Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion
Arweiniad ar ein cyfraith i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?
Beth yw’r ddeddf?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson.
Bydd hyn yn ein helpu ni i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant.
Nodau llesiant
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pam mae angen y gyfraith hon?
Mae Cymru’n wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol, fel newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb iechyd a swyddi a thwf. I fynd i’r afael â’r rhain, mae’n rhaid i ni gydweithio. I roi i genedlaethau heddiw ac yfory fywyd o ansawdd da, mae’n rhaid i ni feddwl am effeithiau tymor hir ein penderfyniadau. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus ni’n gwneud hyn.
Sut mae’n gweithio?
Datblygu cynaliadwy
Mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud â gwella’r ffordd yr ydym yn sicrhau ein llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae’r Ddeddf yn dechrau drwy roi diffiniad o beth rydym yn ei olygu wrth ddweud datblygu cynaliadwy.
Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.
Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 2 ‘Datblygu cynaliadwy’.
Er mwyn i Gymru fod yn gynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn gwella’r pedair agwedd ar ein llesiant. Mae pob un mor bwysig â’i gilydd.
Dyletswydd llesiant
Mae’r Ddeddf yn pennu dyletswydd y bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ei chyflawni. Ystyr dyletswydd yw bod rhaid iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith. Mae’r ddyletswydd llesiant yn dweud:
Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.
Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys:
- gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
- cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.
Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 3 ‘Dyletswydd Llesiant ar gyrff cyhoeddus’, paragraffau (1) a (2).
Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob corff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant.
Bydd yr amcanion hyn yn dangos sut bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i weledigaeth ar gyfer Cymru sydd wedi’i datgan yn y nodau llesiant. Wedyn rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni’r amcanion maent yn eu gosod.
Pa gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan ddyletswydd llesiant y ddeddf?
- Gweinidogion Cymru
- Awdurdodau lleol
- Byrddau iechyd lleol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Awdurdodau parciau cenedlaethol
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Awdurdodau tân ac achub
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Cymru
Nodau llesiant
Mae’r saith o nodau llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf, i weithio tuag ati.
Maent yn gyfres o nodau; mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
Cymru gydnerth
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir
Er mwyn ein helpu i wybod a ydym yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol.
Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol:
- Rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir ei fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol
- Caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol
- Caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
Rhan 2, ‘Gwella Llesiant’, adran 10 ‘Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol’, paragraff (2).
Hefyd mae’n rhaid i Weinidogion bennu cerrig milltir er mwyn i ni allu gweld beth fedrai’r dangosyddion eu dangos ar adegau penodol yn y dyfodol. Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Gweinidogion i adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir er mwyn iddynt barhau’n gyfredol ac yn berthnasol. Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol yn datgan y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Adroddiad tueddiadau’r dyfodol
Mae’n bwysig ein bod yn deall yr heriau y byddwn yn eu hwynebu a bod gennym ddarlun clir o’r cyfeiriad rydym yn anelu ato. I wneud hyn, o fewn deuddeg mis ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i Weinidogion gyhoeddi ‘Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol’ sy’n cynnwys:
- Rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd,cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, ac
- Unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 11 ‘Adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol’, paragraff (1).
Wrth baratoi’r adroddiad, rhaid i Weinidogion ystyried nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac effaith y newid yn yr hinsawdd ar Gymru.
Egwyddor datblygu cynaliadwy
Mae’r Ddeddf wedi pennu ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ er mwyn dweud wrth sefydliadau sut i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf.
Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 5 ‘Yr egwyddor datblygu cynaliadwy’, paragraff (1).
Wrth wneud eu penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae 5 peth y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt i ddangos eu bod wedi dilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd cadw at y dulliau gweithio hyn yn ein helpu ni i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor rydym yn eu hwynebu.
1. Hirdymor
Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
2. Atal
Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
3. Integreiddio
Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
4. Cydweithio
Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
5. Cynnwys
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
Tryloywder
Mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn eu gwaith a’u bod yn gallu dangos i bobl eu bod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Mae’r Ddeddf yn pennu nifer o gamau er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf yn gwneud hyn:
Datganiad llesiant
Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth bennu eu hamcanion llesiant, yn esbonio pam maent yn teimlo y bydd yr amcan o help iddynt gyflawni’r nodau a sut maent wedi cadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Hefyd mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau, a bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth eu hardal.
Adroddiad blynyddol
Bob blwyddyn mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos y cynnydd maent wedi’i wneud gyda chyflawni eu hamcanion.
Ymateb i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Pan mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gwneud argymhellion i gorff cyhoeddus, mae’n rhaid i’r corff gyhoeddi ei ymateb. Os na fydd y corff cyhoeddus yn dilyn yr argymhelliad, mae’n rhaid iddo ddweud pam, a nodi pa gam gweithredu fydd yn ei roi ar waith yn ei le.
Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Rhaid i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys y canlynol:
- Yr awdurdod lleol
- Y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol
- Yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn ychwanegol at yr aelodau hyn, rhaid i bob Bwrdd wahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan ar y Bwrdd hefyd (gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr gwadd’):
- Gweinidogion Cymru
- Prif Gwnstabl yr Heddlu ar gyfer yr ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod lleol
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu ardal yr heddlu
- Gwasanaethau Prawf
- O leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol
Hefyd gall pob bwrdd wahodd pobl eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.
Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy weithio i gyflawni’r nodau llesiant. Bydd yn gwneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:
- Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal, a
- Pennu amcanion i sicrhau cyfraniad gorau posib y Byrddau Gwasanaethau Lleol at y nodau llesiant.
Rhaid iddynt wneud hyn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
Rhaid i bob Bwrdd baratoi a chyhoeddi cynllun yn datgan ei amcanion ei hun a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w cyflawni. Gelwir hwn yn Gynllun Llesiant Lleol. Mae’n rhaid iddo ddweud:
- Pam mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd ei amcanion yn cyfrannu yn ei ardal leol at gyflawni’r nodau llesiant, a
- Sut mae’r amcanion a’r camau wedi cael eu pennu gan ystyried eu Hasesiad Llesiant Lleol.
Bydd pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnal adolygiad blynyddol o’i gynllun yn dangos ei gynnydd.
Wrth lunio eu hasesiadau lesiant lleol a’r cynllun Llesiant Lleol, rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori’n eang.
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw gweithredu fel gwarchodwr ar ran buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.
Mae amrywiaeth o bethau y gall Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei wneud:
Cynghori, annog a hybue
Gall y Comisiynydd roi cyngor i gyrff cyhoeddus ac i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a’u hybu a’u hannog i weithio i fodloni eu hamcanion llesiant.
Ymchwil
Gall y Comisiynydd gynnal ymchwil gan gynnwys ymchwil i’r nodau llesiant, y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir, a’r egwyddor datblygu cynaliadwy a sut mae cyrff cyhoeddus yn ei rhoi ar waith.
Cynnal adolygiadau
Gall y Comisiynydd gynnal adolygiad o sut mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith tymor hir eu penderfyniadau, a gwneud argymhellion yn seiliedig ar ei ganfyddiadau.
Gwneud argymhellion
Gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gorff cyhoeddus am y camau y mae wedi’u cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd i osod ac wedyn cyflawni ei amcanion llesiant. Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol er mwyn dilyn argymhellion y Comisiynydd.
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol
Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad, flwyddyn cyn etholiad Cynulliad, sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni’r nodau llesiant.
Panel cynghori
Cefnogir y Comisiynydd gan Banel Cynghori. Mae’r Panel yn cynnwys Comisiynwyr eraill Cymru, Prif Swyddog Meddygol Cymru, cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngres Undebau Llafur Cymru a busnesau Cymru. Caiff y Comisiynydd wahodd eraill i fod yn bresennol, a gall Gweinidogion Cymru benodi aelodau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau ar y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf er mwyn asesu’r canlynol:
...i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth;
- Gosod amcanion llesiant, a
- Cymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.
Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 15 ‘Yr egwyddor datblygu cynaliadwy: Ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol’, parargraff (1).
Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er yn helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn atebol am eu perfformiad wrth gyflawni’r Ddeddf.
Rhagor o wybodaeth
Fframwaith Cenedlaethol Dangosyddion Llesiant
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
01 Babanod iach | ![]() |
![]() |
|||||
02 Disgwyliad oes iach | ![]() |
![]() |
|||||
03 Ffordd iach o fyw (oedolion) | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
04 Ansawdd aer | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
05 Ffordd iach o fyw (plant) | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
06 Plant bach yn datblygu’r sgiliau iawn | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
07 Sgiliau a chymwysterau wrth adael yr ysgol | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
08 Oedolion â chymwysterau | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
09 Cynhyrchiant | ![]() |
||||||
10 Incwm gwario aelwydydd | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
11 Busnesau arloesol | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
12 Ynni adnewyddadwy | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
13 Pridd iach | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
14 Ôl Troed byd eang | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
15 Gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
16 Cyflog teg | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
17 Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau | ![]() |
![]() |
|||||
18 Pobl sy’n byw mewn tlodi | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
19 Pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
20 Pobl sy’n fodlon â’u swyddi | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
21 Pobl mewn gwaith | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
22 Pobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
23 Pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
24 Pobl yn fodlon ar eu gallu i gael gafael ar gyfleusterau a gwasanaethau | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
25 Teimlo’n ddiogel | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
26 Pobl yn fodlon ar ble maen nhw’n byw | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
27 Ymdeimlad o gymuned | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
28 Gwirfoddoli | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
29 Llesiant meddyliol | ![]() |
![]() |
|||||
30 Unigrwydd | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
31 Cartrefi heb beryglon | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
32 Lleihau’r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
33 Cartrefi effeithlon o ran ynni | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
34 Digartrefedd | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
35 Cymryd rhan yn y celfyddydau ac mewn diwylliant a threftadaeth | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
36 Pobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
37 Pobl sy’n gallu siarad Cymraeg | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
38 Cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
39 Safonau proffesiynol mewn casgliadau treftadaeth | ![]() |
![]() |
|||||
40 Gofalu am ein treftadaeth ddiwylliannol | ![]() |
![]() |
![]() |
||||
41 Allyriadau nwyon tŷ gwydr | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
42 Allyriadau nwyon tŷ gwydr o nwyddau a gwasanaethau byd-eang | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
43 Ecosystemau iach | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
44 Amrywiaeth fiolegol | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||
45 Ansawdd dŵr | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||
46 Partneriaethau Gwerth Cymdeithasol | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |