Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’) (Penodau 1 - 7).

Mae’r canllaw yn ymdrin â llog ar dreth a chosbau delir yn hwyr a threth sy’n cael ei had-dalu gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

DCRhT/4010 Llog taliadau hwyr

Bydd ACC yn codi llog ar unrhyw swm o dreth nas talwyd, gan ddechrau ar y dyddiad dechrau llog taliadau hwyr a dod i ben ar y dyddiad y caiff y swm ei dalu.

Nodir dyddiad dechrau llog taliadau hwyr ar gyfer symiau penodol o dreth yn y tabl isod:

Swm y dreth nas talwyd Dyddiad dechrau llog taliadau hwyr
Swm a ddatgenir mewn ffurflen dreth Y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth
Swm a ddatgenir mewn ffurflen dreth sy’n cael ei diwygio gan y trethdalwr (a41, DCRhT) Y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth
Swm a ddatgenir mewn hysbysiad cywiro gan ACC (a42, DCRhT) Y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth
Swm a ddatgenir mewn diwygiad i ffurflen dreth gan ACC (a45 neu a50 DCRhT) Y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth
Swm a ddatgenir mewn asesiad ACC (a54 neu a55 DCRhT) Y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth
Swm a ddatgenir mewn dyfarniad ACC (a52 DCRhT) Y diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio pan oedd yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth
 
Swm a ddatgenir mewn asesiad ACC lle nad oes ffurflen dreth (a54 neu a55 DCRhT) Y diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio pan oedd yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth
 

Gall dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes. Mae’r dyddiad talu yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm arall sy’n daladwy gan ACC.

Llog syml sy’n cael ei godi, nid adlog. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar swm y dreth nas talwyd y bydd llog taliadau hwyr yn cael ei godi, ac nid ar log taliadau hwyr sydd eisoes wedi’i godi neu wedi cronni.  Mae Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn nodi cyfraddau llog taliadau hwyr. Canran y gyfradd llog a godir bob blwyddyn am dalu treth yn hwyr yw cyfradd Banc Lloegr +2.5%.

Pan delir swm i ACC, rhaid iddo roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.

Os bydd trethdalwr yn marw cyn y daw swm yn ddyledus ac yn daladwy, ac os nad yw ysgutor y trethdalwr sydd wedi marw yn gallu talu’r swm cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu, y dyddiad dechrau llog taliadau hwyr yw’r hwyraf o’r rhain:

  • y dyddiad y byddai’r llog taliadau hwyr wedi dechrau pe na fyddai’r trethdalwr wedi marw, ac
  • y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â grant profiant neu lythyrau gweinyddu.

DCRhT/4020 Llog taliadau hwyr ar gosbau

Bydd ACC yn codi llog ar swm cosb nas talwyd o’r dyddiad yr oedd yn rhaid talu’r gosb, a hynny nes y diwrnod y mae’r swm yn cael ei dalu (mae hyn yn cynnwys diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau busnes). Gweler DCRhT/3040 am ragor o wybodaeth am ddyddiadau talu cosbau.

Mae ‘cosb nas talwyd’ yn golygu cosb nad yw wedi’i thalu’n llawn erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus.

Canran y gyfradd llog a godir bob blwyddyn am dalu cosb yn hwyr yw ffigur canran y flwyddyn cyfradd Banc Lloegr + 2.5%.

DCRhT/4030 Llog ad-daliadau

Bydd ACC yn talu llog ar unrhyw ad-daliadau:

  • treth
  • cosbau, a
  • llog (y gall fod y trethdalwr fod wedi’i dalu’n flaenorol ar y dreth neu’r cosbau).

Ym mhob achos, rhaid i unrhyw ad-daliad ymwneud â swm o drethi datganoledig neu gosbau; ni fydd ACC yn ad-dalu unrhyw symiau a dalwyd i ACC mewn camgymeriad.

Bydd llog ad-daliadau yn dechrau ar:

  • y dyddiad y gwnaeth y trethdalwr y taliad, neu
  • y dyddiad yr oedd y swm yn daladwy i ACC

pa bynnag sy’n hwyraf.

Gall yr dyddiad dechrau bod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes

Mae llog ad-daliadau yn dod i ben ar y dyddiad y mae ACC yn gwneud yr ad-daliad.

Mae Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn nodi’r cyfraddau llog ad-daliadau hwyr. Canran y gyfradd llog a ddefnyddir yw’r uchaf o:

  • 0.5% y flwyddyn, neu
  • gyfradd Banc Lloegr.

Llog syml sy’n cael ei dalu, nid adlog. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar swm y dreth, y cosbau neu’r llog (ar dreth neu gosbau) y mae llog ad-daliadau’n cael ei gyfrifo, ac nid ar log ad-daliadau sydd eisoes wedi cronni.