Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad tymhorol sy’n cyflwyno crynodeb ystadegol o’r gwasanaeth ar gyfer Ebrill i Awst 2019.

Prif bwyntiau

Roedd 22,576 o blant wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yng Nghymru ar ryw adeg o 1 Ebrill 2019 hyd at ddiwedd y cyfnod (31 Awst 2019). Mae’r plant a welwyd hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn yn cynrychioli 62% o’r disgwyliad ar gyfer y flwyddyn gyfan.

Ar y cyfan roedd 20% o blant o dan 4 mlwydd oed yng Nghymru ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg.

Cafodd plant Dechrau'n Deg hyd at 4 oed eu gweld, ar gyfartaledd, 2.5 gwaith yn ystod y flwyddyn hyd yma gan ymwelydd iechyd neu gan aelodau’r tîm iechyd ehangach.

Derbyniodd 98% o blant oedd newydd ddod yn gymwys i dderbyn gofal plant mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg gynnig yn ystod y flwyddyn hyd yma. Mae’r nifer a ddefnyddiodd lefydd gofal plant yn debygol o fod yn is na’r hyn ydyw mewn gwirionedd yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd mewn rhai awdurdodau lleol ni ellir canfod y defnydd ar gyfer rhai plant sy’n derbyn cynnig mewn tymor penodol hyd nes bod y lle wedi ei gymryd yn ffurfiol (yn y tymor dilynol).

Nodyn

Nodwch mai gwybodaeth rheoli heb ei dilysu yw’r data a dderbyniwyd hyd at Tachwedd 4, 2019; fe’i darperir i roi diweddariad ar y rhaglen wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen. Bernir bod y data o werth digonol ar lefel Cymru i’w gyflwyno yma, ond mae data awdurdodau lleol yn parhau i gael ei ddilysu  trwy’r flwyddyn ac nid yw wedi ei gynnwys yma.

Bydd data manylach ar gyfer y flwyddyn gyfan, wedi ei ddilysu, yn cael ei ryddhau ar gyfer y cyfnod 2019-20 yn ei gyfanrwydd yn natganiad ystadegol mis Gorffennaf 2020; bydd hyn yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol unigol. Pan fydd darlun cyflawn o’r flwyddyn ar gael, gallai data gael ei adolygu yn unol â’r hyn sy’n briodol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.