Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael £4,500 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ei raglen Dechrau’n Deg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn chwarae rhan bwysig i ddarparu trafnidiaeth i’r rheini sy’n byw yn y sir wledig, lle nad oes gan rai teuluoedd lawer o gyfle i elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu cerbyd MPV gyda lle i wyth unigolyn eistedd ynddo. 

Bydd y cerbyd newydd yn helpu i gefnogi: 

  • Teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sydd â hawl i gymorth allgymorth ar gyfer cael mynediad at sesiynau grŵp.
  • Teuluoedd sydd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch iddynt o bosibl. 
  • Staff bydwreigiaeth a fydd yn gallu mynd â grwpiau o fenywod beichiog ar daith o amgylch yr uned famolaeth. 
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Bydd y cyllid ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yn Sir Ddinbych a’r rheini sy’n cyflwyno gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhan annatod o’r ymdrechion i drechu tlodi ac rydym am sicrhau nad oes yw cymunedau yn wynebu unrhyw rwystrau wrth geisio defnyddio’r gwasanaethau hanfodol hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc: 

“Rydw i’n croesawu’r cyllid hwn a fydd yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa ar y rhaglen Dechrau’n Deg.  

“Mae Dechrau’n Deg yn rhan o Raglen y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd â phlant o dan 4 oed.

“Byddwn ni’n gallu cefnogi teuluoedd yn ardaloedd Dechrau’n Deg Sir Ddinbych a’r rheini sy’n gymwys i gael defnyddio ein darpariaeth allgymorth i gymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau. 

“Mae hyn yn rhan o’n gwaith i helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn a rhoi’r cymorth priodol i rieni er mwyn i’w plant gael y dechrau gorau oll mewn bywyd.”