Rhaid i Awdurdodau Contractio ystyried y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a’r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol.
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("Deddf SPPP") yn ategu'r dyletswyddau llesiant presennol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y bwriad yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru drwy gryfhau rôl partneriaeth gymdeithasol o fewn y broses o wneud penderfyniadau strategol a gofyn am gaffael cymdeithasol gyfrifol.
Mae'r Ddeddf SPPP yn gosod dyletswyddau ar Awdurdodau Contractio, mewn perthynas â'u contractau adeiladu a gwasanaethau allanol pwysig. O dan y Ddeddf, rhaid i Awdurdodau Contractio ystyried y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a’r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol. Rhaid iddynt ystyried cynnwys y cymalau hyn o fewn contractau perthnasol. Mae'r cymalau wedi'u cynllunio fel y gellir eu cymhwyso i bob caffaeliad perthnasol, er enghraifft contractau adeiladu mawr a chontractau gwasanaethau allanol. Y disgwyliad yw y bydd yr holl gymalau yn cael eu cynnwys a'u cymhwyso trwy gydol cyfnod y contract a thrwy gadwyni cyflenwi.
Rhaid i Awdurdodau Contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn penderfynu peidio â chynnwys neu gymhwyso rhai o'r cymalau neu bob un ohonynt mewn caffael, contract neu gadwyn gyflenwi berthnasol (adrannau 29 a 35 o Ddeddf SPPP).
Cwblhewch:
i hysbysu Gweinidogion Cymru os yw'r Awdurdod Contractio:
- ddim yn bwriadu cynnwys unrhyw un neu bob un o'r cymalau yn y contract
- ddim wedi cynnwys unrhyw un neu bob un o'r cymalau
- heb unrhyw broses ar waith i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau yn cael eu gweithredu (gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, os yw'r contract yn cael ei is-gontractio)
