Dechrau’n Deg: Ebrill 2023 i Mawrth 2024
Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg ystadegol o'r ffordd y mae'r rhaglen yn gweithio rhwng ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Diben y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth y rhaglen Dechrau’n Deg.
Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013. Gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fonitro cynnydd. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER) a cheisiadau data ad-hoc gan awdurdodau lleol.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Drwy gydol y datganiad hwn, mae’r term ‘blwyddyn’ yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol pan fo wedi ei ysgrifennu fel ‘2023-24’ ac yn cyfeirio at fis Ebrill 2023 hyd at fis Mawrth 2024. Pan na fo hyn yn wir, mae’r misoedd wedi’u nodi.
Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yn ystod y cam cyntaf roedd disgwyl i tua 2,500 o blant ychwanegol (0 i 4 oed) elwa ar bob un o'r pedair elfen o raglen Dechrau'n Deg.
Roedd Cam 2 y rhaglen ehangu yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, a dechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn adrodd ar wahân ar y plant o dan Gam 2 rhaglen ehangu Dechrau'n Deg sy'n cael cynnig elfen gofal plant, ac sy'n manteisio arni.
Prif bwyntiau
- Gwelwyd cynnydd yn nifer y plant a gafodd gysylltiad â rhaglen iechyd Dechrau'n Deg, yn unol â’r rhaglen ehangu, ac roedd y nifer yn uwch na'r nifer disgwyliedig.
- Mae nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg wedi bod ar duedd ar i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng y blynyddoedd 2014-15 a 2015-16, ond maent wedi aros yn sefydlog yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Cafodd pob plentyn 3.0 o gysylltiadau gan ymwelwyr iechyd ar gyfartaledd, y nifer isaf a gofnodwyd, gan barhau â'r duedd ar i lawr ers i'r data gael eu casglu gyntaf.
- Gwelwyd gostyngiad bach yn nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg, ond gwelwyd cynnydd yn nifer staff FTE y tîm iechyd ehangach a grwpiau eraill o staff.
- Roedd canran uwch o blant cymwys i gael darpariaeth Dechrau'n Deg yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol na'r ganran o blant o leiafrifoedd ethnig ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.
- Cafodd gofal plant Dechrau'n Deg ei gynnig i deuluoedd bron pob plentyn cymwys mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, ac fe gafodd y cynnig ei dderbyn ar gyfer ychydig dros wyth o bob deg plentyn cymwys.
- Roedd ychydig llai na chwarter y genedigaethau yng Nghymru yn 2023 yn rai i famau yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg.
- Fe wnaeth y ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, ac a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed, barhau i gynyddu i’r ganran uchaf a gofnodwyd erioed, ond mae’n parhau i fod yn is na’r ganran o blant a oedd yn cael eu bwydo ar y fron ac yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.
- Gwelwyd gostyngiad bach yn y ganran o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn eu pen blwydd yn 4 oed, ac mae'n parhau i fod yn is na’r ganran o blant wedi cael eu himiwneiddio yn llwyr a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.
- Fel rhan o Gam 2 rhaglen ehangu Dechrau'n Deg, cynigiwyd 6,885 o leoedd gofal plant ychwanegol.
Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg
Newidiodd y diffiniad ar gyfer nifer y plant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2023-24. Yn flaenorol, cyfrifwyd nifer y plant a gafodd gysylltiad ag ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg.
O fis Ebrill 2023 mae pob plentyn unigol sy'n cael cysylltiad â rhaglen iechyd Dechrau'n Deg yn cael ei gyfrif fel un sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg. Mae hyn yn golygu bod yr holl gysylltiadau unigryw sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhaglen iechyd graidd Dechrau'n Deg yn cael eu cyfrif p'un a ydynt yn cael eu gwneud gan ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg neu gan aelod o dîm Iechyd ehangach Dechrau'n Deg neu dîm awdurdod lleol.
Mae teuluoedd sy'n symud i ardaloedd Dechrau’n Deg ac sy’n cael eu 'trosglwyddo i'r rhaglen' hefyd yn cael eu cyfrif os ydynt yn cael cysylltiad â rhaglen iechyd Dechrau’n Deg. Nid yw'r rhain yn rhan o raglen iechyd safonol Dechrau'n Deg, ond maent yn rhan o raglen iechyd safonol ar draws nifer o awdurdodau lleol.
Efallai bod nifer bach o blant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg ond sydd heb gael cysylltiadau ag unrhyw un o dan raglen iechyd Dechrau’n Deg yn y flwyddyn adrodd; ni fyddai'r plant hyn yn cael eu cyfrif yn y data yn Ffigur 1.
Rhwng 2015-16 2022-23, mae nifer y plant y mae disgwyl iddynt gael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl diffiniad canllawiau’r rhaglen Dechrau’n Deg, wedi aros yn 36,215. Yn dilyn cam 1 y rhaglen ehangu ar draws holl elfennau'r rhaglen Dechrau'n Deg yn ystod 2023-24, cynyddodd nifer y plant y disgwylir iddynt gael gwasanaethau Dechrau'n Deg i 38,500.
Ffigur 1: Nifer y plant yng Nghymru a oedd yn cael gwasanaethau gan ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg, 2014 i 2015 i 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y plant sydd yn elwa yn uwch na'r niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o'r rhaglen tan 2020-21 ac wedi aros yn is na’r disgwyl tan 2023-24.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)
[Nodyn 1] Cynyddodd y niferoedd disgwyliedig yn 2023-24 yn dilyn ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg.
Roedd nifer y plant a oedd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cyswllt ag ymwelydd iechyd, bob amser yn uwch na’r nifer disgwyliedig yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer sy'n derbyn gwasanaethau yn 2020-21 yn unol ag anterth y pandemig ac arhosodd yn is na'r nifer disgwyliedig yn y 2 flynedd ddilynol.
Yn 2023-24, roedd 41,328 o blant wedi cael gwasanaethau Dechrau'n Deg. Roedd hyn 7.3% yn uwch na'r nifer disgwyliedig.
Mae nifer y plant y mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau iddynt yn cael ei alw’n llwyth achosion. Mae nifer y plant a’r ganran o’r boblogaeth plant yn llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol ac mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos hyn.
Roedd 52.8% o blant o dan 4 oed ym Merthyr Tudful ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf yng Nghymru), o gymharu ag 17.5% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru).
Gan fod y cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg yn seiliedig ar ardaloedd, effeithir ar nifer y plant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan nifer y plant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ym mhob blwyddyn. Mae newidiadau i ddemograffeg poblogaeth yn effeithio ar hyn yn ei dro. Mae nifer y plant 0 i 4 oed yng Nghymru wedi gostwng rhwng 0.7% a 3.5% pob blwyddyn ers 2012.
Gan y gall blant symud i ardaloedd Dechrau’n Deg neu ohonynt yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd cyfanswm nifer y plant y cyfrifir eu bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn derbyn y gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyfan.
Gweithgarwch y rhaglen Dechrau'n Deg
Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn galluogi plant i gael gwasanaethau gan ystod o weithwyr proffesiynol gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd; gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn ehangach fel deietegwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol; ac aelodau eraill o staff fel cynorthwywyr i staff iechyd cymwysedig. Mae rhagor o fanylion ynghylch grwpiau o staff ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Mae Ffigur 2 yn dangos nifer y cysylltiadau a wneir gan bob grŵp staff ac yn cynnwys pob cyswllt arall wedi'i dargedu sy'n berthnasol i'r plentyn, hyd yn oed pan nad yw'r plentyn yn bresennol.
Ffigur 2: Nifer y cysylltiadau yn ôl grŵp staff, 2014 i 2015 i 2023 i 2024
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg wedi tueddu i fynd i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng 2014-15 a 2015-16, ond mae wedi aros yn sefydlog yn y ddwy flynedd ddiweddar.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.
Mae nifer y cysylltiadau â phlant hyd at 4 oed gan ymwelwyr iechyd a'r tîm iechyd ehangach wedi bod ar i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng y blynyddoedd 2014-15 a 2015-16. Cafodd cysylltiadau gan aelodau eraill o staff eu cofnodi o 2015-16 ymlaen ac maent wedi aros yn weddol sefydlog ym mhedair o'r pum mlynedd ddiwethaf.
Yn 2023-24 roedd 125,895 o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, cynnydd o 0.6% ers y flwyddyn flaenorol; 58,309 o gysylltiadau â staff iechyd ehangach, cynnydd o 0.7% ers y flwyddyn flaenorol; a 30,630 o gysylltiadau â staff eraill, gostyngiad o 7.8% ers y flwyddyn flaenorol.
Ffigur 3: Nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn, 2014 i 2015 i 2023 i 2024
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.
Yn 2023-24, ar gyfartaledd fe gafodd pob plentyn 3.0 o gysylltiadau ymwelwyr iechyd, y nifer isaf ar gofnod.
Gostyngodd nifer cyfartalog y cysylltiadau â'r tîm iechyd ehangach ac â staff eraill o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn amrywio'n fawr fesul awdurdod lleol ac mae hyn i’w weld yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod.
Gweithlu Dechrau'n Deg
Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data ar gyfanswm yr oriau sy'n cael eu gweithio gan aelodau pob grŵp staff sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg. Yna defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn. Mae un FTE gyfystyr ag aelod o staff yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Darperir mwy o fanylion am hyn yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg allweddol.
Ffigur 4: Nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) 2014 i 2015 i 2023 i 2024
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos bod y sefyllfa wedi bod braidd yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn yn dilyn cynnydd cychwynnol hyd at 2016-17, ond mae nifer yr ymwelwyr iechyd wedi parhau i fod rhwng 270 a 300 FTE ers 2017-18.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.
Yn 2023-24 roedd 272 o ymwelwyr iechyd FTE, gostyngiad o 0.3% o gymharu â 2022-23.
Cafwyd cynnydd yn nifer y tîm iechyd ehangach FTE sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg tan 2016-17, yna gostyngiad bob blwyddyn tan 2019-20, cyn cynyddu eto o un flwyddyn i’r llall.
Yn 2023-24 roedd 271 o staff timau iechyd ehangach FTE, sef cynnydd o 11.8% o gymharu â 2022-23.
Roedd 127 o staff eraill FTE yn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2023-24, cynnydd o 14.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg
Nifer cyfartalog plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd yn 2023-24 oedd 34,600 o blant, ar lefel Cymru.
Mae nifer y plant sydd ar y llwyth achosion yn gyffredinol yn is na nifer y plant sydd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn oherwydd bod teuluoedd yn symud i o ardaloedd Dechrau'n Deg ac allan o’r ardaloedd hynny gydol y flwyddyn, ac wrth i blant dyfu'n hŷn mae’n bosibl y byddant yn dod yn anghymwys ar gyfer gwasanaethau ar raddfa gyflymach nag y daw newydd-ddyfodiaid yn gymwys.
Mae awdurdodau lleol yn darparu data ar rai nodweddion plant a'u teuluoedd, sydd ar eu llwyth achosion.
Ffigur 5: Canran y llwyth achosion yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, y Gymraeg ac anabledd, 2016 i 2017 i 2023 i 2024
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos mai ychydig iawn o amrywiad a welir yng nghanran y llwyth achosion yn ôl unrhyw nodwedd dros y saith blynedd a ddangosir.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)
Yn 2023-24:
Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant o gefndir ethnig lleiafrifol oedd 12.9%, gostyngiad ers y flwyddyn flaenorol. At bwrpas cymharu, amcangyfrifodd Cyfrifiad 2011 (nomis) fod 9% o blant 0 i 4 oed yng Nghymru o leiafrif ethnig. Hefyd, mae data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn amcangyfrif bod rhwng 10% ac 15% o fabanod newydd anedig yng Nghymru rhwng 2018 a 2023 o leiafrif ethnig.
Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf oedd 3.4%, cynnydd ers y flwyddyn flaenorol.
Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle nad y Gymraeg na’r Saesneg yw'r iaith gyntaf oedd 4.4%, gostyngiad ers y flwyddyn flaenorol.
Canran y llwyth achosion lle mae gan blant riant/gofalwr anabl oedd 2.2%, cynnydd ers y flwyddyn flaenorol.
Canran y llwyth achosion lle’r oedd y plentyn yn anabl oedd 1.9%, cynnydd ers y flwyddyn flaenorol.
Mae’r data ar gyfer pob awdurdod lleol wedi’u cynnwys yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod.
Gofal plant
Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.
Ffigur 6: Canran y cynigion gofal plant llawn neu lai a ddarperir gan Dechrau’n Deg i blant sydd newydd ddod yn gymwys, Cymru, 2013 i 2014 i 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy’n dangos bod canran y plant cymwys a gafodd gynnig gofal plant wedi amrywio rhwng 96% a 99% dros yr 10 mlynedd ddiwethaf, ond dangosodd duedd gyffredinol ar i fyny.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero.
Cafodd teuluoedd 99.0% o blant cymwys gynnig gofal plant Dechrau'n Deg yn 2023-24, cynnydd o 1.1 pwynt canran ers y llynedd, a’r ganran uchaf ar y cyd a gofnodwyd.
Mae'r data hyn ar gael ar lefel awdurdod lleol a gellir eu gweld drwy'r ddolen StatsCymru uchod. Roedd 17 o awdurdodau lleol yn cynnig gofal plant i deuluoedd 100% o'r plant sy’n gymwys yn eu hardal. Caerdydd oedd â'r ganran isaf (86.1%) o blant sy’n gymwys a gafodd gynnig gofal plant rhaglen Dechrau'n Deg yn 2023-24.
Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y teulu yw derbyn y cynnig ai peidio.
Ffigur 7: Canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg, Cymru, 2014 i 2015 i 2023 i 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos bod canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y 10 mlynedd ddiwethaf, sef tua 86%.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero.
[Nodyn 2] Mae ‘manteisio ar’ yn cyfeirio at a yw’r cynnig gofal plant yn cael ei dderbyn pa un a yw’r plentyn yn mynychu gofal plant wedyn ai peidio.
Mae canran y plant y mae eu teulu yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi gostwng 3.5 pwynt canran yn 2023-24 i 81.5%.
Mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos sut roedd y gyfradd dderbyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Cafodd 100% o gynigion eu derbyn yn Ynys Môn a Chonwy, y cyfraddau uchaf yng Nghymru, o gymharu â 54.2% yng Nghasnewydd, y gyfradd isaf yng Nghymru.
Magu plant
Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn yn gymwys am ddarpariaeth Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant bob blwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant. Gall hyn gynnwys cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol a phersonol a sesiynau galw heibio anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.
Yn 2023-24, roedd y nifer a fanteisiodd ar gyrsiau a gynigiwyd i rieni plant Dechrau’n Deg yn 76.5% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol ac yn 78.4% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig anffurfiol, cynnydd o 4.2 pwynt canran ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig. Yn 2023-24, newidiodd y diffiniad o gyrsiau strwythuredig anffurfiol i gynnwys cyrsiau magu plant yn unig. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd cyrsiau lleferydd, iaith a chyfathrebu anffurfiol wedi’u cynnwys. Ni ellir cymharu’r niferoedd a fanteisiodd ar gyrsiau anffurfiol 2023-24 â blynyddoedd blaenorol, felly.
Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru.
Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
Cynigir cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu i rieni fel rhan o raglen Dechrau’n Deg. Mae canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi ar sut i fesur canlyniadau ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae’r data a gasglwyd ar gyfer 2023-24 yn dal i gael eu prosesu, a byddwn yn cyhoeddi ystadegau ad-hoc maes o law.
Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg
Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, roedd 23.4% o’r genedigaethau byw yng Nghymru yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, gostyngiad bach ers 2022.
Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, o 39.3% ym Merthyr Tudful (yr uchaf yng Nghymru) ac 12.4% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol.
Canlyniadau iechyd: bwydo babanod
Mae canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed yn un o’r dangosyddion mamolaeth a ddefnyddir i feincnodi gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd lleol.
Ffigur 8: Canran y babanod sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, sy’n derbyn unrhyw laeth o’r fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed, Cymru, 2014 i 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos bod cyfradd y babanod sy’n bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed wedi bod yn cynyddu mewn ffordd debyg ymhlith babanod ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.
Ffynhonnell: Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
[Nodyn 1] Mae’r canrannau yn cynnwys cyfanswm y genedigaethau byw ond nid y genedigaethau heb ddatgan unrhyw statws bwydo ar y fron: roedd 14% heb ddatgan unrhyw statws bwydo ar y fron pan oedd y babanod yn 10 diwrnod oed yn 2014, 4% yn 2015 a 2016, 9% yn 2017, 8% yn 2018, 13% yn 2019, 13% yn 2020, 15% yn 2021, 15% yn 2022 ac 9% yn 2023.
[Nodyn 2] Mae ‘unrhyw laeth o’r fron’ yn cynnwys babanod sy’n cael cyfuniad o laeth (llaeth y fron a llaeth artiffisial) yn ogystal â’r rheini sy’n derbyn llaeth y fron yn unig (dim byd arall heblaw dŵr).
Yn 2023, 43.8% o’r babanod a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oeddent yn 10 diwrnod oed, o gymharu â 59.0% y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.
Dros y cyfnod o 10 mlynedd, mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi parhau’n gymharol sefydlog, gyda'r gyfradd rhwng 14 ac 16 pwynt canran yn is yn ardaloedd Dechrau’n Deg. Mae'r ddau grŵp wedi dangos tuedd ar i fyny dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae’r gyfradd a gofnodwyd ar eu huchaf erioed yn 2023-24.
Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 60.0% yn Sir Fynwy (yr uchaf yng Nghymru) i 27.8% yn Wrecsam (yr isaf yng Nghymru).
Mae data awdurdodau lleol ar gael yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod.
Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd
Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.
Ffigur 9: Canran y plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, Cymru, 2014 i 2015 i 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos bod y cyfraddau derbyn yn gyson uwch ar gyfer plant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg na’r plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.
Ffynhonnell: Adroddiad COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru (rhifiadur); Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) (enwadur)
[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y yn dechrau ar 0.
Mae canran yr holl blant sy'n cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn pedair oed wedi aros yn gyson ar y cyfan ers 2013-14, er ei bod wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2023-24, roedd 78.9% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed (y ganran isaf ers 2012-13) o gymharu ag 86.4% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.
Mae’r tabl StatsCymru uchod yn dangos y gwahaniaethau mewn cyfraddau imiwneiddio ar gyfer plant cymwys Dechrau'n Deg sy'n byw mewn gwahanol awdurdodau lleol, yn amrywio o 95% yn Ynys Môn (yr uchaf yng Nghymru) i 68% yng Nghaerdydd (yr isaf yng Nghymru).
Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (17 allan o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.
Canlyniadau iechyd: pwysau iach
Rhaglen wyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 yw Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.
Ffigur 10: Nifer yr achosion o blant 4 i 5 oed mewn categorïau ‘pwysau iach’ sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, Medi 2012 i Awst 2013 i Medi 2022 i Awst 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos bod canran uwch o blant 4 i 5 oed mewn categorïau ‘pwysau iach’ (gan gynnwys o dan bwysau) mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg o gymharu ag ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, rhwng blynyddoedd academaidd 2012/13 a 2022/23.
Ffynhonnell: Rhaglen Mesur Plant Cymru 2012/13 i 2022/22 a gynhyrchwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)
[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y yn dechrau ar 0.
[Nodyn 2] Mae ‘pwysau iach’ yn cynnwys pwysau iach neu o dan bwysau.
[Nodyn 3] Cyn y pandemig COVID-19, cyfunwyd data dwy flynedd academaidd i gynyddu maint y sampl. Tarfodd y pandemig ar y gwaith casglu data hwn gan olygu nad oedd yn bosibl darparu data dwy flynedd wedi’u cyfuno fel yr arfer cyn y pandemig. Felly adolygwyd niferoedd rhanbarthol a phennwyd eu bod yn foddhaol ar gyfer dadansoddiad seiliedig ar flwyddyn unigol.
[Nodyn 4] Mae data ar goll ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 oherwydd y tarfu ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Dim ond dau fwrdd iechyd lleol allai ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 felly mae’r flwyddyn hon wedi’i heithrio. Ni allai bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ddarparu data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 oherwydd effaith y pandemig parhaus felly mae’r data a ddangosir yn ymwneud â’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.
Roedd gan 71.7% o blant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg bwysau iach o gymharu â 76.3% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Mae’r ganran hon o blant â phwysau iach mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi bod yn gyson is nag ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (gan 3 i 5 pwynt canran) ers i’r data gael ei gasglu am y tro cyntaf.
Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir
Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.
Yn 2023-23, cafodd 90.7% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o gymharu ag 84.3% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.
Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 91% a 94%.
Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru.
Ehangu Darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar
Cafodd rhaglen Dechrau'n Deg ei hehangu yn dilyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn 2 oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae Cam 2 rhaglen ehangu'r blynyddoedd cynnar yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, ac fe ddechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.
Mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth reoli a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru o'r awdurdodau lleol i fonitro cynnydd Cam 2 y rhaglen ehangu.
Mae'r ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Rydym yn gweithio i wella ansawdd yr ystadegau hyn ar gyfer fersiynau o'r erthygl hon yn y dyfodol. Dyma'r amcangyfrif gorau sydd gennym ar nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteiswyd arnynt ym mis Ebrill 2023 i 24 Mawrth. Casglwyd data at ddibenion monitro'r broses o gyflwyno Cam 2 y rhaglen ehangu. Rydym yn ceisio mireinio a gwella'r casgliad hwn o ddata fel ei fod yn unol â Ffurflen Monitro Data Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Ffigur 11: Nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteisiwyd arnynt yn erbyn targed ‘Cam 2’ Dechrau'n Deg, Cymru, 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far yn dangos nifer y lleoedd gofal plant yng Ngham 2 Dechrau'n Deg a gynigiwyd ac y manteisiwyd arnynt yn erbyn y targed.
Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Mae ‘manteisio ar’ yn cyfeirio at a yw’r cynnig gofal plant yn cael ei dderbyn pa un a yw’r plentyn yn mynychu gofal plant wedyn ai peidio, ond mae rhai awdurdodau lleol yn diffinio ‘manteisio ar’ yn wahanol – i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Yn 2023-24, targed gofal plant Cam 2 oedd i 4,919 o blant 2 oed ychwanegol allu manteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel. Cynigiwyd 6,885 o leoedd fel rhan o Gam 2. Manteisiwyd ar 69.6% (4,790) o'r lleoedd a gynigiwyd. Yn y cyd-destun hwn, mae'r diffiniad o 'fanteisio ar y cynnig' yn golygu naill ai derbyn y cynnig neu fynychu’r lleoliad gofal plant, yn dibynnu ar yr Awdurdod Lleol.
Mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, mae manteision ychwanegol ar gael i blant sy'n aml yn deillio o fod yn ddwyieithog. Yn 2023-24 roedd 21.0% (1,007) o'r holl leoedd y manteisiwyd arnynt mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Gan fod yr ystadegau hyn yn dal i fod o dan ddatblygiad, roedd rhywfaint o amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol o ran sut y cafodd lleoliad cyfrwng Cymraeg ei ddiffinio. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.
Effaith COVID-19
Gellir dod o hyd i wybodaeth am effaith COVID-19 ar y casgliad hwn o ddata yn yr adroddiad ansawdd a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn.
Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf
Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data rhwng 2020-21 a 2023-24 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.
Grwpiau staff
Mae'r tîm iechyd ehangach yn cael ei ddiffinio fel y staff hynny sydd â chofrestriad iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, a ariennir gan raglen Dechrau'n Deg. Bydd yn cynnwys staff sydd yn:
- rheolwyr iechyd heb achosion penodol
- deietegwyr
- bydwragedd
- seicolegwyr clinigol
- seicolegwyr addysg
- therapyddion iaith a lleferydd
- gweithwyr cymdeithasol
- nyrsys cymunedol (gyda chymhwyster priodol)
- therapyddion galwedigaethol
- unrhyw weithwyr proffesiynol arall ym meysydd iechyd neu ofal
Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Mae hyn fel arfer yn golygu'r rhai nad ydynt wedi cymhwyso'n llawn a'r rhai sy'n cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso'n llawn wrth ddarparu gwasanaethau.
Amcangyfrif faint o’r gweithlu sy’n gyfwerth ag amser llawn
Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data am nifer yr oriau y mae pob grŵp staff yn gweithio ym mhob tymor o'r flwyddyn. Yna, defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn. Mae'r cyfrifiad hwn yn rhoi mesur cyson ar draws yr holl awdurdodau lleol ac yn ystyried cyfnodau mamolaeth, salwch tymor hir a gwyliau neu ddiwrnodau i ffwrdd.
Mae'r ffactorau trosi yn berthnasol i bob tymor. Gan nad oes gan y tymhorau yr un nifer o wythnosau ynddynt, mae'r ffactorau trosi hefyd yn wahanol. Yn 2022-23 mae'r ffactor trosi yn defnyddio 18 wythnos ar gyfer tymor 1; 15 wythnos ar gyfer tymor 2; ac 11 wythnos ar gyfer tymor 3. Mae cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gyfrif am 37.5 awr sy'n cael eu gweithio bob wythnos ar gyfer pob grŵp staff.
Fformiwla y ffactor trosi yw: nifer yr oriau a weithiwyd yn y tymor wedi'i rannu gyda (nifer yr wythnosau yn y tymor wedi'i luosi gyda 37.5).
Mae data ar nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y GIG yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu casglu mewn ffordd hollol wahanol. Felly, nid oes modd cymharu ag unrhyw ddata a gyhoeddwyd gan ddefnyddio ffurflenni monitro data Dechrau'n Deg.
Datganiad cydymffurfedd â'r Cod Ymarfer Ystadegau
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. Mae hyn yn berthnasol i'r holl ystadegau yn y datganiad hwn ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud â Cham 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg sy'n ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR). Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer yr ystadegau cyn belled ag y bo modd tra byddant yn cael eu datblygu.
Ymddiriedaeth
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau. Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuwyd casglu'r data hyn ym mis Ebrill 2012 i fis Mawrth 2013. A gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar Gam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER). Defnyddir amcangyfrifon canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer dadansoddi'r boblogaeth. Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr, yn annibynnol ar gydweithwyr polisi a Gweinidogion. Mae hyn yn sicrhau bod yr ystadegau'n ddiduedd ac yn wrthrychol. Caiff cyhoeddiadau ystadegol eu rhag-gyhoeddi gyda dyddiad pendant o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw, ac fe'u cyhoeddir yn unol â'n Protocol Arferion Cyhoeddi.
Ansawdd
Mae'r ffigurau sydd wedi'u cyhoeddi yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Daw’r rhan fwyaf o’r data a gynhwysir o ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i reoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r data’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn cadw cofnodion cywir ond mae’r systemau wedi’u hen sefydlu ac yn ddibynadwy. Mae data atodol o gronfeydd data cenedlaethol eraill hefyd o ansawdd uchel ac yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn llenwi’r ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni i Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt eu llenwi, a hynny drwy gyfrwng Ojective Connect, sef system ar gyfer trosglwyddo data ar y we yn ddiogel.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae'r data ychwanegol a gasglwyd ar gyfer Cam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg hefyd yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol, gan ddefnyddio data sy'n cael eu storio ar eu systemau TG eu hunain. Gan mai 2023-24 oedd blwyddyn gyntaf Cam 2 yr ehangu, bu rhywfaint o amrywiad yn y diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer 'manteisio ar y cynnig' ac ar gyfer ‘lleoliad cyfrwng Cymraeg’. Roedd tua hanner yr awdurdodau lleol yn diffinio 'manteisio ar y cynnig' fel 'derbyn y cynnig' gofal plant, tra bo eraill yn defnyddio presenoldeb mewn lleoliad gofal plant fel mesur o dderbyn y cynnig. Yn yr un modd, mae amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol o ran sut y diffinnir lleoliad cyfrwng Cymraeg – hynny yw i ba raddau y mae angen defnyddio'r Gymraeg i fod yn lleoliad cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod diffiniad unffurf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu data yn y dyfodol.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn ehangach am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg. Mae’r datganiad ystadegol blynyddol hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn darparu'r diweddariad mwyaf cyfredol gan ddefnyddio data dibynadwy. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar y ffurf hwn yn darparu un ffynhonnell ddiffiniol o ddata ar weithgarwch a darpariaeth rhaglen Dechrau'n Deg a'r nifer sy'n ei defnyddio.
Os hoffech roi adborth ar yr ystadegau hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adran manylion cyswllt.
Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
