Trosolwg o Deddf Addysg (Cymru) 2014, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;
- cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc
- rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys:
- rhwymedigaeth personau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol
- y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig
- rhannu gwybodaeth am bobl gofrestredig
- pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru
- amserau sesiynau ysgolion
- penodi personau i Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin at bob diben fel arferadwy gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru
Mae’r Deddf Addysg (Cymru) 2014: Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 45 i 47 a 49 i 51 i rym ar 12 Mai 2014, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 50(1).
Daeth adran 42 hefyd i rym ar y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond yn unol ag adran 50(2).
Daeth paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014 ar legislation.gov.uk
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cafodd y Bil yma ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf 2013 gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 25 Mawrth 2014.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014.
