Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 ac addysg ddewisol yn y cartref
Gwybodaeth ffeithiol glir am Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026, a'r hyn y mae'n ei olygu i blant, teuluoedd ac addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Deddf Llywodraeth y DU sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru mewn perthynas â phlant nad ydynt yn yr ysgol, cyflogaeth plant, a rhai mesurau gwasanaethau cymdeithasol.
Cefndir
Cyflwynwyd y Bil Lles Plant ac Ysgolion gerbron Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2024 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2026. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan Senedd y DU yn Children’s Wellbeing and Schools Act 2006 - Parliamentary Bills.
Ym mis Mawrth 2026 cytunodd Llywodraeth Cymru y dylai meysydd canlynol y Ddeddf fod yn gymwys i Gymru:
- plant nad ydynt yn yr ysgol
- cyflogaeth plant
- cam-drin ac esgeuluso'n fwriadol plant dan 18 oed
- plant sy'n byw mewn llety dros dro
- hysbysiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Cynnwys Cymru mewn Deddf Llywodraeth y DU
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y darpariaethau yn y Ddeddf ers hydref 2024. Er bod addysg wedi'i ddatganoli yng Nghymru, mae'r heriau’n ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref (a'r pwysau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu) yn debyg iawn i'r rhai yn Lloegr. Mae hefyd fframwaith cyffredinar draws Cymru a Lloegr sy'n golygu y bydd rhai elfennau sy'n croesi i faes 'diogelu' yn dod o dan ddeddfwriaeth a pholisi yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Yn ogystal, bydd yr adrannau newydd yn y Ddeddf yn diweddaru'r gyfraith bresennol ar addysg yn y cartref yn Neddf Addysg 1996. Mae'r Ddeddf Addysg yn gymwys i Gymru a Lloegr.
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd agwedd 'derbyn popeth' at y ddeddfwriaeth. Fe wnaethom ofyn am ein cynnwys yn y rhannau sy'n cyd-fynd yn llwyr â'n nodau polisi a'n huchelgeisiau ein hunain ar gyfer Cymru. Mae rhai o'r darpariaethau yn angenrheidiol i fynd i'r afael â bylchau presennol mewn deddfwriaeth, ac eraill yn mynd i'r afael â phroblemau polisi hirsefydlog. Ystyriwyd pob un o adrannau'r Ddeddf sy'n gymwys i Gymru yn unigol.
Mae pecyn datblygu polisi Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref wedi bod ar y gweill ers 2018. Cytunwyd y byddai is-ddeddfwriaeth yn cael ei dreialu yn gyntaf, cyn i ni ystyried deddfwriaeth sylfaenol. Ers hynny rydym wedi cynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ein sefyllfa yng Nghymru, a'r camau nesaf posibl.
Plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae 'plant nad ydynt yn yr ysgol' yn cynnwys plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, plant o dan drefniadau addysg hyblyg y cytunwyd arnynt a phlant yn narpariaeth addysg awdurdodau lleol (EOTAS).
Bydd y mesurau yn y Ddeddf ynghylch plant nad ydynt yn yr ysgol yn helpu i sicrhau eu bod yn derbyn addysg addas a'u bod yn ddiogel. Pan fydd y mesurau'n dod i rym yng Nghymru, bydd yn rhaid i rieni roi gwybod i'w hawdurdod lleol os yw eu plentyn o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt ar gofrestr ysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i rieni wneud hyn sy'n golygu nad yw awdurdodau lleol yn ymwybodol o blant sy'n byw yn eu hardaloedd.
Yng Nghymru, mae'n rhaid i rieni hysbysu ysgol eu plentyn yn ysgrifenedig os ydynt yn tynnu eu plentyn allan i'w addysgu heblaw yn yr ysgol (addysg yn y cartref). Nid oes angen i rieni gael caniatâd gan yr awdurdod lleol i ddadgofrestru eu plentyn o'r ysgol oni bai bod y plentyn yn mynychu ysgol arbennig. Mae hyn wedi'i nodi yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, sy'n wahanol i'r rheoliadau sydd ar waith yn Lloegr. Nid oes angen i rieni o reidrwydd roi cyfnod o rybudd i'r ysgol cyn tynnu eu plentyn allan, ond gall gwneud hynny sicrhau bod yr ysgol yn gallu tynnu enw'r plentyn ar y dyddiad a ddewiswyd gan y rhiant. Nid yw'r rheoliadau yn nodi amserlen benodol i'r ysgol dynnu enw'r plentyn o'r gofrestr ond rhaid i'r ysgol roi gwybod i'r awdurdod lleol o fewn deg diwrnod o wneud hynny.
O dan y mesurau newydd, bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr ddarparu gwybodaeth i'w hawdurdod lleol i roi gwybod iddynt a yw eu plentyn yn gymwys i gael ei gofrestru ar y gofrestr plant nad ydynt yn yr ysgol. Rhaid i rieni plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, plant mewn darpariaeth EOTAS awdurdod lleol a phlant sy'n destun 'trefniadau addysg hyblyg' y cytunwyd arnynt ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cofrestrau, fel y byddent yn ei wneud pe baent yn cofrestru gyda'u hawdurdod lleol ar gyfer ysgol. Yn ogystal, os yw'r plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref, bydd angen i'r rhiant ddweud wrth yr awdurdod lleol am yr addysg honno a'r hyn y mae'n ei gynnwys.
Mae’r mesurau yn cynnwys:
- dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu cofrestr plant nad ydynt yn yr ysgol yn eu hardal
- dyletswydd ar rieni a gofalwyr i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cofrestrau os nad yw eu plentyn yn mynd i ysgol
- dyletswydd ar leoliadau penodol addysg y tu allan i'r ysgol i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol os ydynt yn darparu addysg i blant nad ydynt mewn ysgol
- newidiadau i'r broses Gorchymyn Mynychu’r Ysgol i'w gwneud yn fwy effeithlon
- gofyniad i awdurdodau lleol gydsynio cyn y gellir tynnu plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant, neu sy'n ddarostyngedig i ymholiadau amddiffyn plant adran 47, o'r ysgol i gael eu haddysgu yn y cartref (pan fo plant sy'n ddarostyngedig i rai prosesau amddiffyn plant eisoes yn cael eu haddysgu yn y cartref, bydd yr awdurdod lleol yn gallu ei gwneud yn ofynnol iddynt fynychu ysgol)
- gofyniad i awdurdodau lleol ystyried amgylchedd y cartref ac amgylcheddau dysgu eraill wrth benderfynu a ddylid ei gwneud yn ofynnol i blant fynychu ysgol
Bydd y rhan fwyaf o fanylion ynghylch trefniadau ymarferol a gweithredol y cofrestrau a'r gofynion ar gyfer plant nad ydynt mewn darpariaeth ysgol yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) a chanllawiau. Bydd y rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn i'r mesurau ddod i rym yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ac egluro'r trefniadau ymhellach cyn iddynt gael eu gweithredu yng Nghymru.
Rhesymau dros ofyn am y mesurau ar gyfer plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu wedi codi pryderon bod y system bresennol yn ei gwneud hi'n hawdd i blant agored i niwed lithro o olwg y gweithwyr proffesiynol sydd yno i'w diogelu. Yn ogystal â'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofrestrau o blant nad ydynt yn yr ysgol, mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion wirio gyda'r awdurdod lleol a yw'r plentyn yn dod o dan un o'r categorïau sy'n ei gwneud yn ofynnol i rieni gael caniatâd awdurdod lleol cyn y gellir eu tynnu oddi ar gofrestr ysgol i gael eu haddysgu yn y cartref. Er na fydd y mwyafrif o blant yn dod o dan y categorïau hyn, bydd angen i ysgolion aros i'r awdurdod lleol gadarnhau hyn cyn iddynt ddileu enw plentyn o gofrestr ysgol.
Os yw'r rhai sy'n addysgu yn y cartref yn defnyddio lleoliadau gwahanol i ddarparu addysg i'w plentyn, bydd angen gwybodaeth am y lleoliadau hyn os ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru. Bydd y meini prawf yn cael eu nodi mewn rheoliadau ac mewn canllawiau.
Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu gofyn am gwrdd â'r teulu a gweld a siarad â'r plentyn. Mae hyn er mwyn mynd i'r afael â'r broblem bresennol lle na all awdurdodau lleol ddweud a yw plant yn derbyn addysg addas.
Ar hyn o bryd nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i rieni yng Nghymru a Lloegr hysbysu eu hawdurdod lleol os ydynt yn addysgu yn y cartref ond mae angen iddynt ymateb i ymholiadau os yw eu hawdurdod lleol cael gwybod eu bod yn byw yn yr ardal ac yn addysgu yn y cartref. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r holl blant sy'n byw yn eu hardaloedd, ond oni bai bod plant wedi mynychu ysgol o'r blaen, neu fod rhiant wedi dweud wrth yr awdurdod lleol o'i wirfodd, ni fydd awdurdod lleol yn gwybod am blentyn. Yna maent dan ddyletswydd i geisio nodi'r plant hynny fel y gallant fod yn sicr eu bod yn cael addysg.
Os yw awdurdod lleol yn gwybod am blentyn a addysgir yn y cartref, maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd ar hyn o bryd gall rhieni wrthod cwrdd â nhw. Heb gwrdd â'r rhiant a'r plentyn, ni all awdurdodau lleol bob amser benderfynu a yw'r plentyn yn derbyn addysg addas. Mae hyn wedi dod yn fwy o broblem yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod rhai grwpiau cymorth ar gyfer addysg yn y cartref yng Nghymru yn mynd ati i gynghori addysgwyr yn y cartref i beidio â chwrdd â'u hawdurdod lleol. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisiau perthynas a rhyngweithio cadarnhaol â theuluoedd yn eu hardaloedd sy'n addysgu yn y cartref ac yn gweithio'n galed i gyflawni hyn. Maent wedi adrodd bod addysgwyr yn y cartref yn cydnabod ar y cyfan bod timau addysgu yn y cartref yr awdurdodau lleol yno i gynnig cefnogaeth, ond hefyd i gyflawni eu dyletswyddau statudol.
Mae awdurdodau lleol yn cadw cofrestrau o'r plant y maent yn ymwybodol eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref, ond mae'r rhain yn anghyflawn oherwydd nad ydynt yn gwybod am bob plentyn.
Yn 2018 i 2019 roedd 2,517 o blant y gwyddai'r awdurdodau eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref yng Nghymru. Erbyn 2024 i 2025 roedd y nifer hwn wedi codi i 7,176. Nid yw union nifer y plant a addysgir yn y cartref yn hysbys ac nid oes unrhyw oruchwyliaeth o'r addysg y mae'r plant hyn yn ei chael na phwy sy'n ei darparu.
Ar ôl eu gweithredu, ni fydd y mesurau newydd ar gyfer plant nad ydynt yn yr ysgol yn atal rhieni rhag dewis addysgu yn y cartref, ond byddant yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddweud wrth eu hawdurdod lleol os ydynt yn addysgu yn y cartref a darparu gwybodaeth berthnasol ar gyfer cofrestr eu hawdurdod lleol o blant nad ydynt yn yr ysgol. Mae'r mesurau hefyd yn golygu na ellir symud plant sy'n destun ymholiadau amddiffyn plant o ysgol heb ganiatâd yr awdurdod lleol. Ar hyn o bryd gall rhiant ddadgofrestru eu plentyn o ysgol a gynhelir yng Nghymru ar unrhyw adeg, ni waeth a oes pryderon diogelu hysbys ai peidio.
Plant nad ydynt yn yr ysgol a diogelu
I'r rhan fwyaf o blant, nid yw addysgu yn y cartref yn fater diogelu. Fodd bynnag, bu achosion yng Nghymru a Lloegr lle mae addysgu yn y cartref wedi bod yn ffactor ym marwolaeth plentyn. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i sicrhau nad yw'r plant mwyaf agored i niwed yn llithro o olwg y gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau diogelu
Mae Comisiynydd Plant Cymru a Bwrdd Diogelu CYSUR wedi galw am ddeddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru yn dilyn adolygiadau ar wahân i arfer mewn perthynas â phlant yn dilyn marwolaethau dau blentyn a addysgwyd yn y cartref yng Nghymru. Yn yr achosion hyn, nid fod y plant yn 'anhysbys' i staff yr awdurdodau lleol oedd y broblem, ond eu bod yn cael eu cadw allan o olwg gweithwyr proffesiynol. Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol ofyn am weld a siarad â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref fel rhan o'u cyfrifoldebau statudol, ond nid oes ganddynt bwerau i orfodi cyfarfod â theulu sy'n addysgu yn y cartref. Yn ei adroddiad ar farwolaeth plentyn saith oed a addysgwyd yn y cartref yn 2024, nododd CYSUR fod y rhiant wedi gwrthod cwrdd â thîm addysg yn y cartref yr awdurdod lleol yng Nghymru cyn marwolaeth y plentyn a'i bod wedi cyflwyno tystiolaeth o addysg ei phlant yn ysgrifenedig.
Pan fydd y cofrestrau plant nad ydynt yn yr ysgol yn cael eu gweithredu, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i ofyn am 'weld' y plentyn yn yr amgylchedd dysgu fel rhan o'u dyletswyddau presennol i bennu a yw'r plentyn yn derbyn addysg addas. Fodd bynnag, o fewn y pwerau newydd ar gyfer awdurdodau lleol, gall penderfyniad rhiant i wrthod cwrdd â'r awdurdod sbarduno'r broses Gorchymyn Mynychu’r Ysgol.
Addysg ddewisol yn y cartref
Pan fyddant yn cael eu cyflwyno, ni fydd y mesurau newydd yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, ond byddant yn ychwanegu mwy o oruchwyliaeth. Nod y mesurau yw gwella amddiffyniad plant, a galluogi awdurdodau lleol i olrhain plant nad ydynt yn yr ysgol a chymryd camau os nad yw plant yn derbyn addysg addas.
Nid yw'r mesurau ynghylch plant nad ydynt yn yr ysgol yn newid hyblygrwydd addysgu yn y cartref na'r hyn y mae rhieni yn gallu ei ddarparu i'w plentyn. Nid yw'r mesurau yn atal rhieni rhag darparu addysg yn ôl eu hathroniaeth neu eu credoau eu hunain, ac nid yw'n ofynnol i addysgwyr yn y cartref ddilyn y cwricwlwm na gosod amserlenni.
Mae'r rhannau o'r Ddeddf sy'n ymwneud ag addysgu yn y cartref yn rhoi amddiffyniad cyfartal i blant yng Nghymru ac yn helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau presennol am addysg a diogelu mewn perthynas â'r plant hynny.
Ceir cyngor ac arweiniad i addysgwyr yn y cartref yng Nghymru yn llawlyfr i addysgwyr yn y cartref Llywodraeth Cymru. Mae'r llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan awdurdodau lleol ac mae'n nodi cyfrifoldebau rhieni ac awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysgu yn y cartref, a hawliau'r plentyn.
Plant nad ydynt yn yr ysgol ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Gwyddom fod gan nifer fawr o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref ADY. Nid yw'r darpariaethau yn Neddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 yn dileu addysgu yn y cartref fel opsiwn i unrhyw blentyn ond byddant yn sicrhau gwell goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol. Pan fydd awdurdodau lleol yn gwneud asesiad ar addasrwydd addysg, rhaid iddynt ystyried unrhyw ADY ac a yw'r addysg sy'n cael ei ddarparu yn addas i'r anghenion hynny. Nid yw'r Ddeddf yn newid hyn, ond, pan fydd wedi'i ddeddfu, bydd yn galluogi awdurdodau lleol i gwrdd â'r teulu i ymgymryd â'r ddyletswydd honno.
O dan y Ddeddf, mae'r gofyniad i awdurdodau lleol gydsynio cyn i blant gael eu tynnu allan o'r ysgol yn berthnasol i blant sy'n destun ymholiadau amddiffyn plant neu orchymyn o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989. Mae cael caniatâd awdurdod lleol cyn y gellir dadgofrestru plentyn o ysgol arbennig eisoes yn ofyniad yng Nghymru, fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010. Nid yw'r mecanwaith cydsynio yn berthnasol i blant mewn ysgolion a gynhelir sydd â CDU. Gan fod y gofynion dadgofrestru wedi newid o dan y Ddeddf, bydd Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn cael eu diwygio i adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith.
Ymgynghori ac ymgysylltu â theuluoedd yng Nghymru
Ers 2018 rydym wedi ymgynghori’n helaeth ag addysgwyr yn y cartref ar y polisi presennol ar addysg ddewisol yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys:
- 2018: comisiwn ar gyfer cyfarfod cenedlaethol i’r rhai sy’n darparu addysg ddewisol yn y cartref a chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol. Diben hyn oedd galluogi trafodaethau am brofiadau teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref a chael eu barn ar y math o gymorth a fyddai’n ddefnyddiol iddynt
- 2019: sesiynau rhanbarthol 'Sgwrs Fwrdd' ar gyfer addysgwyr yn y cartref ar y canllawiau drafft ar addysgu yn y cartref
- Gorffennaf 2019: ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ganllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysgu yn y cartref ynghyd â llawlyfr ar gyfer addysgwyr yn y cartref
- Ionawr 2020: ymgynghoriad ar gronfeydd data addysg awdurdodau lleol
- Mai 2022: cyfarfod Llywodraeth Cymru gyda Families First in Education
- Mai 2022: y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn cyfarfod ag Education Otherwise
- Mehefin 2023: sesiwn ymgysylltu ar-lein ar gyfer addysgwyr yn y cartref wedi'i hwyluso gan Gomisiynydd Plant Cymru
- Ionawr i Ebrill 2024: ymgynghoriad ar reoliadau'r gronfa ddata Plant sy'n Colli Addysg
- Mai 2024: sesiynau rhanbarthol cyfeillgar i blant ar gynigion ar gyfer y gronfa ddata Plant sy'n Colli Addysg
Mae'r holl adborth hwn wedi llywio'r ffordd rydym yn gweithredu nawr.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar yr holl is-ddeddfwriaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026, yn unol ag arfer safonol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd pobl yng Nghymru yn cael cyfle clir arall i roi eu barn ar sut y bydd y darpariaethau yn gweithio yma.
Asesiadau effaith
Gan mai deddfwriaeth sylfaenol Llywodraeth y DU yw hwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi asesiadau effaith ar wahân ar gyfer Cymru. Mae’r Asesiad Effaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys asesiad o'r mesurau mewn perthynas â Chymru, gan gynnwys costau amlinellol a gwybodaeth sy'n benodol i Gymru. Bydd asesiadau effaith llawn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer yr holl is-ddeddfwriaeth a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rhannau o'r Ddeddf sy'n berthnasol i Gymru. Yn unol â phrosesau ymgynghori Llywodraeth Cymru, bydd yr asesiadau effaith perthnasol yn cael eu cyhoeddi fel rhan o unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus.
Craffu a chydsyniad y Senedd
Ceisiwyd craffu'r Senedd a chydsyniad i gynnwys Cymru mewn darpariaethau penodol o dan weinyddiaeth flaenorol Llywodraeth Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Senedd ar 24 Mawrth 2025. Gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol dilynol gerbron y Senedd wrth i newidiadau gael eu cynnig i rannau o'r Bil a oedd yn effeithio ar Gymru. Fe wnaeth hyn alluogi'r Senedd i graffu ar newidiadau wrth i'r Bil symud ymlaen drwy Senedd y DU. Mae pob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a hanes y Bil wrth iddo symud ymlaen ar y dudalen Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Plant ac Ysgolion ar wefan y Senedd.
Cynhaliwyd dadl y Cynnig Deddfwriaethol ar y darpariaethau yn y Senedd ar 17 Mawrth 2026, a phasiwyd y cynnig gyda 37 pleidlais o blaid a 13 yn erbyn.
Is-ddeddfwriaeth a chanllawiau
Mae Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 yn darparu'r fframwaith i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynigion a chanllawiau newydd ar gyfer Cymru. Bydd penderfyniadau ynghylch pryd neu sut y caiff y mesurau hyn eu cyflwyno a'u gweithredu yn cael eu gwneud gan lywodraeth nesaf Cymru. Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth newydd a ddatblygir ac a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026, yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd.
