Neidio i'r prif gynnwy

1. Enwi, dod i rym a chymhwyso

(1) Enw’r Cyfarwyddyd hwn yw Cyfarwyddyd Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2025. 

(2) Daw’r Cyfarwyddyd hwn i rym ar 20 Mehefin 2025.

2. Dehongli

Yn y Cyfarwyddyd hwn—

  • mae i “allforiwr” yr ystyr a roddir i  “exporter” yn rheoliad 2 o Reoliadau CTEG;
  • ystyr “apêl" (“appeal") yw apêl o dan baragraff a grybwyllir ym mharagraff 32 (O.S. 2024/1324 (Cy. 233).) o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024;
  • mae i “cyfleuster trin awdurdodedig” yr ystyr a roddir i “authorised treatment facility” yn rheoliad 2 o Reoliadau CTEG;
  • mae i “rheoleiddiwr” (“regulator”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024;
  • ystyr “y Rheoliadau CTEG” (“the WEEE Regulations”) yw Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 (O.S. 2013/3113. Ceir diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Cyfarwyddyd hwn.);
  • ystyr “sefydliad rheoli gwastraff” (“waste management organisation”) yw cyfleuster trin awdurdodedig, neu allforiwr;
  • mae i “swyddog gorfodaeth” (“enforcement officer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.

3. Fêps untro i'w trin fel gwastraff

Rhaid i reoleiddwyr drin, fel gwastraff, fêps untro sy'n bodloni'r diffiniad a bennir yn rheoliad 12(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.

4.  Gwaredu fêps untro

Rhaid i reoleiddwyr gymryd y camau a ganlyn mewn perthynas â'r fêps untro y cyfeirir atynt ym mharagraff 3, sy'n cael eu cadw gan swyddog gorfodi—

  1. i sicrhau eu bod yn cael eu hanfon at sefydliad rheoli gwastraff i'w gwaredu; a
     
  2. i sicrhau bod y sefydliad rheoli gwastraff sydd â'r dasg o waredu yn defnyddio'r technegau trin, adfer ac ailgylchu gorau sydd ar gael, yn unol â rheoliad 31 o Reoliadau CTEG.

5. Disbyddu hawliau i apelio

Ni chaiff rheoleiddwyr waredu fêps untro o dan baragraff 4 hyd nes y bydd unrhyw hawl i apelio a roddir mewn perthynas â'r drosedd o dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 wedi ei disbyddu, neu hyd nes y bydd y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl honno wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn. 

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Un o Weinidogion Cymru

20 Mehefin 2025