Trosolwg o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- cynlluniau ffioedd a mynediad sydd i’w llunio gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sydd hefyd yn elusennau. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y mae’r cynllun i’w gynnwys a’r terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau cymwys, methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu ofynion eraill, dilysrwydd contractau penodol a’r ffordd y caiff cynlluniau eu monitro
- asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad. Mae hyn yn cynnwys y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu a’r camau y caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) eu cymryd os yw ansawdd yr addysg yn annigonol
- llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â’r ffordd y mae sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn trefnu ac yn rheoli eu materion ariannol. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â’r cod a’r pwerau sydd ar gael i’w fonitro, neu os ydynt yn methu â chydymffurfio ag ef
- yr amgylchiadau y caiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun a’r amgylchiadau y mae’n rhaid iddo, neu y caiff, dynnu ei gymeradwyaeth yn ôl
Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaethau o natur weithdrefnol, atodol a chyffredinol mewn perthynas â swyddogaethau CCAUC.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth Rhan 1, adrannau 55 i 57, adran 58(3) a (4) ac adrannau 59 a 60 i rym ar 12 Mawrth 2015 yn unol ag adran 59(1) o’r Ddeddf.
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae’r gorchmynion canlynol wedi’u gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn canlynol:
The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 ar legislation.gov.uk
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 19 Mai 2014 gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 27 Ionawr 2015.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2015.
