Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn newid dyletswyddau ariannol blaenorol Byrddau Iechyd Lleol oedd yn bodoli o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae’n gwneud hyn drwy newid y gofyniad statudol blynyddol i beidio â gwario mwy na’r terfyn adnoddau, i drefn sy’n ystyried y ddyletswydd ariannol i reoli ei adnoddau o fewn terfynau cymeradwy dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Ebrill 2014 yn unol ag adran 3(2):

Is-deddfwriaeth sydd wedi gwneud o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cafodd y Bil yma ei gyflwyno ar 30 Medi 2013 gan Mark Drakeford AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Rhagfyr 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.