Trosolwg o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Prif ddibenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yw:
- gosod fframwaith lle bydd awdurdodau cyhoeddus penodol yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain (yr egwyddor datblygu cynaliadwy),
- gosod nodau llesiant y bydd yr awdurdodau hynny yn ceisio eu cyflawni er mwyn gwella llesiant nawr ac yn y dyfodol,
- nodi sut y bydd yr awdurdodau hynny yn dangos eu bod yn gweithio tuag at y nodau llesiant,
- rhoi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant lleol ar sail statudol ac, wrth wneud hynny, symleiddio’r gofynion presennol o ran cynllunio cymunedol integredig, a
- sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru i fod yn eiriolwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a fydd yn cynghori a chefnogi awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 53 i 57 ac unrhyw ddarpariaethau angenrheidiol eraill i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i rym ar 30 Ebrill 2015, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 56(1).
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Is-deddfwriaeth a waned o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 7 Gorffennaf 2014 gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn dilyn newid i bortffolios gweinidogol ym mis Medi 2014, nododd y Prif Weinidog mai Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, fyddai’r aelod sy’n gyfrifol am y Bil o 11 Medi 2014 ymlaen. Cafodd y Ddeddf ei phasio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 17 Mawrth 2015.
Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.
