Trosolwg ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Newidiodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd), a ddaeth yn ddeddfwrfa gyflawn.
Sefydlodd Deddf 2006 Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd (sef Llywodraeth Cymru erbyn hyn) yn weithrediaeth ddatganoledig Cymru.
Trosglwyddwyd swyddogaethau gweithredol y Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn aelodau o Lywodraeth Cymru ac yn dal y mwyafrif o’i swyddogaethau. Rhoddodd Deddf 2006 bwerau cyffredinol pwysig i Lywodraeth Cymru hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys:
- pŵer i wneud pethau i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru
- pŵer i gefnogi diwylliant, gan gynnwys yr iaith Gymraeg
Mae Deddf 2006 hefyd yn caniatáu i ragor o bwerau o ran Cymru gael eu trosglwyddo oddi wrth Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru.
Yn wreiddiol, rhoddodd Deddf 2006 bŵer i’r Cynulliad i basio Mesurau’r Cynulliad mewn perthynas â rhai materion penodol. Mae gan Fesurau’r Cynulliad statws deddfwriaeth sylfaenol, fel Deddfau Senedd y DU.
Roedd Atodlen 5 i Ddeddf 2006 yn nodi’r materion hynny y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd) basio Mesurau yn eu cylch. Er mai nifer cymharol fach o faterion oedd yn Atodlen 5 pan basiwyd Deddf 2006, ychwanegwyd rhagor drwy ddeddfwriaeth ddiweddarach y DU.
Pasiwyd 22 o Fesurau’r Cynulliad rhwng 2007 a 2011. Roedd y rhain yn cynnwys Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Cadwodd Mesurau’r Cynulliad eu heffaith a’u statws cyfreithiol ar ôl i’r Cynulliad gael y pŵer i basio Deddfau’r Cynulliad.
Rhoddodd Deddf 2006 bŵer i’r Cynulliad i basio Deddfau hefyd, ond dim ond ar ôl i bobl Cymru bleidleisio o blaid hynny yn gyntaf mewn refferendwm. Cynhaliwyd y refferendwm hwn yn 2011. Mae gan Ddeddfau o’r fath statws deddfwriaeth sylfaenol hefyd ond gallant ymwneud ag ystod ehangach o feysydd datganoledig nag y gallai Mesurau’r Cynulliad.
O dan y model rhoi pwerau, sef y model cychwynnol, roedd y pynciau datganoledig wedi eu nodi yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006. Cafodd rhannau o Ddeddf 2006 eu diddymu gan Ddeddf Cymru 2017, a wnaeth ddisodli’r model rhoi pwerau â’r model cadw pwerau. Fodd bynnag, mae pŵer y Senedd i wneud Deddfau’r Senedd yn parhau. Bellach, darperir ar gyfer hyn yn adran 108A o Ddeddf 2006 ac yn Atodlenni 7A a 7B i’r Ddeddf.
Mae Deddf 2006 yn cynnwys darpariaethau hefyd ynglŷn â chyllid y Senedd a Llywodraeth Cymru.
