrnod oed, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae’r canrannau yn cynnwys cyfanswm y genedigaethau byw ond nid y genedigaethau heb ddatgan unrhyw statws bwydo ar y fron: roedd 14% heb ddatgan unrhyw statws bwydo ar y fron pan oedd y babanod yn 10 diwrnod oed yn 2014, 4% yn 2015 a 2016, 9% yn 2017, 8% yn 2018, 13% yn 2019, 13% yn 2020, 15% yn 2021 ac 15% yn 2022.

[Nodyn 2] Mae ‘unrhyw laeth o’r fron’ yn cynnwys babanod sy’n cael cyfuniad o laeth (llaeth y fron a llaeth artiffisial) yn ogystal â’r rheini sy’n derbyn llaeth y fron yn unig (dim byd arall heblaw dŵr).

Yn 2022, roedd pedwar o bob deg (41.8%) o’r babanod a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oeddent yn 10 diwrnod oed, o gymharu â dros hanner (56.0%) y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Dros y cyfnod o 9 mlynedd, mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi parhau’n gymharol sefydlog, gyda'r gyfradd rhwng 14 ac 16 pwynt canran yn is yn ardaloedd Dechrau’n Deg. 

Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 51.6% yng Ngheredigion (yr uchaf yng Nghymru) i 17.8% ym Merthyr Tudful (yr isaf yng Nghymru). 

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod. 

Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd

Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.

Ffigur 9: Canran y plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, Cymru, 2013 i 2014 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos bod y cyfraddau derbyn yn gyson uwch ar gyfer plant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg na’r plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Ffynhonnell: Adroddiad COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru (rhifiadur); Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) (enwadur)

Plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg / nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg sydd wedi'u himiwneiddio'n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Mae canran yr holl blant sy'n cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn pedair oed wedi aros yn gyson ar y cyfan ers 2013-14. 

Yn 2022-23, roedd 79.1% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed o gymharu ag 86.3% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae’r tabl StatsCymru uchod yn dangos y gwahaniaethau mewn cyfraddau imiwneiddio ar gyfer plant cymwys Dechrau'n Deg sy'n byw mewn gwahanol awdurdodau lleol, yn amrywio o 95% yn Ynys Môn a Sir Fynwy (yr uchaf yng Nghymru) i 71% yng Nghaerdydd (yr isaf yng Nghymru). 

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (19 allan o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. 

Canlyniadau iechyd: pwysau iach

Rhaglen wyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 yw Rhaglen Mesur Plant Cymru.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Ffigur 10: Nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, Medi 2012 i Awst 2013 i Medi 2021 i Awst 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos bod canran uwch o blant 4 i 5 oed mewn categorïau ‘pwysau iach’ (gan gynnwys o dan bwysau) mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg o gymharu ag ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, rhwng blynyddoedd academaidd 2012/13 a 2021/22.

Ffynhonnell: Rhaglen Mesur Plant Cymru 2012/13 i 2021/22 a gynhyrchwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)

Nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4-5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae ‘pwysau iach’ yn cynnwys pwysau iach neu o dan bwysau.

[Nodyn 2] Cyn y pandemig COVID-19, cyfunwyd data dwy flynedd academaidd i gynyddu maint y sampl. Tarfodd y pandemig ar y gwaith casglu data hwn gan olygu nad oedd yn bosibl darparu data dwy flynedd wedi’u cyfuno fel yr arfer cyn y pandemig. Felly adolygwyd niferoedd rhanbarthol a phennwyd eu bod yn foddhaol ar gyfer dadansoddiad seiliedig ar flwyddyn unigol.

[Nodyn 3] Mae data ar goll ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 oherwydd y tarfu ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Dim ond dau fwrdd iechyd lleol allai ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 felly mae’r flwyddyn hon wedi’i heithrio. Ni allai bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 oherwydd effaith y pandemig parhaus felly mae’r data a ddangosir yn ymwneud â’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill. Dylid cymryd gofal wrth gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig. Roedd gan 69.6% o blant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg bwysau iach o gymharu â 74.5% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Mae’r ganran hon o blant â phwysau iach mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi bod yn gyson is nag ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (gan 3 i 5 pwynt canran) ers i’r data gael ei gasglu am y tro cyntaf.

Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir

Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.

Yn 2022-23, cafodd 91.2% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o gymharu ag 86.1% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 91% a 94%. 

Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn. 

Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi. 

Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
  • roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws. At hynny, cadwyd rhywfaint o ddarpariaeth rithwir cyrsiau magu plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwasanaethau ymwelwyr fel rhan o waith cyflawni rhaglenni ar gyfer 2022-23, naill ai oherwydd dewis personol neu oherwydd yr ystyriwyd bod honno’n ffordd effeithiol o gyrraedd rhai teuluoedd gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae angen gofal felly wrth gymharu data 2022-23 gyda ffigurau cyn y pandemig.

Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data 2020-21, 2021-22 a 2022-23 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.

Grwpiau Staff

Mae'r tîm iechyd ehangach yn cael ei ddiffinio fel y staff hynny sydd â chofrestriad iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, a ariennir gan raglen Dechrau'n Deg. Bydd yn cynnwys staff sydd yn:

  • rheolwyr iechyd heb achosion penodol
  • deietegwyr
  • bydwragedd
  • seicolegwyr clinigol
  • seicolegwyr addysg
  • therapyddion iaith a lleferydd
  • gweithwyr cymdeithasol
  • nyrsys cymunedol (gyda chymhwyster priodol)
  • therapyddion galwedigaethol 
  • unrhyw weithwyr proffesiynol arall ym meysydd iechyd neu ofal

Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Mae hyn fel arfer yn golygu'r rhai nad ydynt wedi cymhwyso'n llawn a'r rhai sy'n cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso'n llawn wrth ddarparu gwasanaethau.

Amcangyfrif faint o’r gweithlu sy’n gyfwerth ag amser llawn

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data am nifer yr oriau y mae pob grŵp staff yn gweithio ym mhob tymor o'r flwyddyn. Yna, defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn. Mae'r cyfrifiad hwn yn rhoi mesur cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol ac yn ystyried cyfnodau mamolaeth, salwch tymor hir a gwyliau neu ddiwrnodau i ffwrdd.

Mae'r ffactorau trosi yn berthnasol i bob tymor. Gan nad oes gan y tymhorau yr un nifer o wythnosau ynddynt, mae'r ffactorau trosi hefyd yn wahanol. Yn 2022-23 mae'r ffactor trosi yn defnyddio 18 wythnos ar gyfer tymor 1; 15 wythnos ar gyfer tymor 2; ac 11 wythnos ar gyfer tymor 3. Mae cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gyfrif am 37.5 awr sy'n cael eu gweithio bob wythnos ar gyfer pob grŵp staff.

Fformiwla y ffactor trosi yw: nifer yr oriau a weithiwyd yn y tymor wedi'i rannu gyda (nifer yr wythnosau yn y tymor wedi'i luosi gyda 37.5).

Mae data ar nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y GIG yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu casglu mewn ffordd hollol wahanol. Felly, nid oes modd cymharu ag unrhyw ddata a gyhoeddwyd gan ddefnyddio ffurflenni monitro data Dechrau'n Deg.

Datganiad cydymffurfedd â'r Cod Ymarfer Ystadegau

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

Ymddiriedaeth

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau. Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER). Defnyddir amcangyfrifon canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer dadansoddi'r boblogaeth. Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr, yn annibynnol ar gydweithwyr polisi a Gweinidogion. Mae hyn yn sicrhau bod yr ystadegau'n ddiduedd ac yn wrthrychol. Caiff cyhoeddiadau ystadegol eu rhag-gyhoeddi gyda dyddiad pendant o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw, ac fe'u cyhoeddir yn unol â'n Protocol Arferion Cyhoeddi.

Ansawdd

Mae'r ffigurau sydd wedi'u cyhoeddi yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol. 

Daw’r rhan fwyaf o’r data a gynhwysir o ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i reoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r data’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn cadw cofnodion cywir ond mae’r systemau wedi’u hen sefydlu ac yn ddibynadwy. Mae data atodol o gronfeydd data cenedlaethol eraill hefyd o ansawdd uchel ac yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn llenwi’r ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni i Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt eu llenwi, a hynny drwy gyfrwng Afon, system Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo data ar y we yn ddiogel. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn ehangach am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg. Mae’r datganiad ystadegol blynyddol hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn darparu'r diweddariad mwyaf cyfredol gan ddefnyddio data dibynadwy. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar y ffurf hwn yn darparu un ffynhonnell ddiffiniol o ddata ar weithgarwch a darpariaeth rhaglen Dechrau'n Deg a'r nifer sy'n ei defnyddio. 

Os hoffech roi adborth ar yr ystadegau hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adran manylion cyswllt. 

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru  

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 2/2024