Trosolwg o eddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (diddymwyd), ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Bwriad Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (diddymwyd) (y Ddeddf) oedd cadw cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) a oedd yn ymdrin â phynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru, wrth i’r DU ymadael â’r UE. Roedd y Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy’n ymdrin â’r pynciau hyn yn gweithio’n effeithiol ar ôl i’r DU adael yr UE.
Roedd y Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddeddfu er mwyn sicrhau bod cysondeb rheoleiddiol â’r UE yn parhau, fel bod busnesau Cymru yn dal i allu manteisio ar farchnadoedd yr UE. Roedd hefyd yn creu sefyllfa gyfreithiol ddiofyn a oedd yn golygu bod rhaid cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i Weinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllewnch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth y Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2018, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 21:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Diddymwyd y Ddeddf gan y Rheoliadau a ganlyn:
| Teitl | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 ar legislation.gov.uk | 2018 Rhif 1211 (Cy. 247) | 21 Tachwedd 2018 | 22 Tachwedd 2018 | 2018 Rhif 1211 (Cy. 247) : Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r Ddeddfwriaeth
Bil Brys gan y Llywodraeth oedd hwn, a gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2018 gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd. Bil gan y Llywodraeth yw Bil Brys, y mae angen iddo gael ei ddeddfu’n gyflymach nag y mae proses ddeddfu bedair cam arferol y Llywodraeth yn caniatáu. Nid oes diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 nac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, ond mae Rheol Sefydlog 26.95 yn datgan:
“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”
Fel yn achos holl Filiau Senedd Cymru, rhaid i Filiau Brys y Llywodraeth fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2018.
