Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn darparu fframwaith i hybu llesiant pobl Cymru drwy wella datblygu cynaliadwy (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015)
- dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015
- diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru lewyrchus"
- dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael
- gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi
- rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael
Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllewnch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adran 48 o'r Ddeddf i rym ar 25 Mai 2023, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 48(1) o'r Ddeddf.
Bydd gweddill darpariaethau'r Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 48(2) a (3) o'r Ddeddf:
Mae'r gorchmynion canlynol wedi'u gwneud:
- Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 3) 2025 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
| Teitl | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
| Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk | 2026 Rhif 75 | 4 Mawrth 2026 | Pob rheoliad ac eithrio rheoliad 6: 25 Mawrth 2026 Rheoliad 6: 1 Ebrill 2026 | 2026 Rhif 75: Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales |
| Y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu | NOSC 2026 Rhif 60 | Cyhoeddwyd 24 Mawrth 2026 | 25 Mawrth 2026 | Nid yw'n berthnasol |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar 7 Mehefin 2022 a'i basio gan Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.
