Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig 

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y cyfnod ymgynghori a'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig 'arferol' ac 'anarferol' y dyfodol. 

Hwb

29 Rhygfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i adnewyddu a gwella Gwasanaeth Darparu a Dilysu Hwb i ymateb i anghenion ysgolion.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru ar Ymataliaeth

29 Rhygfyr 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor mewn perthynas â sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru ar Ymataliaeth.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru 

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ailddyrannu cyllidebau presennol i sicrhau bod digon o gyllid gwaelodlin ar gael i gyflawni'r ymrwymiadau swyddogaethau prisio diwygio trethi lleol yn y blynyddoedd i ddod.

Targedau ailgylchu 

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu ildio'r gosb i Gyngor Caerffili mewn perthynas ag isafswm targedau ailgylchu Awdurdodau Lleol 2020 i 2021.

Targedau ailgylchu 

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu ildio'r gosb i Gyngor Caerdydd mewn perthynas ag isafswm targedau ailgylchu Awdurdodau Lleol 2020 i 2021. 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

29 Rhygfyr 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023 Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac i'w gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Brenhinol.

Gwasanaethau Tân ac Achub

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £2,894,000 o refeniw a £2,250,000 o gyfalaf ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub, a £38,328,000 o refeniw ar gyfer cyllid gwariant a reolir gan alw yn flynyddol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân yn 2024 i 2025.

Digartrefedd

29 Rhygfyr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i'r dyraniadau dangosol ar gyfer Cymorth ac Atal Digartrefedd. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i'r dyraniadau prosiect dangosol yn 2024 i 2025 sy'n ymwneud ag Aberawe, a’r dyraniadau awdurdodau lleol ar gyfer Abertawe.

Cyllid addysg bellach arbenigol

29 Rhygfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyllid canser ac endosgopi

29 Rhygfyr 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyllid o £2.7 miliwn i gefnogi ymyriadau cenedlaethol ar gyfer canser ac endosgopi. 

Plant yng Nghymru - Cyllideb Ddangosol

20 Rhagfyr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllideb ddangosol o £786,000 i Plant yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Panel Sicrwydd Annibynnol

20 Rhagfyr 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sefydlu Panel Sicrwydd Annibynnol i roi sicrwydd ar weithrediad effeithiol y Fframwaith Rheoleiddio ac i recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer y Grŵp Cynghori Rheoleiddiol a fydd â rôl ehangach mewn perthynas â datblygu polisi rheoleiddio.

Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cynllunio’r Cwricwlwm i Gymru

20 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo datblygiad y Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cynllunio’r Cwricwlwm i Gymru a'r gwariant yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 ar gyfer y rhaglen am gyfanswm cost o £300k.

Cynllun Hawliau Plant

20 Rhagfyr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno nad oes angen unrhyw newidiadau ar unwaith i'r Cynllun Hawliau Plant o ganlyniad i Adroddiad Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2023.

Cyllid cyfalaf

19 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ailddyrannu £2.062 miliwn o gyllid cyfalaf i Cadw.

Dyraniad cyllid Atal a’r Blynyddoedd Cynnar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

19 Rhagfyr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo rhyddhau cyllid Atal a’r Blynyddoedd Cynnar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Carfannau cymwys ar gyfer rhaglen frechu rhag y ffliw 2024 i 2025

19 Rhagfyr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynhyrchion brechlyn a charfannau cymwys a gynghorwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar gyfer rhaglen frechu genedlaethol rhag y ffliw 2024 i 2025.

Dau brosiect Camddefnyddio Sylweddau

19 Rhagfyr 2023

Mae'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid cyfalaf camddefnyddio sylweddau gwerth cyfanswm o £304,026 yn 2023 i 2024 ar gyfer gwaith adnewyddu i'r Hwb yng Ngwent, yn ogystal â chyllid cyfalaf gwerth £303,600 yn 2024 i 2025 ar gyfer parhau â les pum mlynedd i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn Aberystwyth.

Cyflogi cyn-droseddwyr

18 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i ddatblygu pecyn cymorth i helpu cyflogwyr i gyflogi cyn-droseddwyr.

Pysgodfeydd Cregyn y Brenin

18 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin a sefydlu Grŵp Cynghori a Chynllun Gweithredu ar gyfer y Cynllun Rheoli.  

Cynllun pysgodfeydd Draenogiaid y Môr

18 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid y Môr a sefydlu Grŵp Cynghori a Chynllun Gweithredu ar gyfer y Cynllun Rheoli.  

Cyllid yr heddlu

18 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyfanswm dros dro y cyllid refeniw cyffredinol craidd ar gyfer 2024 i 2025, ac ymgynghoriad 4 wythnos ar yr Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) drafft.

Cais am Gylch Cyflog Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

18 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais am gylch cyflog Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2023 hyd 31 Mawrth 2024. 

Gwaredu Tir yn Chwarel Bute Meisgyn

18 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i waredu dwy lain o dir yn Chwarel Bute, Meisgyn y tu ôl i 28 a 28A Manor Hill. 

Cais am Gymeradwyaeth i Fenthyca

18 Rhagfyr 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i roi cymeradwyaeth i Gyngor Tref Aberdaugleddau fenthyca. 

Castell Rhuddlan

18 Rhagfyr 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a’r Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno bod dyletswydd wedi’i thorri o ran darparu hysbysiadau rhybudd yng Nghastell Rhuddlan. 

Harbwr Port Talbot

14 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot.

Trosglwyddo tir

14 Rhagfyr 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo trafodaethau ynghylch trosglwyddo tir yng Nghaerdydd

Datblygu gofod cyflogaeth ar Lime Avenue, Blaenau Gwent

13 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid o raglen y Cymoedd Technoleg i ddatblygu gofod cyflogaeth ar Lime Avenue, Blaenau Gwent.

Canllawiau ar Grant Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol

13 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y trefniadau cyllid ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth Leol 2024 i 2025, rhoi canllawiau i Awdurdodau Lleol am y broses gais a gwahodd Awdurdodau Lleol i gyflwyno ceisiadau.

Penodi ac ailbenodi aelodau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

13 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i benodi 7 aelod newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg sef: Tegryn Jones, Owain Wyn, Savanna Jones, Meurig Jones, Manon Cadwaladr, Meleri Light, ac Anwen Davies am gyfnod o 3 blynedd o 1 Ionawr 2024. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno i ailbenodi Dafydd Hughes, Dyfed Edwards, Lowri Morgans a Rosemary Jones i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, am 3 blynedd arall, o 22 Mawrth 2024.

Cymeradwyo cyllid i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer rheoli’r Ffliw Adar 

12 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gymeradwyo gwariant o hyd at £1 miliwn i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer mesurau parhaus i reoli’r ffliw adar ar gyfer tymor 2023 – 2024. 

Trefniadau Masnachol – Ffioedd Proffesiynol 

12 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar wariant ar gyfer ffioedd proffesiynol, yn ymwneud â threfniadau masnachol Llywodraeth Cymru â chwmni yn Ne Cymru. 

Adolygu Canllawiau Datblygu Cynaliadwy 

12 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ddefnyddio canllawiau a chyngor wedi’u diweddar ar faterion datblygu cynaliadwy ar gyfer gweithgareddau rheoli a datblygu seilwaith eiddo 

Trefniant Gweithrediad ar y cyd â Chyngor Gwynedd 

12 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo ymrwymo i Drefniant Gweithrediad ar y cyd a darparu arian cyfatebol i ddarparu unedau busnes newydd ym Mharc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth. 

Cymorth i fyfyrwyr

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i barhau â’r cymorth i fyfyrwyr sydd wedi’i ddyfarnu i fyfyrwyr ar gyrsiau penodol yng Ngholeg Penybont.

Bwyta’n iach

11 Rhagfyr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ddarparu cyllid i Veg Power i gyflwyno’r ymgyrch ddwyieithog i ysgolion, 'Bwytewch y Llysiau i’w Llethu', i bob ysgol gynradd a gynhelir yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer gweithredu Prosiect Headstart y Cymoedd Technoleg

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhoi’r cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 y cymoedd gogleddol gael profiad o fywyd prifysgol cyn cyflwyno eu ceisiadau UCAS. Bydd y prosiect yn cael ei reoli gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru a’i gefnogi o dan Raglen y Cymoedd Technoleg. 

Ehangu Dechrau’n Deg

11 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo rhoi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i helpu i weithredu Camau 2A a B ar gyfer Ehangu Dechrau’n Deg. 

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 March 2023

11 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i osod Datganiadau Ariannol Blynyddol Hybu Cig Cymru 2022 i 2023 gerbron y Senedd, ac y gall Hybu Cig Cymru gyhoeddi’r Datganiadau Ariannol ar ei wefan.

Ymestyn Gwasanaeth Clinig SWAN

11 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun cyllid ychwanegol er mwyn i’r clinig Syndrom heb Enw (Syndrome Without a Name (SWAN)) ymestyn y gwasanaeth. 

Asesiad o allyriadau Cyfarpar Hylosgi Canolig

11 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gomisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad modelu o gyfraniad Cyfarpar Hylosgi Canolig at lefelau nitrogen deuocsid (NO2) ar leoliadau ochr y ffordd sydd wedi bod yn mynd dros y terfynau statudol.   

Costau Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Trosglwyddo SA1 i Ddinas a Sir Abertawe

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo talu ffioedd cyfreithiol a thechnegol mewn perthynas ag eiddo yn Abertawe. 

Cychwyn achosion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag SA1

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant ar gyfer ffioedd cyfreithiol yn  SA1.

Penodi ymgynghorydd peirianneg forol yn Aber Afon Tawe SA1

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi HR Wallingford fel ymgynghorydd peirianneg forol. 

Penodi ymgynghorydd i gynghori ar waith yn SA1

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Arcadis i gynghori ar waith yn SA1.

Band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i anheddau newydd

11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar gynigion i ddarparu mandad ar gyfer darparu Band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i bob annedd newydd, ac i ddrafftio deddfwriaeth ddiwygio.

Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol

8 Rhagfyr 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i lansio’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.

Ailbenodi Aelod Cymru i’r Awdurdod Meinweoedd Dynol

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad Ellen Donovan, Aelod Cymru o Awdurdod Meinweoedd Dynol o 1 Ebrill 2024 hyd at 31 Mawrth 2027. 

Prosiect Seilwaith Deleffoni Newydd Powys 

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddarparu cyllid am un flwyddyn ar gyfer Prosiect Seilwaith Deleffoni Newydd ym Mwrdd iechyd Addysgu Powys.

Mynd i’r afael â chynnyrch fepio anghyfreithlon yng Nghymru

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i roi cyllid ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024 yn unig i Safonau Masnach Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gweithgarwch fepio anghyfreithlon yng Nghymru.  

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

7 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudiaeth ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Lansio ymgynghoriad ar ariannu asedau segur - 6 Rhagfyr

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar ddibenion gwariant yn y dyfodol ar gyfer ariannu asedau segur yng Nghymru.

Trwyddedu Sefydliadau, Gweithgareddau ac Arddangosfeydd Lles Anifeiliaid

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar ddatblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. 

Hyfforddiant ar wrthsefyll newid hinsawdd ac ymaddasu iddo

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cwrs hyfforddi ar wrthsefyll newid hinsawdd ac ymaddasu iddo i wneuthurwyr bwyd a diod yng Nghymru. 

Gwaith Diogelwch Tân mewn Adeiladau Amddifad

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar drefniadau gweithredu i gwblhau gwaith sy’n gysylltiedig â diogelwch tân ym mhob adeilad amddifad a datblygwr llai o faint yng Nghymru.

Diogelwch Adeiladau – Adfer Adeiladau nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cohort amddifad neu gynlluniau a arweinir gan ddatblygwyr 

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar lwybr at adferiad ar gyfer yr adeiladau hynny nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cohort amddifad neu gynllun a arweinir gan ddatblygwr. Bydd y datblygwyr llai, nad ydynt yn gallu talu costau adfer llawn, yn cael eu cefnogi drwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.

Diogelwch Adeiladau – Cymorth i Lesddeiliaid a allai gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylai cyngor cyfreithiol annibynnol fod ar gael i lesddeiliaid yng Nghymru sydd â phryderon ynghylch diogelwch tân yn eu hadeilad, neu’r gwaith sy’n cael ei wneud i'w adfer. Bydd lesddeiliaid yn gallu cael y cyngor cyfreithiol hwn drwy’r Cynllun Cynghori i Lesddeiliaid a fydd yn gallu eu hatgyfeirio at ddarparwr cyngor cyfreithiol arbenigol lle bo hynny’n briodol.

Diogelwch Adeiladau – Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid – Addasiad Pellach i’r Cynllun

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid hyd at fis Mehefin 2025. Bydd y Cynllun yn cael ei addasu fel y gallai lesddeiliaid, nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o ran cymhwysedd yr adeilad neu gymhwysedd ariannol, fod yn gymwys i gael cymorth oddi wrth gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru. 

Cynnal ymgynghoriad ar gyfer y DU gyfan ar offer trydanol ac electronig sy’n wastraff 

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar gyfer y DU gyfan ar offer trydanol ac electronig sy’n wastraff, yn amodol ar ddiwygiadau i’r dogfennau terfynol. 

Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cydsyniad ar gyfer gwneud Rheoliadau 2023 yn berthnasol i Gymru, ac i destun y datganiad ysgrifenedig gael ei osod yn y Senedd yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog SO30C.

International Circular Economy Hotspot – Cymru 2024

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i gynllunio’r digwyddiad. 

Ymgyrch Recriwtio Aelodau Bwrdd

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnal Ymgyrch i Recriwtio Aelodau ar gyfer y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, gyda’r bwriad o recriwtio tri aelod newydd.   

Proses Recriwtio ac Ailbenodi Aelodau o Fwrdd Hybu Cig Cymru  

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ailbenodi Emlyn Roberts a Jack Evershed i Fwrdd Hybu Cig Cymru am gyfnod arall o ddwy flynedd hyd at 31 Mawrth 2026.

Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023 i 2028

6 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi’r Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023 i 2028 ac i fabwysiadu’r Cynllun hwn yn ffurfiol, ynghyd â’r mapiau sŵn strategol yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006, ac i gyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Sŵn a Seinwedd drafft.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

6 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudiaeth ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Rhagfyr 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gyfer amrywiadau i awdurdodau lleol Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 24 Hydref 2023

4 Rhagfyr 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol o’r Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cronfa Dyfodol yr Economi

4 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gynnig diwygiedig o Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Nhorfaen.

Caffael Gwasanaethau Iechyd Cymru

4 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i’r ymgynghoriad ar yr egwyddorion gweithredol – trefn caffael gwasanaethau iechyd newydd i Gymru.

Cynlluniau Parodrwydd am Achosion Niwclear Sifil 

4 Rhagfyr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gryfhau’r cynlluniau parodrwydd am achosion niwclear sifil.

Caffael tir

4 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gaffael tir a gwaith ym Mae Baglan.

Gwaredu tir

4 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cynnig Cyngor Bro Morgannwg i waredu tir sy’n gyfanswm o 0.3 erw i DS Properties Ltd.

Hyb Orthopedig Rhanbarthol yn Ysbyty Llandudno

30 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo hyd at £29.4miliwn o arian cyfalaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ariannu Hyb Orthopedig Rhanbarthol yn Ysbyty Llandudno.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i Iechyd Cyhoeddus Cymru

29 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Tamsin Ramasut i fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i Iechyd Cyhoeddus Cymru am 4 blynedd rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 30 Tachwedd 2027.

Y safbwynt polisi arfaethedig ar gyfer dyfodol gweithlu nyrsio Band 4

29 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch y safbwynt polisi ar gyfer dyfodol gweithlu nyrsio Band 4 ar draws GIG Cymru.

Apeliadau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967

28 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gall swyddogion ysgrifennu at bobl sy’n apelio, a hynny ar ran Llywodraeth Cymru, ynghylch apeliadau annilys, ac y gall y trefniadau presennol barhau i benodi aelodau’r Pwyllgor Cyfeirio ar ran Gweinidogion Cymru, i wrando ar apeliadau o dan y Ddeddf.

Cais am gymeradwyaeth fenthyca

27 Tachwedd 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Coed-llai a Phontblyddyn.

Parthau Buddsoddi yng Nghymru

27 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i sefydlu dau Barth Buddsoddi yng Nghymru ac mai’r ardaloedd mwyaf addas fyddai’r De-ddwyrain a’r Gogledd-ddwyrain, fyddai’n cynnwys Wrecsam a Sir y Fflint. 

Penodi Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

27 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Eleanor Marks am 4 blynedd o 1 Chwefror 2024 i 31 Ionawr 2028. 

Datblygu rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint

27 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar waith cwmpasu i ddatblygu rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint.

Y Gronfa Tai â Gofal

23 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwerth £0.922miliwn o gyllid o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer pedwar cynllun mewn tri rhanbarth.

Rhwydwaith ffyrdd strategol – Cyllideb gyfalaf

23 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023 hyd 2024 i weithgareddau’r rhwydwaith ffyrdd strategol.

Penodi Cadeirydd Interim – Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

23 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Ceri Jackson o 1 Rhagfyr 2023 hyd 30 Medi 2024.

Achosion Busnes Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar

23 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg mewn perthynas â phedwar Prosiect Cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar. 

Penodiadau i’r Pwyllgor Addasu

21 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gall DEFRA gynnal ymgyrch penodiadau cyhoeddus er mwyn recriwtio tri aelod newydd ar gyfer y Pwyllgor Addasu. 

Dull cychwynnol o ddilysu cymwyseddau ar gyfer y proffesiwn Rheoli Adeiladu

21 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddefnyddio cynlluniau dilysu cymwyseddau ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu yng Nghymru. 

Cyhoeddi ymateb llawn y Llywodraeth i adolygiad yr Arglwydd O'Shaughnessy

21 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo ymateb y Llywodraeth i adolygiad O'Shaughnessy ynghylch treialon clinigol masnachol. 

Trosglwyddo Grant Cymorth Refeniw i gefnogi’r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol

21 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo trosglwyddiadau i gyllidebau grantiau cymorth refeniw Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â chynlluniau a gychwynnodd o fewn y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol. 

Awdurdod i Awdurdodi Mynediad i Safleoedd Perthnasol

21 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â’r trefniadau ymarferol ar gyfer awdurdodi person i fynd i mewn i unrhyw safleoedd perthnasol at ddibenion sicrhau bod cyffuriau a reolir yn cael eu rheoli a’u defnyddio mewn modd diogel, priodol ac effeithiol. 

Cynhyrchion a reoleiddir – penderfynu ar geisiadau ychwanegion bwyd tranche 2 

20 Tachwedd 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant wedi cytuno i awdurdodi un deg tri o ychwanegion bwyd ar y telerau a argymhellir.

Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd - Cyflawni yng ngham 2

20 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw ar gyfer tri awdurdod lleol i gyflymu eu cynlluniau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM).

Diweddaru ac adnewyddu canllawiau Bioamrywiaeth 

20 Tachwedd 2023

Adroddiad ar benderfyniad: Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant i ddiweddaru canllawiau a chyngor ar faterion bioamrywiaeth ar gyfer datblygiadau seilwaith eiddo a gweithgareddau rheoli tir. 

Cyllid gwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi

20 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i dalu £24,935 o gyllid tymor byr i Warchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno ar ail flwyddyn o gyllid, sef ar gyfer 2024 i 2025, yn amodol ar ddyraniadau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn honno.

Rheoli risg llifogydd

20 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnydd o £7 miliwn ychwanegol yng ngwariant Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd 2023 i 2024 Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i gyflymu’r gwaith o weithredu cynlluniau. 

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio - TrustMark 2005 LTD - Estyniad o 2023 tan 2024

16 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i Drafnidiaeth Cymru adnewyddu'r contract gyda TrustMark 2005 Ltd a'i adran Trustmark Research & Innovation Ltd er mwyn iddynt barhau â’r gwaith o brosesu a dadansoddi data perfformiad ynghylch defnydd mewn Tai Cymdeithasol.

Diogelwch Adeiladau – caffael contractwyr i ymgymryd â'r cam nesaf o arolygon adfer

16 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyllid cyfalaf o hyd at £6 miliwn i gwmpasu cyfnod contract o hyd at dair blynedd (contract dwy flynedd sef £2 filiwn y flwyddyn ariannol) gydag opsiwn o'i estyn am hyd at flwyddyn, o 01 Ionawr 2024.

Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

16 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Caroline Turner ac Urtha Felda am 4 blynedd rhwng 3 Tachwedd 2023 a 2 Tachwedd 2027. 

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

16 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Gareth Williams am ddwy flynedd rhwng 3 Tachwedd 2023 a 2 Tachwedd 2025. 

Safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru 

16 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y 15 safle coetir cyntaf nad ydynt ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru i ymuno â Choedwig Genedlaethol Cymru. Cytunodd y Gweinidog hefyd ar 12 ardal bellach o safleoedd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i ymuno â'r Goedwig Genedlaethol.

Paratoi ar gyfer datganoli plismona

16 Tachwedd 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i gomisiynu ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru.

Ymateb i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu)

16 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ymateb gan Lywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) 2010.

Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith 

16 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Weithredu’r Mesurau Interim ar gyfer Diogelu’r Amgylchedd 2022 i 2023.

Cyhoeddi safonau, codau a rheolau proffesiynol ar gyfer rheolaeth adeiladu

16 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi safonau, codau, a rheolau drafft ar gyfer y proffesiwn Rheolaeth Adeiladu, ynghyd â dogfennau ategol drafft, trefniadau monitro, a chyd-destun strategol ar gyfer y Fframwaith Rheoleiddio.  Hefyd mae’r Gweinidog wedi cytuno i gyhoeddi pob Crynodeb o Ymatebion ac Ymateb y Llywodraeth ar gyfer yr ymgynghoriadau ar y safonau, y codau a’r rheolau.   

Cael gwared ar eiddo preswyl o’r enw Picketston House yn Picketston

16 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gael gwared ar eiddo preswyl yn Picketston ar ystad Bro Tathan, Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Cynllun Grant Cartrefi Gwag

16 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiwygio’r contract cyflenwi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol yn sgil ailbroffilio’r gyllideb, gan nodi’r diweddariad ar hynt y cynllun.  

Ffatri yng Nglyn Ebwy sydd wedi’i hadnewyddu 

16 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i geisio gweithredu opsiwn lesio ar gyfer eiddo gweithgynhyrchu yn y De, fel y bydd yn cael ei gynnig yn ehangach yn y farchnad rentu. 

Ymestyn cyllid ar gyfer cymorth gwasanaethau profedigaeth

16 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ymestyn y cyllid ar gyfer Cymorth Profedigaeth 2024 i 2025 a thu hwnt.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod 6 Rhagfyr 2022

16 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Nhorfaen.

Trefniadau llywodraethu a chyllid cyfalaf ar gyfer Hwb Gwyddoriau Bywyd Cymru

14 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog yr Economi, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar drefniadau gweithredu Hwb Gwyddoriau Bywyd Cymru ar gyfer 2023 i 2025.

Diweddariad ar Fibrespeed a’r cam nesaf

14 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gam nesaf y contract Fibrespeed, ac i gaffael cymorth arbenigol.   

Cyllid Trawsnewid Trefi

13 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyngor Caerdydd tuag at adfer Marchnad Caerdydd, a chyllid ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent tuag at adnewyddu tu mewn i Gapel y Drindod, Abertyleri. 

Cynllun Benthyciadau Busnesau Gwyrdd

13 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllideb ychwanegol ar gyfer 2023 i 2024 i gefnogi’r lefel uchel o alw ar y Cynllun Benthyciadau Busnesau Gwyrdd, sy’n cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru.  

Cynlluniau Pensiynau Diffoddwyr Tân

13 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y rhagdybiaethau rheolaidd a nodir yng nghyngor Adran Actiwari’r Llywodraeth i Weinidogion Cymru, a’r rhagdybiaethau sy’n gysylltiedig â’r ymarfer opsiynau a gynhelir ar gyfer diffoddwyr tân y system ar ddyletswydd yn ôl galw sydd â gwasanaeth sy’n mynd yn ôl cyn 2006.

Is-adran Eiddo: Strategaeth Carbon Isel a Chanllawiau

13 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r gwariant ar gyngor ymgynghori sy'n gysylltiedig â datblygiadau Carbon Isel.

Gosod terfynau dalfa pysgodfeydd cregyn moch Cymru a ffi trwyddedau ar gyfer 2024 i 2025

13 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno ar derfynau dalfa cregyn moch arfaethedig ar gyfer cyfnod y drwydded 2024 i 2025; i godi ffi trwydded o £304 ar gyfer 2024 i 2025; i swyddogion adolygu'r fethodoleg ar gyfer pennu ffioedd trwyddedau yn y dyfodol; ac ar gyfer ymgynghoriad anffurfiol gyda physgotwyr cregyn moch am y bysgodfa ar gyfer cyfnod y drwydded nesaf.

Derbynwyr Grant Argymelledig y Grant Cyfalaf ar gyfer Cyweirio Adeiladau Preswyl Canolig ac Uchel (Sector Cymdeithasol) – Cyfran 3

13 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu hyd at £39.93 miliwn o'r arian cyfalaf sydd ar gael yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 ar gyfer 51 o brosiectau newydd. Cytunodd y Gweinidog hefyd ar ddyraniad o £0.387 miliwn yn 2023 i 2024 i dalu am orwariant annisgwyl ar brosiectau presennol.

Dyraniadau arfaethedig i gefnogi pysgotwyr Cymru ymhellach

13 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyflawni amrywiaeth o brosiectau gwyddoniaeth a digidol o fewn dyraniad cyllid Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
 

Darparu Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024

9 Tachwedd 2023

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar yr ymrwymiad i ddarparu’r Ysgol Aeaf flynyddol ar gyfer Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn ystod 2024, a’r amlen ariannol gysylltiedig o ryw £47,000, gan ganiatáu gwaith caffael i ddiogelu gwasanaethau cymorth ar gyfer 2024.

Prynu Cerbydau Euro 6 TrawsCymru

9 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y caiff Trafnidiaeth Cymru brynu fflyd o naw bws diesel Euro 6 newydd i’w defnyddio ar wasanaethau TrawsCymru – T2, T3 ar gost gyfalaf o £1.73 miliwn o gyllid sydd eisoes wedi’i roi i Trafnidiaeth Cymru i brynu cerbydau yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Cyd-ddatganiad Cymru / Baden Württemberg

9 Tachwedd 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar destun y Cyd-ddatganiad Cydweithio rhwng Cymru a Baden-Württemberg, i’w lofnodi gan Weinidog yr Economi ar 14 Tachedd.

5ed Adroddiad Blynyddol Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

9 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y caiff y Rhagair Gweinidogol ei gynnwys yn yr adroddiad.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 22 Awst 2023

9 Tachwedd 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Mewnforion personol: cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio mewn bagiau teithwyr a pharseli 

8 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ag argymhelliad y Grŵp Polisi Clefydau Anifeiliaid (ADPG) i gysoni’r polisi mewnforio parseli personol â pholisi mewnforio bagiau personol teithwyr ar gyfer cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid. Cytunodd y Gweinidog hefyd i’r dull rhestru risg gwledydd dwy haen sy’n cael ei argymell gan ADPG ar gyfer pob cynnyrch sy'n deillio o anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio’n bersonol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Adnewyddu ac Uwchraddio Lifftiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru 

8 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas ag achos cyfiawnhad busnes ar gyfer buddsoddiad cyfalaf o hyd at £10.215 miliwn i uwchraddio ac adnewyddu lifftiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Penodi Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol

7 Tachwedd 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo penodi Dr Andrew Cusworth a John Trevor-Allen yn Ymddiriedolwyr ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyrannu arian a gadwyd yn ôl o’r Gronfa Trawsnewid Gofal wedi'i Gynllunio  

7 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu'r £50 miliwn a gadwyd yn ôl o’r cyllid blynyddol o £170 miliwn ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio, er mwyn cefnogi cynnydd wedi'i dargedu wrth gyflawni'r targedau adfer gofal wedi’i gynllunio ar gyfer 2023 i 2024.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 

7 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i osod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2022 i 2023 yn y Senedd.

Cefnogaeth i raglen Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain

7 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ddarparu cyllid o £87K, sy'n ostyngiad i'r cyllid y cytunwyd arno mewn blynyddoedd blaenorol, i Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru ar gyfer darparu Gwasanaeth Cymorth Proffesiynol Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru yn ystod 2023 i 2024.

Dyfarniad grant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 

7 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi cytuno ar ddyfarniad cyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi costau cynllun ansawdd aer yr A472 Hafod-yr-ynys.

Seiberddiogelwch GIG Cymru

7 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwelliannau i Seiberddiogelwch GIG Cymru.

TB Buchol

6 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i atal nifer o weithgareddau APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) sy'n gysylltiedig â'r rhaglen dileu TB buchol, oherwydd y bernir bod y risg gysylltiedig o ran rheoli clefydau ar ei hisaf.

Banciau bwyd a thanwydd

6 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno ar £1 Filiwn er mwyn cyllido cymorth bwyd brys; £1 Filiwn er mwyn sicrhau bod modd darparu cymorth bwyd mewn ffordd gynaliadwy a chydnerth; a £500,000 er mwyn parhau â chynllun talebau tanwydd a Chronfa Wres y Sefydliad Banc Tanwydd.

Tai cymdeithasol

6 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gap o 6.7% ar renti tai cymdeithasol yn 2024 i 2025.

Comisiwn Dylunio Cymru

6 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr ymgyrch recriwtio er mwyn penodi Cadeirydd a Chomisiynwyr Comisiwn Dylunio Cymru yn 2024.

Gwerthu tir

6 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir yng Nghyffordd 38, Margam.

Porth Teigr

6 Tachwedd 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar wariant ar gyfer mân waith adfer fel y bo modd mabwysiadu ffordd ym Mhorth Teigr.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

6 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ymarfer caffael er mwyn dyfarnu contract newydd i gefnogi gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Gwerthu tir

6 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i amrywio cytundeb gwerthu tir sy'n gysylltiedig â thir yn y Llynnoedd Celtaidd, Casnewydd.

Addysg bellach arbenigol

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl 16 oed mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu estyniad o flwyddyn i Gontract Glastir hyd at 31 Rhagfyr 2021.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf o dan Gynllun Grantiau Bach Glastir gan iddo ddod i law ar ôl dyddiad ola’r Contract.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau cyfalaf Glastir a chosbi hawliadau yn dilyn archwiliad safle ar 12 Ebrill 2018.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu estyniad o flwyddyn i Gontract Glastir hyd at 31 Rhagfyr 2022.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gosbi taliadau grant y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Fferm ar gyfer dwy eitem oedd yn tramgwyddo’r gofynion a ddisgrifir yn y rheoliadau Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad a wnaed yn ffenest 5 y Grant Busnes i Ffermydd oherwydd amgylchiadau eithriadol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosbau o 25% ac i gapio’r grant ar bedair eitem a hawliwyd o dan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy. Cytunwyd bod y cyflenwr a pheth o’r offer a gyflenwyd yn arbenigol. 

Trawsnewid Trefi

2 Tachwedd 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo dyraniad o £1 miliwn o refeniw Trawsnewid Trefi i helpu i roi Cynlluniau Creu Lleoedd ar waith, i sicrhau cynnyrch sy’n deillio o’r broses Cynlluniau Creu Lleoedd ac i'r Comisiwn Dylunio yng Nghymru allu parhau â’i rôl.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

1 Tachwedd 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais gan Ysgol Oakmont i gofrestru fel ysgol annibynnol.

Ymateb i’r ymgynghoriad ar gyflwyno olrhain gwastraff digidol gorfodol

1 Tachwedd 2023

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi'r ymateb ar y cyd ar gyflwyno olrhain gwastraff digidol gorfodol gyda chenhedloedd eraill y DU.

Cronfa Tai gyda Gofal

1 Tachwedd 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Tai i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Achos Cyfiawnhau Busnes 2023 i 2026

1 Tachwedd 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor a chyllid mewn perthynas â Chorffdy Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ailbenodi Aelodau Annibynnol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

31 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ailbenodi'r Canon Aled Edwards am 4 blynedd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2028 a Julian Stedman am 2 flynedd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026.

Ailbenodi Dirprwy Gadeirydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

31 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ailbenodi Tim Jones yn Ddirprwy Gadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am 4 blynedd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2028.

Canllaw arfer da

30 Hydref 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i rannu canllaw arfer da o’r enw ‘Cynnal Adolygiadau Ffeithiol ar gyfer Preswylwyr a gafodd COVID-19 yn y Sector Cartrefi Gofal’ â’r sector cartrefi gofal. 

Cyllid ar gyfer cymorth i’r gweithlu gofal plant 

26 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cymorth i’r gweithlu gofal plant.

Gwneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau awdurdodi brys ar gyfer had indrawn sydd wedi eu trin

26 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Materion gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno y gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch weithredu fel y sawl sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â chymeradwyo neu wrthod pedwar cais Awdurdodi Brys sy’n ymwneud â had indrawn sydd wedi eu trin.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

26 Hydref 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau i warchodwyr plant fodloni gofynion cymwysterau newydd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, i ddiwedd Tachwedd 2024.

Penodi Llywydd i Dribiwnlys y Gymraeg

26 Hydref 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno y dylid roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol gynnal ymarfer recriwtio a dethol ar gyfer penodi Llywydd i Dribiwnlys y Gymraeg. 

Cyllid ychwanegol o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i gefnogi gweithredu Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023

25 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddarparu cyllid ychwanegol o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ar gyfer 2023-24 i’r sector tai cymdeithasol fel cymorth ar gyfer gweithredu Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023).

Artes Mundi 2023

25 Hydref 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu £50,000 o gyllid Digwyddiadau Cymru i gefnogi datblygiad a thwf parhaus Artes Mundi 2023.

Cosb gorfforol

25 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gaffael amrywiad tendr sengl er mwyn comisiynu ton arall o gwestiynau am agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol yn Arolwg Omnibws Cymru Beaufort Research.

Cyllid cyfalaf Cyfoeth Naturiol Cymru

25 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru sef £248,333 ar gyfer 2023 i 2024 a £173,333 ar gyfer 2024 i 2025.

Ymgyrch recriwtio cyhoeddus ar gyfer Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru

24 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo lansio ymgyrch recriwtio, a deunyddiau cysylltiedig, i benodi Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.

Grŵp defnyddwyr premiwm UKMOD

24 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i adnewyddu aelodaeth o Grŵp Defnyddwyr Premiwm UKMOD.

Cydsynio i argymhellion Dosbarthiad a Labelu Gorfodol Prydain

24 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cydsynio i argymhellion a wnaed gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, gan weithredu yn eu rôl fel Asiantaeth y DU, i ddiwygio rhestr Dosbarthiad a Labelu Gorfodol Prydain ar gyfer 98 o sylweddau. Mae hefyd wedi cydsynio i'r dyddiad arfaethedig y bydd yn rhaid cydymffurfio â’r gofynion newydd neu ddiwygiedig.

Chwarae Teg

24 Hydref 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i dalu cyllid grant i Chwarae Teg ar gyfer gwaith sy'n cyd-fynd â'r cynllun gweithredu blynyddol hyd nes bydd yn cau ar 20 Hydref 2023. Penderfynodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol na fyddai'n bosibl gwarantu cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad ac felly nid yw'n gallu darparu pecyn o gymorth ariannol.

Penodi Aelod Bwrdd Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

24 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mike Parry, Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Aelod Cyswllt o'r Bwrdd tan 30 Mehefin 2024. 

Penodi Aelod i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

24 Hydref 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi penodi Dave Holland yn aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru am 3 blynedd rhwng 1 Hydref 2023 a 30 Medi 2026.

Penodi Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol

24 Hydref 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi penodi Dr Andrew Cusworth a John Trevor-Allen yn Ymddiriedolwyr i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 4 blynedd rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Hydref 2027.

Ailbenodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

24 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Gary Page yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Cynllun Ailstrwythuro Gweithredol Bwrdd Cwmni Egino

20 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i addasiadau i Fwrdd Cwmni Egino a'i dîm gweithredol i sicrhau parhad prosiectau a gwybodaeth gorfforaethol.

Casglu gwybodaeth am ryw o fewn casgliadau data statudol addysgol

20 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gasglu gwybodaeth am ryw o fewn casgliadau data statudol addysgol a darparu diffiniad clir o'r wybodaeth a gesglir. Cytunodd y Gweinidog hefyd i awgrymu datrysiad technegol i randdeiliaid ar gyfer cofnodi hunaniaeth rhywedd o fewn systemau meddalwedd pe bai ysgolion a/neu awdurdodau lleol yn defnyddio eu disgresiwn ac yn dewis ei weithredu at eu defnydd lleol eu hunain, er na fydd Llywodraeth Cymru yn casglu’r wybodaeth honno.

Adroddiad Uned Cyngor Cymhorthdal y DU ar Forglawdd Caergybi

20 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gynnig o gymorth ariannol tuag at adnewyddu morglawdd Caergybi.

Diogelu Porthladd Caergybi – Morglawdd Caergybi

20 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Ddiogelu Porthladd Caergybi – Morglawdd Caergybi.

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

20 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Kath Palmer yn Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae ei phenodiad yn dechrau ar 13 Tachwedd 2023.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod 4 Gorffennaf 2023

20 Hydref 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid Cynhyrchu Creadigol o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cynllun Peilot Dyfeisiau Electronig i Adnabod Gwartheg

20 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal cynllun peilot trawsffiniol ar ddyfeisiau electronig i adnabod gwartheg (BEID) yng Nghymru a Lloegr gyda Defra a Phrifysgol Harper Adams. Bydd cam Cymreig y cynllun peilot yn canolbwyntio'n llwyr ar adolygu perfformiad technoleg BEID Amledd Isel ar nifer o ffermydd dethol ac mewn lladd-dy yng Nghymru.

Bwrdd Diagnosteg Cenedlaethol

19 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyngor mewn perthynas â chefnogi blaenoriaethau diagnostig o dan y Bwrdd Diagnosteg Cenedlaethol gwerth hyd at £10 miliwn yn 2023 i 2024, a hyd at £5 miliwn ar gyfer gwaith sy’n ymwneud ag ystadau cysylltiedig yn 2024 i 2025.

Cyhoeddi polisi wedi’i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru

19 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi llythyr at Benaethiaid Cynllunio gan gynnwys atodiad sy'n nodi'r polisi cynllunio wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 yn yr iteriad nesaf o Bolisi Cynllunio Cymru - a fydd yn cael ei weithredu ar unwaith fel polisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Bydd y polisi hwn yn cael ei ymgorffori mewn ailgyhoeddiad llawn o Bolisi Cynllunio Cymru ar ddiwedd y flwyddyn.  

Mewnforion personol – ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion mewn bagiau teithwyr, drwy’r post ac mewn parseli

19 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i sicrhau proses glirio i Lywodraeth Cymru weithredu'n unol â pholisi arfaethedig Llywodraethau'r DU ar fewnforion personol ledled Prydain Fawr ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion.

Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 19 Medi 2023

19 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol o dan Gronfa Dyfodol yr Economi i gefnogi prosiect yn Ne Cymru.

Caffael Dyfeisiau Llif Unffordd

19 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â chaffael Dyfeisiau Llif Unffordd COVID-19.

Prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i ddysgwyr cymwys

19 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi penderfynu peidio ag ailsefydlu'r ddarpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Mae e wedi cadarnhau bod y ddarpariaeth wedi dod i ben am gyfnod amhenodol.

Uwchraddio Cadernid y Seilwaith Trydanol yn y Tŵr Trydyddol

19 Hydref 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyllid cyfalaf o hyd at £2.438 miliwn (gan gynnwys TAW) ar gyfer gwaith uwchraddio cadernid y seilwaith trydanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Amnewid Offer Niwroradioleg Ymyriadol ar Frys

19 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gais gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am gyllid i amnewid offer niwroradioleg ymyriadol ar frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Rhaglen Gyfalaf Cymru Gyfan

19 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Raglen Gyfalaf Cymru Gyfan – Blaenoriaethu Cyllid.

Cyllid Grant Cyfalaf ar gyfer YnNi Teg

17 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo cyllid cyfalaf o hyd at £730,000 i YnNi Teg ar gyfer codi aráe paneli solar ar y llawr.

Rhaglen Addysg Ryngwladol

17 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer darparu’r Rhaglen Addysg Ryngwladol yn ystod 2023 i 2024. 

Rhaglen Alacrity – Dyrannu’r Cronfeydd Sbarduno sy’n weddill

17 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddefnyddio balans cronfa sbarduno Rhaglen Alacrity ar gyfer tri chwmni Alacrity presennol yn ychwanegol.

Targedau ailgylchu deunyddiau pecynnu ar gyfer 2024

17 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y targedau ar gyfer ailgylchu deunyddiau pecynnu am 2024 ac i’r Ysgrifennydd Gwladol gynnwys Cymru yn y rheoliadau diwygio. 

Prosiect Comisiwn y Gyfraith o ddirmyg llys

16 Hydref 2023

Mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad wedi cytuno y dylid cynnwys tribiwnlysoedd Cymru ym mhrosiect Comisiwn y Gyfraith gan ystyried cyfraith dirmyg llys. 

Achosion Busnes ar gyfer Safleoedd Rheolaethau'r Ffin Iechydol a Ffytoiechydol Caergybi a Phenfro

16 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo achosion Busnes ar gyfer Safleoedd Rheolaethau'r Ffin Iechyol a Ffytoiechydol (SPS) Caergybi a Sir Benfro.

Graddio carcasau cig eidion

16 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno ar y broses o gymeradwyo offer graddio awtomataidd, ar gyfer dosbarthu carcasau cig eidion.

Diogelwch dŵr

16 Hydref 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i swyddogion gynnal ymarfer tendro i benodi partner cyflawni i weithredu argymhellion Pwyllgor y Senedd ar ddiogelwch dŵr.

Cynllun canfod tanwydd a'r corff monitro

12 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar fwriad Llywodraeth y DU i greu cynllun canfod tanwydd a chorff monitro.

Sioeau teithiol i gefnogi pysgotwyr

12 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol i bysgod môr ar gyfer sioeau teithiol rhanbarthol ar gyfer lles a gwytnwch pysgotwyr, ac ar gyfer hyfforddiant iechyd a diogelwch o fis Hydref 2023.

Argymhellion ar gyfer Gwariant Refeniw Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth

11 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr argymhellion i ariannu Diogelwch Ffyrdd, Teithio Llesol, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a chynllun Bathodyn Glas, Newid Moddol a Newid Ymddygiad a Datgarboneiddio ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Argymhellion ar gyfer Gwariant Cyfalaf Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth

11 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Awdurdodau Lleol ar gyfer Blaenoriaethau Trafnidiaeth Lleol, er mwyn dyrannu cyllid i Trafnidiaeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac i weinyddu'r Gronfa Teithio Llesol, ac ar gyfer Datgarboneiddio Bysiau a phrosiectau Teithio Llesol eraill ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Awdurdodau Lleol ar gyfer cynlluniau Blaenoriaeth Trafnidiaeth Leol sy'n rhan o etholaethau'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidogion.

Trawsnewid Trefi - Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd

11 Hydref 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant ychwanegol i Gyngor Dinas Casnewydd tuag at ddatblygu Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd.

Targedau Ailgylchu Awdurdodau Lleol

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu peidio â gweithredu’r gosb ar Gyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â thargedau gofynnol Awdurdodau Lleol 2021 i 2022.

Penodiadau i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn proses penodi cyhoeddus, gan hysbysebu ar gyfer 2 Gyfarwyddwr Anweithredol (Academaidd, a Chyllid) ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Bydd y broses recriwtio ar agor o 4 Hydref i 29 Hydref 2023.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn proses penodi cyhoeddus i recriwtio Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bydd y broses recriwtio ar agor o 5 Hydref i 3 Tachwedd 2023.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

9 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer gweithgareddau marchnata a chyfathrebu yn 2023 i 2024 i helpu i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018.

Banc Seilwaith y DU – Trysorlys EF i gyhoeddi ymgynghoriad ar lywio’r strategaeth 

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymateb i ymgynghoriad gan Drysorlys EF ar ddatganiad o flaenoriaethau strategol yr oedd am eu cyhoeddi mewn perthynas â Banc Seilwaith y DU yn unol â Deddf Banc Seilwaith y DU 2023.

Rhannu lesoedd Ystadau Coetir Llywodraeth Cymru â’r Swyddfa Gartref

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cydsynio i Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Gartref rannu lesoedd wedi eu golygu ar gyfer Ystadau Coetir Llywodraeth Cymru â chyflenwyr perthnasol i helpu Llywodraeth y DU i weithredu rhaglenni Gwasanaeth Ardal Estynedig a Rhwydwaith Gwledig a Rennir.  

Grant Atal Digartrefedd – rhoi cyllid atal i awdurdodau lleol

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog  wedi cytuno i roi’r £6.5m sy’n weddill y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y Grant Atal Digartrefedd i awdurdodau lleol i gynyddu mesurau atal drwy’r grant Atal Digartrefedd disgresiynol. 

Cais am gostau cyfalaf symud gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo rhoi cyllid cyfalaf untro i’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru tuag at y costau sy’n gysylltiedig â symud ei swyddfa i Barc Cathays.  

Cymeradwyo’r sylwedd actif Isoflucypram fel cynnyrch amddiffyn planhigion ym Mhrydain

9 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno y gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arfer y swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar ran Gweinidogion Cymru o ran cymeradwyo isoflucypram, sylwedd actif newydd, fel cynnyrch amddiffyn planhigion, ar gyfer Cymru, yr Alban a Lloegr. 

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

5 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo ymestyn tymor Dr Chris Turner, Cadeirydd dros dro’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Entrepreneuriaeth

5 Hydref 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid grant i gefnogi Entrepreneuriaeth ar draws sefydliadau addysg bellach ac uwch. 

System trwyddedu pysgodfeydd ddigidol

5 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ddyfarnu contract a dechrau datblygu cam 1 o system trwyddedu pysgodfeydd ddigidol.

Iechyd anifeiliaid

5 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect hyfforddi milfeddygon a pheilot Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid.

Fframwaith Windsor

5 Hydref 2023

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan, Llywodraeth yr Alban, Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn perthynas â Fframwaith Windsor.

Addysg Bellach Arbenigol

5 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cynnyrch anifeiliaid

4 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths, wedi cytuno i wneud datganiad diogelu dros dro i atal  dod dro mewnforio crwyn defaid a geifr sydd heb eu trin, sy’n dod yn wreiddiol o Fwlgaria, ac i gadw’r cyfyngiadau yn eu lle nes bod epidemioleg yr achosion yn gliriach.

Ymgyrch 'Helpwch ni i’ch helpu chi'

4 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi ymgyrch wybodaeth gyhoeddus 'Helpwch ni i’ch helpu chi' 2023 i 2024.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

4 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid 2023 i 2025 ar gyfer Cynllun Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae wedi cytuno mewn egwyddor ar gyllid ar gyfer cynllun Chwalu’r Rhwystrau 2024 i 2025.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

2 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Helen Lentle fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r penodiad yn cychwyn ar 2 Ionawr 2024.

Presenoldeb mewn ysgolion

2 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar bresenoldeb.

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

2 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i gefnogi datblygu hunaniaeth sefydliadol, gwefan a strategaeth sianelau digidol ddwyieithog ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Cydymffurfedd â Chonfensiwn Aarhus

2 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyfraniad Llywodraeth Cymru i Adroddiad Cynnydd y Deyrnas Unedig i’r Pwyllgor Cydymffurfedd â Chonfensiwn Aarhus.

Ailbenodi i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

2 Hydref 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailbenodi Gareth Jones fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre am 4 blynedd o 1 Tachwedd 2023 to 31 Hydref 2027.

Ignite Cymru

2 Hydref 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu £160,000 o gyllid Digwyddiadau Cymru i gefnogi rhaglen ddatblygu sgiliau Ignite Cymru yn Nadolig ym Mharc Bute yn 2023, 2024 a 2025.

Mecanwaith Adolygu Annibynnol

2 Hydref 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Mecanwaith Adolygu Annibynnol o 1 Awst 2024 i 31 Gorffennaf 2027.

Ehangu’r Uned Llosgiadau a’r Uned Gofal Dwys – Cam 1 yn Ysbyty Treforys

26 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gymorth ariannol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer gweithredu cam cynaliadwyedd cyntaf y strategaeth ehangu gofal critigol/llosgiadau yn Ysbyty Treforys.

Panel Dyfarnu Cymru – ymgyrch recriwtio ar y cyd

25 Medi 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol amrywio'r ymarfer recriwtio a dethol a drefnwyd ar gyfer penodi Llywydd Panel Dyfarnu Cymru, gan gynnal ymgyrch recriwtio ar y cyd er mwyn dethol Dirprwy Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar yr un pryd.

Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID 19 - Cytundeb cyllido ar gyfer ail hanner 2023 i 2024

25 Medi 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid i helpu gyda’r ymateb i’r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19.

Penodi Aelodau Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

25 Medi 2023
 
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y ceir dechrau ar broses penodiadau gyhoeddus i hysbysebu am 2 Aelod Annibynnol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bydd y broses recriwtio yn agored rhwng  20/09/2023 a 18/10/2023.

Protocolau cenedlaethol ar gyfer brechlyn ffliw

25 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo Protocolau Cenedlaethol ar gyfer gweinyddu brechlynnau ffliw rhwng 2023 a 2024.

Grantiau addysg

25 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Costau cyfalaf i gefnogi prosiect teledermosgopi Prifysgol Betsi Cadwaladr 

21 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer elfen gyfalaf eu prosiect teledermosgopi. Mae’r prosiect yn unol â’r model trawsnewid cenedlaethol fel rhan o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd.

Penodi SP Project Ltd

20 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi ymgynghorydd i gynghori ar Blot C3 Parc Bryn Cegin, Bangor, Gwynedd.

Ariannu’r Cwricwlwm Dinasyddion

20 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i gyflawni chwe chynllun peilot Cwricwlwm Dinasyddion.

Trefniadau Cyfreithiol

20 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymrwymo i ddogfennau diogelwch benthyciadau diwygiedig mewn perthynas â phrosiect rheilffordd yn Ne Cymru.

Cynllun Busnes Cyfoeth Naturiol Cymru

20 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynllun busnes Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2023 i 2024.

Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau – Rhoi Meinweoedd a Chelloedd

20 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i dderbyn a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y grŵp llywio O Blaid Asesu Risg Unigoledig, ynghyd â’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau, i greu proses rhoi mwy cynhwysol yng Nghymru drwy gael gwared ar gwestiynau MSM (dynion sy’n cael rhyw â dynion) ar draws asesiadau risg ar gyfer rhoi meinweoedd a chelloedd byw a rhai sydd wedi marw. Yn hytrach, byddwn yn symud at asesiad mwy unigoledig i asesu a yw rhoddwyr mewn perygl o heintiau yn sgil feirysau a gludir yn y gwaed, waeth beth fo’u rhyw, rhywedd neu dueddiad rhywiol.

Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau – profi HHV8 ar organau solet

20 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i dderbyn a gweithredu'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau mewn perthynas â chyflwyno proses sgrinio serolegol cyffredinol am firws herpes sy’n gysylltiedig â sarcoma Kaposi mewn rhoddwyr organau ymadawedig.

Adran 83 – Cydsyniad i CNC ymrwymo i les ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru

20 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi awdurdodi CNC i ymrwymo i gontractau lluosog a chytundebau lles gyda Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol ar 20 safle arfaethedig wedi'u gwasgaru ar draws rhannau o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru i'w galluogi i adeiladu a gweithredu system delathrebu o dan y rhaglenni Gwasanaeth Ardal Estynedig a Rhwydwaith Gwledig a Rennir.

Plot C2, Parc Busnes Woodlands, Ystradgynlais

19 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer tir yn Ystradgynlais.

Polisi Datblygu a Chymunedau – diweddariad Awst 2023

19 Medi 2023

Cymeradwyodd y Gweinidogion dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, dros Newid Hinsawdd, a dros Lywodraeth Leol a Chyllid yr argymhellion i barhau i weithio i ddatblygu Polisi Cymunedau.

Cais am Gyfarwyddyd Diogelu mewn perthynas â'r prosiect piblinell CO2 HyNet arfaethedig

19 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion benderfynu a ddylid cyhoeddi Cyfarwyddyd Diogelu mewn perthynas â phrosiect piblinell arfaethedig HyNet CO2 yn Sir y Fflint.  Byddai Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir y Fflint ymgynghori â datblygwyr y biblinell arfaethedig, cyn rhoi caniatâd cynllunio ar y llwybr arfaethedig.  

Gwaredu tir

19 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i waredu darn o dir 2.6 hectar yn Cosmeston, Penarth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i ddarparu ar gyfer ysgol anghenion dysgu ychwanegol am werth marchnad y cytunwyd arno o £236,800 ynghyd â TAW.

Gwella Canlyniadau i Blant – Cytundeb Cyllido 2023 i 2024

19 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid sydd ei angen i barhau â'r rhaglen waith bresennol sydd ar waith i gefnogi mabwysiadu, lleoliadau ac atal plant rhag dechrau mewn gofal.  

Cyhoeddi Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Eco Albion 2025 i 2030

19 Medi 2023

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i swyddogion ysgrifennu at Albion Eco yn cadarnhau y dylent gyhoeddi eu Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr ar gyfer 2025 i 2030.  

Amrywio trefniadau derbyn Cyngor Sir Powys ar gyfer 2024 i 2025

19 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i amrywio trefniadau derbyn 2024 i 2025 Cyngor Sir Powys o ran Nifer Derbyn Ysgol Trefonnen.

Rhaglen Adnewyddu Sylweddau Gweithredol

18 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i waith ymgysylltu wedi’i dargedu â rhanddeiliaid i helpu i ddatblygu’r Rhaglen Adnewyddu Sylweddau Gweithredol BG ymhellach.

Cais am gyfleuster benthyciad dros dro

18 Medi 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod ariannu benthyciad dros dro ar gyfer costau cyfreithiol a thechnegol parhaus mewn perthynas â phrosiect rheilffordd yn y De.

Trosglwyddo safle presennol Ysbyty’r Eglwys Newydd

18 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau’r broses diwydrwydd dyladwy ar gyfer trosglwyddo safle presennol Ysbyty’r Eglwys Newydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Cyfarfod panel buddsoddi 15 Awst 2023 

14 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol drwy Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Fynwy.

Adolygiad ac argymhellion ar gyfer newidiadau i’r cyllid ar gyfer Cynlluniau Gwarant Bond

12 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi’r gorau i ariannu Cynlluniau Gwarant Bond yn uniongyrchol rhwng 2024 a 2025, ac yn hytrach ailddosbarthu’r cyllid drwy’r Grant Cymorth Tai rhwng 2024 a 2025, gyda chyfnod pontio o flwyddyn o leiaf.

Gwahoddiad i Lywodraeth Cymru ymuno â Chynghrair Ranbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop

12 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Lywodraeth Cymru fod yn aelod o Gynghrair Ranbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop.

Cais i’r Cyfrin Gyngor gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

12 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i argymell bod cais i’r Cyfrin Gyngor gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ddiwygio ei is-ddeddfau yn cael ei gymeradwyo.

Hawliad Anaf Personol – Maes Parcio Padley Road, Glannau Abertawe SA1

12 Medi 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i setlo hawliad anaf personol yn SA1.

Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol – Cronfa Dyfodol yr Economi

12 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Fynwy.

Penodi Aelodau (cyfarwyddwyr anweithredol) i Fwrdd Cyfarwyddwyr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf 

11 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Malcolm Lowe-Lauri, Mr Neil Mesher am 3 blynedd a’r Athro Peter Romilly Bannister am 2 flynedd fel Cyfarwyddwyr Anweithredol ar Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Bydd y penodiadau yn cychwyn ar 18/09/2023.

Penodiad Newydd i Banel Arbenigwyr Academi Wales

11 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo penodi Mark Stephenson, Prif Swyddog Pobl, Heddlu De Cymru, i Banel Arbenigwyr Academi Wales.

Cefnogaeth arbenigol ar gyfer camau gorfodi ar eiddo gwag ac adeiladau dadfeiliedig

11 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer 2023 i 2024 ar gyfer trefniant tymor byr drwy Sefydliad Tai Siartredig Cymru i ddarparu cyngor/cefnogaeth arbenigol i awdurdodau lleol.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 11 Gorffennaf 2023

7 Medi 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

6 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Diweddariad ynghylch Cytundeb Bioamrywiaeth Morol BBNJ y Cenhedloedd Unedig

6 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i swyddogion weithio gyda’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a DEFRA mewn perthynas â’r cytundeb hwn gan ymateb i unrhyw faterion a allai godi.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

6 Medi 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyfarpar Diogelu ar gyfer Digwyddiadau Peryglus

5 Medi 2023

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyllid cyfalaf o £242k ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru er mwyn prynu cyfarpar diogelu.

Tystiolaeth ar Gyflwr Tai

5 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ariannu costau staffio ar gyfer y Tîm Tystiolaeth ar Gyflwr Tai yn 2023 i 2024. Cytunodd hefyd mewn egwyddor i roi cyllid yn 2024 i 2025 ar gyfer y Tîm Tystiolaeth ar Gyflwr Tai. Byddai’r cyllid hwnnw’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng polisi tai a pholisi tlodi tanwydd yn amodol ar gytundeb achos busnes i'w gyflwyno erbyn diwedd Rhagfyr 2023.

Argymhellion Panel Dyfarnu Grant ar gyfer Cam 3 Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW3)

5 Medi 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo argymhellion Panel Dyfarnu Grant ar gyfer Cam 3 Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW3) i ddyfarnu cyfalaf o gynllun grant ACPW3 ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Cymeradwyo'r cynllun penodi mewn perthynas â threfniadau llywodraethu ar gyfer y Rhaglen i Ddileu TB

5 Medi 2023

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i fwrw ymlaen â sefydlu Bwrdd Rhaglen newydd a Grŵp Cynghori Technegol newydd ar gyfer y Rhaglen i Ddileu TB.

Cyllido Gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)

5 Medi 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyllido cais y VOA am arian ar gyfer 2023 i 2024 o’r dyraniadau sydd wedi’u cynnig o’r gyllideb. 

Penodi aelodau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

31 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno  i gynnal proses i benodi aelodau newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Ysbyty Gyffredinol Llwynhelyg

31 Awst 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â phresenoldeb Concrit Awyredig Awtoclafedig wedi'i Atgyfnerthu yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd.

Ardrethi annomestig

30 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar raglen waith i weithredu’r fframwaith ar gyfer crynhoi ardrethi annomestig, gan gadarnhau’r set o egwyddorion cyffredin ar gyfer crynhoi ardrethi, creu’r systemau ariannu a phennu’r trefniadau ymarferol y mae eu hangen ar gyfer pob cytundeb crynhoi ardrethi.

Cymorth Busnes

30 Awst 2023

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid Cynllun Diogelu’r Amgylchedd ar gyfer prosiect yn Abertawe.

Cymorth Busnes

29 Awst 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg

29 Awst 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwella diogelwch tân yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd.

Harbwr Saundersfoot

25 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar fenthyciad cyfalaf gweithio untro i Gomisiynwyr Harbwr Saundersfoot i gynorthwyo’r gwaith o gyflwyno eu prosiect Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i osod craen glanio parhaol yn Harbwr Saundersfoot.

Cynllun Gweithredu Rhoi diwedd ar Ddigartrefedd

25 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr adolygiad a’r diweddariad i’r Cynllun Gweithredu Rhoi diwedd ar Ddigartrefedd.

Penodi aelod i Chwaraeon Cymru

25 Awst 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi penodi Ian Bancroft yn Is-gadeirydd, a Nuria Zolle, Chris Jenkins a Rhian Gibson yn Aelodau Bwrdd, am 3 blynedd rhwng 1 Hydref 2023 a 1 Hydref 2026.

COVID-19

25 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i wrthod y cynnig gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i gymryd rhan yn yr Arolwg Heintiadau COVID-19 newydd.

Cymorth busnes

25 Awst 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi ar gyfer prosiect yn Sir Gaerfyrddin.

Penodi aelod i’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Phwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

25 Awst 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi penodi Rhian Hayward i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2026.

Penodi Cadeirydd Amgueddfa Cymru

24 Awst 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi penodi Rhys Evans yn Is-gadeirydd Amgueddfa Cymru am 4 blynedd o 1 Hydref 2023 i 30 Medi 2027.

Penodi Cadeirydd Amgueddfa Cymru

24 Awst 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi penodi Kate Eden yn Gadeirydd Amgueddfa Cymru am 4 blynedd o 1 Medi 2023 i 31 Awst 2023.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

24 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno mewn egwyddor ar gymorth o £14.5 miliwn ar gyfer saith o brosiectau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn amodol ar gymeradwyo'u hachosion busnes.

Cymorth busnes

23 Awst 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i feithrin cyngor a chymorth ymgynghori ar gyfer datblygu man lleoli / deori ar gyfer lled-ddargludyddion.

Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG

22 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gellir defnyddio arian wrth gefn i gefnogi Rhaglen Olchi Cymru Gyfan. 

Cadwch Gymru’n Daclus

21 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid Grant i Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Rhaglen System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru

21 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfeiriad strategol Rhaglen System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

17 Awst 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu hyd at £270,000 o gyllid Digwyddiadau Cymru i gefnogi datblygiad a thwf parhaus Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2023, 2024 a 2025.

Y sylwedd gweithredol bioladdol creosot

17 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i'r cais i ohirio dyddiad dod i ben y sylwedd gweithredol bioladdol creosot. 

Gwariant i gefnogi polisi Hedfan, Porthladdoedd Morwrol, Cludo Nwyddau a Logisteg yng Nghymru

16 Awst 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyngor arbenigol ar gyfer datblygu polisi Hedfan, Porthladdoedd Morol, Cludo Nwyddau a Logisteg yng Nghymru.

Contractau newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau  T1C, T2, T3, T6 a T10 TrawsCymru

16 Awst 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i Drafnidiaeth Cymru ymrwymo i gontractau newydd â gweithredwyr. A hynny er mwyn iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau bysiau TrawsCymru T1C, T2, T3, T6 a T10 am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y contractau newydd yn cychwyn ddechrau mis Medi 2023.

Adolygu Aelodaeth Pwyllgor Cynghori Cymru  ar Reoliadau Adeiladu yn 2023

16 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal ymarfer recriwtio i ailbenodi: Bernadette Kinsella, Matthew Grey, Paul Williams, Steven Harris, Will Phillips a Matthew Evans am gyfnod o 4 blynedd o 01/01/2023 i 31/12/2025.

Penodi Aelod cyfreithiol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda

16 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Michael Imperato am 4 blynedd o 1 Medi 2023. 

Trefniadau ar gyfer Llwybrau Amgen i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon 

16 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer y llwybrau amgen i raglenni addysg gychwynnol i athrawon, ym mlynyddoedd academaidd 2024 i 2025, 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Fframwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig 

14 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi contractwr allanol i adolygu’r Fframwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn 2024.

Cymorth i fusnesau

14 Awst 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo Cyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mro Morgannwg.

Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

14 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu gwerth £200,000 o gyllid i Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn arwain y thema gofal cymdeithasol yn Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. 

System drwyddedau pysgodfeydd

11 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i ddechrau gwaith caffael system ddigidol ar gyfer trwyddedau pysgodfeydd.

Castell Caerffili

11 Awst 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo dyfarnu'r contract adeiladu ar gyfer y camau sy’n weddill o ran datblygu Castell Caerffili, er mwyn galluogi'r rhaglen waith gyffredinol i gael ei chyflawni, ar gyfanswm cost o £9.877 miliwn.

Niferoedd derbyn ysgol

11 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi penderfynu peidio â chefnogi gwrthwynebiad i’r nifer derbyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Llanidloes fel rhan o drefniadau derbyn a benderfynir gan Gyngor Sir Powys ar gyfer 2024 i 2025.

Grant Cymhellion Addysg Bellach

11 Awst 2023

Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i barhau i ariannu'r Grant Cymhellion Addysg Bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Addysg pellach arbenigol

10 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

PTI Cymru Holdings Ltd

10 Awst 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gall Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen yn swyddogol â chau PTI Cymru Holdings Ltd.

Cysylltiadau Gefeillio

10 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal arolwg i gasglu data er mwyn datblygu opsiynau ar gyfer y camau nesaf wrth adfywio ein cysylltiadau gefeillio ledled yr UE drwy Gronfa Efeillio i Bobl Ifanc.

Trafnidiaeth Cymru

10 Awst 2023

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i’r Cynghorydd Andrew Morgan wasanaethu fel cynrychiolydd llywodraeth leol ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru, fel arsylwr.

Ynni Cymru

9 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymrwymo cyllid dros dair blynedd o gyllido camau ar unwaith i gyflawni amcanion Ynni Cymru.

Ynni Cymru

9 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i leoli swyddfa Ynni Cymru dros dro yn M-Sparc, Gaerwen.

Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch

8 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cynnydd yn y cyllid i’r Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch 2023 i 2024.

Cymorth busnes

7 Awst 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi Cyllid Dyfodol yr Economi i brosiect yng Nghaerffili.

Cymorth busnes

7 Awst 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi Cyllid Dyfodol yr Economi i brosiect yng Nghaerdydd.

Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol y Gwasanaethau Tân ac Achub

7 Awst 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i wahodd cynrychiolwyr o Unison, Unite a’r GMB fel aelodau sefydlog o’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol y Gwasanaethau Tân ac Achub.

Ysgolion annibynnol

7 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais gan Inspired Learners i gofrestru fel ysgol annibynnol.

Astudiaethau mewn addysg bellach arbenigol

4 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

4 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar drefniadau gweithredu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer 2023 i 2025.

Tariff cymdeithasol dŵr

4 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylai swyddogion adolygu’r canllawiau presennol ar dariffau cymdeithasol ar gyfer dŵr

Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

3 Awst 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid o £438,000 i adnewyddu’r les bresennol ar St Andrews Place, Caerdydd ar gyfer y cyfnod 2024 i 2029.

Iechyd llygaid

2 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £760,000 ar gyfer datblygu cyfleuster efelychu ym maes offthalmoleg yng Nghymru.

Gwerthu tir

2 Awst 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gellir gwerthu tir yng Nghoed Elái, Tonyrefail i'w ddefnyddio fel gorsaf bwmpio budr.

Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol

1 Awst 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol i’w gynnwys ar y rhestr a gyhoeddir o sefydliadau o’r fath.

Penodiad i Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru

1 Awst 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penodi Dr David Tudor fel Cadeirydd newydd Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru o 1 Mehefin 2023 tan 31 Mai 2026.

Cais Benthyca Cyngor Tref Caergybi

31 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cymeradwyaeth benthyca i Gyngor Tref Caergybi.

Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2022 i 2023

26 Gorffennaf 2023

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cais Cymeradwyo Benthyciad 

26 Gorffennaf 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cyhoeddi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Rhuddlan.

Glastir a chynlluniau pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

26 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno y caniateir i bob contract Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig ddod i ben, fel y cynlluniwyd ym mis Rhagfyr 2023. Cytunodd y Gweinidog hefyd y cynigir cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro i gynnal tir cynefin hyd at gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025. 

Cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni ôl-16

26 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cronfa Ysgogi Cyfalaf Ffatri 4.0 AMRCC 

26 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer AMRC Cymru ym Mrychdyn i gefnogi'r prosiect cydweithredol Ffatri 4.0, a fydd yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

26 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol y Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982 ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 gerbron Senedd Cymru.

Dyrannu Grant 2023 i 2024 Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3 

25 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £70 miliwn o gyllid grant ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, i gefnogi costau ôl-osod tai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, trwy ddull cyllido fformiwla, ar gyfer 2023 i 2024, a chyllid dangosol o £70 miliwn ar gyfer 2024 i 2025.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Coleg Gŵyr  

25 Gorffennaf 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr achos busnes llawn a’r cyllid cyfalaf cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Campws Gorseinon Coleg Gŵyr.

Dyraniadau newydd ar gyfer cyllido Benthyciadau Trawsnewid Trefi

25 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo £10 miliwn ychwanegol o gyllid Benthyciad Trawsnewid Trefi ar gyfer 2023 i 2024. 

Llythyr Cylch Gwaith Trafnidiaeth Cymru 2023

25 Gorffennaf 2023

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i anfon Llythyr Cylch Gwaith newydd at Trafnidiaeth Cymru a thâl cydnabyddiaeth newydd ar gyfer Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru.

Tai fforddiadwy

24 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo £2,948,198 i symud ymlaen â 5 prosiect i roi tir ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy.

Costau’r Uchel Lys

24 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar setliad costau cyfreithiol.

Cytundeb Rhanddeiliad Diwygiedig

24 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Gytundeb Rhanddeiliad Diwygiedig a chadw Buddsoddiad Ecwiti.

Adolygiad o Brisith Wool

24 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i adolygiad drafft British Wool.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 

24 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon AHDB ar gyfer 2022 i 2023 gerbron Senedd Cymru.

Canllawiau gwahardd cynhyrchion plastig untro

24 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Canllawiau Statudol i gefnogi Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.

Crynodeb o'r ymgynghoriad ar orfodi gwaharddiadau cynnyrch plastig untro

24 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar "Gynigion ar gyfer gorfodi Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023".

Cyhoeddi Canllaw Cynllunio Morol Trawsffiniol ar gyfer Aber Afon Hafren

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Canllaw Cynllunio Morol Trawsffiniol ar gyfer Aber Afon Hafren.

Cyllid y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol 2023 i 2024

19 Gorffennaf 2023

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y gofynion cyllid ar gyfer 2023 i 2024 i'r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol (MatNeoSSP) yn dilyn cyhoeddi ei Adroddiad Darganfod.

Trefniant les dros dro

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno bod Transport for Wales Rail Limited yn ymrwymo i drefniant les tymor byr ar gyfer trenau sy'n barod ar gyfer y Gwasanaeth.

Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid y Môr – Lansio Ymgynghoriad

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd â Defra ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid y Môr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno i gyfnod ymgynghori llai o oddeutu 11 wythnos, gan ddod i ben ar 1 Hydref 2023.

Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin – Lansiad Ymgynghori

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd â Defra ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno i gyfnod ymgynghori llai o tua 11 wythnos, gan ddod i ben ar 1 Hydref 2023.

Ymgynghoriad Cofrestru Proffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ar gofrestru proffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad "Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU"

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo ymateb y Llywodraeth ar y cyd i'r ymgynghoriad "Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU," ynghyd â'r prif Asesiad Effaith ac Asesiad Effaith Integredig Cymru.

Cyllid llifogydd Llywodraeth Leol 2023 i 2024 a thu hwnt

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd y cyllid refeniw ar gyfer adfer wedi llifogydd 2020 yn dod i ben 31 Mawrth 2024 ac y bydd cyllid cyfalaf ar gyfer adfer wedi llifogydd 2020 yn dod i ben 31 Mawrth 2025.

Cynllun Gweithredol drafft Cyngor Llyfrau Cymru 2023 i 2024

19 Gorffennaf 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gynllun Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 6 Mehefin 2023 

19 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerffili.

Gridiau Ynni’r Dyfodol i Gymru

19 Gorffennaf 2023

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi adroddiad Gridiau Ynni’r Dyfodol i Gymru.

Estyniad ar gyfer Is-gadeirydd  Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad ar gyfer rôl Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 23 Mai 2023 

19 Gorffennaf 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru ar gyfer prosiect yng Nghasnewydd.

Hunaniaeth Ddigidol yng Nghymru

19 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r Diweddariad Hunaniaeth Ddigidol yng Nghymru.

Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso 

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor i gefnogi dau brosiect drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Rhaglen Alacrity – Dyrannu Cronfeydd Sbarduno sy'n weddill  

19 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ailddyrannu cyllid sbarduno presennol y Rhaglen Alacrity.

Y Rhaglen Diogelwch Adeiladau: Cyllid Grant Cyfalaf ar gyfer Cyweirio Adeiladau’r Sector Cymdeithasol 

19 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024 o ran Cronfa Grant Cyfalaf ar gyfer Cyweirio Adeiladau Preswyl Canolig ac Uchel Iawn.

Canllawiau ymgysylltu â’r gymuned i ysgolion

17 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y Canllawiau Ymgysylltu â’r Gymuned i Ysgolion Bro.

Cymorth busnes

17 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi rhybudd diffygion ar gyfer benthyciad masnachol ac i estyn telerau ac amodau’r benthyciad.

Cyflawni gweledigaeth y cynllun Plant! drwy raglen y Goedwig Genedlaethol    

17 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i gyflawni’r weledigaeth o blannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru drwy raglen y Goedwig Genedlaethol.

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyllideb Atodol gyntaf

13 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Brif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y gyllideb atodol ar gyfer 2023 i 2024.

Cyllid grant ar gyfer Cymdeithasau Achub Mynydd y Gogledd a’r De

13 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu cyllid grant ffurfiol ar gyfer Cymdeithasau Achub Mynydd y Gogledd a’r De fel cyfraniad at gostau cyflenwadau meddygol ac offer.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes Mis Mehefin

13 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ym mis Mehefin o ran achosion busnes ar gyfer cyllid cyfalaf, i ysgol 3-16 newydd yn RCT, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Sir y Fflint, Uned Cyfeirio Disgyblion yng Nghaerffili, ac ysgol gynradd ardal cyfrwng Cymraeg yng Ngheredigion.

Datgarboneiddio’r Fflyd Bysiau a Chydgasglu’r Galw 

13 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Datgarboneiddio’r Fflyd Bysiau a Chydgasglu’r Galw.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - Cymeradwyo Gwneud Gorchmynion

12 Gorffennaf 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wneud Gorchymyn Cau Priffyrdd (Resource House, Pentre Gardens, Caerdydd) 202-.

Trosglwyddo nawdd gweinidogol Corff Llais y Dinesydd

12 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno i drosglwyddo nawdd gweinidogol Llais – Corff Llais y Dinesydd o’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

Y Rhaglen Eco-Ysgolion

12 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ariannu'r Rhaglen Eco-Ysgolion a ddarperir gan Cadw Cymru'n Daclus, am y cyfnod 1 Medi 2023 i 31 Mawrth 2026.

Depos TrawsCymru

12 Gorffennaf 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gall Trafnidiaeth Cymru wneud trefniadau priodol i ddatblygu hybiau gweithredol newydd i gefnogi datblygiad pellach rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru ledled Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Prosiect Braenaru Bysiau Hydrogen Bae Abertawe

12 Gorffennaf 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gefnogi gwaith cynllunio a thechnegol manylach ar Brosiect Braenaru Bysiau Hydrogen Bae Abertawe.

Y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol 2023 i 2025

12 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn y grantiau i  dderbynwyr presennol y Grant Strategol i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol hyd at fis Mawrth 2025 ac i dderbynwyr newydd y grant rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2025.

Cynllun Sicrwydd Bywyd (y Coronafeirws) ar gyfer y GIG a Gofal Cymdeithasol

12 Gorffennaf 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn Cynllun Sicrwydd Bywyd (y Coronafeirws) ar gyfer y GIG a Gofal Cymdeithasol am dri mis.

Fferm Gilestone, Talybont-ar-Wysg – Camau nesaf

5 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi mynediad, trwy drwydded, i gynrychiolwyr y Dyn Gwyrdd i gynnal arolygon amgylcheddol ac arolygon eraill sy'n ofynnol er mwyn sicrhau trwyddedau a chaniatadau priodol ar gyfer eu cynnig; ac i ddechrau trafodaethau prydles ffurfiol gyda’r Dyn Gwyrdd .

Cyllid cyfalaf i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir 

5 Gorffennaf 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg grant cyfalaf o £10 miliwn, wedi'i wasgaru ar draws blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025, i fynd i'r afael ag atgyweiriadau brys yn y sector ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.  Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd godiad ar sail chwyddiant i’r cyllid blynyddol a ddyfarnwyd i awdurdodau esgobaethol drwy’r Rhaglen Atgyweirio a Chynnal a Chadw yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025. 

Cyllid cyfalaf ar gyfer Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro - Uwchraddio TG

5 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o hyd at £80,000 i Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro i gynorthwyo gyda llwyfan bancio a gweinydd newydd.

Paneli Adolygu Annibynnol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

3 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyfnod penodi pedwar Cadeirydd presennol y Paneli Adolygu Annibynnol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG am gyfnod o 18 mis.

Gwyliau bwyd a diod

3 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu cynllun grantiau bach newydd i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod sy'n hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.

Cymorth ar gyfer Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru

3 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu cyllid craidd i gefnogi gweithgareddau Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Grant Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

3 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo achosion busnes partneriaid cyflawni ar gyfer gwaith atgyweirio brys yn Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn Sir y Fflint, Ysgol Uwchradd St Alban yn Nhorfaen ac Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.

Sefydlu gweithgor Tirwedd Dynodedig ar gyfer yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth

3 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i weithgor ar dirweddau dynodedig gael ei sefydlu i redeg am flwyddyn i ddechrau, yn unol â gweithgorau eraill yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth.

System Gwybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol

3 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y costau sydd eu hangen gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gaffael System Gwybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol.

Ymestyn Cytundeb Cyfleuster Presennol

3 Gorffennaf 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn tymor benthyciad presennol i gwmni yng Nghaerdydd i gefnogi eu Gweithrediadau Gweithgynhyrchu.

Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod Monitro Annibynnol 2022

29 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod Monitro Annibynnol 2022.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru – Mehefin 2023

29 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Daliadau Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru.

Plot I, Parc Technoleg Pen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr

29 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru: Adolygiad o Effeithiolrwydd y Panel

29 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno bod adolygiad o effeithiolrwydd y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth yn cael ei gynnal gan arbenigwr annibynnol.  

Mesur diogelu - cyfyngiadau ar anifeiliaid carwaidd byw a chynhyrchion anifeiliaid carwaidd o wledydd sydd â Nychdod Cronig

28 Mehefin 2023

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Lesley Griffiths, i wneud datganiad diogelu dros dro i wahardd mewnforio anifeiliaid carwaidd byw i Gymru a chynhyrchion anifeiliaid carwaidd o wledydd sydd â Nychdod Cronig a gadarnhawyd. Cytunodd y Gweinidog hefyd i'r Prif Swyddog Milfeddygol lofnodi'r datganiad diogelu ar ei ran a'i ddirymu pan na fydd ei angen mwyach ac i swyddogion ddechrau drafftio Offeryn Statudol i roi’r newid ar waith yn y tymor hir.

Awdurdodi dros dro 4 cyfansoddyn cobalt yng Nghymru

28 Mehefin 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i awdurdodi dros dro parhau i ddefnyddio 4 cyfansoddyn cobalt yng Nghymru, sy'n hanfodol i les anifeiliaid, am gyfnod o 5 mlynedd ac wedi cytuno i'r telerau awdurdodi arfaethedig.

Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

28 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon cytuno ar gyllid o £3.1 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i'w alluogi i ddatblygu Achos Busnes y Rhaglen gychwynnol yn  gysylltiedig â chynllun Parc Iechyd Llantrisant.

Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, gyda’i gilydd, wedi cytuno ar Gronfa Gyfalaf Inegreiddio ac Ailgydbwyso i gefnogi tri phrosiect i symud ymlaen i’w cam nesaf o ddatblygu achosion busnes yn 2023 i 2024.

Cefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol preswylwyr cartrefi gofal i oedolion

27 Mehefin 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol preswylwyr cartrefi gofal i oedolion.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – llythyr cyllid

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r llythyr cyllid ar gyfer 2023 i 2024.

Ail-benodi aelodau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

27 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ail-benodi Rhian Huws-Williams, Angharad Mai Roberts ac Enlli Thomas i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg am 2 flynedd arall o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Diweddaru’r rhestr o swyddogion gorfodi Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu yng Nghymru

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi llythyr awdurdodi newydd i’r Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol i ddiweddaru’r rhestr o swyddogion sydd wedi’u hawdurdodi yng Nghymru at ddibenion Erthygl 2(1) o Orchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.

Penodi Aelod Annibynnol Cyfreithiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn proses benodi gyhoeddus i hysbysebu ar gyfer swydd Aelod Annibynnol Cyfreithiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn proses benodi gyhoeddus i hysbysebu ar gyfer swydd Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Penodi Is-gadeirydd ac Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

27 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Pippa Britton fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o 1 Mehefin 2023 tan 5 Tachwedd 2025. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi cytuno i benodi Martin Blakebrough fel Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am 3 blynedd, o 3 Mai 2023 tan 2 Mai 2026.

Gwerthuso Prosesau Dechrau’n Deg

27 Mehefin 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gaffael ymchwil i gasglu adborth ar y prosesau a ddefnyddir i alluogi Cam 1 a 2 o’r gwaith i ehangu Dechrau’n Deg.

Theatr Clwyd

26 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ddyraniad ychwanegol o £1.5 miliwn tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

26 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Dyrannu cyllid i Gyrfa Cymru ar gyfer Prosiect Profiad Gwaith Teilwredig

26 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Gyrfa Cymru ar gyfer Prosiect Profiad Gwaith Teilwredig i gefnogi dysgwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 sy’n datgysylltu o’u hastudiaethau ac sydd mewn perygl o ddod yn NEET.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

26 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn o £7.019 miliwn ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach a’r Brifysgol Agored ar gyfer 2023 i 2024.

Cyllideb refeniw Is-adrannau Dysgu Digidol

26 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyraniad a gwariant arfaethedig cyllideb refeniw yr Is-adrannau Dysgu Digidol ar gyfer 2023 i 2024.

Gŵyl Gottwood

26 Mehefin 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid Digwyddiadau Cymru gwerth £123,495 i gefnogi twf a datblygiad Gŵyl Gottwood yn 2023 a 2024.

Adolygiad CNC o daliadau

26 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo taliadau arfaethedig terfynol CNC ar gyfer 2023 i 2024, a oedd yn cynnwys cyflwyno hepgoriadau trwyddedu rhywogaethau, parhau i hepgor rhywogaethau mewn adnoddau dŵr, a chyflwyno’r pecyn newydd a’r taliadau band cysylltiedig newydd yn ystod 2023 i 2024.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

26 Mehefin 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddadansoddiad o ddyraniad cyllideb y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig o £110,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Penodi aelod i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

26 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi penodi Ginger Wiegand fel aelod o’r Comisiwn Ffiniau Lleol o 1 Mehefin 2023 tan 31 Mawrth 2025.

Offer maes awyr dros ben

22 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo rhoi offer maes awyr nad oes ei angen i Wcráin. 

Cwmni Egino

22 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r Cylch Gwaith a’r Llythyrau Ariannu ar gyfer Cwmni Egino am y flwyddyn ariannol hon, ochr yn ochr â newidiadau i drefniadau contract y Cadeirydd a’r staff.

Diweddaru cyllid Endometriosis Cymru 

22 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i’r cyllid i ddiweddaru gwefan Endometriosis Cymru i ehangu ymgysylltu ar draws grwpiau menywod.  

Cyfraddau Talu Uwch ar gyfer Creu Coetiroedd 

22 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyfraddau talu uwch ar gyfer creu coetiroedd o dan y cynllun grantiau bach – creu coetir a’r grantiau creu coetir.

Gwasanaethau seicolegydd addysg 

22 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i sicrhau gwasanaethau seicolegydd addysg mewn cysylltiad â darpariaeth addysg bellach ôl-16 ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Statws Coedwig Genedlaethol Cymru 

22 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i lansio Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru, a fydd yn galluogi i goetir y tu allan i Ystad Goed Llywodraeth Cymru ymuno â rhwydwaith Coedwig Cenedlaethol Cymru.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

21 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2023 i 2024.

Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

21 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Rhaglen Weithredu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. 

Cyllid Rhaglen Rhwydwaith Natur

21 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y canlynol: y cynllun cyflawni bioamrywiaeth amlinellol a’r dyraniadau cyllid ar gyfer 2023 i 2024; y dyraniad o £5.13 miliwn o arian cyfalaf a £0.87 miliwn o arian refeniw i Gyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi cyflawni’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur yn 2023 i 2024; a, throsglwyddo cyllideb o £4.966 miliwn o arian cyfalaf a £7.37 miliwn o arian refeniw i’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i alluogi i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol barhau i gefnogi darpariaeth y Rhaglen Rhwydweithiau Natur a’r cynllun creu capasiti yn 2023 i 2024.

Cyllid Cydraddoldeb a Chynhwysiant

21 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cydraddoldeb a Chynhwysiant hyd at 31 Mawrth 2024 ar gyfer Tros Gynnal Plant (TGP Cymru) a Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru.

Opsiynau Fibrespeed

21 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gynnal ymarfer caffael i gefnogi’r gwaith o ddarparu opsiynau ar gyfer Rhwydwaith Fibrespeed ar ôl 2025.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

21 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Trefor Owen ac Owen Derbyshire yn aelodau newydd o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Achosion Busnes Chwefror

19 Mehefin 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr argymhellion a wnaed gan banel buddsoddi addysg y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy ym mis Chwefror ynghylch achosion busnes ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer ysgol gynradd newydd yng Nghasnewydd, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhondda Cynon Taf, ysgol arbennig ym Mhowys, ac adnewyddu cyfleusterau Safon Uwch a STEM ar gyfer Grŵp Llandrillo Menai. 

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Ceisiadau Amrywio Chwefror

19 Mehefin 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr argymhellion a wnaed gan banel buddsoddi addysg y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy ym mis Chwefror ynghylch ceisiadau amrywio yn ymwneud â chyllid grant cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr Urdd, cyllid grant hybiau cymunedol ar gyfer Ceredigion, a chyllid ar gyfer Casnewydd i wneud gwaith atgyweirio brys mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir. Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd geisiadau am brosiectau a rhaglenni ar gyfer Coleg Sir Benfro, Abertawe a Phowys.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

19 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y panel buddsoddi addysg ym mis Ebrill mewn perthynas ag amrywiadau i amlenni rhaglenni ar gyfer Sir Benfro, Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai, ac amrywiad i brosiect yn ymwneud  cyllid grant cyfrwng Cymraeg ar gyfer Sir Fynwy.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

19 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r achosion busnes gan bartneriaid cyflenwi a argymhellwyd gan y panel buddsoddi addysg ym mis Ebrill yn ymwneud ag achosion busnes ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion cynradd newydd yn Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Powys a Bro Morgannwg; ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Sir Gaerfyrddin; ysgolion 3-16 a 3-19 yn Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy; ysgol arbennig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg; ysgol uwchradd yng Nghasnewydd; adnewyddu un o'r campysau ar gyfer Coleg Cambria, a gwaith cyfalaf atgyweirio brys mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Rhondda Cynon Taf.

Adroddiadau Hunanasesu Awdurdodau Lleol 

19 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cyllid o hyd at £12,000 i sicrhau Interniaeth PhD i gynnal adolygiad annibynnol o'r set gyntaf o adroddiadau hunanasesu ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Cylch gwaith/Llythyr Partneriaeth Awdurdod Cyllid Cymru

19 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar lythyr Cylch Gwaith/Partneriaeth Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Gŵyl Gerdd FOCUS Cymru 

19 Mehefin 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid digwyddiad Cymru gwerth £100,000 i gefnogi twf a datblygiad Gŵyl Gerdd FOCUS Cymru rhwng 2023 a 2025. 

Arian Grant Cyfalaf Ansawdd Dŵr

19 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi hyd at £15 miliwn i Gyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â rhaglen o waith cyfalaf yn 2023 i 2024 er mwyn gwella ansawdd dŵr.

Safonau Ansawdd Dŵr Yfed ar ôl Brexit

19 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymuno â'r Bwrdd Cynghori Ansawdd Dŵr Yfed arfaethedig ar Safonau ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer rheoli safonau ansawdd dŵr yfed yn y dyfodol.

Gŵyl Rhwng y Coed 2023

19 Mehefin 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu £33,000 o gyllid Digwyddiad Cymru i gefnogi twf a datblygiad Gŵyl Rhwng y Coed 2023.

Sgiliau, cyflogadwyedd, a sectorau addysg ôl-16

19 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer gweithgareddau marchnata a chyfathrebu yn 2023 i 2024 i gefnogi sgiliau, cyflogadwyedd a'r sectorau addysg ôl-16. 

Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth

15 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gynnig i fabwysiadu methodoleg Model Pum Achos Trysorlys EF i gyflawni yn erbyn yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n gysylltiedig ag Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth.

Y dull o gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gryfhau amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol

15 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi datganiad polisi sy’n nodi gwaith i gryfhau amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol, ac i ddatblygu gwaith cysylltiedig.

Gwerthuso Prosiectau Eiddo

15 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cyngor ymgynghorol ar brosiectau eiddo.

Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 

15 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno ar geisiadau cyfalaf gwerth cyfanswm o £2.1 miliwn ar gyfer Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2023 i 2024.

Adleoli swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yng Nghaerdydd

14 Mehefin 2023
 
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i Gomisiynydd y Gymraeg brydlesu gofod swyddfa o fewn gofod a rennir gan gyrff sector cyhoeddus o fewn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays o fis Rhagfyr 2023 ymlaen.

Parent Talk Cymru

14 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i gyllido gwasanaeth cymorth rhianta Gweithredu Dros Blant yng Nghymru am flwyddyn arall.

Cyfalaf Gweithio ar gyfer WGC Holdco Ltd

14 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyfalaf gweithio ychwanegol ar gyfer WGC Holdco Ltd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon er mwyn darparu ar gyfer ei wariant archwilio statudol, cyfreithiol ac o ran llywodraethiant.

Llythyr Cyllid a Chynllun Busnes Trafnidiaeth Cymru 2023 i 2024

14 Mehefin 2023

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i anfon llythyr at Trafnidiaeth Cymru yn amlinellu'r amlen ariannu gyfredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 a chymeradwyo cynllun busnes blynyddol Trafnidiaeth Cymru.

Cyllid ar gyfer swydd ymchwil addysg uwch

14 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y gyllideb ar gyfer ariannu Uwch Swyddog Ymchwil i gefnogi gofynion ymchwil yr Is-adran Addysg Uwch.

Newid gwasanaeth Glasbrint Casgliadau Cyngor Sir Ddinbych

14 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf ychwanegol o hyd at £890k tuag at gyflawni newid gwasanaeth Glasbrint Casgliadau Cyngor Sir Ddinbych a seilwaith cysylltiedig. 

Gŵyl Devauden 2023 i 2025

12 Mehefin 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid Digwyddiadau Cymru o £157,920 i gefnogi twf a datblygiad Gŵyl Devauden 2023 i 2025.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

12 Mehefin 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyllid rhwydwaith clinigol Gweithrediaeth GIG Cymru

12 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi gwaith sefydlu rhwydweithiau clinigol o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru i gyflawni gweledigaeth y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ar gyfer datblygu a goruchwylio gwasanaethau clinigol.

Cynhadledd Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf 2023

12 Mehefin 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu Cynhadledd Cefnogi Teuluoedd, Rhieni a Phlant i’w chynnal yn 2023.

Cymorth i fusnesau

12 Mehefin 2023

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo Cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd. 

Tai cymdeithasol

12 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid o’r Grant Tai Cymdeithasol, Grant Cyfalaf ar gyfer Ailgylchu a Chymorth Prynu, i gefnogi tai cymdeithasol yn 2023 a 2024. 

Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2021 hyd 2022

8 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2021 hyd 2022 ac wedi cytuno y gall gael ei gyhoeddi. Mae hefyd wedi cytuno i ailgyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2020 hyd 2021.

Uwchgyfeirio a Chymorth Ymyrraeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

8 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cais i uwchgyfeirio a darparu cymorth ymyrraeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y flwyddyn nesaf.

Cytundeb Prynu Uwch ar gyfer Brechlyn Penodol i Bandemig 

8 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymrwymo i gytundeb prynu uwch ar gyfer brechlyn penodol i bandemig. Bydd hyn yn sicrhau bod modd dyrannu brechlyn yn llwyddiannus mewn unrhyw bandemig ffliw yn y dyfodol.

Plot D1, Parc Technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr

8 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i waredu tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dyraniadau cyllid ar gyfer Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad

7 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ogystal â chyllid grant i sefydliadau allanol eraill ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

7 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ailbenodi Aelodau'r Bwrdd am gyfnod pellach o 3 blynedd.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

7 Mehefin 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y rhestr fer o ymgeiswyr i gael eu gwahodd i gyfweliad ar gyfer y ddwy rôl aelod bwrdd wag.

Cyllid Dyfodol yr Economi - Cyfarfod Panel Buddsoddi 16 Mai 2023

7 Mehefin 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol ar gyfer prosiect ar draws De Cymru.

Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch

7 Mehefin 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gyllid 2023-24 ar gyfer y grant Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC).

Trawsnewid Trefi - Hen Adeilad Ardrethi, Aberdâr

7 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf er mwyn ailddatblygu 42 i 43 High Street, Aberdâr.

Gwella dyfarniad tâl cyflog y GIG a dyfarniad cyflog i staff yr Agenda ar gyfer Newid

7 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i weithredu dyfarniad cyflog gwell ar gyfer 2022 i 2023 a dyfarniad cyflog ar gyfer 2023 i 2024 i staff yr Agenda ar gyfer Newid GIG Cymru.

Ymestyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

7 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i estyn a diwygio 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Bydd hyn yn berthnasol i flynyddoedd 2023 i 2025.

Casnewydd – Newid i Wasanaethau bob 3 Wythnos

7 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid cyfalaf o hyd at £1.2 miliwn i gefnogi cyflwyno newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Ninas Casnewydd.

Cynnig Snowdon Hall

6 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno ar safle newydd ar gyfer canolfan groeso Cartrefi i Wcráin tan fis Gorffennaf 2024.

Prynu tir

6 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo prynu tir ger Slade Land, Hwlffordd.

Prynu tir

6 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo prynu tir ym Mae Tywodlyd Porthcawl.

Penodi Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

6 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi penodi Dianne Bevan a Katherine Watkins yn aelodau o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol rhwng 1 Mehefin 2023 a 31 Mawrth 2025. 

Ychwanegion cyfansoddion cobalt 

5 Mehefin 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno mewn egwyddor i awdurdodi'n amodol y 4 cyfansoddyn cobalt sy’n ychwanegion bwyd anifeiliaid ac wedi cytuno y ceir drafftio’r Offeryn Statudol sy’n ofynnol i ragnodi ffurf yr awdurdodiadau amodol hynny. 

Gweithgarwch y Rhaglen Datblygu Masnach

5 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i weithgarwch arfaethedig y Rhaglen Datblygu Masnach ar gyfer 2023 i 2024.

Offer trydanol ac electronig gwastraff

5 Mehefin 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r ymgynghoriad drafft a’r alwad am dystiolaeth ar yr adolygiad o'r system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Cais am gymeradwyaeth fenthyca

5 Mehefin 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Gwledig Llanelli.

Gwasanaethau bysiau TrawsCymru

1 Mehefin 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ymarfer caffael ar gyfer contractau newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau strategol T1c, T2, T3, T6 a T10 TrawsCymru. Bydd y contractau newydd yn dechrau ym mis Medi 2023

Mewnforion o Réunion

31 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i wneud Datganiad o Fesurau Arbennig i wahardd mewnforio'r nwyddau canlynol o Réunion: gwenyn mêl; cacynod; sgil-gynhyrchion cadw gwenyn heb eu prosesu; cynhyrchion cadw gwenyn mewn diliau mêl a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac offer cadw gwenyn sydd wedi’u defnyddio.

Mewnforion o ranbarth Calabria, yr Eidal

31 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyflwyno mesur diogelu i wahardd mewnforio'r nwyddau canlynol o ranbarth Calabria, yn yr Eidal: gwenyn mêl; cacynod; sgil-gynhyrchion cadw gwenyn heb eu prosesu; cynhyrchion cadw gwenyn mewn diliau mêl a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac offer cadw gwenyn

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

31 Mai 2023

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Dyfed Jones yn Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) am gyfnod o 4 blynedd o 22 Mai 2023 tan 21 Mai 2027.

Yr ymgynghoriad ar y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

31 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnwys yr ymgynghoriad ar ailgydbwyso gofal a chymorth, i'r ymgynghoriad gael ei lansio ar 22 Mai ac i £80k gael ei ddyrannu ar gyfer ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i lansio Fframwaith Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol, y bydd hyd at £10k ohono yn cael ei ddyrannu ar gyfer digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb.

Gweithgarwch Twf Busnes ym maes Bwyd a Diod

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i weithgarwch Twf Busnes arfaethedig ym maes Bwyd a Diod ar gyfer 2023 i 2024.

Taliad Cydnabyddiaeth Cadeirydd Annibynnol Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yng Nghymru

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gynyddu’r taliad cydnabyddiaeth ar gyfer Cadeirydd Annibynnol presennol Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yng Nghymru o Fand 4 i Fand 5, a fydd yn dod o linell gyllideb Cadernid bresennol y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Cynnydd yng nghyfradd prisiau tocynnau teithio rhatach – 2023 i 2024

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnydd o 10.1% i gyfradd Prisiau Tocynnau Rhatach Cynrychioliadol ar gyfer 2023 i 2024, yn seiliedig ar gyfradd fynegeio prisiau defnyddwyr ym mis Mawrth 2023 yn unig.

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023

25 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i roi hwb i Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023 yng Nghymru.

Trefniadau cyhoeddi Fframwaith Canlyniadau newydd ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Fframwaith Canlyniadau drafft ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd ac i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos ar y fframwaith rhwng 12 Mehefin a 18 Medi 2023.

Dyrannu cyllid i’r gangen iechyd planhigion a diogelu’r amgylchedd

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb 2023 i 2024 i’r gangen iechyd planhigion a diogelu’r amgylchedd yn Llywodraeth Cymru.

Effaith Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) y DU ar Gymru

25 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i Lywodraeth Cymru adolygu ei dull presennol o olygu genynnau ac ystyried a oes tystiolaeth i gefnogi newid polisi yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (Economi)

25 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o gyllideb yr Economi ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Maent hefyd wedi cytuno ar drefniadau cyllid ar y cyd gyda’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chynllun Tymor Llywodraethu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Cynllun Bwndeli Babi Cymru

24 Mai 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnwys y Gynllun Bwndeli Babi, ac i’r dull o’i weithredu a’i gyflwyno ar lefel genedlaethol.

Buddiolwyr Dechrau’n Deg 2023 i 2024

24 Mai 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnwys y cysylltiadau iechyd dirprwyedig a wnaed gan y tîm iechyd ehangach a Dechrau’n Deg yn y gwaith o adrodd ar fuddiolwyr blynyddol Dechrau’n Deg. 

Y diweddaraf ar sefydlu Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Fferylliaeth

24 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Fferylliaeth.

Cymeradwyo Cynllun Gweithredu a Chynllun Busnes Hybu Cig Cymru

23 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredu 2023 i 2024 a Chynllun Busnes 2022 i 2026 Hybu Cig Cymru.

Ymarfer ymgynghori ar y cyd ynghylch diwygiadau arfaethedig i gyfraith yr UE a ddargedwir yn ymwneud â gwin

23 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno ar gyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn ymarfer ymgynghori dan arweiniad Defra ynghylch diwygiadau arfaethedig i'r gyfraith sy'n ymwneud â gwin.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

23 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo ceisiadau am amrywiadau i’r rhaglen ar gyfer Coleg Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf; Sir Ddinbych; Powys a Bro Morgannwg. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cymeradwyo amrywiadau prosiect ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd.

Grant gwres carbon isel llywodraeth leol

23 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd y cyllid a nodwyd drwy broses setliad llywodraeth leol 2022 ar gyfer datgarboneiddio (£20 miliwn o gyllid cyfalaf y flwyddyn am dair blynedd) yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol drwy fecanwaith grant gwres carbon isel a weinyddir gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Ceisiadau ar gyfer awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid

23 Mai 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi ymgynghoriad wyth wythnos o hyd sy’n ceisio barn rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Coleg Caerdydd a’r Fro

23 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r achos busnes amlinellol ar gyfer Prosiect Campysau’r Fro Coleg Caerdydd a’r Fro.

Academi Seren    

23 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cynllun gwariant ar gyfer “Academi Seren” a’r prif gyflawniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

23 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi’r Athro Mike Larvin am gyfnod o bedair blynedd rhwng 10 Ebrill 2023 a 9 Ebrill 2027.

Penodi dau Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

23 Mai 2023
    
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Clare Budden a Lesley Singleton rhwng 2 Mai 2023 a 29 Chwefror 2024.

Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gogledd Cymru

23 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £620,000 ar gyfer adnewyddu’r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol bresennol yn y Gogledd.

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

22 Mai 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr achosion busnes amlinellol ar gyfer dwy ysgol gynradd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a dau adeilad newydd ar gyfer Coleg Sir Gâr, sy'n cael eu darparu drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd amrywiad i ofyn am gyflawni prosiect ysgol ffydd newydd Cyngor Bro Morgannwg drwy'r rhaglen gyfalaf.

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

22 Mai 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg achosion busnes partneriaid cyflenwi ar gyfer prosiect Carbon Sero Net yng Ngholeg Sir Benfro; adnewyddu ysgolion yng Ngwynedd; ysgol gynradd newydd yn Rhondda Fach; a newid adeiladau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr.

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

22 Mai 2023

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gyllid cyfalaf ar gyfer Coleg Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Caerdydd a'r Fro i gefnogi'r gwaith o gyflawni eu prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Pwyllgor Arbenigol ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd

22 Mai 2023

Cytunodd y Gweinidog ar y Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pwyllgor Arbenigol y DU ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd.

Grant y Gymraeg mewn Addysg

22 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailsefydlu'r grant y Gymraeg mewn Addysg ac i ddyrannu £4.5 miliwn i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn ystod 2023 i 2024.

Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

22 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno ar ostyngiad o 20% yn y cyllid a ddarperir i Gymdeithas Pysgotwyr Cymru yn y flwyddyn ariannol newydd.

Ôl-daliadau am Waith Diogelwch rhag Tân ar Adeiladau Amddifad

22 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylem gynnig ôl-daliadau i lesddeiliaid sydd wedi talu am waith diogelwch rhag tân ar Adeiladau Amddifad. Mae hyn yn amodol ar fodloni nifer o feini prawf sy’n cyd-fynd â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. 

Dyraniad craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru

22 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniad craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru. 

Integreiddio ac Ailgydbwyso Cyllid Cyfalaf 

18 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y cyd i Integreiddio ac Ailgydbwyso Cyllid Cyfalaf yn 2023 i 2024 i gefnogi tri phrosiect i symud ymlaen i'w cam nesaf o ddatblygu achosion busnes.

Cais am Gymeradwyaeth Benthyca - Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf

18 Mai 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyhoeddi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 2 Mai 2023 - Cyllid Cynhyrchu Creadigol

18 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngogledd Cymru.

Women Connect First – cyllid ychwanegol

17 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid Women Connect First ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Meini Prawf Diwygiedig ar gyfer Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru

17 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y ddogfen Meini Prawf ar gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

16 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Camau gweithredu i helpu i wella’r cymorth a ddarperir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi pobl heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus

16 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymchwilio i gaffael adnoddau, offer a rhestrau gwirio ar-lein a hyfforddiant y gall awdurdod lleol eu defnyddio i asesu’n gywir a phennu ar lefel gyfreithiol y cymorth y gellir ei ddarparu i bobl heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus. Maent hefyd wedi cytuno i ystyried ac o bosibl gyllido swyddog arbenigol a fyddai ar gael i bob awdurdod lleol er mwyn eu cynghori a’u cynorthwyo â rheoli achosion o bobl heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus.

Estyn Cyllid ar gyfer Gŵyl Fwyd

16 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i estyn Cronfa Adfer bresennol yr Ŵyl Fwyd hyd 30 Mehefin 2023.

Cyllid ar gyfer Rhoi Organau a Thrawsblaniadau 2023 hyd 2024

16 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i Awdurdod Gwaed a Thrawsblaniadau a Meinweoedd Dynol y GIG a chymorth ar gyfer ymgyrch Tîm Cymru yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain ar gyfer 2023 hyd 2024.

Cyllid ar gyfer y Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr

16 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn 2023 hyd 2024. 

Cyllid Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

15 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ymhellach yn ystod 2023 hyd at 2024.

Man glanio / deori lled-ddargludyddion

15 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cyllid i ddarparu cyngor a chymorth ymgynghoriaeth adeiladau ar gyfer datblygu man glanio / deori lled-ddargludyddion.

Cymorth ardrethi annomestig (busnes) ar gyfer ynni dŵr

15 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ryddhad ar gyfer prosiectau ynni dŵr sy’n berchen i’r gymuned rhag ardrethi annomestig (busnes) ar gyfer 2023 i 2024.

Costau Ymchwil ac Ysgrifenyddiaeth Sero Net 2035

15 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru er mwyn ei gwneud yn bosibl i weithredu ymrwymiad Net Sero 2035 y Cytundeb Cydweithio.

Dyraniadau grant a gweithgareddau’r Rhaglen Polisi Tai

11 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y dyraniad cyllid i’r Rhaglen Polisi Tai ar gyfer 2023 i 2024 a’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno ar y cyllid i Raglen Dystiolaeth Amodau Tai y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn 2022 i 2023.

Cymorth busnes

9 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Recriwtio athrawon

9 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i barhau â’r ymgyrch farchnata i recriwtio i addysg gychwynnol athrawon dros flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Pasbortau planhigion y DU

9 Mai 2023

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i redeg cynllun peilot dros 12 i 24 mis ar gyfer e-Basbortau Planhigion, gan gynnal yr hawddfraint sy’n caniatáu i aelod-wladwriaethau’r UE osod pasbortau drafft y DU ar blanhigion i’w plannu.

Addysg gyrfaoedd

9 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyllido cynllun peilot addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith Cwmnïau Cydweithredol Robert Owen o 2022 i 2023, sy’n werth £25,000.

Symposiwm y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Greu Lleoedd

9 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Symposiwm y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Greu Lleoedd ym mis Medi 2023; ac y bydd Llywodraeth Cymru yn talu cost lleoliad y Symposiwm.

Prynu tir

9 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i waredu tir ar gyfer is-orsaf drydan yn Rhydyblew, Glynebwy.

Cyngor Cyfreithiol Cytundeb Cyfranddalwyr

9 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant i dalu'r ffioedd am gyngor cyfreithiol ar gyfer y Cytundeb Cyfranddalwyr newydd.

Trefniadau ad-dalu cyllid myfyrwyr ar gyfer 2024 i 2025

9 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gadw'r trefniadau talu cyllid myfyrwyr presennol ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Gymru, sef Cynllun 2, a bydd cynaliadwyedd parhaus y trefniadau hyn yn cael ei fonitro.

Cynnydd i gyfradd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg

4 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynnydd o £10 i gyfradd wythnosol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer myfyrwyr cymwys newydd a pharhaus. Y gyfradd newydd yw £40 yr wythnos o 17 Ebrill 2023

Peidio adfeddu’r grant gofal plant

4 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i beidio ag adfeddu’r grant gofal plant gan fyfyriwr cymwys.

Lansio Gwobrau Ystadau Cymru 2023

4 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo lansiad Gwobrau Ystadau Cymru 2023 ar gyfer Cydweithredu ar ddefnyddio asedau eiddo sector cyhoeddus ar 4 Mai 2023.

Y Rhaglen Tai Arloesol

3 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid o hyd at £45,000 ar waith ymchwil er mwyn deall y gwersi a ddysgwyd o ail flwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol.

Gwariant arfaethedig ar ddysgu proffesiynol ar gyfer 2023 i 2024

3 Mai 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyfanswm dyraniadau o £24.512 miliwn i gefnogi gweithgareddau dysgu proffesiynol i ymarferwyr.

Arweinwyr clinigol cenedlaethol ar gyfer poen cyhyrysgerbydol a pharhaus

3 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn rolau’r ddau arweinydd clinigol a benodwyd ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol ar gyfer 2023 i 2024.

Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

3 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y dull gweithredu a’r amserlen ar gyfer ymgyrch genedlaethol i gefnogi Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Cytunwyd hefyd ar yr amserlen i gychwyn gwahardd cynhyrchion yn ystod Cam Un.

Blaenoriaethau cyllideb fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol 

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar flaenoriaethau cyllideb Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol 2023 i 2024. 

Cyllideb Cyfathrebu Addysg a’r Gymraeg 

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gyllideb cyfathrebu a marchnata Addysg 2023 i 2024. 

Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd a Dŵr

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar raglen gyfalaf a refeniw ar gyfer Cyflawni Polisi Rheoli Perygl Lifogydd Ac Erydu Arfordirol a Dŵr blwyddyn ariannol 2023-2024. Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau cyllid hefyd ar gyfer 2 swydd rheoli perygl llifogydd ychwanegol i helpu i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. 

Estyn Penodiad Is-Gadeirydd Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn penodiad Pippa Britton fel Is-Gadeirydd Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Daw ei phenodiad i ben ar 31 Mai 2023. 

Cymorth digidol a defnydd effeithiol o dechnoleg yn Addysg Bellach a Sgiliau 

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo neilltuo cyllid i Jisc allu cefnogi gwaith digideiddio yn y sector addysg bellach a sgiliau ym mlwyddyn academaidd 2023-2024 ac i barhau i ddarparu cymorth ar gyfer galwad am weithredu Digidol 2030 ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach. 

Coedlan Goffa

2 Mai 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i barhau i greu tair coedlan goffa, sy'n cael eu plannu er mwyn cofio'r rheiny gollodd eu bywydau yn ystod pandemig COVID-19.

Dysgu ar gyfer Troseddwyr

2 Mai 2023

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gyllid i gefnogi dysgu a sgiliau ar gyfer troseddwyr yng ngharchardai Cymru rhwng 2023 a 2024.

Prosiect darganfod LoRaWAN

2 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer datblygu prosiect darganfod LoRaWAN yn Rhondda Cynon Taf ymhellach.

Rhaglen Beilot Carchardai Cymru’n Gweithio

2 Mai 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddatblygu llwybr cyflogadwyedd gwell ar gyfer cyn-droseddwyr.

Penodi Aelodau Annibynnol – Addysg a Gwella Iechyd Cymru

27 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Donna McArthur am 4 blynedd o 24 Ebrill 2023 hyd 23 Ebrill 2027 a Jane Sadgrove am 4 blynedd o 1 Medi 2023 hyd 31 Awst 2027.

Cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni ôl-16

26 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Bwrsari cadw athrawon y Gymraeg mewn addysg 

26 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyflwyno cynllun bwrsari peilot dros bum mlynedd ym mis Medi 2023 er mwyn cadw athrawon Cymraeg neu athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.

Dysgu proffesiynol Cymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg

26 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo pecyn o gyllid er mwyn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod 2023 hyd 2024. 

Cyflawni cynllun gweithlu y Gymraeg mewn Addysg

26 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo ystod o raglenni i’w cyflawni yn ystod 2023 a 2024 er mwyn cefnogi gwaith cyflawni cynllun gweithlu y Gymraeg mewn Addysg.

Estyn cyfnod Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

26 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn cyfnod Kevin Davies fel Is-Gadeirydd hyd 30 Mehefin 2023. 

Ymgynghoriaeth Economaidd – Rhaglen Rheoli Ffiniau

25 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo Ymgynghoriaeth Economaidd y Rhaglen Rheoli Ffiniau. 

Ailgydbwyso Gofal a Chymorth: Rhannau 2 a 9

25 Ebrill 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion i ddiwygio Rheoliadau Cytundebau Partneriaethau (Cymru) 2015, wedi cynnig newidiadau i Ganllawiau Statudol Rhan 9 ar Gytundebau Partneriaeth ac wedi cynnig newidiadau i God Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol) Rhan 2, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) - Penodiadau

25 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i estyn cyfnodau Rob Humphreys a’r Athro Mark Smith yn eu swyddi ac i ailbenodi Charlotte Hitchings yn Gadeirydd ac Aelodau o Gyngor Cyllido Addysg wch Cymru hyd nes y bydd CCAUC yn dod i ben yn llwyr a hyd nes y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gwbl weithredol.

Y Cynnig Gofal Plant – Wythnosau Gwyliau

25 Ebrill 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gywiro agwedd dechnegol ar y Gwasanaethau Digidol Cenedlaethol ar gyfer ceisiadau i’r cynnig gofal plant yng Nghymru ac i ystyried datblygu system ffurfiol o ad-dalu costau sy’n deillio o broblemau technegol. 

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod ar 7 Mawrth 2023

25 Ebrill 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo Cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Abertawe.

Cynllun Grantiau Cymru ar gyfer Mynediad at Fand Eang

24 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i barhau i ariannu Cynllun Grantiau Cymru ar gyfer Mynediad at Fand Eang ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2025.

Cyfoeth Naturiol Cymru

24 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru  £18.2 miliwn, a fydd yn cael ei weithredu ym mis Mehefin yn y Gyllideb Atodol gyntaf gyda’r nod o ddatrys cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru yn barhaol. 

Cyfuniadau o fathau o sylweddau/cynhyrchion bioleiddiadol gweithredol

24 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i'r cais i gyhoeddi penderfyniadau na chymeradwywyd ar gyfer 28 o gyfuniadau o fathau o sylweddau/cynhyrchion bioleiddiadol gweithredol.

Gweithgareddau Cymorth Ychwanegol Bro Tathan

24 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i nifer o weithgareddau cymorth ar gyfer safle Bro Tathan.

Presenoldeb mewn sioeau amaethyddol 2023

24 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i wariant o £68,000 a TAW i Lywodraeth Cymru fod yn bresennol mewn sioeau amaethyddol yn 2023 (heb gynnwys y Sioe Frenhinol).

Swydd adnoddau gwe trafnidiaeth

24 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer recriwtio dros dro ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2023 a 2024 a rhwng 2024 a 2025.

System rheoli deiliadaeth rhwydwaith cenedlaethol

24 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo'r gwaith o weithredu system rheoli deiliadaeth rhwydwaith cenedlaethol yng Nghymru.

Panel Arbenigol Academi Cymru – penodiad newydd

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Julie Rogers yn aelod newydd i Banel Arbenigwyr Academi Cymru i gynrychioli Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

20 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi derbyn argymhelliad Estyn ac wedi penderfynu o dan adran 161 o Ddeddf Addysg 2002 fod cais Ysgol Ashfield am statws ysgol annibynnol yn cael ei gymeradwyo.

Cyllid ar gyfer Podiau Hyfforddi i Hybiau Datgarboneiddio Penygroes

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyrannu cyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o adeiladu Podiau Hyfforddiant ac ardal Les gysylltiedig, ffreutur a neuadd i ddefnyddio tiwtoriaid a myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai a fydd yn cael eu hyfforddi yn Hwb Datgarboneiddio Penygroes.

Cronfa Trawsnewid a Sgiliau Digidol Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid o hyd at £1 miliwn tuag at Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol a £350,000 ar gyfer Cronfa Sgiliau Digidol Llywodraeth Leol yn 2023 tan 2024.

Cyllido rhaglen Cymru Iach ar Waith yn y dyfodol

20 Ebrill 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar yr opsiynau cyllido yn y dyfodol ar gyfer rhaglen Cymru Iach ar Waith, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Estyn yn creu capasiti ac yn datgomisiynu arolygwyr

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 i’w ddarparu i Estyn i gwblhau pob arolygiad yn y cylch presennol.

Penodiadau Aelodau Bwrdd Hybu Cig Cymru

20 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i benodiad Hugh Evans, Michael Humphreys, Caroline Sanger-Davies a Vicki Spencer-Francis fel aelodau o Fwrdd Hybu Cig Cymru. 

Chwarae Cymru – Cyllid Ychwanegol

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid ychwanegol ar gyfer Chwarae Cymru yn 2022 i 2023.

Ail-benodi Cadeirydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

20 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailbenodi Maria Battle am 2 fis a 13 diwrnod o 18 Awst 2023 i 31 Hydref 2023.

Darparu Gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru

19 Ebrill 2023

Cytunodd Gweinidog yr Economi ar gyllid grant ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 i ddarparu gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru.

Cyllid ar gyfer Rhaglenni Diogelwch Cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub

19 Ebrill 2023

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar gyllid ar gyfer rhaglenni diogelwch cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub rhwng 2023 a 2024 yn seiliedig ar gyd-gynigion cyllid Cymru gyfan.

Cymeradwyaeth Les Chwarter 4 Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16 sy’n fwy na £500 mil

19 Ebrill 2023

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyllido costau’r les ar gyfer Practis Meddygol Blaenafon a Roboteg.

Cytundeb Prosiect Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido costau lesio Canolfan Iechyd Pontardawe.

Goblygiadau Cytundeb Les a Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido costau lesio Canolfan Gofal Sylfaenol Waunfawr.

Cymeradwyaeth Les Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16 sy’n fwy na £500 mil

19 Ebrill 2023

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyllido’r costau lesio ar gyfer cabanau Ysbyty’r Faenor, Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd, Beacons House, a Chanolfan Sgrinio Kimberley House.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi gostyngiad a chosb i daliad Gwaith Cyfalaf Creu Coetir Glastir 2017.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun Taliad Sylfaenol 2018 gan nad oedd unrhyw hawliau Cynllun Taliad Sylfaenol yr oedd modd eu hawlio wedi’u hatodi i Rif Cyfeirnod y Cwsmer.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gosbi contract Glastir am dorri rheolau Opsiwn Rheoli 6b, a ddarganfuwyd yn ystod arolygiad rhwng 8 a 9 Hydref 2018.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Ffenestr 4 Grant Busnes i Ffermydd, gan nad oedd y busnes wedi cyflwyno tystiolaeth yn cadarnhau bod trosiant y busnes yn £1 miliwn neu lai erbyn 6 Tachwedd 2018.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â thalu am y gwaith adfer adeiladau a gyflawnwyd fel rhan o gontract Glastir Uwch.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gosbi Glastir – Tir Comin yn dilyn arolygiad lle daethant o hyd i 76 o ddefaid ar y tir comin yn ystod y cyfnod gwaharddedig. Gwnaethant gosbi hawliad 2017 yn ogystal â hawliadau 2016 a 2015 yn ôl-weithredol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

19 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb 100% yn erbyn hawliadau’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren yn dilyn arolygiad ar 11 Mehefin 2019.

Cyllid ar gyfer Cynhadledd #FelMerch 2023

19 Ebrill 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi £50,000 mewn cyllid grant i’r Urdd rhwng 2023 a 2024 er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r gynhadledd #FelMerch yn 2023.

Cyllid i’r Rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

18 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid i’r rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog.

Cyflwyno’n genedlaethol 20mya ar Ffyrdd Cyfyngedig yng Nghymru

18 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i GoSafe er mwyn gorfodi’n well y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol a newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.

Contract Nyth

18 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo estyniad o chwe mis i gontract presennol Nyth hyd 31 Mawrth 2024. 

Pwyllgor yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd

18 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu tystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd yr Arglwyddi ynghylch ardaloedd gwarchodedig a sut y bydd Lloegr yn cyflawni targed 30/30. 
 

Bwrdd Cynghori Mwy na Geiriau

17 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â chychwyn recriwtio i Fwrdd Cynghori Mwy na Geiriau.

Dynodiad Dŵr Ymdrochi 2023

17 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i enwi Traeth Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig a gohirio dynodi Traeth Gorllewin Porth Tywyn a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn hyd nes y gall pryderon ynghylch diogelwch gael eu lliniaru.

Peilot incwm sylfaenol

17 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno y dylid derbyn ceisiadau hwyr gan ymgeiswyr cymwys am beilot yr Incwm Sylfaenol ar gyfer y Rhai sy’n Gadael Gofal ar ôl diwedd y cyfnod cymryd rhan. 

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 

17 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r cyllid i brynu 54 o gerbydau gweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. 
 

Y Fframwaith Contractiol ar gyfer  Fferylliaeth Gymunedol

14 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Fframwaith Contractiol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ar gyfer 2023 i 2024.

Y Rhwydwaith Ffôn Analog Cyhoeddus

14 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y dylid cynnal ymchwili i weld a yw’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod ar gyfer diffodd y Rhwydwaith Ffôn Analog Cyhoeddus.

Gwasanaethau fferyllol

14 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r trefniadau gweithio ar gyfer penderfynu ar apeliadau a gyflwynir o dan Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

Treialu gwasanaeth bysiau i Ysbyty’r Faenor

12 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i dreialu gwasanaeth bysiau sy'n cysylltu'r Coed-duon ag Ysbyty'r Faenor am gyfnod o chwe mis, gan gynnwys cyllid i gefnogi'r fenter hon.

Advances Wales

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyhoeddi tendr newydd i gynhyrchu pedwar rhifyn o 'Advances Wales' y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf.

Mesurau rheoli ffiniau

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyhoeddi drafft o Fodel Gweithredu Targed y Ffin.

Penodi Aelod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

12 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ceinwen Jean Church fel Aelod Cyffredinol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd ei phenodiad yn dechrau ar 01 Mai 2023 tan 30 Ebrill 2027.

Llys Rhosyr

12 Ebrill 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip, a Gweinidog yr Economi, wedi cymeradwyo caffael Llys Rhosyr ar Ynys Môn, er mwyn i Cadw ofalu amdano ar ran Gweinidogion Cymru.

Diwydiant Cymru

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid 2023 i 2024 ar gyfer Sector Development Wales Partnership  (Diwydiant Cymru).

Airbus Endeavr

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gweithgareddau Endeavr 2023; a chytuno ar y newid i Gyfarwyddwr pleidleisio Airbus Endeavr Cymru a llofnodion cynrychiolwyr o Benderfyniad yr Aelodau i Uwch Was Sifil.

Cyllid ar gyfer Cwmpas

12 Ebrill 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyfarniad grant i Cwmpas rhwng 2023 a 2024 ar gyfer prosiect i ailsefydlu a chefnogi fforymau rhanbarthol i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u dyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector.

Addysg bellach arbenigol

12 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Bil Diogelwch Adeiladau

12 Ebrill 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno bod hyd at uchafswm o £522,990, dros ddwy flynedd ariannol, i ganiatáu comisiynu a chwblhau'r dadansoddiad economaidd sydd ei angen ar gyfer asesu'r effaith sy'n angenrheidiol i gyd-fynd â Bil Diogelwch Adeiladau.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i recriwtio dau Aelod newydd i Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol.

Cymorth busnes

12 Ebrill 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhowys.

Cymru Greadigol

12 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gynigion ar gyfer Cynllun Busnes Cymru Greadigol 2023 i 2024.

Dechrau’n Deg

6 Ebrill 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyfuno data ehangu a chyflenwi craidd Dechrau’n Deg.

Ffi Rheoli Erasmus+

6 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyfrannu at ffi rheoli’r DU ar gyfer 2022 hyd 2023 er mwyn cyflawni rhaglen dysgu gydol oes yr UE, Erasmus+, a rhaglenni Corps Cydsefyll yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn siop Debenhams yn Abertawe

6 Ebrill 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer Cyngor Abertawe yn 2022 hyd 2023 a 2024 hyd 2025 fel ei fod yn gallu caffael ac addasu cyn siop Debenhams yn Abertawe.

Cyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd

6 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd am y flwyddyn ariannol 2023 hyd 2024 tuag at gostau rhedeg sefydlog, er mwyn cyflawni gwaith adnewyddu asedau hanfodol ac ysgwyddo pwysau o ran costau rhedeg.

Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

6 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo parhad gwaith Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ac wedi cymeradwyo cyllideb ar ei gyfer yn 2023 hyd 2024.

Prosiectau Trawsnewid Trefi

6 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi gwaith ailddatblygu cyn siop House of Fraser yng Nghwmbrân ac adfer Neuadd Farchnad Aberteifi. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cymeradwyo benthyciad gan Lywodraeth Cymru i gefnogu gwaith datblygu gwesty newydd yn Abertawe, yn amodol ar fodloni rhai amodau penodol.

Brand a chyfathrebiadau marchnata Busnes Cymru

6 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cais am gyllid i gefnogi gweithgarwch marchnata, gan gynnwys costau asiantaeth i hyrwyddo gwasanaethau a chymorth Busnes Cymru i fusnesau newydd, entrepreneuriaid, busnesau bach a chanolig a microfusnesau.

Penodi Sylwedydd i Ardal Fenter Ynys Môn

6 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo penodi’r Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yn Sylwedydd i Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Ynys Môn.

Rhaglen Cymorth Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

6 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cynllun cyflenwi Rhaglen Cymorth Gwella arfaethedig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyllid o hyd at £800,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 hyd 2024

Llythyr ynghylch cyllid ar gyfer cyflwyno 20mya

5 Ebrill 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyuno i roi rhagrybudd ynghylch cyllid grant ar gyfer 2023 hyd 2024, yn sgil yr amserlenni heriol ar gyfer cyflawni’r gwaith paratoi gan awdurdodau lleol i gyflwyno 20mya.

Hyb Orthopedig Dewisol Rhanbarthol yn Ysbyty Llandudno

5 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi datblygiad Achos Busnes ar gyfer Hyb Orthopedig Dewisol Rhanbarthol yn Ysbyty Llandudno.

Cyllideb ar gyfer Datblygu Gofal Sylfaenol 

5 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion ynghylch Cyllideb Datblygu Gofal Sylfaenol ar gyfer 2023 hyd 2024 gwerth £1.857 miliwn.

Rhaglen Sêr Cymru - Sêr Cymru IV

5 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cam nesaf Rhaglen Sêr Cymru - Sêr Cymru IV.

Llythyr Cyllid Pellach Trafnidiaeth Cymru 2022 hyd 2023

5 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi atodiad i lythyr cyllid Trafnidiaeth Cymriu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 hyd 2023.

Ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Les a Cham-drin Anifeiliaid Anwes

5 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo diweddariad Llywodraeth Cymru ynghylch Lles Anifeiliaid a’r cyflwyniad i Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Tanwariant ar brosiect seilwaith ieithyddol

5 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo £65,239 ar gyfer prosiect Geiriadur Prifysgol Cymru i wneud gwaith cychwynnol i ddiweddaru seilwaith geiriaduron.

Darpariaeth Ranbarthol Powys ar gyfer prosiect plant ag anghenion cymhleth

5 Ebrill 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi darpariaeth lety ym Mhowys a fydd yn cynnig amgylchedd therapiwtig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth.

Grantiau Tai

4 Ebrill 2023

O ran y Grant Cymorth Tai, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau terfynol dwy flynedd o hyd i awdurdodau lleol ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Mae cytundeb hefyd i’r dyraniadau terfynol dwy flynedd o hyd ar gyfer prosiectau ‘prif raglen’ Grant Atal Digartrefedd sydd wedi’u trosglwyddo i’r Grant Cymorth Tai am yr un cyfnod gyda’r Prif Weinidog yn cytuno i’r dyraniadau perthnasol ar gyfer Cyngor Abertawe.

Casglu deunyddiau ailgylchu

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid o hyd at £15,546,000 i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer seilwaith sy’n gysylltiedig â newid i wasanaeth casglu sy’n cydymffurfio â glasbrint, yn ogystal â chynllun ehangach i greu Parc Eco yn Nant-y-caws. Mae cytundeb hefyd i gaffael cerbydau allyriadau isel iawn ar gyfer casglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu.

Cefnogaeth i fusnesau

4 Ebrill 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect  ledled de Cymru.

Byw’n Annibynnol

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £19,500,000 o gyllid cyfalaf a £5,102,705 o gyllid refeniw ar gyfer Grantiau Byw’n Annibynnol yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 i asiantaethau Gofal a Thrwsio a Gofal a Thrwsio Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.  

Cymorth i Brynu - Cymru

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i dalu £3.419 miliwn mewn ffioedd rheoli, ar gyfer 2023 i 2024, i Cymorth i Brynu - Cymru Ltd ar gyfer pob cam o’r cynllun Cymorth i Brynu - Cymru.

Cymorth i Brynu - Cymru

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn y contract â Cymorth i Brynu – Cymru Ltd am gyfnod o 12 mis, o 1 Ebrill 2023, ar gyfer gweithredu blwyddyn gyntaf yr estyniad i gam 3 Cymorth i Brynu – Cymru.

Cymorth i Brynu - Cymru

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid o £22 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf (2023 i 2024) o’r estyniad i gam 3 o’r Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru a £41 miliwn ar gyfer ail flwyddyn (2024 i 2025) cyfnod yr estyniad.

Cynnig gofal plant

4 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar addasiadau yn ystod y flwyddyn sy’n gysylltiedig â’r cynnig gofal plant ar gyfer 2022 i 2023.

Theatr Clwyd

3 Ebrill 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cytuno i ailbroffilio cymorth ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd.

Cymorth ymholiadau band eang

3 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi dod i gytundeb ag Openreach i barhau â chymorth ymholiadau band eang ac anfon post yn uniongyrchol i eiddo sy’n cael eu cysylltu fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Llymru i gyflwyno band eang ffeibr, ar gyfer 2023 i 2024.

Cynllun Busnes a Chyllideb Cadw

3 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo dyraniad cyllideb Cadw ar gyfer 2023 i 2024.

Penodiad i Gyngor Celfyddydau Cymru

3 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi  a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi penodi Margaret Russell yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru am 3 blynedd o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2026.

Cynllun y Bathodyn Glas

3 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynnydd o £50,000 (gan gynnwys TAW) i werth y contract ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer Cynllun y Bathodyn Glas, sef o £70,000 i £120,000 hyd at 31 Mawrth 2023.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

3 Ebrill 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo ailbenodiad Cadeirydd Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol, Michael Macphail, am gyfnod pellach o 3 blynedd, ac ymgyrch i recriwtio 2 Aelod newydd i’r Bwrdd

Cynllun Newid Cyfoeth Naturiol Cymru 2023 i 2024

3 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynnydd chwyddiant arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru o 6% ar gyfer taliadau cynhaliaeth ar gyfer y cyfundrefnau canlynol – Adnoddau Dŵr, Ansawdd Dŵr, Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol Anniwclear, Cydymffurfiaeth Cronfeydd Dŵr, Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, Cyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau, a thaliadau Trwyddedau ar gyfer Gweithgareddau Perygl Llifogydd (taliadau cyfunedig ceisiadau/cynhaliaeth) ar gyfer 2023 i 2024.

Y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Hanfodion Ysgol

3 Ebrill 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid arfaethedig a’r trefniadau ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Hanfodion Ysgol yn 2023 i 2024.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

3 Ebrill 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Anne-Louise Ferguson yn Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg

30 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r cais amrywio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ynglŷn â phrosiect yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd.

Data presenoldeb ar gyfer ysgolion

30 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi data ar bresenoldeb mewn ysgolion yn fisol, ac i ailddechrau’r casgliad blynyddol o ddata ar gyfer ysgolion. 

Y Gronfa Tai â Gofal – cynigion ar gyfer prosiectau

30 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £2.777 miliwn o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer wyth cynllun mewn pum rhanbarth. 

Cymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer dyletswyddau trwydded penodol ar gyfer rhwydau pysgota eogiaid a brithyllod ar gyfer tymor 2023

30 Mawrth 2023

Yn sgil cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, wedi cadarnhau bod dyletswyddau trwydded ar gyfer rhwydau pysgota eogiaid a brithyllod wedi eu cymeradwyo ar gyfer tymor pysgota 2023, yn unol â gofynion statudol Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Y Gronfa Tai â Gofal – cynigion ar gyfer prosiectau 

30 Mawrth 2023

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo darparu £5.054 miliwn o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer deg o gynlluniau mewn chwe rhanbarth.  

Cau maes awyr Ynys Môn

30 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn i gau maes awyr Ynys Môn ac ymadael ag ymrwymiadau ariannol.

Cymeradwyo gwariant o  fewn y Rhaglen Diogelwch Adeiladau

30 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r dyraniad cyllideb ar gyfer y Rhaglen Diogelwch Adeiladau ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Penodi Cadeirydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

30 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Jonathan Morgan am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2027.

Rhaglen Cymorth a Hyfforddiant y Sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae

30 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Raglen Cymorth a Hyfforddiant ar gyfer y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Cyllideb Atal Digartrefedd

29 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer prosiectau atal digartrefedd ac mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid o’r Gyllideb Atal Digartrefedd i’r Gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â dau brosiect Cydraddoldeb. 

Ymateb i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth hunanladdiad, pobl sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad a’r rhai mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt - Adroddiad ar Grynodeb o Ganlyniadau’r Ymgynghoriad

29 Mawrth 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd meddwl a Llesiant wedi cytuno i gyhoeddi’r adroddiad ar grynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad. 

Cymorth refeniw ar gyfer newid dulliau teithio

29 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid o dan gynllun cymorth refeniw ar gyfer newid dulliau teithio, gan sicrhau bod y broses o newid dulliau teithio o’r ffyrdd i’r rheilffordd yn gallu parhau.

Recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol o dramor 

29 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau â’r trefniadau ar gyfer cefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy recriwtio gweithwyr o dramor. 

Monitro Ansawdd Aer Parc Ynni Baglan

28 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid i Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot mewn perthynas â monitro ansawdd aer.

Cynnig Gofal Plant Cymru - Gweithdrefnau Ailgadarnhau ac Ailwirio

28 Mawrth 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygiad gweithdrefnau ailgadarnhau ac ailwirio o fewn Cynnig Gofal Plant Cymru.

Taliad i Gefnogi Cyfraniadau Pensiwn Cyfoeth Naturiol Cymru

28 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu taliad yn ystod y flwyddyn (2022 i 2023) o £6.894 miliwn o gyllid refeniw i Gyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi ei gyfraniad at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cynllun Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru

28 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ystyried a chymeradwyo Cynllun Corfforaethol newydd Cyfoeth Naturiol Cymru o’r enw ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd - Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030’.

Rhaglenni addysg Gŵyl y Gelli

28 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i raglenni addysg Gŵyl y Gelli ar gyfer 2023 i 2024.

Cynllunio Ffermydd Gwynt yng Nghymru

28 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y caiff Comisiwn Dylunio Cymru ddechrau ymgynghori ar fersiwn ddrafft o’u canllawiau ‘Dylunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru’.

Adfer Adeiladau ‘amddifad’

28 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cynlluniau arfaethedig ar gyfer adfer 28 o adeiladau ‘amddifad’ fel rhan o gynllun peilot ar gyfer ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.

Prydau ysgol am ddim

28 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i ddysgwyr cymwys gan gynnwys dros y gwyliau Pasg, y gwyliau banc ym mis Mai, gwyliau hanner tymor y Gwanwyn, a’r gŵyl y banc adeg Coroni’r Brenin; ynghyd â chyllid i fynd i’r afael â’r phwysau’r gost o ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y flwyddyn ysgol 2024 i 2025.

Ariannu Gradd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)

27 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyllido Gradd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ar gyfer 2023 i 2024.

Cefnogaeth i addysg

27 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar godiad o £1 miliwn i ddyraniad cyfalaf Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2022 i 2023.

Cronfa Tai â Gofal - Cynigion Prosiect

27 Mawrth 2023

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid gwerth £0.068 miliwn o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer cynllun yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Cronfa Tai â Gofal - Cynigion Prosiect

27 Mawrth 2023

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid gwerth £29.431 miliwn o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer cynlluniau mewn saith rhanbarth.

Cronfa Tai â Gofal - Cynigion Prosiect

27 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid gwerth £3.184 miliwn o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer cynlluniau mewn dau ranbarth.

Cronfa Tai â Gofal - Cynigion Prosiect

27 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid gwerth £2.762 miliwn o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer cynlluniau mewn dau ranbarth.

Cronfa Tai â Gofal - Cynigion Prosiect

27 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid gwerth £3.242 miliwn o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer cynlluniau mewn tri rhanbarth.

Grant Hwyluso STEM Rhaglen y Cymoedd Technoleg

27 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i wella dysgu STEM yn rhanbarth y Cymoedd Technoleg.

Cyngor Cyfreithiol y Cyfranddalwyr

27 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cyngor Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Gyhoeddus mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yn y de.

Ymestyn Rhaglen Hwyluso STEM Rhaglen y Cymoedd Technoleg

27 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i wella dysgu STEM yn rhanbarth y Cymoedd Technoleg.
 

Fframwaith Ansawdd Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar drafft

23 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gomisiynu'r broses olygu ar gyfer y Fframwaith Ansawdd Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar a'r Offeryn Ymarfer Myfyriol. 

Cyflenwi Busnes Cymru 2023 i 2024

23 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cynllun cyflenwi Busnes Cymru 2023 i 2024.

Dull cenedlaethol o edrych ar gymorth i'r gweithlu nyrsio ar hyd eu gyrfa

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfres o argymhellion sydd â'r nod o sicrhau dull cyson o diwtoriaeth a goruchwyliaeth glinigol mewn nyrsio ledled Cymru.

Cyfarfod y Panel Argymell Buddsoddiad ar 1 Tachwedd 2022

23 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar arian Grant Datblygu Eiddo ar gyfer prosiect yng Ngheredigion.

Grant Cyfleusterau Cludo Nwyddau – Cyllid Cyfalaf

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol i Kronospan Ltd drwy'r cynllun Grant Cyfleusterau Cludo Nwyddau, a fydd yn hwyluso symud o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd.

Ceisiadau Grant Cyfalaf y Sector Cymdeithasol ar gyfer Prosiectau Diogelwch rhag Tân mewn Adeiladu Preswyl Canolig ac Uchel

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £39.821 miliwn o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael i 8 Landlord Cymdeithasol ac un Awdurdod Lleol i ymgymryd â 38 o brosiectau adfer diogelwch rhag tân mewn adeiladau.

Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr 2023

23 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyfrannu nawdd tuag at Gynhadledd Flynyddol Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr ym mis Mehefin.

Arian ar gyfer MSc Sgiliau Digidol a Phroffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer MSc Sgiliau Digidol a Phroffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cronfa Arloesi Fferylliaeth

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar sefydlu'r Gronfa Arloesi Fferylliaeth.

System cyffuriau cost uchel Blueteq

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyfarwyddo'r holl fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i ddefnyddio system Cyffuriau Cost-Uchel Blueteq i adrodd ar y defnydd o feddyginiaethau â blaenoriaeth gan y GIG yng Nghymru.

Arian Twf Swyddi Cymru+

23 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r dyraniad ariannol ar gyfer Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Trosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu triniaethau cymunedol COVID-19 i fyrddau iechyd 

23 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddarparu triniaethau gwrthfeirysol COVID-19 i fyrddau iechyd lleol a rhoi'r gorau i'r Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol.

Cyllideb Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd

23 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniad £0.341 miliwn o Gyllideb Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd 2023 i 2024.

Ariannu Addysg ôl-16

23 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gynnydd pellach yn y cyllid ar gyfer lleoliadau addysg bellach a chweched dosbarth, ac y byddai angen rheoli unrhyw ddyfarniad cyflog uwch o fewn y cyllid prif ffrwd.  

Cyllid ar gyfer ‘Pa Synau Welwn i’, llyfr chwarae sain

22 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar arian ar gyfer ‘Pa Synau Welwn i’ - llyfr chwarae cadarn.

Taliadau entrepreneuriaeth – mis Mawrth a mis Ebrill 2023

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo taliadau sy’n ddyledus i unigolion a sefydliadau o dan drefniadau presennol y Rhaglen Entrepreneuriaeth.

Prosiectau trawsnewid trefi

21 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf tuag at ddymchwel 97-102 Stryd Taf, Pontypridd, a chyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent benodi ymgynghorydd arbenigol i ystyried dewisiadau datblygu ar gyfer Sgwâr yr Orsaf ar safle’r Gwaith yng Nglyn Ebwy. Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd grant ychwanegol i Gyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi'r datblygiad aml-ddefnydd ar Safle Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli a benthyciad ychwanegol a chyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi'r Farchnad Park Lane newydd yng Nghaerffili.

Ariannu Amgueddfa Bêl-droed Cymru

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno i gynnig grant ar gyfer datblygu Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod 1 Mawrth 2022

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Arian Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Abertawe.

Hysbysiad Cymeradwyo ar gyfer methodolegau cyfrifo i gydymffurfio â Rhan L 2022

21 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Hysbysiad Cymeradwyo diwygiedig ar gyfer methodolegau cyfrifo perfformiad ynni adeiladau, i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad ynni gofynnol newydd yn Rhan L (cadwraeth tanwydd a phŵer) Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'i diwygiwyd).

Cyfarfod Panel Buddsoddi 7 Chwefror 2023 - Cyllid Cynhyrchu Creadigol

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Arian Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws de a gorllewin Cymru.

Siarad gyda Fi: Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 

21 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad cyllid 2023 i 2024 ar gyfer Siarad gyda Fi : Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Anghenion Dysgu Ychwanegol 

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyllideb refeniw Anghenion Dysgu Ychwanegol 2023 i 2024.

Rhaglen Cartrefi Cynnes Caerau Pen-y-bont ar Ogwr, Bryn Carno Caerffili, Caerdydd

21 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar broffil ariannol diwygiedig ar gyfer ariannu cynllun gwaddol effeithlonrwydd ynni ar gyfer Caerau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bryn Carno, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Caerdydd i gwmpasu tair blynedd ariannol, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Cyllid gweithredu ysgolion arbennig 

21 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid gweithredu ar gyfer Ysgolion Arbennig 2022 i 2023.

Llythyr Cyllido Gyrfa Cymru

20 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r llythyr ariannu ar gyfer Careers Choices/Dewis Gyrfa o 2023 i 2024.

Cyllido prosiectau amlflwydd ar gyfer Iechyd Planhigion a’r Amgylchedd

20 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid a ddyrannwyd o fewn y gyllideb Tirweddau, Natur a Choedwigaeth ar gyfer 2022-2025 i'r Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru amlflwydd, Peilot Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr, dileu Gudgeon Topmouth a phrosiectau treialu Biocontrol.

Llythyr Cyllido Diwygiedig Gyrfa Cymru

20 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Economi wedi cymeradwyo'r llythyr ariannu diwygiedig ar gyfer Gyrfa Cymru am 2022 i 2023.

Darpariaeth Cwnsela Ysgolion

20 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i ryddhau'r dyraniad terfynol o 60 y cant o'r arian i Awdurdodau Lleol ar gyfer y ddarpariaeth gwnsela mewn ysgolion.

Gwarant i Bobl Ifanc

20 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r cyllid diwygiedig ar gyfer Gwarant i Bobl Ifanc ar gyfer 2023 i 2024.

Cyllid Cymru’n Gweithio 2023 i 2024

20 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r dyraniad cyllid i Gyrfa Cymru ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaeth canllawiau a hyfforddi Cymru'n Gweithio yn 2023 i 2024.

Galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cyllido Cymru

20 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnal a chadw a datblygu galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yn 2023 i 2024.

Uwchraddio y seilwaith pŵer yn Celtic Lakes

17 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i hwyluso gwaith uwchraddio i isadeiledd yn Celtic Lakes, Casnewydd.

Tlodi bwyd

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddefnyddio £1 miliwn o danwariant i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru.

Addysg bellach

17 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynyddu'r cyllid arloesi a ddarperir i'r sector addysg bellach o £0.850 miliwn, gyda'r targed penodol o gynyddu cyfranogiad oedolion.

Lles Anifeiliaid

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyfrannu at Alwad am Dystiolaeth yn dilyn gwahoddiad ffurfiol gan Bwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU.

Y Grant Plant a Chymunedau

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ganiatáu i'r awdurdodau lleol ariannu rhaglenni eraill o fewn y Grant Plant a Chymunedau gan ddefnyddio arian heb ei wario a ddyrannwyd ar gyfer Ehangu Dechrau'n Deg.

Y Gronfa Diogelwch Adeiladau i Ddatblygwyr

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cymorth er mwyn sefydlu Cynllun Benthyciadau i Ddatblygwyr o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. Bydd y Cynllun yn cael ei arwain a'i weithredu gan Awdurdod Lleol Caerdydd a bydd yn darparu cyllid ar ffurf benthyciadau di-log i ddatblygwyr preifat er mwyn helpu i sicrhau bod gwaith adfer yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd.

Y Cynllun Ardystio Iechyd Planhigion

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer Cynllun Ardystio Iechyd Planhigion, ac i ddatblygu rhagor o lwybrau clir i fusnesau a sefydliadau planhigion yng Nghymru fedru cynyddu eu mesurau bioddiogelwch a'u gallu i wrthsefyll plâu a phathogenau.

Estyn penodiad Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

17 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno bod Kate Eden yn parhau’n Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru tan 29 Chwefror 2024.

Penodiadau aelodau o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi’r Athro Calvin Jones, Helen Pittaway, Kathleen Palmer, Mark McKenna, yr Athro Pete Fox, a’r Athro Rhys Jones yn aelodau o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

Safonau bwyd

15 Mawrth 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno y caiff nifer fach o awdurdodau lleol gymryd rhan mewn peilot chwe mis i dreialu’r model a gynigir ar gyfer darparu safonau bwyd newydd.

Cyllido’r Tîm Brechu

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i Weithrediaeth y GIG i dalu am gost y Tîm Brechu fel cost reolaidd.

Cais cynllunio

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod apêl a adferwyd am 6 thŷ fforddiadwy, 6 gweithdy saer, cyfleuster cymunedol ac adleoli sied prosesu pren a chyfleuster sychu sydd eisoes wedi’u cymeradwyo yn Fforest Pantmaenog, Rhos-y-bwlch, Clunderwen, Sir Benfro.

Cyllid ar gyfer rhagolygon treth

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (drwy Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi) ar gyfer llunio a chyhoeddi rhagolygon treth annibynnol yn 2023 hyd 2024 i gyd-fynd â Chyllideb Llywodraeth Cymru.

Trefniadau gŵyl y banc ar gyfer staff GIG Cymru

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo telerau ac amodau o dan yr Agenda ar gyfer Newid a thelerau ac amodau staff Meddygol a Deintyddol y GIG yng Nghymru ar gyfer gŵyl y banc adeg coroni Brenin Charles III.

Gwasanaethau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo camau i estyn contract Newfields Law am chwe mis ychwanegol am ddim cost i Lywodraeth Cymru.

Rhaglenni datblygu arweinyddiaeth

15 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i flwyddyn ariannol 2023 hyd 2024.

Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer paratoi a gweithredu prosiect newydd Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd.

Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd

15 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo camau i ymrwymo i gytundebau cyfreithiol a darparu cyllid at ddibenion prynu ar gyfer prosiect Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd.

Gwasanaethau Cyswllt â Phlant

13 Mawrth 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt â Phlant a gefnogir gan Orchymyn Llys yng Nghymru yn 2023 i 2024. 

Datblygu economaidd

13 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo Cymru fel lleoliad mewnfuddsoddi.

Cynnig Gofal Plant i Gymru

13 Mawrth 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gomisiynu adolygiad annibynnol o’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru.

Rhaglen dileu llyfrothen uwchsafn

13 Mawrth 2023

Mae gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd gyllid ychwanegol ar gyfer 2022 i 2023 am y gwaith parhaus o ddileu’r pysgodyn goresgynnol, llyfrothen uwchsafn, Pseudorasbora parva, yn y De.

Profi polisi Cyflogadwyedd a Sgiliau

13 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r dyraniad sy’n weddill o gyllid ar gyfer profi polisi Cyflogadwyedd a Sgiliau yn 2022 i 2023.

Diogelwch ar Ffyrdd Cymru

13 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad ar Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd 2013 i 2020 a chytunwyd i'r gwaith ddechrau ar y gwaith o ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd newydd ar gyfer 2022 hyd at 2030.

Polisi Cynllunio Cymru

13 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymgynghori am gyfnod o 12 wythnos ar gynigion i wneud newidiadau wedi'u targedu i Bolisi Cynllunio Cymru ynghylch budd net i fioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau.  

Dyrannu Grantiau Lwfans Atgyweirio Mawr

13 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd y Lwfans Gwaith Atgyweirio Mawr yn parhau i gael ei neilltuo i ddeg Awdurdod Tai Lleol ac mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar y dyraniad parhaus i Gyngor Abertawe ar gyfer 2023 i 2024.

Ysgol Lywodraethu Genedlaethol

13 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i fwrw ymlaen ag astudiaeth gwmpasu a phenodi cynghorydd arbenigol mewn perthynas â’r ymrwymiad ynghylch Ysgol Lywodraethu Genedlaethol a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Adnoddau rhaglenni

13 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid rhaglenni ar gyfer ariannu 13 o swyddi ar draws y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio, o gyllidebau presennol hyd at 31 Mawrth 2026.

Datblygu dulliau gweithredu ar gyfer mireinio ffiniau ardaloedd adnoddau

13 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddulliau gweithredu i fireinio ffiniau ardaloedd adnoddau morol strategol arfaethedig.

Cais cynllunio a alwyd i mewn

8 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod caniatâd cynllunio i gais ar gyfer annedd ar dir ger Dolau Gwyn, Dole, Bow Street, Aberystwyth.  

Gwerthu tir

8 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar werthiant tir y tu ôl i 17 Heol Isaf, Radur. 

Hyfforddiant hiliaeth a throseddau casineb yn y sector rhentu preifat

8 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu Rhentu Doeth Cymru i ddarparu hyfforddiant am ddim ar hiliaeth a throseddau casineb i landlordiaid ac asiantau preswyl preifat. 

Cyllideb y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol 2023 i 2024

8 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cyllid arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf. 

Cyllideb Ysgolion Bro

8 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cyllid arfaethedig ar gyfer Ysgolion Bro yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024. 

Cymorth ymgynghorwyr i weithredu’r rheolau ar 20mya a rhwystro'r ffordd yn ddiangen

8 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer ymgynghorwyr arbenigol i gynorthwyo â’r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r Llywodraeth i weithredu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, a’r orfodaeth sifil ar gyfer rhwystro'r ffordd yn ddiangen. Ac i gynorthwyo hefyd  â’r strategaeth Diogelwch Ffyrdd sy’n cael ei datblygu. 

Cyllid Rhaglenni ar gyfer y Swyddfa Cyflawni Prosiectau

7 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllideb rhaglenni i gefnogi ffrydiau gwaith Cyflawni Prosiectau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2025. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen – cais cyllido diwygiedig ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd

7 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gefnogi ‘mewn egwyddor’ hyd at 50% o’r pris tendro terfynol ar gyfer ehangu cyfleuster ailgylchu presennol Torfaen, yn amodol ar gap o £2m a gwaith pellach i sicrhau bod amodau cyllido’n cael eu bodloni, gan gytuno y gellir cyfrif y costau a delir hyd yma o dan y cynnig presennol (c.£50k) fel gwariant cymwys ac y dylid darparu cymorth grant (c.£25k).

Rhaglen Hyfforddiant a Chymorth ar gyfer Cymwysterau Gwaith Chwarae

7 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen hyfforddiant a chymorth ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae. 

Offeryn Digidol NYTH

6 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i atal y prototeip o offeryn digidol NYTH a ddatblygwyd gan Gydweithrediaeth y GIG tra bod swyddogion yn gweithio i ddeall gofynion defnyddwyr unrhyw gynnig digidol o wybodaeth i bobl ifanc a mapio gofynion yn erbyn y cynigion presennol.

Lles anifeiliaid

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd â Defra ar yr opsiynau ar gyfer labelu lles anifeiliaid.

Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar dri newid bach i gyfraith yr UE a ddargedwir ynghylch y modd y caiff gwin ei ddisgrifio a'i farchnata fel rhan o Gytundeb Masnach Rydd y DU gyda Seland Newydd.

Cymorth busnes

6 Mawrth 2023

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno ar Arian Buddsoddiad Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect yn Abertawe.

Gwerthu tir

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Busnes Clawdd Offa, Powys.

Gorchymyn Ffordd Ymyl

6 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r Amrywiad drafft i'r Gorchymyn Ffordd Ymyl (Rhif 3) ynghylch adleoli'r ffordd fynediad breifat ar gyfer Fferm Gurnos.

HIV

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Gweithredu HIV Cymru ar gyfer 2023 i 2026.

Cefnogaeth i wasanaethau dadwenwyno

6 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £795,000 i gefnogi gwasanaethau dadwenwyno ar y safle yng Nghanolfan Adsefydlu Preswyl Brynawel.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Bwyd Sir Benfro

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gymeradwyo rhoi cydsyniad ar gyfer gwerthiant tir yn Sir Benfro.

Gwerthiant tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin, Bangor

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthiant tir ym Mharc Bryn Cegin.

Tynnu cyflenwadau pridd o blot C1, Parc Penarlâg

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwaith galluogi ym Mharc Penarlâg, Brychdyn, Sir y Fflint.

Prosiectau Arloesi wedi’u hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer prosiectau arloesi yn ystod blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025, i’w hariannu ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Busnes Cymru Digidol

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer datblygu a chyflwyno systemau cymorth digidol a gwybodaeth yn y dyfodol, gan gynnwys y System Cyfrifon Busnes a systemau cymorth busnes a gwybodaeth eraill sydd wedi’u datblygu a’u cynnal ar ran meysydd busnes eraill yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad yn 2023 i 2024.

Grantiau Gwella Gofal Sylfaenol

6 Mawrth 2023

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyraniad refeniw nad yw’n rheolaidd o £1.300 miliwn yn 2023 i 2024 ar gyfer Byrddau Iechyd i ddarparu Grantiau Gwella Gofal Sylfaenol i gyfleusterau Meddygon Teulu a chyfleusterau gofal sylfaenol sy'n eiddo i drydydd parti.

Cymorth ymgynghorol i helpu gyda gweithredu’r cyfyngiad 20mya, y polisi Rhwystro Ffyrdd yn Ddiangen a’r Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd 

6 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer ymgynghorwyr arbenigol i gynorthwyo gydag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i weithredu'r terfyn cyflymder diofyn 20mya. 

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr adroddiad ynghylch yr adolygiad tair blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddi’r adolygiad tair blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr adroddiad ynghylch yr adolygiad tair blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cynllun costau safonol newydd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i agor cyfnod ymgeisio newydd am arian grant Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop - Cynllun Costau Safonol.

Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 31 Ionawr 2023 - Cyllid Cynhyrchu Creadigol

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Arian Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws de Cymru.

Dyfarnwr Annibynnol i Awdurdodau Lleol Cymru

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddechrau ar broses i benodi Dyfarnwr Annibynnol parhaol i Awdurdodau Lleol Cymru.

Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 7 Chwefror 2023 - Cyllid Cynhyrchu Creadigol 

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Arian Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws de Cymru.

Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 17 Ionawr 2023 - Cyllid Cynhyrchu Creadigol

6 Mawrth 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar Arian Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws de Cymru.

Estyniad i Gronfa Fuddsoddi Pont-y-pŵl

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn Cronfa Fuddsoddi Pont-y-pŵl o flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024.

Cais Cymeradwyo Benthyciad – Cyngor Cymuned Pentywyn

6 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gymeradwyo benthyciad i Gyngor Cymuned Pentywyn.

Gwaredu 3.25 erw o dir yn Nhŷ Du, Nelson, Caerffili

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Nhŷ Du, Nelson, Caerffili.

Gwaredu Plot 2, 0.95 erw o dir yn Nhŷ Du, Nelson, Caerffili

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Nhŷ Du, Nelson, Caerffili.

Dyrannu cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori ar sgiliau cyflogwyr

6 Mawrth 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 i ddarparu gwasanaethau cynghori ar sgiliau cyflogwyr.

Cylch Gwaith Blynyddol Estyn 2023 i 2024

1 Mawrth 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gylch gwaith Estyn o 2023 i 2024.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

1 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer 2023 i 2024 ar gyfer gwasanaethau craidd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r gyllideb ar gyfer Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gofal Sylfaenol.

Y diweddaraf am y pàs Covid a gwasanaeth brechu Cymru

1 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyngor i leihau costau ar y Pàs Covid a Gwasanaeth Ardystio Brechu Cymru.

Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW)3

1 Mawrth 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo argymhellion Panel Grant ACPW3 i ddyfarnu refeniw o gynllun grant ACPW3 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cymraeg 2050

28 Chwefror 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid grant i gefnogi’r gwaith sy’n ymwneud â Cymraeg 2050 yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025 ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Setliad Terfynol Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2023 i 2024.

Protocol Cenedlaethol ar gyfer Brechlyn Covid 19

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar brotocol cenedlaethol i ganiatáu i'r rhai sy'n weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig nad ydynt fel arfer yn brechu, a phobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, weinyddu'r Protocol Cenedlaethol ar gyfer y brechlyn Comirnaty® Bivalent Original/Omicron BA.4-5 COVID-19 (Pfizer), y Protocol Cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19 mRNA Comirnaty▼ (Plant 5-11 oed) a’r Protocol Cenedlaethol ar gyfer y brechlyn COVID-19 mRNA 30microgram/dos Comirnaty®®▼. 

Penodi Aelodau Annibynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru  

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Rowan Gardner a Marian Wyn Jones yn Aelodau Annibynnol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru am 4 blynedd o 1 Ebrill 2023.

Llythyr o gysur Cyfoeth Naturiol Cymru 2022 i 2023

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ryddhau £7.3 miliwn yn ychwanegol o adnoddau a chymeradwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio'r arian hwn pan fo angen, wedi’i rannu yn £6.7 miliwn o Refeniw a £0.6 miliwn o Gyfalaf. Yn ogystal, caniataodd y Gweinidog i Cyfoeth Naturiol Cymru gadw £1.8 miliwn a gynhyrchwyd drwy werthu Forest Holidays i liniaru'r gostyngiad a ragwelir yn ei incwm coed.

Cyllid i Awdurdodau Lleol ddod yn Oed Gyfeillgar

28 Chwefror 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gwerth £1.1 miliwn i helpu awdurdodau lleol i greu cymunedau oed gyfeillgar.

Ychwanegu paragraff at y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

28 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i gynnwys paragraff ychwanegol yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru. Mae'r paragraff yn nodi'r trefniadau i'r Comisiynydd Plant gyflwyno sylwadau ar faterion sydd wed’u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU.

Gwaredu hyblygrwydd ynghylch oriau agor ar gyfer fferyllfeydd cymunedol

27 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i waredu hyblygrwydd o ran oriau agor ac annog amser llesiant ar gyfer staff fferyllfeydd cymunedol.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – trefniadau cynnal a sicrhau ansawdd

27 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r trefniadau cynnal a sicrhau ansawdd ar gyfer Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn 2023 hyd 2024. 

Newid lleoliad camerâu cyflymder cyfartalog

27 Chwefror 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer camerâu cyflymder cyfartalog ar yr A548 rhwng y Fflint a Gronant. 

Cyllideb ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

27 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi prosiectau ychwanegol o dan y rhaglen grant refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022 hyd 2023. 

Gweithgareddau Trefniadau Plant

27 Chwefror 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwaith i gaffael a chyllido’r contract newydd ar gyfer rhaglen Gweithio gyda’ch gilydd er lles plant Cafcass Cymru. 

Ailbenodi Aelod Cyswllt Bwrdd 

27 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mr Andrew Jarrett yn Aelod Cyswllt Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

ynhyrchion Rheoleiddiedig – Penderfynu ar geisiadau Amrywiol Tranche 2

23 Chwefror 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo, yn dilyn ymgyngoriadau cyhoeddus, gyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar geisiadau ar gyfer awdurdodi: un bwyd newydd, un estyniad o ran defnyddio bwyd newydd presennol, un cyflasyn bwyd newydd, ac un ychwanegyn bwyd newydd (trwy addasu awdurdodiad presennol) a hefyd fesur trosiannol ar gyfer y diweddariad ar labelu ychwanegion bwyd fel bod modd cynyddu’r cyflenwad presennol o labeli.

Banc Datblygu Cymru – Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru – Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

20 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo amrywiadau i Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru,   er mwyn galluogi’r banc i weithredu Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

Trosglwyddo Cyllideb Cyfalaf 

16 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo cyllideb cyfalaf o Newid Hinsawdd i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i hwyluso cyflawni rhaglen gyfalaf y Gronfa Gofal Tai 2022 i 2023.

Defnyddio’r gyllideb Buddsoddi mewn Ansawdd 2023 i 2024

16 Chwefror 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd ar gyfer y sector ôl-16.

Ymgynghoriad Ofcom – cynllun Gwaith Ofcom 2023 i 2024

16 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Ofcom ar ei raglen waith arfaethedig 2023 i 2024.

Penderfyniad ceisiadau organebau a addaswyd yn enetig Cyfran 2 sy’n berthnasol i gynhyrchion a reoleiddir 

16 Chwefror 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i awdurdodi’r cynhyrchion sy’n berthnasol i’r ceisiadau am wyth organeb a addaswyd yn enetig  i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid ar y telerau a argymhellwyd. Cytunwyd ar y newid arfaethedig i fanylion deiliaid yr awdurdodiadau o dan dri chais.   

Cais cynllunio a alwyd i mewn 

16 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais cynllunio a alwyd i mewn ar gyfer annedd anghenion lleol (fforddiadwy) arfaethedig yn Llwydlo Fach, Aberarth, Aberaeron, SA46 0JX.  

Gyrfa Cymru – Cylch Cyflog - 2022 i 2023

16 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi £604,000 (2%) ychwanegol i Gyrfa Cymru yn 2022-23 o’r tanwariant a ddaeth i’r amlwg o fewn Cyflogadwyedd gan gynnwys y Llinell Wariant yn y Gyllideb - Gwarant i Bobl Ifanc. Bydd hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi codiad cyflog o 4% i staff Gyrfa Cymru, sy’n cyd-fynd â’r codiad cyflog o 4% ar gyfer staff Llywodraeth Cymru yn 2022 i 2023.

Rhaglen Rheoli Ffiniau – Diweddariad Cyllideb a gwaith galluogi 

16 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i’r Rhaglen Rheoli Ffiniau – Diweddariad Cyllideb ac awdurdodiad gwariant.

Cyllideb Datblygu Polisi Fferylliaeth a Phresgripsiynu

15 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad Cyllideb Datblygu Polisi Fferylliaeth a Phresgripsiynu ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025. 

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr ar ei newydd wedd

15 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr ar ei newydd wedd.

Cynnig Gofal Plant Cymru – Platfform Digidol Cenedlaethol – Diweddariad Chwefror 2023

15 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnydd mewn gwariant contract sy’n gysylltiedig â Phlatfform Digidol Cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant.

Cais am gymeradwyaeth ar gyfer estyn tymor Aelod Bwrdd Cyswllt

15 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gais i estyn tymor Aelod Bwrdd Cyswllt ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Blaenoriaethau ar gyfer Cymru Ystwyth

14 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer menter Cymru Ystwyth i gefnogi cydweithredu economaidd yng ngofod Môr Iwerddon ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-2024, gan nodi’r flaenoriaeth i ddatblygu menter cyllido sy’n cefnogi cydweithredu â rhanbarthau pwysig yr UE.  

Cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau Seibergadernid

14 Chwefror 2023
 
Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ychwanegol gan Swyddfa Cabinet y DU, ar gyfer prosiectau Seibergadernid ar gyfer 2022 i 2023.

Llygredd aer

13 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Raglen Rheoli Llygredd Aer Genedlaethol y DU, y Crynodeb o’r Ymatebion a dogfen ymateb ar y cyd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig.

Cymorth i ddysgwyr

13 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd eisoes yn cymryd rhan mewn addysg bellach ond y nodwyd eu bod mewn perygl o ymddieithrio a pheidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Cyllid iechyd meddwl

13 Chwefror 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad cyllid ar gyfer iechyd meddwl ar gyfer 2023 i 2024.

Hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Ffordd Dinerth, Llandrillo-yn-Rhos

13 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar drosglwyddo hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Ffordd Dinerth o bortffolio’r Ystad Weinyddol i bortffolio’r Is-adran Tir, hyd nes y caiff y safle ei werthu i’w ddefnyddio at ddibenion preswyl sy’n cyd-fynd â pholisi presennol Llywodraeth Cymru.

Cyllid cynllun grantiau Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW 3)

13 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r dyfarniadau a argymhellwyd gan banel grantiau Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Arian ychwanegol i’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes

13 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r arian ychwanegol ar gyfer parhau â’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.

Ymgynghoriad ar Dargedau Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru

13 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnwys ymgynghoriad ar Dargedau Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru, ac i gyhoeddi’r ymgynghoriad.

Cyhoeddi Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

13 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cyllid grant Cymoedd Technoleg

9 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddyfarnu grant o £300,00 i Goleg Gwent sicrhau cyfarpar i greu canolfannau roboteg HiVE mewn 3 ysgol gyfun ym Mlaenau Gwent.

Cyllid grant Cymoedd Technoleg

9 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar grant o hyd at £225,000, nad oes angen ei ad-dalu, i Tai Calon er mwyn gosod wal wrthsain yn eu cyfleusterau yn Solis One ym Mlaenau i allu creu gofod  ar gyfer cydosod unedau pympiau gwres domestig, a fydd yn arwain at 130 o swyddi newydd.

Cyllid ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd

8 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn helpu gyda mentrau diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 to 2024.

Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Addysg Bellach 

8 Chwefror 2023
 
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynigion ynghylch pecyn cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Addysg Bellach ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.  

Safonau Perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau

8 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i Safonau Perfformiad y Comisiwn Etholiadol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau gael eu gosod gerbron y Senedd ar 7 Rhagfyr.

Arian i undebau credyd gynyddu'r cynllun ehangu benthyciadau

8 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid o £600k i wella ymyriad costau byw sy'n cael ei ddarparu gan undebau credyd.

Cytundeb i risg diffygdaliad ar y NILS (Cynllun Benthyciad Heb Log) 

8 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno a derbyn y risg na chaiff Llywodraeth Cymru adennill 100% o'r arian i'w fenthyg i Fair4All Finance Limited (hyd at £1 miliwn o Gyfalaf Trafodion Ariannol). Pwrpas y cyllid yw iddo gael ei ddefnyddio gan y sefydliad(au) a gaffaelwyd sy’n darparu Cynllun Benthyciadau Heb Log yng Nghymru.

Cyllid tuag at gostau gofal

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wrthbwyso costau gofal ychwanegol yn dilyn asesiadau annibynnol ar gyfer pobl a arferai dderbyn Grant Byw’n Annibynnol yng Nghymru.

Cyllid Trawsnewid Trefi

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwerth hyd at £340,000 o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Cyngor Gwynedd yn 2023 hyd 2024 er mwyn cwblhau prosiect Parc y Coleg yng nghanol dinas Bangor, a hyd at £250,000 i Gyngor Dinas Casnewydd yn 2023 hyd 2024 er mwyn cwblhau datblygiad Siambrau’r Brenin yng nghanol dinas Casnewydd.

Cyllid ar gyfer yr Economi Gylchol a Cherbydau Allyriadau Isel Iawn ar gyfer 2022 i 2023

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid gydag awdurdodau lleol i gefnogi prosiectau economi gylchol a phrynu cerbydau allyriadau isel iawn.

Estyniad i’r contract Teithiau Llesol 2023 i 2024 yn cael ei addasu ar gyfer chwyddiant 

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r estyniad i’r Contract ‘Teithiau Llesol’ 2023 i 2024, rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion, gael ei addasu ar gyfer chwyddiant,

Cyllid i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a gweithredu’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i roi cyllid gwerth hyd at £2.55 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, i gefnogi eu gwaith mewn perthynas â chyflwyno a gweithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Rhaglen Gyhoeddus – cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn

6 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Rhaglen Gyhoeddus.

Cyllid Cymraeg i Blant/Cymraeg for Kids yn y Dyfodol

2 Chwefror 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo bod y model ariannu ar gyfer rhaglen Cymraeg i Blant/Cymraeg for Kids yn cael ei newid o broses gaffael i gyllid grant o fis Ebrill 2023. 

Cais Cyfoeth Naturiol Cymru i Gymeradwyo Dyletswyddau Trwyddedau Gwialen Arfaethedig yng Nghymru 2023 i 2026

2 Chwefror 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cymeradwyo'r cynnydd a hysbysebir mewn dyletswyddau trwyddedau gwialen yng Nghymru yn ystod y 3 blynedd ariannol rhwng 2023 a 2026, yn dilyn cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â gofynion Deddf Pysgodfeydd Eog a Dŵr Croyw 1975.

Les Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

1 Chwefror 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu gwerth £155,000 o gyllid cyfalaf i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru fel y gall symud i swyddfa lai er mwyn arbed costau. 

Newidiadau i brosiect ac estyn y dyddiad cau i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)

1 Chwefror 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cynnig ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer prosiect presennol yr OECD. 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2021 hyd 2022

31 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2021 hyd 2022 gerbron Senedd Cymru. 

Cyfathrebu gyda ffermwyr yn 2023

31 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r gwariant ar gyfer llyfrynnau hysbysu tymhorol a gaiff eu hanfon at ffermwyr a busnesau ffermio ar draws Cymru yn 2023.

Canolfan Lloeren Radiotherapi 

31 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwy achos busnes llawn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer datblygu Canolfan Lloeren Radiotherapi yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Cam 3 Prosiect Adnewyddu Tir a Llawr Cyntaf Ysbyty’r Tywysog Charles

31 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo ffioedd i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer gwaith olaf Cam 3 Prosiect Adnewyddu Tir a Llawr Cyntaf Ysbyty’r Tywysog Charles – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Meithrin Gallu o fewn Cymunedau Arfordirol Cymru 

31 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd ynghyd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r dull arfaethedig o Feithrin Gallu o fewn Cymunedau Arfordirol Cymru, fel y nodir yn y cyngor, a dyraniad o £800k yn y flwyddyn ariannol hon i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, drwy amrywiad grant i’r Grant Partneriaethau Natur Lleol. 

Ardaloedd Gwella Busnes

30 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid i helpu i ddatblygu Ardaloedd Gwella Busnes neu fodelau busnes a chymunedol cydweithredol amgen mewn trefi a dinasoedd. 

Penodi Aelodau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

30 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi Dr Liz Bickerton, Dr Yvonne Howard-Bunt, yr Athro John Hunt a  Mr Craig Stephenson yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o 1 Ionawr 2023 hyd at 31 Rhagfyr 2026. 

Cynllun Tir ar gyfer Tai 

30 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer ail gylch y Cynllun Tir ar gyfer Tai 2022 i 2023. 

Penodi Cadeirydd i Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru

30 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddechrau proses benodi gyhoeddus i benodi Cadeirydd i Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

30 Ionawr 2023
 
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cynghorydd Nicola Matthews yn Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Caerdydd o 25/01/2023 hyd at 24/01/2027.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023

26 Ionawr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer prosiect yng Ngwynedd. 

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

26 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Cyllid ar gyfer gofalwyr di-dâl i gefnogi’r Strategaeth a Chynllun Cyflawni ar gyfer gofalwyr

26 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi’r strategaeth a’r cynllun cyflawni ar gyfer gofalwyr ar gyfer 2023 i 2024. 

Gwerthuso’r cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd

25 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r nodau i’w treialu yn y cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd yn Nwyfor, Gwynedd.

Cynllun Comisiynu a Hyfforddi Addysg GIG Cymru ar gyfer 2023 i 2024

25 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Comisiynu a Hyfforddi Addysg GIG Cymru ar gyfer 2023 i 2024 ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Anfeddygol a’r gweithlu Meddygol.

Penodi Aelod Cyswllt o’r Bwrdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

25 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar benodiad Ms Nina Davies yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd yn rhinwedd ei swydd yn Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol gyda Chyngor Sir Powys. 

Cyfarfod o’r Panel Buddsoddi ar 6 Rhagfyr 2022 - Cyllid Cronfa Dyfodol yr Economi

25 Ionawr 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn y De.

Cyllid Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2023

25 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i symud oddi wrth raglen cyllid cydraddoldeb a chynhwysiant a chanolbwyntio ar amrywiaeth o weithgareddau a sefydliadau a gefnogir drwy gyllid cydraddoldeb ar sail fwy hyblyg.

Rhaglen fonitro genedlaethol

24 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar yr egwyddorion a’r dull gweithredu amlinellol ar gyfer rhaglen fonitro genedlaethol sy’n seiliedig ar samplo ar gyfer addysg yng Nghymru yn y dyfodol, ac i ddechrau ar y camau nesaf ar gyfer y gwaith hwn. 

Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth yn 2023 i 2024

24 Ionawr 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno’r Isafswm Lwfans cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth yn 2023 i 2024.

Effaith y Ffliw Adar ar Labelu Wyau Maes – ymateb i gyflwyno Gorchmynion Lletya Dan Do

24 Ionawr 2023

Gweinidog Materion gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i roi diweddaru gorfodaeth awdurdodau lleol, manwerthwyr, a’r diwydiant yng Nghymru mewn ymateb i’r epidemig Ffliw Adar.

Cyllid ychwanegol untro ar gyfer sefydliadau iaith Gymraeg 

24 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyrannu cyllid i sefydliadau sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Ymgynghoriad ar Adolygiad Dŵr Ymdrochi Cymru 2023

24 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnwys yr ymgynghoriad ar Adolygiad Dŵr Ymdrochi Cymru 2023 ac i gyhoeddi’r ymgynghoriad am gyfnod o 6 wythnos.

Data am berfformiad ysgolion

23 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailddechrau adrodd ar ganlyniadau cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 ar lefel ysgol o 2023 ymlaen. Am gyfnod dros dro, byddant yn cael eu hadrodd ar ffurf a gyflwynwyd gyntaf yn 2019.

Peilot pencampwyr cyrhaeddiad

23 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn y peilot drwy gynyddu nifer y pencampwyr cyrhaeddiad o chwech i wyth.

Dyletswydd llesiant

23 Ionawr 2023

Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i anfon llythyr i gyrff cyhoeddus sydd eisoes yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i geisio sylwadau am eu profiad o ran y costau a manteision ychwanegol newydd sy’n codi yn sgil bod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant, er mwyn llywio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol  sy’n gysylltiedig ag ymestyn y ddyletswydd llesiant i gynnwys rhagor o gyrff cyhoeddus yng Nghymru. 

Rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy

23 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r achos busnes amlinellol ar gyfer Prosiect Ehangu Campws Gorseinon, yn seiliedig ar amodau.

Ymestyn tymor Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

23 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn tymor presennol Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 12 mis hyd at 30 Tachwedd 2023.  

Gwasanaethau Trosglwyddo Tir

23 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i drosglwyddo tir a chymeradwyo gwariant ar gyfer gwasanaethau prisio annibynnol a ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â phrosiect sy’n gysylltiedig â’r rheilffyrdd yn ne Cymru.

Cynllun Benthyciadau Trawsnewid Trefi

23 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn 2022 i 2023.

Perfformiad Awdurdodau Lleol yn erbyn y Targedau Ailgylchu Statudol

23 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddechrau’r broses asesu statudol ar gyfer 2021 i 2022 a chytuno ar yr amserlenni arfaethedig. Mae hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr Awdurdodau Lleol nad ydynt wedi cyrraedd eu targed ailgylchu statudol gofynnol ac ysgrifennu yn ychwanegol at yr Awdurdodau hynny sydd wedi cyrraedd y targed, ond sydd ar hyn o bryd ymhell o gyrraedd y targed ailgylchu statudol gofynnol nesaf a osodwyd ar gyfer 2024 i 2025.

Cyllid Atal a’r Blynyddoedd Cynnar 2022 i 2023

19 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo rhyddhau Cyllid Atal a’r Blynyddoedd Cynnar i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Arolwg Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion

19 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai GIG Cymru barhau i gymryd rhan yn Arolwg Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion o dan ofal y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd .

Cyllid i gefnogi Sefydliadau Addysg Bellach ac awdurdodau lleol er mewn iddynt baratoi i fodloni eu dyletswyddau fel eu nodir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

19 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno bod cefnogaeth o £2.7 miliwn yn cael ei roi dros dair o flynyddoedd ariannol i Sefydliadau Addysg Bellach ac awdurdodau lleol er mewn iddynt baratoi i fodloni eu dyletswyddau fel eu nodir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod ADY ac ar gyfer monitro a gwerthuso’r cyllid.

Cais i’r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Glyndŵr

19 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i argymell bod cais i’r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Glyndŵr i newid ei dogfennau llywodraethu yn cael ei gymeradwyo.

Cais gan Great House Energy Centre Limited

18 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau, ar gyfer cais gan Great House Energy Centre Limited i adeiladu parc solar wedi'i fowntio ar y tir gydag uchafswm allbwn o 32 Megawatt ar Great House Farm, Penpergwm, y Fenni, Sir Fynwy.  

Cais gan Rhoscrowther Wind Farm Limited

18 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer cais gan Rhoscrowther Wind Farm Limited i adeiladu a gweithredu 3 thyrbin gwynt a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Heol y Burfa, Hundleton, Sir Benfro.

Cynllun Cymorth Lesddalwyr - Adolygiad 3 mis o feini prawf cymhwystra

18 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddileu'r cymal Trigolion Dadleoledig (gan ganiatáu mynediad, er enghraifft, i lesddalwyr sydd wedi hunan-fuddsoddi mewn eiddo yr effeithir arnynt fel rhan o'u cynllun pensiwn personol) a chymryd costau ynni i ystyriaeth yn yr asesiad o gymhwystra ariannol er mwyn helpu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw presennol.

Gwasanaeth T1 TrawsCymru Aberystwyth i Gaerfyrddin

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyfarnu contract gwasanaeth T1 TrawsCymru Aberystwyth i Gaerfyrddin i gwmni First Cymru Buses, gan gyflwyno fflyd newydd o fysiau trydan.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i dderbyn hawliad Grant Busnes i Ffermydd (Ffenestr 4) am fethu cyflwyno llythyr cyfrifydd.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Grant Busnes i Ffermydd (Ffenestr 5) am fethu bodloni gofynion y cynllun.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad Grant Busnes i Ffermydd (Ffenestr 5) am fethu bodloni gofynion y cynllun.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i hawlio’n ôl daliad a wnaed mewn perthynas â Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd ar y safle ar 24 Chwefror 2017.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i dderbyn yn rhannol yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb o 32% i daliadau Glastir 2014, 2015 a 2016 oherwydd achosion o dorri amodau Opsiynau 15, 15B, 121 a Chod y Fferm Gyfan.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb o 40% i hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015 am dorri amodau Trawsgydymffurfio, Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da 6 a Gofyniad Rheoli Statudol 3.

Proses Apelau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

17 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad Panel Apêl Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb o 3% i hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2017 am dorri amodau Trawsgydymffurfio, Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol da 7.

Apelau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i estyn cyfnod y trydydd grŵp o aelodau a etholwyd i’r panel ac wedi rhoi caniatâd ym mis Medi 2022 i fwrw ymlaen ag ymarfer i recriwtio aelodau a chadeiryddion newydd i'r panel.

Apelau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apêl Annibynnol i dderbyn yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad yn ystod Cyfnod 4 o'r Grant Busnes i Ffermydd (FBG4) oherwydd nad oedd y busnes wedi cyflwyno llythyr cyfrifydd i gadarnhau bod trosiant y busnes yn £1 filiwn neu'n llai erbyn 6 Tachwedd 2018.    

Apelau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apêl Annibynnol i dderbyn yn rhannol yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosbau ar hawliadau a wnaed o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd oherwydd bod digon o dystiolaeth wedi'i darparu i wrthdroi dwy o'r cosbau.

Y sefyllfa gyllido ar gyfer Troseddu a Chyfiawnder

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar flaenoriaethau cyllido ar gyfer llinell wariant 1267 yn y gyllideb (Glasbrintiau Troseddu gan Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar elfennau cyfatebol ac elfennau tapro y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Atodiad i Adroddiad y Tasglu ar Barcio ar Balmentydd, 2020

16 Ionawr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno mewn egwyddor i fwrw ymlaen â'r argymhellion ychwanegol a wnaed gan Dasglu Cymru ar Barcio ar Balmentydd. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn ymgynghori ar y cynnig i ganiatáu i'r awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi sifil pan fydd ffyrdd yn cael eu rhwystro'n ddiangen, gan drin hynny fel tramgwydd parcio. Yn ogystal â'r pwerau gorfodi sifil newydd a fydd gan yr awdurdodau lleol, cynigir hefyd y bydd yr heddlu yn cael cadw'r gallu i gymryd camau gorfodi yn wyneb unrhyw dramgwydd o'r fath ac ymdrin ag ef fel mater troseddol.

Gwaith Ychwanegol i Greu Ffyrdd Mynediad

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwaith ychwanegol i greu ffyrdd mynediad ar gyfer prosiect sy'n gysylltiedig â ffyrdd yn Ne Cymru.

Diogelu iechyd y cyhoeddd

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y gyllideb ac ar sut i fynd ati i weithredu’r rhaglen gwyliadwriaeth, brechu, profi, ac olrhain cysylltiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd y rhaglen honno’n ategu mesurau i ddiogelu iechyd rhag y bygythiadau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd a rhag bygythiadau a allai godi yn y dyfodol, gan gynnwys COVID-19.

Lleoliadau gofal sylfaenol

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid a fydd yn caniatáu i Ganolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands a Chanolfan Llesiant Llandudno a Chonwy i symud ymlaen  gam nesaf y gwaith o ddatblygu eu hachosion busnes.  

Cymorth ar gyfer prosiectau chwaraeon a diwylliant

16 Ionawr 2023

ae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo buddsoddiad mewn nifer o brosiectau yn y Gyfarwyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Gorsaf Ganolog Caerdydd

16 Ionawr 2023

ae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwasanaethau rheoli rhaglenni mewn perthynas â phrosiect yn y De sy'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd.

Penodi aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

16 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi'r Athro Keith Harding, CBE yn Aelod Annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Canllawiau ar y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso 

16 Ionawr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Canllawiau ar y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso ac wedi cymeradwyo cymorth ar gyfer pedwar prosiect o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Trosglwyddo NHS Digital i GIG Lloegr

12 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gydsynio i drosglwyddo NHS Digital i GIG Lloegr. 

Penderfyniad i ohirio cyn gweithredu 

12 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gais Cyngor Caerdydd i ohirio dyddiad gweithredu ei gynigion mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Woodlands, ac Ysgol Arbennig Riverbank o 1 Medi 2023 i 1 Medi 2026. 

Gorfodi Camerâu Diogelwch

12 Ionawr 2023
 
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid ar gyfer gorfodi camerâu diogelwch yng Nghymru ar gyfer 2022 i 2023. 

Ailbenodi aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

11 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Anne Davies a Nia Elias i Banel Gynghori Comisiynydd y Gymraeg am gyfnod pellach o 3 blynedd o 24 Chwefror 2023 ymlaen.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni ar gyfer misoedd Ionawr a Chwefror 2023

11 Ionawr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo taliadau sy'n ddyledus i unigolion a sefydliadau o dan drefniadau cyfredol y Rhaglen Entrepreneuriaeth.

Cael Triniaethau Gwrthfeirol drwy ddefnyddio dyfeisiau llif Unffordd

11 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i newid profion ar gyfer unigolion sy'n gymwys i gael triniaethau Covid-19 gartref, gan newid i dri phrawf dyfais Llif Unffordd a dileu'r angen i wneud prawf PCR ar ôl cael prawf negatif ar ddyfais Llif Unffordd.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

11 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi derbyn argymhelliad Estyn ac yn penderfynu o dan adran 161 o Ddeddf Addysg 2002 fod cais Ysgol Oaklea Grange am statws ysgol annibynnol yn cael ei gymeradwyo. Bydd yr ysgol yn cael ei chynnwys ar gofrestr Llywodraeth Cymru o ysgolion annibynnol.

Caffael tri phrosiect ymchwil/data â blaenoriaeth

11 Ionawr 2023

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gaffael tri phrosiect ymchwil/data â blaenoriaeth: Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor; effeithiau ar y sector dur; a chyfrifon ynni/allyriadau.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

10 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn lleoliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Gwerthu tir

9 Ionawr 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo gwerthu tir yng Nghaerdydd.

Datblygu, llifogydd ac  erydu arfordirol

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal ail-ymgynghoriad sy’n canolbwyntio ar agweddau ar TAN 15 sydd wedi cael eu newid.

Trosglwyddo tir

6 Ionawr 2023

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo trosglwyddo tir yn  Rhodfa Lloyd George i Drafnidiaeth Cymru.

Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ail-benodi Nicholas Saphir yn Gadeirydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth am gyfnod estynedig o ddeuddeg mis, o 1 Ebrill 2023

Hybu Cig Cymru

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i weithredu proses hawliadau dreigl cymorth grant ar gyfer Hybu Cig Cymru.

Maint Cymru

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu’r cyllid blynyddol ar gyfer Maint Cymru i £225,000 bob blwyddyn hyd at fis Mawrth 2025.

Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol am un flwyddyn er mwyn ei gwneud yn bosibl adeiladu’r holl gynlluniau sydd wedi eu trefnu. 

Rhaglen Cydlyniant Cymunedol

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ariannu’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol am 3 blynedd o 2023 i 2024.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i symud i fodel amlflwyddyn a ariennir ar gyfer gweithredu cynlluniau yn y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am y ddwy flynedd nesaf.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Hazel Lloyd-Lubran fel Aelod Cyswllt o'r Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mr Mo Nazemi fel Aelod Cyswllt o'r Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi cyd-Aelodau Cyswllt i’r Bwrdd yn rhinwedd eu swyddi fel cyd-Gadeiryddion y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Eiddo gwag

6 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r canlynol: awdurdodau lleol yn defnyddio’r Gronfa Gorfodi Eiddo Gwag ar gyfer eiddo preswyl nad yw ynghanol trefi a’r cyllid refeniw yn 2022 i 2023  2023 i 2024 i sefydlu contract tymor byr newydd i ddarparu cymorth gorfodi arbenigol ar gyfer awdurdodau lleol, a chomisiynu gwerthusiad allanol o’r gwaith cymorth gorfodi a’i effeithiau.

Y Rhaglen Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r Rhaglen Arloesi tan fis Mawrth 2026.

Y Rhaglen Cymunedau am Waith+

5 Ionawr 2023

Mae Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer y Rhaglen Cymunedau am Waith+ ar gyfer 2023 i 2024 a'r dyraniadau dangosol ar gyfer 2024 i 2025.

Undebau Credyd

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y Rhaglen Grantiau Ariannu Undebau Credyd 2023 i 2029.

Y Rhaglen addysg eco-ysgolion

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i estyn y cynllun Eco-ysgolion am gyfnod o chwe mis.

Prosiect Rhodfa Bute

5 Ionawr 2023

Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi ei gymeradwyaeth i amrywio cytundeb cyfreithiol ar gyfer Prosiect Menter Cyllid Preifat Rhodfa Bute.

Cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion mawr

5 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddyrannu Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol i gefnogi dysgwyr o Gymru sydd ag anghenion mawr.

Cyllideb ddangosol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y Gyllideb ddangosol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2023 i 2024.

Dyraniadau’r byrddau iechyd

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r dyraniadau refeniw cychwynnol ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol y GIG ar gyfer 2023 i 2024.

Bwndeli babi

5 Ionawr 2023

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fanylion yn ymwneud â dosbarthu bwndeli babi i deuluoedd yng Nghymru.

Dyraniadau Bwrdd Iechyd Lleol

5 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r dyraniadau refeniw cychwynnol i Fyrddau Iechyd Lleol y GIG ar gyfer 2023 i 2024.

Prydau am ddim i ddysgwyr

5 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i gefnogi darpariaeth o brydau bwyd am ddim i ddysgwyr yn ystod gwyliau'r coleg hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cymraeg 2050

5 Ionawr 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo grantiau i hyrwyddo’r Gymraeg at y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.