Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion
Manylion
Noson Aer Glân 2026
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno na ddylid noddi Noson Aer Glân ar 17 Tachwedd 2026.
Gwerthu Cwch Patrolio Pysgodfeydd Catrin
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwerthu Cwch Patrolio Pysgodfeydd Catrin, a phenodi brocer i roi’r cwch ar y farchnad.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 15 Medi 2026
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Diwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol gan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rhaglen diogelwch ar-lein ar gyfer ysgolion yng Nghymru
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gau cynllun gweithredu Gwella Cadernid Digidol mewn Addysg, ac wedi cytuno y dylai swyddogion ymgymryd â gwaith cwmpasu ar gyfer rhaglen diogelwch ar-lein newydd i gefnogi ysgolion yng Nghymru.
Sefydlu Adolygiad Annibynnol o Covid-19 ar gyfer Cymru
21 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth a Phethau Effeithlon ac y Gyfansoddiad wedi cytuno i sefydlu Adolygiad Annibynnol Covid-19 Cymru.
Cymorth Sector Lleol Gwell ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
21 Hydref 2026
Mae’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i ddyrannu hyd at £500,000 o gyllid refeniw ychwanegol i estyn prosiectau cymwys o dan Gymorth Sector Lleol Gwell ar gyfer y rhaglen Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd tan 31 Mawrth 2027.
Ymgynghoriad ar nodi’r prif berson atebol, a chofrestru adeiladau Categori 1 a Chategori 2
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar ymgynghoriad ynghylch nodi’r prif berson atebol, cofrestru adeiladau Categori 1 a Chategori 2 gydag awdurdodau diogelwch adeiladau a ffioedd a godir gan awdurdodau diogelwch adeiladau.
Penodiad i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
21 Hydref 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi penodi Lianne Richards yn aelod o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Hydref ac yn dod i ben ar 30 Medi 2029.
Cynllun Diogelu Blaendal Tenantiaeth
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i baratoi is-ddeddfwriaeth i alluogi Cymru i gymryd rhan mewn trefniadau diogelu blaendal tenantiaeth yn y dyfodol, a pharhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni’r dull ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cofrestr Fabwysiadu Cymru – Cyllid Contract Newydd
21 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a’r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cytuno i barhau i ariannu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddarparu Cofrestr Fabwysiadu Cymru, ac awdurdodi’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gan weithio gyda Thîm Caffael Cyngor Caerdydd a chymeradwyo caffael contract newydd ar gyfer Cofrestr Fabwysiadu Cymru drwy fframwaith G-Cloud 15, am gyfnod cychwynnol o dair blynedd o 1 Ebrill 2027 i 31 Mawrth 2030 gan gostio £838,454, gydag opsiwn i’w ymestyn (yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogol) am ddwy flynedd arall hyd 31 March 2032, gyda chyfanswm gwerth contract o £1,418,942.
Y proffesiwn rheolaeth adeiladu
15 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gyhoeddi'r fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu.
Safleoedd Naturfa yng Nghymru: Argymhell ar gyfer Cydnabyddiaeth
15 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gydnabod pedwar safle Naturfa newydd a dau safle ar Lwybr Naturfa yng Nghymru.
Stondin UKREiiF 2027
14 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar wariant sy'n ymwneud â mynychu digwyddiad cynhadledd.
Y Gronfa Tai gyda Gofal – Cynigion Prosiectau 2026 i 2027
14 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo £4,858,683 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai gyda Gofal ar gyfer saith prosiect ar draws pedwar rhanbarth yng Nghymru.
Rhaglen Hyfforddi a Chymorth – Ariannu Cymwysterau Gwaith Chwarae
14 Hydref 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i fwrw ymlaen â chaffael contract dwy flynedd newydd ar gyfer cyflwyno cymwysterau gwaith chwarae.
Safonau Newydd
14 Hydref 2026
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol a’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo'r Safonau Newydd i ymgorffori ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant mewn ysgolion.
Y Pwyllgor Deddfwriaeth – Ymateb y Llywodraeth
14 Hydref 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar ymateb i adroddiad pwyllgor Deddfwriaeth y Senedd ar Fil y Lluoedd Arfog.
Cymorth buddsoddiad - Sbardun
13 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo dull profi a dysgu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a chymorth busnes dan arweiniad Banc Datblygu Cymru sy’n cyd-fynd â chymorth busnes arbenigol gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Ôl-groniad Gwaith Cynnal Digidol ac Ystadau GIG Cymru a’r gymeradwyaeth gysylltiedig
13 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer Ôl-groniad Gwaith Cynnal Digidol ac Ystadau GIG Cymru ac uwchraddio Labordy Cathetr.
Rhaglen Grant Cyfalaf VAWDASV
13 Hydref 2026
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i wahodd ceisiadau am Gyllid Cyfalaf ar gyfer 2027 i 2028 ac addasu’r terfyn uchaf ar gyfer darpar geisiadau ar gyfer eiddo i £450,000.
Understanding Society (Astudiaeth Hydredol Aelwydydd y DU)
13 Hydref 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i gyfranogiad Llywodraeth Cymru fel cyd-gyllidwr Understanding Society, Astudiaeth Hydredol Aelwydydd y DU, drwy Gytundeb Cyllid gyda Phrifysgol Essex ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2030.
Datblygu Fframwaith Cynllunio Morol Newydd
12 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gadw’r Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru cyfredol ac i ddatblygu Fframwaith Cynllunio Morol newydd i gyflawni canlyniadau drwy'r Cynllun Morol presennol a dyrannu cyllid refeniw o £131,000 yn 2026 i 2027 i gyflawni'r gwaith hwn.
Prynu Tir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch
12 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i ddarparu hyd at £2 filiwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r gwaith o gaffael tir yn llwyddiannus yn Nhywyn Niwbwrch.
Mudo a Noddfa
12 Hydref 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar ddyrannu £233,000 i gyflawni gweithgareddau Mudo a Noddfa rhwng 2026 a 2027.
Taliad am waith adfer yn SA1
8 Hydref 2026
Mae’r Gweinidogion Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, a thros Gyllid wedi cytuno i wneud taliad i Ddinas a Sir Abertawe mewn perthynas â chytundeb i fabwysiadu priffordd yn ardal SA1 Glannau Abertawe.
Gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant 3 i 4 oed – Diwygio canllawiau ar Oriau Nas Ariennir
8 Hydref 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i ddiwygio’r canllawiau ar ofal plant a ariennir ar gyfer plant 3 a 4 oed, i’w gwneud yn glir bod yna bedair wythnos fel rheol mewn blwyddyn na chânt eu hariannu, er y gall y nifer amrywio yn ôl dyddiadau tymhorau awdurdodau lleol, a’r ffordd y cyfrifir wythnosau o fewn y platfform digidol.
Cymorth buddsoddi – Uwchraddio Cymru
8 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo dull profi a dysgu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gweithredol a chymorth busnes a arweinir gan Fanc Datblygu Cymru ac sy’n cyd-fynd â chymorth busnes arbenigol a ddarperir gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mesurau amgylcheddol ar gyfer datblygiadau ynni gwynt ar y môr
8 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno ar y dull o alluogi datblygiadau ynni gwynt ar y môr a chefnogi diogelu ecosystemau morol ar yr un pryd, gan gymryd y camau nesaf i weithredu'r diwygiadau i Fesurau Iawndal Amgylcheddol yng Nghymru, gyda golwg ar gynnal ymgynghoriad ffurfiol ym mis Rhagfyr 2026.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
8 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosbau i hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
8 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu cyflwyno Ffurflen Cais Sengl 2021 yn hwyr ar ôl y dyddiad cau.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
8 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau Glastir ar gyfer blynyddoedd 2015, 2016 a 2017.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
8 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu’n ôl Contract Creu Coetir Glastir.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
8 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosbau am orddatgan ar gyfer blynyddoedd cynllun 2016, 2017, a 2018, yn dilyn Archwiliad Synhwyro o Bell / Archwiliad Tir yn 2019.
Penodi Cadeirydd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi penodi Phil Berrington am gyfnod o bedair blynedd o 1 Hydref 2026 tan 30 Medi 2030.
Aelodaeth Internet Watch Foundation
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i newid statws aelodaeth Llywodraeth Cymru o Internet Watch Foundation o aelodaeth dechnegol i annhechnegol ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2026 i 30 Medi 2027. Mae hyn yn adlewyrchu newidiadau i’r platfform gwe Hwb, sy’n golygu nad oes angen aelodaeth dechnegol bellach.
System Tracio Gwastraff yn Ddigidol: Trefniant Adran 83
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi rhoi cymeradwyaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, drwy DEFRA, i weithredu’r System Tracio Gwastraff yn Ddigidol ar ran Gweinidogion Cymru o 1 Hydref 2026.
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 ac Asesiadau Effaith Drafft ategol.
Cyllid Ychwanegol ar gyfer Centre 7
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ychwanegol o hyd at £300,000 yn 2026 i 2027 i gwblhau Cam 2 gwaith adnewyddu Centre 7.
Y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed
7 Hydref 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi cytuno i ail-benodi Moorgate Training Limited fel darparwr cyrsiau cymeradwy i ddarparu’r Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru.
Proses recriwtio agored ar gyfer cyfarwyddwr anweithredol i Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i ddechrau ymgyrch recriwtio penodiad cyhoeddus ar gyfer cyfarwyddwr anweithredol i ymuno â Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i ddechrau’r broses recriwtio ar gyfer cadeirydd newydd Pwyllgor Ymaddasu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd (PNH), ac mae wedi cymeradwyo trefniadau diwygiedig ar gyfer tâl a phresenoldeb i gyd-fynd â Chadeirydd Pwyllgor Lliniaru’r PNH.
Gwerthusiad o’r Rhaglen Prentisiaethau Iau
7 Hydref 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cytuno ar y fanyleb ar gyfer gwerthusiad o’r Rhaglen Prentisiaethau Iau. Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno ar gostau cysylltiedig y gwerthusiad.
Aelodaeth o Grŵp Defnyddwyr Premiwm UKMOD
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cytuno ar gyllid ar gyfer aelodaeth o Grŵp Defnyddwyr Premiwm UKMOD (model microefelychu trethi a budd-daliadau). Cytunodd y Gweinidog hefyd y gall swyddogion gymeradwyo gweithgarwch cysylltiedig ychwanegol hyd at gyfanswm o £15,000 (gan gynnwys TAW).
Recriwtio a Chyflog Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
7 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo ystod tâl arfaethedig o £185,000 i £195,000 ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gofal Plant
5 Hydref 2026
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i gynnal trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol i ehangu'r ddarpariaeth gofal plant yn gyflym, gan wneud y mwyaf o gyfranogiad darparwyr, a hyblygrwydd rhieni, wrth archwilio datblygu hunaniaeth newydd ar gyfer y cynnig.
Rhaglenni cyflogadwyedd
5 Hydref 2026
Cytunodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i beidio â bwrw ymlaen â'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd bresennol ac estyniad â therfyn amser i Twf Swyddi Cymru +.
Cymorth busnes
5 Hydref 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a'r Trefnydd, y Prif Chwip a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cynhyrchu Creadigol o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Darpariaeth sipsiwn a theithwyr
5 Hydref 2026
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i gyhoeddi'r Adroddiad Ymchwil ar Ddarpariaeth Teithio Dros Dro i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
Cyllid Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar
5 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cais am gyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar.
Cynllun ymchwil ar gyfer iechyd a gofal
5 Hydref 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno y dylid dechrau gwaith ffurfiol i ddatblygu Cynllun Strategol newydd ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru.
Cofrestru ysgol annibynnol
1 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi penderfynu cytuno i gais Ysgol Bethania am statws ysgol annibynnol.
Atebolrwydd GIG Cymru
1 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo cyhoeddi Fframwaith Atebolrwydd a Chymorth newydd ar gyfer GIG Cymru a ddatblygwyd mewn ymateb i ymrwymiad y cynllun 100 diwrnod cyntaf i gynnal adolygiad ar effeithiolrwydd y Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd.
Gofalwyr di-dâl
1 Hydref 2026
Cytunodd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod a'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r enw ‘Sefyllfa argyfyngus: Yr angen i fynd ati ar frys i wella cymorth i ofalwyr di-dâl’.
Penodiad i fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr).
1 Hydref 2026
Cymeradwyodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol benodiad Jennifer Taylor i rôl Aelod Cyswllt y Dysgwyr ar fwrdd Medr.
Penodiadau i'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid
1 Hydref 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i benodi Rhonwen Morris, Geraint Llŷn, Sian Alwen, Katie Crockford-Morris, Sarah Parry a Lauren Mackie yn aelodau ychwanegol i'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid (MHAG) ac ailbenodi Damien Beech, Olwen Corben, Trystan Edwards, Jeremy Evans, Ty Golding, Janet Hayward, Hugo Hutchison, Paul Keane, Julian Kennedy, Catryn Lawrence, Betsan Llwyd, Bethan Moore, Christopher Parry, Catherine Place a Nicola Williams yn aelodau.
Cenedl Heb Fwg Cymru
30 Medi 2026
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd Ataliol wedi cymeradwyo'r cyllid ar gyfer cyflwyno gweithgareddau cyfathrebu ar gyfer Cenedl Heb Fwg Cymru.
Cynllun Cymorth Ariannol Brys
30 Medi 2026
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i agor Cynllun Cymorth Ariannol Brys i gefnogi awdurdodau lleol, gan gynnwys awdurdodau tân ac achub, gyda'r costau i ymateb i'r tanau gwyllt yn ystod haf 2026.
Presenoldeb yn COP17
30 Medi 2026
Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig wedi cymeradwyo'r achos busnes i ddau swyddog o Lywodraeth Cymru fynychu COP17.
Diogelwch Adeiladau
29 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru, yn rhan o’r Gronfa Diogelwch Adeiladau, i hybu’r gwaith o osod larymau fel mesur interim i amddiffyn lesddeiliaid rhag costau sy’n gysylltiedig â systemau ‘waking watches’ costus.
Grant Cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2026
24 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Grant Cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2026.
Gwaith Diogelwch Tân yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili – Cam 2
24 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn cynnal Cam 2 y Gwaith Diogelwch Tân yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Llywodraeth Cymru
23 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda llywodraeth leol a’r cynllun cyfathrebu cysylltiedig, gan gynnwys ei lansiad yng nghynhadledd CLlLC ar 17 Medi.
Fforwm Ymgysylltu Cenedlaethol Cymru ar gyfer Preswylwyr a Lesddeiliaid
23 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar gynigion ar gyfer sefydlu Fforwm Ymgysylltu Cenedlaethol Cymru ar gyfer Preswylwyr a Lesddeiliaid.
Ymestyn cyllid y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol
23 Medi 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod a’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i roi estyniad i gyllid y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol o 1 Hydref 2026 hyd 31 Mawrth 2027.
Adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ar gladdedigaethau ac amlosgi
22 Medi 2026
Rhoddodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ei hymateb dros dro i adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ar gladdedigaethau ac amlosgi.
Ymateb Brys i Friallu’r Dŵr yn Afon Elai, Caerdydd
22 Medi 2026
Nododd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd eu bod nhw wedi darganfod briallu’r dŵr yn Afon Elai, a chytunwyd y byddai swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid yn parhau i wneud gwaith asesu a chynllunio brys, gan gynnwys y potensial i ddefnyddio Gorchymyn Rheoli Rhywogaeth Brys a dechrau cymryd mesurau rheoli priodol ym mis Medi 2026.
Parc Iechyd Llantrisant - Cam 2
22 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cymeradwyo’r cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer Hwb Arthroplasti Orthopedig Rhanbarthol y De-ddwyrain ym Mharc Iechyd Llantrisant.
Estyn gwerthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru
21 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i ddefnyddio estyniad dewisol o 16 mis i'r contract ar gyfer Gwerthusiad Ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2026 a mis Mawrth 2028, gyda gwariant wedi'i gapio ar £160,000.
Trefniadau i sicrhau parhad Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES)
21 Medi 2026
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo estyn contract WGES hyd fis Rhagfyr 2027, yn amodol ar ddarpariaeth o fewn y Gyllideb yn 2027 hyd 2028. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cymeradwyo camau i ddatblygu a chaffael trefniadau a fydd yn olynu’r WGES er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth ar ôl fis Rhagfyr 2027.
Cynllun i ailosod a darparu gofal a gynlluniwyd
17 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo'r cynllun i ailosod a darparu gofal a gynlluniwyd 2026 i 2027.
Gwaharddiadau ar Blastigau Untro
16 Medi 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig i ofyn am eithriad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, er mwyn gallu gweithredu'r gwaharddiad ar gaeadau polystyren untro ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê, bagiau cario plastig untro a chynhyrchion untro wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy yng Nghymru.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 28 Gorffennaf 2026
15 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar gyllid Cynhyrchu Creadigol o dan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 4 Awst 2026
15 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar gyllid Cynhyrchu Creadigol o dan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Cyflogadwyedd – mewnbwn academaidd
15 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo comisiynu mewnbwn academaidd allanol ar gymorth cyflogadwyedd.
Cymeradwyo cyllid ar gyfer y gyllideb Gwella Ystadegau Economaidd
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad wedi cymeradwyo gwario hyd at £1.8 miliwn o’r gyllideb Gwella Ystadegau Economaidd a’r Farchnad Lafur yn 2026 i 2027 i ymgymryd ag Arolwg Masnach Cymru, i hybu’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r Arolwg Adnoddau Teuluoedd a pharhau i weithio ar dablau Mewnbwn-Allbwn.
Adolygiad o'r strategaeth genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
10 Medi 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i adolygu adroddiad y strategaeth genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 i 2026. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno i gyflwyno strwythur llywodraethu amgen yn lle’r glasbrint presennol ar gyfer trefniadau llywodraethu a fydd yn galluogi monitro mwy effeithiol ac atebolrwydd cryfach o ran cynnydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wrth gyflawni amcanion a chamau gweithredu strategaeth genedlaethol newydd.
Nod Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
10 Medi 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i gau cynllun Nod Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
Cryfhau sicrwydd seiber Hwb
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gaffael gwasanaethau monitro a rheoli seiber newydd ar gyfer ecosystem Cwmwl Hwb i gryfhau seiberddiogelwch, canfod bygythiadau yn well, gwella’r gallu i ymateb, a sicrhau gwytnwch a diogelwch parhaus gwasanaethau a data Hwb.
Pecyn Cymorth Gweithredu Cwnsela mewn Ysgolion ac yn y Gymuned
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddiweddaru’r canllaw presennol y Pecyn Cymorth ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2026 i 2027.
Cytundeb peidio â datgelu a gwybodaeth freintiedig
10 Medi 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi cytuno ar gynnig ar gyfer cytundeb peidio â datgelu a gwybodaeth freintiedig rhwng Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Les ac Opsiwn i Brynu Eiddo yn Abertawe
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo les gydag opsiwn i brynu Tir ac Adeiladau yn Abertawe a chydsynio i is-les.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 23 Mehefin
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Gaerfyrddin.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 21 Gorffennaf
10 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i ddarparu cyllid Cynhyrchu Creadigol o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Gwaredu Eiddo ym Mhowys
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo gwaredu adeilad ym Mhowys.
Gwerthu tir ym Mharc Cybi, Caergybi
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Cybi, Caergybi.
Gwerthu tir yn y Drenewydd, Powys
9 Medi 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwerthu tir yn y Drenewydd, Powys.
Gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor
9 Medi 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor.
Fforffedu’r les yn Tŷ Harbwr, Aberystwyth, Ceredigion
9 Medi 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo fforffedu les yn Tŷ Harbwr, Aberystwyth, Ceredigion.
Canllawiau ar segura llonydd
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i ymgynghori ar ganllawiau drafft ar segura llonydd ar gyfer awdurdodau lleol.
Cyllid integreiddio ac ailgydbwyso cyfalaf
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a’r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf, o’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF), ar gyfer Plas y Bryn. Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Ataliol a Chyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid IRCF ar gyfer Cartref Preswyl i Blant Barn Farm a Chanolfan Iechyd a Llesiant Cylch Caron.
Gwerthu tir
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i werthu tir yn Sain Tathan.
Setliad gorswm tir
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar setliad gorswm a rhyddhau taliadau ar dir yng Nghaerdydd.
Penodi asiant y cyflogwr ar gyfer prosiectau eiddo
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar wariant i benodi ymgynghorwyr i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiect eiddo.
Rhaglenni addysg Cymdeithion Meddyg
9 Medi 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, ar ran y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, wedi cytuno i negodi ail flwyddyn saib ar gyfer rhaglenni addysg Cymdeithion Meddyg yng Nghymru ar gyfer carfan 2027.
Prosiectau’r Gronfa Tai â Gofal
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo £2,164,524 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer pedwar prosiect ar draws dau ranbarth yng Nghymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr ystod tâl ar gyfer ei swyddi Cyfarwyddwyr Gweithredol.
Cynllun Busnes Cymru Greadigol
9 Medi 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar gynigion ar gyfer Cynllun Busnes Cymru Greadigol 2026 i 2027.
Cofrestru ysgol annibynnol Newydd
27 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi penderfynu o dan adran 161 o Ddeddf Addysg 2002 ar 20 Awst 2026 bod cais Ysgol Clare House am statws ysgol annibynnol wedi’i gytuno.
Grŵp llywio i gefnogi sefydlu elusen Fforwm Llifogydd Cymru
27 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gyhoeddi cylch gorchwyl ar gyfer grŵp llywio a fydd yn cynorthwyo i sefydlu elusen annibynnol i gefnogi trigolion y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yng Nghymru – Fforwm Llifogydd Cymru.
Cymeradwyo cyllid – Hyrwyddwr Gofal Cymdeithasol
27 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno ar gyllid i gefnogi sefydlu rôl Hyrwyddwr Gofal Cymdeithasol o fewn Llais.
Mentrau i gryfhau’r gwaith o gyflwyno Trwyddedau Morol
27 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gynnal adolygiad o ffioedd a thaliadau trwyddedau morol ochr yn ochr â gwariant o £120,000 i gryfhau’r gwaith o gyflwyno Trwyddedau Morol.
Ymgynghori ar Reoliadau ar gyfer Dynodi Awdurdodau Diogelwch Adeiladau
27 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i ymgynghori ar reoliadau arfaethedig sydd i’w gwneud o dan adran 122(1) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026, a fydd yn dynodi tri awdurdod lleol yng Nghymru fel “awdurdod diogelwch adeiladau” at ddibenion y Ddeddf.
Ymchwil Gymdeithasol a Cyfathrebu ym maes newid Hinsawdd
25 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo gwaith i ddatblygu a chyflwyno dull gweithredu bras ar gyfer cyfathrebu ac ymchwil gymdeithasol yn 2026 i 2027 er mwyn cefnogi cynllun Cyllideb Garbon 3. Mae hefyd wedi cymeradwyo dyraniad cyllideb refeniw o £942,000 ac wedi cytuno ar yr argymhelliad ynghylch dull gweithredu’r ymgyrch.
Darpariaethau i blant nad ydynt yn yr ysgol o dan Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026
25 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i symud ymlaen â darpariaethau i blant nad ydynt yn yr ysgol o dan Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026, gan gynnwys datblygu rheoliadau a chanllawiau atodol.
Cymeradwyo Cynllun Gweithredol Hybu Cig Cymru
24 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Hybu Cig Cymru ar gyfer 2026 hyd 2027.
Penodi Comisiynydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
24 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi penodi Claire Parmenter am gyfnod o 11 mis, o 31 Gorffennaf 2026 hyd 1 Mehefin 2027.
Canllawiau ar Ddathlu a Chyfranogi
24 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddiwygio’r canllawiau ar Ddathlu a Chyfranogi er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn ogystal â hyn, bydd y gwaith ar lefel ehangach yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu adnoddau dysgu proffesiynol a chwricwlwm.
Cynllun Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer
24 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo gwerth £500,000 o wariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 hyd 2027 er mwyn gweithredu camau sy’n flaenoriaeth o dan Gynllun Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer.
Y Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno ar y dull ar gyfer cyflwyno a gweithredu’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, gan gynnwys sefydlu bwrdd ymgysylltu dan arweiniad gweinidog a datgan mai’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur fydd y dull ar gyfer cyflawni’r ddyletswydd statudol i gyhoeddi Polisi Adnoddau Cenedlaethol.
Gwahardd anfon gwastraff bioddiraddadwy i safleoedd tirlenwi
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwaith i wahardd anfon gwastraff bioddiraddadwy i safleoedd tirlenwi yng Nghymru.
Cyllid ychwanegol ar gyfer ehangu Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i ehangu Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027, i gynnwys cyrsiau ychwanegol ar gyfer busnesau a leolir yng Nghymru i wella eu perfformiad gweithredol a chynhyrchiant.
Benthyciadau Datblygu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i agor Cynllun Benthyciadau Datblygu i Landlordiaid Cymdeithasol ar gyfer 2026 i 2027, a gwahodd datganiadau o ddiddordeb.
Hawliau Pobl Anabl
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i gomisiynu gwerthusiad o Gynllun Hawliau Pobl Anabl.
Trwyddedu llety ymwelwyr
20 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i ddechrau trafodaethau gydag awdurdodau lleol am y model cyflawni cenedlaethol ar gyfer y cynllun trwyddedu llety ymwelwyr hunanddarpar.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
20 Awst 2026
Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal y Cabinet wedi cymeradwyo gwariant o £275,000 wedi'i wasgaru ar draws blynyddoedd ariannol 2027 i 2028 a 2028 i 2029 i barhau â'r gwerthusiad o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Dyraniadau polisi Cydlyniant a Chasineb
20 Awst 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar weddill y dyraniadau o'r gyllideb Cymunedau Cydlynus y cytunwyd arni yn flaenorol ar gyfer 2026 i 2027.
Gwaredu Tir/Eiddo
20 Awst 2026
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth i waredu eiddo ym Mhowys.
Comisiynu archwiliad data iechyd cynhwysfawr
20 Awst 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i sefydlu comisiwn i gynnal archwiliad data iechyd a gofal ar gyfer Cymru.
Cynnig ar gyfer astudiaeth ddilynol i lywio gwerthusiad o bolisi dileu elw
20 Awst 2026
Mae'r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod a'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno ar gyllid o hyd at £30,000 ar gyfer adolygiad dilynol o astudiaeth Delphi 2024 ar ddileu elw i gael ei ddyrannu ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Gwaredu eiddo
18 Awst 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi cytuno i waredu eiddo ym Mhowys.
Gofal plant
18 Awst 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno y gall swyddogion ddechrau cynnal yr adolygiad blynyddol o’r gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth i blant rhwng tair a phedair oed yn ystod 2026 hyd 2027.
Prosiectau Cydweithredu Môr Iwerddon
18 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno y dylai cais Datblygu Cydweithrediad Môr Iwerddon 2 gael ei gwblhau gan swyddogion a'i gyflwyno i'r rhaglen PEACEPLUS.
Darpariaeth Seren
18 Awst 2026
Mae'r Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol a’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i ddyfarnu contract cychwynnol 12 mis i Equal Education Partners i ddarparu Academi Seren.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Pwyllgor Addasu
14 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno ar estyniad i dymor cadeirydd presennol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Pwyllgor Addasu hyd at 30 Mehefin 2027.
Weips gwlyb
14 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo diwygiadau i'r canllawiau statudol sy'n cyd-fynd â Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 i gynnwys y gwaharddiad ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig ac wedi cymeradwyo hyd at £125,000 yn 2026 i 2027 ar gyfer ymgyrch gyfathrebu wedi'i thargedu i gefnogi’r gwaith o weithredu'r gwaharddiad.
Penodiadau i’r Bwrdd Pysgod Môr
14 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno ar ymgyrch Pysgod Môr 2027 i recriwtio Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a 2 aelod o'r diwydiant
Trawsnewid Trefi
14 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid yn 2026 i 2027 i gefnogi'r gwaith o barhau i ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau Trawsnewid Trefi ledled Cymru.
Cyllideb yr Uned Tir
12 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i ddefnyddio cyllidebau'r Uned Tir i barhau â'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau, caffael a pharatoi tir i'w ddatblygu, a dirprwyo penderfyniadau arferol ynghylch cyllid a thrafodion tir i swyddogion o fewn terfynau ariannol cymeradwy.
Cyfraith amaethyddol
12 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cyhoeddi ei ymateb interim i adroddiad cwmpasu Comisiwn y Gyfraith ar gyfraith amaethyddol yng Nghymru.
Grant Cymorth Tai
12 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i oedi’r ystyriaeth o newidiadau i fformiwla dosbarthu cyllid y Grant Cymorth Tai ac wedi cytuno i swyddogion barhau i adolygu opsiynau pan fydd sefyllfa’r gyllideb yn y dyfodol yn gliriach.
Cyllid Cadw
12 Awst 2026
Mae'r Trefnydd, y Prif Chwip a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i ailflaenoriaethu £1.1 miliwn o gyllid cyfalaf Cadw i gyflawni blaenoriaethau cyfredol.
Mapio sŵn
12 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno ynghylch comisiynu’r gwaith o fapio sŵn yng Nghymru.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
7 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod dau hawliad Grantiau Bach Glastir ar y sail nad oedd safon y gwaith yn bodloni'r manylebau technegol, fel yr amlinellir yng nghytundebau dŵr Grantiau Bach - Yr Amgylchedd - ffenestr 7.
Rhaglen Mamolaeth a Newyddenedigol
6 Awst 2026
Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod a'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno ar ofynion cyllido 2026 i 2027 ar gyfer y Rhaglen Mamolaeth a Newyddenedigol.
Cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau chwaraeon
6 Awst 2026
Mae'r Trefnydd, y Prif Chwip a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i ddyfarnu cyllid Digwyddiadau Cymru yn 2027 i gynnal pencampwriaeth tenis Agored Wrecsam, para-gystadleuaeth tenis bwrdd Futures International a chystadleuaeth Enduro Chwe Diwrnod Rhyngwladol.
Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo comisiynu adolygiad annibynnol o SSCE Cymru yn 2026 a chynlluniau i gryfhau'r casgliad data presennol o SSCE Cymru.
Penodi Aelod o Gymru i Fwrdd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gychwyn ymgyrch i benodi aelod o Gymru i Fwrdd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Bydd yr ymgyrch yn agor ar ddydd Mawrth 4 Awst ac yn cau ar ddydd Mawrth 1 Medi 2026.
Canol trefi
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo penodi cyd-gadeiryddion y Tasglu a'r aelodaeth arfaethedig. Cymeradwywyd hefyd gomisiynu cymorth i gefnogi'r Tasglu wrth gyflawni ei raglen waith, gan ei fod wedi'i sefydlu am gyfnod penodol.
Discover Economics
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i ddarparu £6,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027 i gefnogi rhaglen weithgareddau Discover Economics yng Nghymru. Cytunodd hefyd y gall swyddogion gymeradwyo gweithgareddau cysylltiedig ychwanegol hyd at gyfanswm o £20,000 (gan gynnwys TAW).
Fframwaith Trawsnewid Teleiechyd i Gymru
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, a'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi cytuno i ddechrau cydweithio ar Fframwaith Trawsnewid Teleiechyd i Gymru fel rhan o'r cynllun 100 diwrnod.
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027 i gefnogi'r gwaith parhaus o gynnal a darparu Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Ailbenodi aelod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi ailbenodi Rhodri Evans yn Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) am gyfnod o bedair blynedd, o 15 Tachwedd 2026 tan 14 Tachwedd 2030.
Trawsnewid Trefi
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid datblygu i gefnogi'r cam dylunio diweddaraf o brosiect ailddatblygu Canolfan Siopa’r Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ymestyn cyfnod cyflawni prosiect adfywio Siambrau’r Brenin yng Nghasnewydd tan 31 Mawrth 2027.
Gynllun Grant Perthyn
6 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i £400k i Gynllun Grant Perthyn a fydd yn agor ar 17 Awst.
Urdd Gobaith Cymru
6 Awst 2026
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddyfarnu cyllid cyfalaf gwerth £2.707 miliwn i Urdd Gobaith Cymru i gefnogi gwelliannau i’w thair canolfan breswyl.
Y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid
3 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i barhau’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid ac i estyn ei aelodaeth.
Gwrth-fwlio mewn ysgolion
3 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno ar gynlluniau i ddiweddaru deunyddiau ategol ar gyfer y canllawiau gwrth-fwlio diwygiedig ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’, gan gynnwys datblygu pecyn cymorth ymarferol, a chytunodd i swyddogion archwilio opsiynau i ehangu’r dull o gasglu data ar achosion o fwlio mewn ysgolion.
Rolau aelodau anweithredol
3 Awst 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i estyn darpariaethau rhannu swydd er mwyn hwyluso a galluogi trefniadau rhannu swydd ar gyfer rolau anweithredol mewn prif gynghorau.
Prynu eiddo
30 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cymeradwyo prynu eiddo.
Creu Lleoedd Cynaliadwy ar y cyd – Cam 2
30 Gorffennaf 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant ychwanegol i ddiweddaru canllawiau datblygu Cynaliadwy.
Diweddaru Canllawiau Bioamrywiaeth
30 Gorffennaf 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant ychwanegol i ddatblygu Canllawiau Bioamrywiaeth wedi’u diweddaru.
Dyraniad y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol
30 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno ar ddyraniad dangosol y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol ar gyfer 2026 i 2027, o £32,297,665 o refeniw a £10,529,543 o gyfalaf ar gyfer rhaglenni digidol cenedlaethol.
Penodi Aelodau Bwrdd Athrofa Dysgu Cymraeg
29 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddechrau proses i benodi aelodau ar gyfer Bwrdd yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 23 Gorffennaf 2026.
Agor ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer cynlluniau grant cyfalaf sectorol lleol
29 Gorffennaf 2026
Mae’r Trefnydd, Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i gychwyn cylch Cynllun Grant Cyfalaf Gweddnewid 2027 i 2029, a neilltuo arian ar gyfer grantiau cyfalaf bach ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai ar gyfer 2026 i 2027.
Comisiynu ymchwil i ddiwygio fformiwla dyrannu swm craidd y GMS
29 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i gomisiynu ymchwil gymalog i ddiwygio fformwla dyrannu Swm Craidd y GMS, sefydlu grŵp llywio ymchwil ffurfiol ac ymateb i argymhelliad yr hen Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cadarnhau ymrwymiad ac amserlenni Llywodraeth Cymru.
Cefnogi gwneud gwaith hanfodol ar bolisi hedfanaeth a’r môr
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet ar gyfer Menter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar gyllid gwerth hyd at £73,000, gan gynnwys TAW, i gomisiynu cyngor cyfreithiol a thechnegol arbenigol i barhau i gefnogi gwaith hanfodol ar bolisi hedfanaeth a’r môr.
Canllawiau statudol ar baratoi a gweithredu strategaethau VAWDASV
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar ddatblygu canllawiau statudol terfynol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar baratoi a gweithredu strategaethau VAWDASV.
Ymgynghori â Medr ynghylch Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Gwasanaethau Gyrfaoedd
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad statudol gyda Medr ynghylch blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru ar gyfer gwasanaethau gyrfaoedd ym Blwyddyn Ariannol 2027 i 2028.
Llythyr Cylch Gwaith dros dro Trafnidiaeth Cymru a Llythyr Cylch Gwaith y Cadeirydd
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi cymeradwyo’r Llythyr Cylch Gwaith dros dro a Llythyr Cylch Gwaith y Cadeirydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, gan nodi’r prif flaenoriaethau, amcanion a disgwyliadau llywodraethu ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cyllid ar gyfer WorldSkills
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cymeradwyo cyllid gwerth £50,000 i gynnal ymgyrch WorldSkills 2026 i 2027 yng Nghymru.
Cyllid Cyfalaf ar gyfer VAWDASV 2026 i 2027 – dyraniad pellach
28 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Prif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar wyriad eithriadol i’r broses cyllid cyfalaf ar gyfer VAWDASV, ac wedi cymeradwyo cyllid gwerth £148,424 ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin.
Mae Casineb yn Brifo Cymru
27 Gorffennaf 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i ymestyn darpariaeth Mae Casineb yn Brifo Cymru tan 31 Mawrth 2027 a bod swyddogion yn dechrau gweithio i gaffael cyflenwr i ddarparu gwasanaeth olynol o 1 Ebrill 2027.
Canolfan Cymorth Casineb Cymru
27 Gorffennaf 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i sicrhau cyllid cynaliadwy i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru ar gyfer 2026 i 2027 a bod swyddogion yn dechrau gweithio i gaffael cyflenwr i ddarparu gwasanaeth olynol o 1 Ebrill 2027.
Gwasanaethau cynghori
27 Gorffennaf 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau dyled a manteisio i'r eithaf ar incwm yn ystod 2026 i 2029.
Cynorthwyo myfyrwyr yn Gaza i ymgymryd ag ysgoloriaethau a ariennir yn llawn yn y DU
27 Gorffennaf 2026
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cytuno i gefnogi cynllun Llywodraeth y DU rhwng 2026 a 2027 i alluogi myfyrwyr yn Gaza sydd â lleoedd ysgoloriaeth wedi'u hariannu'n llawn mewn prifysgolion yn y DU i deithio i'r DU a dechrau eu hastudiaethau.
Canllawiau diogelwch ar-lein i ysgolion yng Nghymru
27 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid rhwng 2026 a 2027 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu canllawiau diogelwch ar-lein anstatudol newydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru ac bennu cwmpas rhaglen waith i gynorthwyo i’w rhoi ar waith yn ysgolion Cymru.
Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy: Achos Busnes – Mehefin 2026
27 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn ar gyfer prosiect Buarth y Capel yn Rhondda Cynon Taf.
Cyflawni ymrwymiad y 100 Diwrnod Cyntaf ar adolygu fformiwla cyllido llywodraeth leol
27 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gyflawni ymrwymiad 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru ar fformiwla ariannu llywodraeth leol drwy'r rhaglen adolygu bresennol, ochr yn ochr â chomisiynu gwaith pellach ar ddulliau ehangach o ddosbarthu cyllid a'r egwyddorion sy'n sail iddynt.
Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu
23 Gorffennaf 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i wahodd aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu i ymestyn eu penodiadau a dechrau recriwtio i lenwi rolau gwag ar y Pwyllgor.
Ailbenodi Cadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi ailbenodi Ruth Glazzard am 4 blynedd, o 18 Hydref 2026 i 17 Hydref 2030.
Dogfennau canllaw ar Sipsiwn a Theithwyr
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar gyhoeddi’r pedair ddogfen ganllaw ddiwygiedig i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, cynllunio safleoedd, rheoli safleoedd ac ymateb i wersylloedd diawdurdod.
Cyllideb Amlflwydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i glustnodi £340 miliwn o’r gyllideb amaethyddiaeth yn flynyddol ar gyfer y tair (3) blynedd nesaf (hyd at ddiwedd Blwyddyn Ariannol 2029 i 2030) i ddarparu cylch cyllid amlflwydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. At hynny, nodwyd £238 miliwn ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol cyffredinol/etifeddol y Cynllunio Ffermio Cynaliadwy. Bydd y penderfyniad yn cael ei rannu yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar 20 Gorffennaf 2026.
Categorïau Dewisol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i agor Categorïau Dewisol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gydol 2026 ac ymlaen i 2027.
Ailbenodi Aelod Cyswllt (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cytuno i ailbenodi Fôn Roberts yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfnod o chwe mis, sef rhwng 29 Gorffennaf 2026 a 8 Ionawr 2027.
Galw cais i mewn
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi penderfynu galw cais cynllunio i mewn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer gosodiad radar yn Sir Benfro, i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad yn ei gylch.
Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod a’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynigion o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso ar gyfer Cynigion Dileu yn y Gorllewin.
Cymorth llesiant ac iechyd meddwl ychwanegol i ddysgwyr
23 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo’r cais am gyllid gan awdurdod lleol Sir Benfro ar gyfer Ysgol Aberdaugleddau a chan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin ar gyfer Ysgol Dyffryn Aman.
Y Cynllun Benthyca Tir ar gyfer Tai – Dyfarniadau’r Cynllun Benthyca
21 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo’r gwaith o ddyfarnu benthyciadau i’r tri chais llwyddiannus sy’n weddill o’r Cynllun Tir ar gyfer Tai 2025 i 2026.
Castell Caerffili – adnewyddu’r pontydd Cyhoeddus
21 Gorffennaf 2026
Mae’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon a’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cytuno ar y gwaith i ailosod tair pont gyhoeddus ar draws ffosydd a thrwy borthdai mynedfeydd dwyreiniol Castell Caerffili.
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
21 Gorffennaf 2026
Mae’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a Cadw, a’i lofnodi.
Amrywio Dyfarniad Grant Caerdydd
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i amrywio dyfarniad grant i Gyngor Dinas Caerdydd er mwyn i ddeunyddiau a brynwyd ar gyfer cynllun penodol, wedi wedi’i atal dros dro, allu cael eu defnyddio ar gynlluniau datgarboneiddio amgen, gyda’r holl ddeunyddiau i gael eu defnyddio erbyn 31 Rhagfyr 2028.
Recriwtio Aelod Bwrdd Cyswllt y Dysgwr i Medr
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cytuno i ddechrau ymarfer recriwtio i benodi Aelod Bwrdd Cyswllt y Dysgwr i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr).
Dechrau cyflwyno’r fenter Milltir y Dydd/Milltir Actif mewn ysgolion
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cymeradwyo cyflwyno rhaglen iechyd ataliol mewn ysgolion, ac yn benodol y fenter Milltir y Dydd sy’n un o flaenoriaethau’r cynllun 100 diwrnod.
Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Caffael yn y sector Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i gaffael contract chwe mis ar gyfer gwasanaethau darparu ymwrthedd gwrthficrobaidd yn canolbwyntio ar y sector ceffylau ac anifeiliaid anwes ac i ddyrannu £200,000 i £225,000 o gyllid refeniw o Gyllideb Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27.
Archwiliad o Gyfleusterau Chwaraeon
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i gomisiynu Chwaraeon Cymru i gynnal archwiliad ac ymarfer casglu data ar gyfer pob cyfleuster chwaraeon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru.
Cytundeb adran 83 Deddf Llywodraeth Cymru gyda’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
20 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i swyddogion lofnodi cytundeb adran 83 newydd rhwng Gweinidogion Cymru a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur i sicrhau parhad yn narpariaeth y gwaith i gefnogi gweithrediad a datblygiad targed rhwng 2026 a 2028, ac mae wedi cymeradwyo’r costau refeniw sy’n gysylltiedig â darparu’r gwaith hwn hyd at £332,000, i’w ariannu gan Bioamrywiaeth a Thystiolaeth rhwng 2026 a 2027.
Cynllun gwaith arfaethedig 2026 i 2027 rhaglen Arloesi er Budd yr Hinsawdd
16 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cymeradwyo Rhaglen Waith arfaethedig 2026 i 2027 Arloesi er Budd yr Hinsawdd.
Dyfarniadau grant cyfalaf 2026 i 2027 ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol
16 Gorffennaf 2026
Mae’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i godi’r embargo a chaniatáu i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol llwyddiannus gyhoeddi eu dyfarniadau grant cyfalaf ar gyfer 2026 i 2027.
Rhaglen Waith – Diogelu mewn Addysg
16 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol a’r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cytuno i adolygu systemau llywodraethiant diogelu ar draws lleoliadau addysg, ffydd a chwaraeon, ac i ddiwygio canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a chanllawiau Ymdrin â Honiadau o Gam-drin yn erbyn Athrawon a Staff Eraill. Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg hefyd wedi cytuno ar y pecyn cyllid i Wynedd ar gyfer 2026 i 2027, a 2027 i 2028, ac ar gyfer parhau i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb cysylltiedig.
Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) – cynllunio ar gyfer Gweithredu
15 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar yr amserlen ddangosol ar gyfer gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 a'r dull o ddarparu cyllid trosiannol i awdurdodau lleol sy'n gweithio tuag at weithredu'r Ddeddf.
Cynlluniau Cyllido Pysgodfeydd Cymru 2026 i 2027
15 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno bod y 118 o geisiadau i Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru a basiodd asesiad cam un yn cael eu symud ymlaen i gam dau, gan dderbyn gorymrwymiad wedi'i reoli ar y cam hwn, a bod dau brosiect arall ar gyfer Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn cael eu cymeradwyo, gan nodi gorymrwymiad.
Cynnydd i Gyfraddau Lwfans Milltiredd Cymeradwy Cyfoeth Naturiol Cymru
15 Gorffennaf 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu cynnydd yn ei gyfradd filltiredd busnes o 6 Ebrill 2026, yn unol â chyfraddau diwygiedig Taliadau Lwfans Milltiredd Cymeradwy Cyllid a Thollau EF.
Ymyrraeth yn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
15 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno y dylai'r ymyrraeth yn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru barhau ar waith tan ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2027 ac y dylid datblygu rôl ar gyfer aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub, gyda'r nod o ddatblygu trefniadau ac amodau a fydd yn darparu ar gyfer pontio llyfn ac effeithiol allan o'r ymyrraeth maes o law. Mae hefyd wedi cytuno y dylid penodi Comisiynydd newydd yn lle Carl Foulkes a fydd yn gadael y rôl honno ar 31 Gorffennaf, ac y dylid cyfarwyddo cyfreithwyr i ddiwygio Cyfarwyddydau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (Arfer Swyddogaethau) (Cymru) 2024 i adlewyrchu'r newid hwn (SLR-1022). Yn ogystal, mae’r Gweinidog Cabinet wedi cytuno ar gyllid o £3,000 ar gyfer cyngor annibynnol gan Brifysgol Caerdydd ar opsiynau i liniaru'r risg o bontio aneffeithiol, a £3,562 i dalu’r costau terfynol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu disgrifiadau rôl gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer aelodau newydd a phecyn hyfforddi a datblygu.
Sefydlu Partneriaeth Gyflawni ar gyfer Diwygio Digartrefedd
14 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i sefydlu Partneriaeth Gyflawni Genedlaethol ar gyfer Diwygio Digartrefedd. Bydd y Bartneriaeth yn cynnig llwyfan ar gyfer ymgysylltu ag awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni eraill er mwyn cefnogi rhoi Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 ar waith.
Cyllid Trawsnewid Trefi
14 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo agor galwad am geisiadau am gyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi ar gyfer 2026 i 2027.
Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer Cynlluniau Diwylliannol Llywodraeth y DU
14 Gorffennaf 2026
Mae'r Trefnydd, y Prif Chwip a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i ddirprwyo awdurdod i'r Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant i ystyried unrhyw argymhellion gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ynghylch caffael eitemau yng Nghymru.
Darparu tai cymdeithasol erbyn 2030
14 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar y diffiniad ar gyfer y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2030.
Rheoli Portffolio Eiddo Menter Llywodraeth Cymru
14 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo dirprwyo awdurdod ar gyfer trafodion eiddo a gwariant arferol.
Cynllun grant beicio
13 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer seilwaith beicio trwy gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig ar gyfer 2026 i 2027 a 2027 i 2028.
Croeso i Bawb
13 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynllun grantiau bach i gefnogi gwelliannau hygyrchedd mewn busnesau twristiaeth a lletygarwch yn 2026 i 2027.
Panel Cynghori Arbenigol
13 Gorffennaf 2026
Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno ar y camau nesaf o ran sefydlu'r panel cynghori arbenigol ar gyfer asiantaeth datblygu cenedlaethol newydd, gan gynnwys penodi'r ymgeisydd a ffefrir fel Cadeirydd.
Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu: Achos Busnes – Mai 2026
13 Gorffennaf 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer Hwb Sgiliau a Galwedigaethol Cyn-16 Castell-nedd Port Talbot (Uned Cyfeirio Disgyblion Trefelin).
Cod Ymarfer Rhan 6 a Chod y Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig
9 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad cryno ar God Ymarfer Rhan 6 a Chod y Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.
Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf
9 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu cymorth fel y gall holl gynlluniau cymwys Bwyd a Hwyl Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf redeg dros Haf 2026.
Cyllid Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) Cymru
9 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cytuno i barhau i ariannu BASW Cymru er mwyn iddynt gynnal Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol sy’n arbenigo mewn materion sy’n ymwneud â hil er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Maen nhw hefyd wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £110,000 ar gyfer y cyfnod 2026 i 2027.
Cyllid Trawsnewid Trefi
8 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i gefnogi'r gwaith o ddymchwel ac ailddatblygu Parc y Brodyr Llwydion, Caerfyrddin.
Monitor Tai Cymru 2026
8 Gorffennaf 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gyllid gael ei ddyfarnu i Sefydliad Tai Siartredig Cymru i gyd-gynhyrchu Monitor Tai Cymru 2026.
Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid y Weinyddiaeth Gyfiawnder yng Nghymru
8 Gorffennaf 2026
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i roi cydsyniad i Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ), at ddibenion gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, gael ei glustnodi. Mae natur y cydsyniad wedi'i gyfyngu ar gyfer 2026 i 2027 yn unig.
Grŵp Sicrwydd Gweinidogol – Gwynedd
7 Gorffennaf 2026
Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi cytuno i barhau â Grŵp Sicrwydd Gweinidogol Gwynedd ac wedi nodi y dylai’r Grŵp hwn ehangu ei drafodaethau er mwyn ystyried sut y gall Gwynedd fynd ati’n strategol i weithredu gweithdrefnau diogelu ar draws gwasanaethau addysg.
Cynllun Gweithedu Cymru Wrth-Hiliol
7 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i gynnal adolygiad ysgafn o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac i gynnal y Grŵp Atebolrwydd Allanol, ar y cyd ag adolygiad o’i drefniadau llywodraethu.
Cyllid ar gyfer Ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion 2026
7 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cymeradwyo gwerth £48,000 o gyllid ar gyfer cynnal ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion 2026 a hefyd £2,000 i werthuso Wythnos Addysg Oedolion 2026.
Sefydliad Arbenigol Annibynnol Ôl-16
7 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cymeradwyo cais gan un Sefydliad Arbenigol Annibynnol Ôl-16 i’w gynnwys ar y rhestr wedi’i gyhoeddi o Sefydliadau Arbenigol Ôl-16.
Sefydliadau Arbenigol Annibynnol Ôl-16
7 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi gwrthod cais gan Sefydliad Arbenigol Annibynnol Ôl-16 i’w gynnwys ar y rhestr wedi’[i gyhoeddi o Sefydliadau Arbenigol Ôl-16.
Dyfarniad Cyflog Barnwrol
6 Gorffennaf 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi awdurdodi dyfarniad cyflog o 3.5% ar gyfer 2026 i 2027 i bob aelod o Dribiwnlysoedd Cymru. Mae’r dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i Ebrill 2026.
Fframwaith Gwydnwch Cymru
6 Gorffennaf 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i gadw Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni ac wedi cytuno ar set o gamau gweithredu i wella gwydnwch Cymru ymhellach, gan gynnwys creu panel cynghori annibynnol ar wydnwch. Yn ogystal, cytunodd i gynnal cyfarfod Cabinet blynyddol pwrpasol ar wydnwch, gwell gwydnwch seiber, gan weithio gyda Llywodraeth y DU er lles Cymru ac ymgysylltu ag uwch arweinwyr Fforwm Gwydnwch Cymru i gadarnhau ymrwymiad y llywodraeth i gryfhau gwydnwch Cymru.
Cyfraniad i Bwyllgor Argyfwng Trychinebau - Apêl Daeargryn Venezuela
6 Gorffennaf 2026
Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi £50,000 i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ar gyfer eu Hapêl Daeargryn Venezuela a lansiwyd ar 1 Gorffennaf 2026.
Llythyr Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lywyddiaethol Osaka
6 Gorffennaf 2026
Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth Cymru lofnodi Llythyr Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Lywyddiaethol Osaka a fydd yn annog mwy o gydweithredu a phartneriaeth ym meysydd Gwyddorau Bywyd, Ynni Glân, busnesau newydd ac Effeithlonrwydd Ynni.
Ymgyrch Recriwtio Addysgu Cymru: Haf 2026
1 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gefnogi parhad yr ymgyrch Addysgu Cymru bresennol yn ystod yr haf.
Adolygu argaeledd band eang cyflym iawn dros Gymru
1 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i ddechrau adolygiad marchnad agored o argaeledd band eang cyflym iawn dros Gymru.
Ymyrraeth Lefel 5 Dan Gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
1 Gorffennaf 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo ymyrraeth lefel 5 dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys rhagor o gymorth i wneud gwelliannau gweithredol a sefydlu grŵp arbenigol i oruchwylio adolygiad o ansawdd y gofal, yr arweinyddiaeth, y llywodraethiant a’r diwylliant.
Ymchwil i ofalwyr ifanc mewn Addysg
30 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gomisiynu ymchwil bellach i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar ofalwyr ifanc mewn addysg, gan adeiladu ar ddadansoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o ran data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), gan gynnwys dadansoddiad o ddata dienw am ganlyniadau addysgol a gwaith archwilio i lywio dulliau o gasglu data yn y tymor hirach.
Dyfarniad grant Cymru Ystwyth
30 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i anfon llythyrau dyfarnu grant Cymru Ystwyth at randdeiliaid.
Cymeradwyo cyllid ar gyfer Arolwg Tai Cymru
30 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid hyd at £3.5 miliwn, wedi ei broffilio ar draws tair blwyddyn ariannol, ar gyfer cynnal Arolwg o Dai yng Nghymru yn 2027 i 2028. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cymeradwyo £50,369 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu elfennau tlodi tanwydd yr Arolwg Tai ar gyfer 2027 i 2028. Bydd y gost hon yn berthnasol i 2026 i 2027.
Y Rhaglen Brechu yn erbyn COVID-19 a’r Rhaglen Genedlaethol Imiwneiddio rhag y Ffliw
30 Mehefin 2026
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi cytuno i gyhoeddi cyfarwyddiadau deddfwriaethol sydd wedi’u diweddaru a manyleb gwasanaeth ar gyfer y Rhaglen brechu yn erbyn COVID-19, ynghyd â’r cyfarwyddiadau diwygio deddfwriaethol ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol Imiwneiddio rhag y Ffliw o hydref 2026.
Cyllid ar gyfer Ymgyrch Canlyniadau 2026
30 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cymeradwyo £50,000 i gynnal ymgyrch gyfathrebu ar y cyd â Gofalwyr Cymru yn ystod cyfnod canlyniadau’r haf i gefnogi pobl ifanc ar adeg bontio gritigol.
Benthyciadau’r Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol i Amgueddfa Cymru
30 Mehefin 2026
Mae’r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi cytuno i barhau â’r broses o indemnio casgliadau sydd ar fenthyg oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol i sefydliadau cenedlaethol Cymru, megis Amgueddfa Cymru, drwy ymrwymiad, hyd at y gwerth yr eitemau y cytunwyd arno o fewn y terfyn indemnio uchaf cytûn, minws y £25,000.00 cyntaf, i’w nodi yn yr Ymrwymiad. Bydd unrhyw geisiadau am ymrwymiadau newydd yn cael eu hystyried fesul cais.
Rhaglen Gyflenwi Sector Cyhoeddus
29 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i roi £38.7 miliwn i brosiectau a rhaglen ar gyfer datgarboneiddio’r sector cyhoeddus yn 2026 i 2027.
Strategaeth Gyllid Gynaliadwy
29 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cytuno i ddatblygu Strategaeth Gyllid Gynaliadwy ac ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid dros fisoedd yr haf, gyda’r bwriad o gynnal ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref (yn unol â COP17).
Trefniant Llywodraethu
29 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cytuno i ddiweddaru’r trefniant llywodraethu mewn perthynas â chwmni sy’n eiddo’n rhannol i Weinidogion Cymru.
Cymorth ar gyfer addysg i ddysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
25 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i gyhoeddi’r ddogfen Cynlluniau Addysg Personol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: canllawiau i ymarferwyr ochr yn ochr ag astudiaethau achos cysylltiedig, yr asesiad o’r effaith ar hawliau plant, ac adrannau 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig.
Mapio Sgiliau Sylfaenol Oedolion – Penderfyniad i Fwrw Ati
24 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol wedi cytuno i barhau gyda chontract y Sefydliad Dysgu a Gwaith i gwblhau’r gwaith modelu a mapio lefelau amcangyfrifedig sgiliau sylfaenol oedolion ledled Cymru.
Y cynllun cychwyn ar gyfer Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
24 Mehefin 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar y cynllun i ddwyn y Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i rym, gan gynnwys y dull cychwyn, yr amserlen arfaethedig sy’n nodi pryd y bydd y gwahanol ddarpariaethau yn dod i rym, a’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer awdurdodau lleol yn y cyfnod cyn y bydd Cam 1 y Ddeddf yn dod i rym.
Cymorth Tanwydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy’n Byw ar Safle
23 Mehefin 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno ar gyllid i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd sydd â chostau ynni. Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol a’r Sefydliad Banc Tanwydd yn ystod y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2026
22 Mehefin 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i gynnal cynhadledd flynyddol Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2026.
Cronfa Rhwydweithiau Natur
22 Mehefin 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig wedi cytuno i barhau â'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur ar gyfer 2026 i 2027 ac i ddyrannu £10.398 miliwn i alluogi Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i barhau i ddarparu'r Gronfa Rhwydweithiau Natur ac i agor y ffenestr nesaf erbyn 9 Gorffennaf.
Caffael Dadansoddiad Cost a Budd Targedau Bioamrywiaeth
22 Mehefin 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig wedi cymeradwyo caffael y Theori Newid a'r Dadansoddiad Cost a Budd i gefnogi'r is-ddeddfwriaeth ar gyfer targedau bioamrywiaeth a dyrannu £200,000 i gefnogi'r dadansoddiad cost a budd i gefnogi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Cyllid ar adroddiad ar ymestyn y fasnachfraint yng Nghymru
18 Mehefin 2026
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid i gomisiynu ymchwil a chynhyrchu adroddiad i Weinidogion Cymru ar ymestyn y fasnachfraint yng Nghymru a'r newid i gymhwyster ar gyfer aelodaeth o'r Senedd.
Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth
18 Mehefin 2026
Mae Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gynnydd i'r cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth o fis Medi 2026 ymlaen.
Tlodi Plant
17 Mehefin 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i ariannu sylw manylach i Gymru yn yr Astudiaeth Hydredol Rhieni a Gofalwyr am Dlodi Plant, sydd o dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Penodi Cadeirydd adolygiad annibynnol o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol
17 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi penodi Mr John Davies, drwy benodiad uniongyrchol gan weinidog, fel Cadeirydd adolygiad annibynnol i faich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol, am gyfnod o naw mis hyd at 31 Mawrth 2027.
Cenhadaeth cynhyrchiant
15 June 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi cymeradwyo mabwysiadu cenhadaeth cynhyrchiant genedlaethol i haneru’r bwlch cynhyrchiant gyda’r DU o fewn deng mlynedd, gan ei sefydlu fel blaenoriaeth draw-lywodraethol ganolog, a bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu metrigau i’w chefnogi, cerrig milltir, a threfniadau monitro.
Rhaglen Heddlu ac Ysgolion
15 June 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu £1,000,000 yn 2026 i 2027 i gefnogi cydweithrediad newydd rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar llu’r heddlu yng Nghymru. Y nod yw hwyluso a chryfhau gweithio ar y cyd gyda phob un o’r pedwar llu, y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Awdurdodau Lleol, ac ysgolion yng Nghymru, a thrwy hynny gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc.
Cyweirio Diffygion mewn Diogelwch Adeiladau
11 Mehefin 2026
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y rheoliadau ar gyfer cyweirio diffygion mewn diogelwch adeiladau a phennu uchder adeiladau a nifer y lloriau.
Ehangu Grŵp Llywio Arbenigol ar gyfer Gofal Plant
9 Mehefin 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi cytuno i greu Grŵp Llywio Arbenigol i gefnogi’r gwaith o ehangu’r ddarpariaeth gofal plant i blant 9 mis oes i 4 oed yn ystod tymor y Senedd hon.
