Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) i ddefnyddiwr yng Nghymru gynhyrchion plastig untro diangen penodol. Bydd y Ddeddf yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi’r cynhyrchion hyn yng Nghymru, oni bai bod esemptiad.

Bydd y cynhyrchion plastig untro diangen canlynol, cynhyrchion sydd yn aml yn cael eu sbwriela, yn cael eu gwahardd i ddefnyddwyr yng Nghymru:

  • platiau
  • cytleri
  • troellwyr diodydd
  • gwellt yfed (gan gynnwys gwellt sydd ynghlwm)
  • cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren
  • cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
  • caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
  • ffyn cotwm plastig
  • ffyn balwnau
  • cynhyrchion ocso-ddiraddiadwy
  • bagiau siopa plastig untro

Bydd y gwaharddiadau'n cael eu cyflwyno mewn "camau". Mae hyn er mwyn caniatáu amser i fusnesau ddefnyddio stoc sy'n bodoli eisoes ac i brynu neu wneud dewisiadau eraill.

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 3, 4, 17, 21, 22 a 23 o'r Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2023, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 22(1). Daw'r darpariaethau sy'n weddill i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 22(2) o'r Ddeddf:

Mae'r gorchymyn canlynol wedi'i wneud:

Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 ar legislation.gov.uk

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 20 Medi 2022, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.