Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 (Deddf 2012) yn gwneud darpariaeth am y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Senedd ac o ran y ffordd y mae Comisiwn y Senedd yn cyflawni ei ddyletswyddau. (Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i ‘Senedd Cymru’ neu ‘Welsh Parliament’ ar 6 Mai 2020, yn unol â Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.)

Mae Deddf 2012 yn darparu:

  • mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Senedd
  • bod rhaid trin y ddwy iaith yn gyfartal
  • y caniateir defnyddio’r naill iaith swyddogol neu’r llall yn nhrafodion y Senedd 
  • bod rhaid i’r cofnod o’r trafodion gynnwys trawsgrifiad yn yr iaith wreiddiol ynghyd â chyfieithiad i’r iaith arall
  • bod rhaid i bob Senedd gyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol sy’n gwneud darpariaeth am bethau fel:
    • cyfieithu ar y pryd
    • cyhoeddi dogfennau yn ddwyieithog
    • cysylltiadau â’r cyhoedd
    • mesur cynnydd
    • strategaeth sgiliau iaith ar gyfer staff
  • rhaid i’r Senedd adrodd yn flynyddol ar y ffordd y mae’n cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Cynllun, ac unrhyw achosion o weithredu’n groes iddo.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2012 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Deddf 2012 i rym ar 13 Tachwedd 2012, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 3:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Rhodri Glyn Thomas, a oedd yn Gomisiynydd y Cynulliad â chyfrifoldeb am y Gymraeg ar y pryd, ar 30 Ionawr 2012. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (a oedd yn cael ei adnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Hydref 2012.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Rhodri Glyn Thomas, fel yr Aelod â gofal am y Bil (wrth gyflwyno’r Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2012.