Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymdrin ag amrywiol faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar lywio’r amodau cymdeithasol sy’n annog iechyd da ac os oes modd, ar osgoi niwed i iechyd y gellir ei atal. 

Mae darpariaethau’r Ddeddf yn cynnwys:

  • strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â gordewdra,
  • cyfyngiadau ar y defnydd o dybaco a chynhyrchion nicotin ac ar eu gwerthu, gan gynnwys cyflwyno troseddau newydd,
  • trwyddedu rhoi ‘triniaethau arbennig’ yng Nghymru (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio),
  • ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru ‘roi twll mewn rhan bersonol o’r corff’ i berson o dan 18 oed,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd,
  • ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal,
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ac ailddatgan y pŵer statudol presennol iddynt ddarparu toiledau yn eu hardal. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1215 (Cy. 198)19 Tachwedd 20256 Ebrill 2027Memorandwm 2025 Rhif 1215 (Cy. 198): Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Unigolion sydd wedi eu Hesemptio o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1247 (Cy. 207)27 Tachwedd 202429 Tachwedd 20242024 Rhif 1247 (Cy. 207): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu’r Corff (Triniaethau Arbennig) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1246 (Cy. 206)27 Tachwedd 202429 Tachwedd 2024Memorandwm 2024 Rhif 1246 (Cy. 206): Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1244 (Cy. 204) 27 Tachwedd 202429 Tachwedd 20242024 Rhif 1244 (Cy. 204): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1229 (Cy. 199)27 Tachwedd 202429 Tachwedd 2024Memorandwm 2024 Rhif 1229 (Cy. 199): Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Pwyllgorau Trwyddedu Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 969 (Cy. 164)17 Medi 202429 Tachwedd 2024Memorandwm 2024 Rhif 969 (Cy. 164): Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 ar legislation.gov.uk2020 Rhif 1211 (Cy. 273)26 Hydref 20201 Mawrth 2021Memorandwm 2020 Rhif 1211 (Cy. 273): Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 1120 (Cy. 194)   11 Gorffennaf 20191 Awst 2019Memorandwm 2019 Rhif 1120 (Cy. 194): Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 7 Tachwedd 2016 gan Rebecca Evans AS, a oedd yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 16 Mai 2017.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017.