Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Chwefror 2012.

Cyfnod ymgynghori:
11 Tachwedd 2011 i 3 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 72 KB

PDF
72 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

This consultation document seeks views on commencing the provision within the Equality Act 2010.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r ddarpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymhorthion ategol yn rhan o’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer plant anabl.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y bydd un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gychwyn y ddyletswydd newydd sy’n ymwneud â chymhorthion ategol llunio unrhyw reoliadau dan adran 22 o Ddeddf 2010 a chynnal unrhyw ymgynghoriad ynghylch y materion hyn yng nghyswllt Cymru. Fodd bynnag mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i ymgynghori yng nghyswllt Cymru ar ran Gweinidog y DU dan adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio ymatebion ynghylch dau fater. Yn gyntaf y dyddiad y dylai’r ddyletswydd newydd ddod i rym gan gynnwys yr angen i  ystyried a oes unrhyw resymau pam na ddylai’r ddyletswydd gychwyn neu pam y dylai’r ddyletswydd gychwyn yn hwyrach na mis Medi 2012. Yn ail a fyddai rheoliadau dan adran 22 o Ddeddf 2010 yn angenrheidiol i ddiffinio’r ddyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymhorthion ategol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 89 KB

PDF
89 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.