Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn diwygio deddfwriaeth bresennol ym maes digartrefedd a thai er mwyn:

  • Gwella gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar atal; ehangu mynediad at wasanaethau digartrefedd; a darparu cymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen fwyaf
  • Ehangu’r cyfrifoldeb ar draws awdurdodau cyhoeddus Cymru am adnabod unigolion sy’n wynebu risg o ddigartrefedd yn gynharach a chynorthwyo fel rhan o ymateb amlasiantaethol
  • Sicrhau’r defnydd gorau o dai cymdeithasol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf

Mae Deddf 2026 felly yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Digartrefedd), Rhan 6 o Ddeddf Tai 1996 (Dyrannu llety tai) ac, i raddau llai, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Mae adran 43 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2026 i rym.

Daw Rhan 3 o Ddeddf 2026 i rym y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol; felly, daeth darpariaethau Rhan 3 i rym ar 2 Ebrill 2026.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 19 Mai 2025 gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Chwefror 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Ebrill 2026.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026: