Crynodeb o'r gyfraith newydd i wella ansawdd ac ymgysylltiad cyhoeddus ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dogfennau

Hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 343 KB
PDF
343 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Manylion
Ar 1 Mehefin 2020, daeth y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn gyfraith.
Daeth y ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, ac mae’r gwaith o’i gweithredu yn parhau.
Nod y ddeddf yw:
- cryfhau'r Ddyletswydd Ansawdd bresennol ar gyrff y GIG wrth wneud penderfyniadau ac estyn hyn i gynnwys Gweinidogion Cymru o ran eu swyddogaethau’n ymwneud â gwasanaethau iechyd
- gosod Dyletswydd Gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau pan fyddant yn cael niwed yn ystod eu gofal
- cryfhau llais dinasyddion drwy greu Corff Llais y Dinesydd newydd (a elwir yn Llais) i Gymru gyfan yn lle’r Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd hwn yn cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol
- ei gwneud yn bosibl penodi Is-gadeiryddion i Ymddiriedolaethau’r GIG, yn yr un modd â’r byrddau iechyd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: IGCAnsawddacYmgysylltu@llyw.cymru