Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019:
- yn gwneud darpariaeth i hybu hygyrchedd y gyfraith drwy osod dyletswyddau ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd i baratoi rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
- yn cynnwys darpariaethau diofyn ynglŷn a dehongli deddfwriaeth (Deddfau Senedd Cymru ac is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig eraill) a’r ffordd y mae’n gweithredu
- yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth er mwyn cyfeirio at ddyddiadau gwirioneddol, unwaith y maent yn hysbys, yn hytrach na disgrifiadau o ddyddiadau
- yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn haws i Weinidogion Cymru gyfuno is-ddeddfwriaeth a wneir o dan wahanol bwerau mewn un offeryn statudol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth rhai darpariaethau o'r Ddeddf i rym ar 11 Medi 2019, sef y diwrnod ar ôl iddi dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 44(1).
Daw gweddill Rhan 2 o'r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 44(2):
Mae’r gorchymyn cychwyn a ganlyn wedi’i wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
| Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 ar legislation.gov.uk | 2020 Rhif 1356 (Cy. 300) | 26 Tachwedd 2020 | 27 Tachwedd 2020 | 2020 Rhif 1356 (Cy. 300): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd, ar 3 Rhagfyr 2018. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 16 Gorffennaf 2019.
Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
