Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (penodau 2 – 6).

DCRhT/1010 Dyddiad ffeilio

Y ‘dyddiad ffeilio’ yw’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflen dreth i ACC. Os bydd ffurflen dreth yn cael ei llenwi ar-lein, caiff y ffurflen ei ffeilio ar y diwrnod y caiff ei chyflwyno. Os caiff ffurflen bapur ei phostio, caiff y ffurflen ei ffeilio ar y dyddiad y mae ACC yn ei chael.

DCRhT/1020 Diwygio ffurflen dreth

Caiff y trethdalwr ddiwygio ei ffurflen dreth o fewn 12 mis i'r dyddiad ffeilio drwy roi gwybod i ACC.

Ni fydd diwygiad a wneir pan fo’r ffurflen dreth dan sylw yn destun ymholiad yn dod i rym nes i ACC ddyroddi hysbysiad cau a fydd yn dod â’r ymholiad i ben. Fodd bynnag, ni fydd y diwygiad yn dod i rym pan fydd hysbysiad cau ACC yn nodi ei fod wedi ystyried y diwygiad wrth lunio ei gasgliadau, neu fod ACC wedi dod i'r casgliad fod y diwygiad yn anghywir.

DCRhT/1030 ACC yn cywiro ffurflen dreth

Caiff ACC ddiwygio ffurflen dreth i gywiro gwall neu hepgoriad amlwg. Gallai hyn fod yn gamgymeriad gyda’r rhifau neu’n ‘wall o ran egwyddor’ fel rhoi enw cyntaf a chyfenw o chwith.

Bydd ACC yn dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr a fydd yn gweithredu unrhyw gywiriadau o’r fath. Ni chaiff ACC wneud cywiriad os oes naw mis wedi bod ers iddo gael y ffurflen dreth.

Gall y trethdalwr wrthod cywiriadau sydd wedi’u gwneud gan ACC drwy roi gwybod i ACC o fewn tri mis i ddyroddi’r cywiriad, neu drwy ddiwygio’r ffurflen dreth o fewn 12 mis i’r dyddiad ffeilio.

O ganlyniad i gywiriad, os y bydd angen talu swm ychwanegol o dreth, bydd yn rhaid i’r trethdalwr dalu hyn o fewn 30 diwrnod i ddyroddi’r hysbysiad cywiro.

DCRhT/1040 Rhoi hysbysiad ymholiad

 

Mae’n rhaid i ACC roi gwybod i’r trethdalwr os yw’n bwriadu agor ymholiad i ffurflen dreth (‘hysbysiad ymholiad’) o fewn 12 mis i’r dyddiad yr oedd ffurflen i fod i gael ei ffeilio, neu, os yn hwyrach, y diwrnod y gwnaeth ACC dderbyn y ffurflen mewn gwirionedd (‘cyfnod ymholiad’). Os bydd ffurflen dreth wedi cael ei diwygio gan y trethdalwr, bydd y cyfnod ymholiad yn lle hynny o fewn 12 mis i ddyddiad y diwygiad. o fewn 12 mis.

Caiff ACC agor ymholiad ar ôl y cyfnod ymholiad ar yr amod y caiff yr amodau canlynol eu bodloni:

  • mae’n ffurflen dreth sy’n ymwneud â thrafodiad tir
  • mae ffurflen dreth arall wedi cael ei llenwi sy’n ymwneud â’r un trafodiad tir
  • mae ACC wedi agor ymholiad i’r ffurflen dreth arall
  • mae ACC yn credu bod angen agor ymholiad i’r ffurflen dreth flaenorol

Ni cheir agor ymholiad os yw'r ffurflen dreth eisoes wedi bod yn destun ymholiad blaenorol. Fodd bynnag, os bydd ACC yn dod ag ymholiad i ben a bod y trethdalwr yn diwygio’r ffurflen dreth ar ôl hynny, caiff ACC ddyroddi hysbysiad ymholiad pellach ond bydd yr ymchwiliad hwn yn gyfyngedig i faterion sy'n ymwneud â'r diwygiad neu yr effeithir arnynt gan y diwygiad.

DCRhT/1050 Cwmpas ymholiadau

Gall ymholiad fod yn gysylltiedig ag unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth, sy'n ymwneud â’r canlynol:

  • p’un ai a yw’r trethdalwr yn atebol i dalu’r dreth, a
  • swm y dreth sy'n daladwy

Os yw hysbysiad ymholiad wedi cael ei ddyroddi yn dilyn diwygio ffurflen dreth, os yw ACC wedi cau ymchwiliad i'r ffurflen o'r blaen, bydd yr ymholiad newydd wedi’i gyfyngu i faterion sy’n ymwneud â'r diwygiad neu i faterion yr effeithir arnynt gan y diwygiad.

DCRhT/1060 ACC yn diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad

Os oes ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, a bod ACC yn dod i’r casgliad:

  • bod swm y dreth sy'n daladwy fel y nodir mewn ffurflen dreth hunanasesu yn is na'r hyn a ddylai fod, ac
  • oni bai fod y diffyg yn cael ei dalu'n syth, gellid colli treth ddatganoledig,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i'r trethdalwr yn diwygio’r ffurflen dreth er mwyn codi’r dreth ychwanegol. 

Os bydd cwmpas ymholiad wedi’i gyfyngu i faterion sy'n codi o ddiwygiad gan drethdalwr oherwydd bod ymholiad blaenorol i’r ffurflen dreth wreiddiol wedi cael ei wneud, yna dim ond pan fydd y diffyg yn y dreth a grybwyllir uchod yn deillio o ddiwygiad sydd wedi’i wneud gan y trethdalwr y bydd ACC yn gallu gwneud unrhyw ddiwygiad yr amgylchiadau hyn.

Mae’n rhaid i'r trethdalwr dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth (a, pan fo hynny'n berthnasol, llog) sydd i’w godi o ganlyniad i ACC yn diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad o fewn 30 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y cyhoeddodd ACC yr hysbysiad o'r diwygiad.

DCRhT/1070 Atgyfeirio at dribiwnlys yn ystod ymholiad

Pan fo ymholiad yn mynd rhagddo, gellir atgyfeirio unrhyw gwestiynau sy’n codi o’r ffurflen dreth at dribiwnlys priodol i benderfynu arnynt, ar yr amod bod ACC a’r trethdalwr yn cytuno. Gellir gwneud mwy nag un atgyfeiriad mewn perthynas ag ymholiad, a chaiff y trethdalwr dynnu atgyfeiriad yn ôl ar unrhyw adeg.

Pan fo achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo (sef cyn i ddyfarniad gael ei wneud neu os bydd atgyfeiriad wedi cael ei wneud ac nad yw wedi’i dynnu’n ôl), ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad cau ac ni all y trethdalwr wneud cais i roi hysbysiad cau.

Mae dyfarniad ynghylch mater sydd wedi cael ei gyfeirio gan y tribiwnlys yn rhwymo’r trethdalwr ac ACC yn yr un ffordd ac i’r un graddau â phenderfyniad ynglŷn â phle rhagarweiniol mewn apêl. Mae ple rhagarweiniol yn ble cyfreithiol sy’n codi mater cyfreithiol nad yw’n berthnasol i rinweddau’r achos ond os bydd yn cael ei gynnal, gallai hynny arwain at wrthod achosion (neu rannau ohonynt).

Mae’n rhaid i ACC ystyried y dyfarniad wrth ddod i gasgliad ynghylch yr ymholiad ac wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol i weithredu'r casgliadau hyn.

Efallai na fydd y cwestiwn y penderfynwyd arno yn cael ei ailagor ar apêl oni bai y penderfynwyd arno fel ple rhagarweiniol (gweler uchod) yn yr apêl honno.

DCRhT/1080 Cwblhau ymholiad

Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi ‘hysbysiad cau’ i’r trethdalwr yn datgan bod yr ymholiad wedi’i gwblhau ac yn datgan casgliadau’r ymholiad.

Mae’n rhaid i hysbysiad cau ddatgan y canlynol:

  • ym marn ACC, nid yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth; neu
  • ym marn ACC, mae angen diwygiad a bydd yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i’r ffurflen dreth er mwyn gweithredu ei gasgliadau

Os bydd hysbysiad cau sydd wedi’i ddyroddi gan ACC yn diwygio ffurflen dreth, ni all y trethdalwr ei diwygio ei hun, hyd yn oed os yw'r terfyn amser ar gyfer gwneud hynny fel arfer heb ddod i ben. Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â chasgliadau’r hysbysiad cau, mae modd iddynt ofyn am adolygiad o’r penderfyniad gan ACC neu apelio i’r tribiwnlys. Mae canllawiau llawn ar adolygiadau ac apeliadau ar gael yn DCRhT/5000.

Mae’n rhaid i’r trethdalwr dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth (a, pan fo hynny’n berthnasol, llog) sy'n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad gan ACC o fewn 30 diwrnod, sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad am y diwygiad.

Caiff y trethdalwr wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod yn rhaid i ACC roi hysbysiad cau o fewn cyfnod penodol (er enghraifft, os teimlir bod ACC yn cymryd gormod o amser i gwblhau'r ymholiad). Mae'n rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon fod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod hwnnw.

DCRhT/1090 Dyfarniadau ACC

Os bydd ACC yn credu bod y trethdalwr yn agored i dalu treth ac nad yw wedi llenwi ffurflen dreth erbyn y dyddiad ffeilio perthnasol (gweler DCRhT/1010) efallai y gwneir ‘dyfarniad ACC’ ynghylch swm y dreth y mae’n credu y dylid ei chodi.

Mae’n rhaid i ACC roi gwybod i’r trethdalwr am y dyfarniad ac mae'n rhaid iddo dalu'r dreth o fewn 30 diwrnod i ddyroddi’r hysbysiad.

Efallai na fydd ACC yn gwneud dyfarniad dros bedair blynedd ar ôl y dyddiad ffeilio perthnasol. Y dyddiad ffeilio perthnasol yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd y ffurflen.

Ffurflen dreth yn disodli dyfarniad ACC

Os yw’r trethdalwr yn cyflwyno ffurflen dreth ar ôl cael hysbysiad o ddyfarniad ACC, mae’r ffurflen yn disodli'r dyfarniad. 

Mae’n rhaid i hyn gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwyraf o’r rhain:

  • pedair blynedd ar ôl i bwerau ACC i wneud dyfarniad ddod yn arferadwy (hynny yw, y dyddiad ffeilio perthnasol), neu
  • 12 mis gan ddechrau gyda’r dyddiad y cyhoeddwyd dyfarniad ACC

Os cyflwynir ffurflen y trethdalwr tra bo achosion yn mynd rhagddynt (ond nad ydynt wedi cael eu cwblhau) i adfer unrhyw dreth sydd wedi'i chodi gan ddyfarniad ACC, yna caiff yr achosion barhau fel pe baent yn achosion ar gyfer adfer unrhyw dreth a gyfrifir drwy’r hunanasesiad sy'n ddyledus ac yn daladwy ac nad yw wedi cael ei thalu.

DCRhT/1100 Asesiadau ACC

Os yw ACC yn credu y gallai unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol fod yn berthnasol:

  • bod treth ddatganoledig y dylid bod wedi’i hasesu heb gael ei hasesu;
  • bod asesiad yn annigonol neu wedi dod yn annigonol (hynny yw, bod ACC  yn credu bod y trethdalwr yn atebol i dalu mwy o dreth nag a feddyliwyd o’r blaen); neu
  • bod unrhyw ryddhad sydd wedi'i hawlio gan y trethdalwr neu sydd wedi cael ei roi, yn ormodol neu wedi dod yn ormodol,

yna caiff ACC asesu’r swm, neu'r swm ychwanegol, o dreth y dylid ei chodi ar y trethdalwr yn ei farn ef.

Gall ACC hefyd wneud asesiad (a elwir hefyd yn ‘asesiad ACC’) yn erbyn unrhyw swm o dreth a llog cysylltiedig sydd wedi cael ei ad-dalu i'r trethdalwr (ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu). Gall ACC adfer y swm hwn fel pe bai’n dreth heb ei thalu.

DCRhT/1110 Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC

Ceir gwneud asesiad ACC yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • pan fo un o’r sefyllfaoedd a ddisgrifir yn DCRhT/1100 wedi ei hachosi’n ddiofal neu’n fwriadol gan y trethdalwr, person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr neu bartner yn yr un bartneriaeth â'r trethdalwr
  • pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad wedi dod i ben neu y cwblhaodd ymholiad i ffurflen dreth ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol fod un o’r sefyllfaoedd a grybwyllir yn DCRhT/1100 wedi codi ar sail y wybodaeth a oedd ar gael iddo ar yr adeg honno
  • mae ACC yn gwneud addasiadau yn unol â'r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi

Fodd bynnag, ni chaiff ACC wneud asesiad ACC os:

  • ydy un o’r sefyllfaoedd a ddisgrifir yn DCRhT/1100 wedi digwydd oherwydd camgymeriad mewn ffurflen dreth o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rwymedigaeth dreth, ac
  • os gwnaed y ffurflen dreth ar sail arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar yr adeg y’i dychwelwyd

Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadol

Caiff sefyllfa ei hachosi’n ‘ddiofal’ os yw’r trethdalwr yn methu cymryd gofal rhesymol i osgoi achosi’r sefyllfa honno. Bydd y trethdalwr (neu’r person sydd wedi darparu’r wybodaeth ar ei ran) hefyd yn cael ei drin fel pe bai wedi achosi sefyllfa yn ddiofal os yw’n:

  • darganfod yn nes ymlaen bod y wybodaeth a ddarparwyd yn anghywir, ac yn
  • methu cymryd camau rhesymol i roi gwybod i ACC.

Mae ‘bwriadol’ yn golygu sefyllfa sy’n digwydd oherwydd gweithred fwriadol gan y trethdalwr, person sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartner yn yr un bartneriaeth â'r trethdalwr. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd sy’n cael eu hachosi o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen sy’n cael ei rhoi i ACC gan y trethdalwr neu rywun ar ei ran.

DCRhT/1120 Terfyn amser ar gyfer asesiadau ACC

Y rheol gyffredinol yw bod ACC yn gallu gwneud asesiad ACC hyd at bedair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol (gweler DCRhT/1010). Yn gyffredinol mae’r dyddiad perthnasol yn golygu'r dyddiad ffeilio, oni bai:

  • fod ffurflen yn cael ei chyflwyno os ydy hyn ar ôl y dyddiad ffeilio, yn yr achos hwn y dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen, neu 
  • ni chafodd ffurflen dreth ei chyflwyno, yn yr achos hwn y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu y dylid fod wedi cyflwyno’r ffurflen

Fodd bynnag, os bydd ACC yn credu bod sefyllfa a ddisgrifir yn DCRhT/1100 wedi’i hachosi’n ddiofal gan y trethdalwr, person sy'n gweithredu ar ei ran neu bartner arall yn yr un bartneriaeth, gall wneud asesiad hyd at chwe blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

Os yw ACC yn credu bod sefyllfa a ddisgrifir yn DCRhT/1100 wedi’i hachosi'n fwriadol gan y trethdalwr, person sy’n gweithredu ar ei ran neu bartner yn yr un bartneriaeth, gall asesu hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

Os yw ACC yn credu bod y trethdalwr wedi cael ei ad-dalu ond na ddylai hynny fod wedi digwydd, caiff wneud asesiad ar yr amod bod hynny o fewn 12 mis i'r diwrnod y cafodd yr ad-daliad ei wneud i’r trethdalwr.

Os yw’r trethdalwr wedi marw, mae’n rhaid i asesiad ACC gael ei wneud ar y cynrychiolwyr personol o fewn pedair blynedd i ddyddiad y farwolaeth , ac ni ellir gwneud asesiad mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros chwe blynedd cyn y farwolaeth.

Os yw’r trethdalwr am wrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser sydd ganddo i wneud hynny wedi dod i ben, mae’n rhaid iddo wneud hyn drwy roi hysbysiad o adolygiad neu drwy apelio yn erbyn yr asesiad. Mae canllawiau ar adolygiadau ac apeliadau yn erbyn penderfyniadau ACC ar gael yn DCRhT/5000.

DCRhT/1130 Gweithdrefn ar gyfer gwneud asesiad

Bydd ACC yn dyroddi hysbysiad i'r trethdalwr (neu, yn achos asesiad ACC sy'n ymwneud ag ad-dalu gormod o dreth, y person a gafodd yr ad-daliad) pan fydd yn gwneud asesiad ACC.

Mae’n rhaid i’r trethdalwr dalu'r swm sy'n daladwy (gan gynnwys unrhyw gosbau a llog) o fewn 30 diwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddwyd hysbysiad asesiad ACC.

DCRhT/1140 Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel pan fo gofyn am ffurflen dreth

Pan fo gofyn i’r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth, mae’n rhaid iddo gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel i ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn. Mae cofnodion yn cynnwys cofnodion ar bapur neu gofnodion digidol a dogfennau ategol megis cyfrifon, llyfrau,  gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.

Mae'n rhaid i’r trethdalwr gadw'r cofnodion hyn tan y dyddiad perthnasol olaf a’r diwrnod y bydd ymholiad i ffurflen dreth cael ei gwblhau neu’r diwrnod y bydd cyfnod ymholiad yn dod i ben (gweler DCRhT/1080).

Y ‘dyddiad perthnasol’ yw'r hwyraf o'r canlynol: chwe blynedd o’r dyddiad ffeilio neu chwe blynedd o ddyddiad diwygiad y trethdalwr i’r ffurflen (gweler DCRhT/1020). Fel arall, gall y ‘dyddiad perthnasol’ fod yn ddyddiad cynharach a bennir gan ACC.

Mae rhagor o ganllawiau ynghylch gofynion cadw cofnodion penodol o dan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a’r Dreth Trafodiadau Tir ar gael o dan yr adrannau canllawiau perthnasol.

DCRhT/1150 Dyletswydd i gadw cofnodion trafodiadau tir a’u storio’n ddiogel pan nad oes angen ffurflen dreth

Os nad oes angen ffurflen dreth ar drafodiad tir (er enghraifft, pan nad yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy), mae’n rhaid i’r prynwr gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel tan ddiwedd y ‘dyddiad perthnasol’ er mwyn dangos nad oedd angen ffurflen dreth.

Y dyddiad perthnasol yw chweched blynedd i ddyddiad y trafodiad, oni bai bod ACC yn pennu dyddiad cynharach.