Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (wedi ei diddymu), ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Cafodd Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 ei phasio er mwyn amddiffyn rhag y coronafeirws yn ystod etholiadau Senedd Cymru a’r isetholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2021. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys:

  • y pŵer i ohirio etholiad cyffredinol Senedd Cymru yn 2021 (a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mai 2021) am hyd at 6 mis;
  • y pŵer i ddarparu dyddiau pleidleisio ychwanegol yn yr etholiad hwnnw;
  • y pŵer i ohirio isetholiadau Senedd Cymru a oedd i fod i gael eu cynnal ar ôl 6 Mai 2021;
  • y pŵer i ohirio’r isetholiadau llywodraeth leol a oedd i fod i gael eu cynnal yng Nghymru ar ôl 6 Mai 2021.

Prif amcan y Ddeddf oedd sicrhau y gallai etholiad y Senedd gael ei weinyddu a’i gynnal yn ddiogel ar 6 Mai 2021, er gwaethaf ansicrwydd y pandemig, ac y gallai etholwyr gymryd rhan a phleidleisio. Roedd hyn yn cynnwys ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy a chaniatáu i bleidleisiau gael eu cyfrif yn electronig er mwyn cyflymu’r broses.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Cafodd y Ddeddf ei diddymu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025Atodlen 1, para 61 ar legislation.gov.uk

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Ddeddf i rym ar 17 Mawrth 2021, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 18:

Diddymwyd y Ddeddf ar 10 Medi 2025.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2021 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd, ar 27 Ionawr 2021. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru ar 10 Chwefror 2021.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Senedd Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):

O ran diddymu’r Ddeddf, gweler hefyd y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk.