Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn ei gwneud yn drosedd gweithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a'i ddefnyddio, neu dan wybod ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, i rasio milgwn. Mae Deddf 2026 yn ei gwneud yn drosedd hefyd fod yn gysylltiedig â threfnu ras milgwn sy'n digwydd, neu y bwriedir iddi ddigwydd, yng Nghymru. Diffinnir ‘rasio milgwn’ fel cymell milgwn i redeg o amgylch trac ar ôl llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol, ac mae hyn yn cynnwys amseru neu hyfforddi milgi wrth iddo redeg o amgylch trac.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Bydd dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk yn cael ei darparu pan fydd ar gael.

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 6 a 7 o Ddeddf 2026 i rym ar 28 Ebrill 2026. Mae adran 6 yn darparu bod gweddill darpariaethau Deddf 2026, ac felly’r gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru, i gael eu dwyn i rym heb fod cyn 1 Ebrill 2027 a heb fod ar ôl 1 Ebrill 2030:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 29 Medi 2025 gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 17 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026: