Trosolwg o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 (‘y Ddeddf’) yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, ac yn gwneud newidiadau amrywiol i’r ffordd y caiff syrcasau ac anifeiliaid gwyllt peryglus eu trwyddedu.
Mae'r Ddeddf yn diffinio anifeiliaid gwyllt fel rhai nad ydynt yn cael eu domestigeiddio fel arfer yn Ynysoedd Prydain (at ddibenion y Ddeddf hon mae hynny’n golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw). Gwarchod lles anifeiliaid gwyllt yw’r nod, a rhwystro syrcasau rhag camfanteisio arnynt trwy wahardd y defnydd o anifeiliaid fel eliffantod, teigrod a llewod mewn syrcasau teithiol.
Byddai’r drosedd yn cael ei chyflawni gan y person sy’n weithredwr y syrcas deithiol (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf) os yw’n defnyddio anifail gwyllt fel rhan o berfformiad neu’n ei arddangos, neu’n peri neu’n caniatáu i berson arall wneud hynny. Mae person sy'n cyflawni’r drosedd honno yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy.
Nid yw’r Ddeddf yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid sydd wedi’u domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn sefyllfaoedd eraill, gan gynnwys mewn syrcasau sefydlog.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth y Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2020, yn unol ag adran 12:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2020 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Lesley Griffiths AS (oedd yn Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd) ar 8 Gorffennaf 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2020.
