Trosolwg o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sef y corff rheoleiddio annibynnol sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru gan ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae addysg drydyddol yn ymgorffori pob ffurf ar addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a’r chweched dosbarth.
Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth arall ynghylch addysg drydyddol, gan gynnwys:
- cofrestru a rheoleiddio darparwyr
- sicrhau cyllid
- prentisiaethau
- diogelu dysgwyr, cwynion ac ymgysylltu
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 143 i 146 a 148 i 149 o'r Ddeddf i rym ar 9 Medi 2022, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 148(1). Mae adran 148(2) yn darparu bod darpariaethau eraill o'r Ddeddf yn dod i rym pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:
Mae'r gorchmynion canlynol wedi'u gwneud:
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 7, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2026 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 7, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2026: Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 6) 2025 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 3) 2023 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 1) 2022 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 1 Tachwedd 2021, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022.
