Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth flaenorol yn ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Caiff cynllun statudol newydd, o’r enw ‘cynllun datblygu unigol’ ei gyflwyno yn lle’r cynlluniau addysg statudol ac anstatudol blaenorol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dod o dan y Ddeddf. Rhoddir hawl i blant a phobl ifanc, a’u rhieni, apelio mewn cysylltiad â’r cynllun statudol newydd hwn i Dribiwnlys Addysg Cymru

Dyma’r enw newydd ar Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, sy’n cael ei ddisodli ganddo. 

Ochr yn ochr â’r Ddeddf ceir cod ymarfer ar anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cynnwys gofynion pellach ar gyfer cyrff a chanllawiau ar y ffordd y maent i arfer eu swyddogaethau, yn cynnwys sut y dylid cynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth. 

Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer categorïau penodol o blant, fel plant sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth. Mae hefyd yn manylu ar y ffordd y dylid trin personau sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr ond wedi eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu wedi eu cofrestru fel myfyrwyr mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Ceir darpariaethau hefyd yn ymwneud â’r gofyniad i hysbysu plentyn am fater neu i roi copi o ddogfen i blentyn, a’r modd y dylai plant nad ydynt yn meddu ar y galluedd i ddeall gael eu trin.

Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Ddeddf, sy’n rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Coming into force

Dod i rym

Daeth adrannau 1, 97, 98, 99, 100 a 101 i rym ar 25 Ionawr 2018, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 100(1). Daeth paragraff 5 o Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 100(2). Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 100(3):

Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

TeitlRhif (Offerynnau Statudol yn unig)Dyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 913 (Cy. 199) 22 Awst 202223 Awst 20222022 Rhif 913 (Cy. 199) : Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021 ar legislation.gov.uk    2021 Rhif 1457 (Cy. 373)      16 Rhagfyr 2021  17 Rhagfyr 2021    2021 Rhif 1457 (Cy. 373) : Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Cod Anghenion Dysgu 
Ychwanegol Cymru 2021               
Nid yw'n berthnasolNid yw'n berthnasol1 Medi 2021 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021 ar legislation.gov.uk    2021 Rhif 933 (Cy. 213)    10 Awst 2021    11 Awst 2021    2021 Rhif 933 (Cy. 213): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 ar legislation.gov.uk 2021 Rhif 861 (Cy. 200) 15 Gorffennaf 2021     1 Medi 2021   2021 Rhif 861 (Cy. 200): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (Diwrnod
Penodedig) (Cymru) 202 ar legislation.gov.uk1
2021 Rhif 414 (Cy. 134) 26 Mawrth 2021Nid yw'n berthnasolNid yw'n berthnasol
Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 ar legislation.gov.uk    2021 Rhif 406 (Cy. 132)    24 Mawrth 2021     1 Medi 2021 2021 Rhif 406 (Cy. 132): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol) (Cymru) 2020 ar legislation.gov.uk
 
2020 Rhif 1367 (Cy. 303)26 Tachwedd 2020 4 Ionawr 20212020 Rhif 1367 (Cy. 303): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 ar legislation.gov.uk2020 Rhif 1351 (Cy. 299)25 Tachwedd 20204 Ionawr 20212020 Rhif 1351 (Cy. 299): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 ar legislation.gov.uk  2019 Rhif 794 (Cy. 148)       3 Ebrill 2019 

10 Ebrill 
2019 

Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y mae adran 91 o’r Ddeddf 
yn dod i rym.

2019 Rhif 794 (Cy. 148): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 12 Rhagfyr 2016 gan Alun Davies AS, a oedd yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.