Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Estynnodd Llywodraeth Cymru groeso i’r sawl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

2. Cofnodion a chamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Awst 2020 yn gywir.

3. Diweddariad ynghylch statws o ran gweithredu

Ar ôl ailddechrau’r rhaglen weithredu ym mis Mehefin 2020 (ar ôl iddi ddod i stop o ganlyniad i Covid-19) roedd gwaith y grwpiau gorchwyl a gorffen ar weithredu wedi cael ei symud yn ei flaen trwy ymgysylltu rhithwir. Mae modd cyflawni’r allbynnau allweddol o hyd. Bydd y cynllun gwaith trosfwaol ar gyfer y grwpiau gweithredu’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sy’n ofynnol o ganlyniad i Covid-19. Mae amser o’r pwys mwyaf wrth gytuno ar yr opsiwn/opsiynau ar gyfer cynllun dargyfeirio.

4. Diweddariad ynghylch cyfathrebu

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ynghylch y gwaith cyfathrebu sy’n gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth. Rhoddwyd stop swyddogol ar yr ymgyrch tra oedd holl waith cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar yr ymateb i’r argyfwng Covid-19. Bydd yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn cynnwys ymgyrch amlgyfrwng wedi’i dargedu a fydd yn golygu ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd penodol, yn ogystal ag ystod o hysbysebion a gwaith ym maes cysylltiadau cyhoeddus. Y nod yw sicrhau y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o’r newid yn y gyfraith. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau, cymunedau a sefydliadau penodol i roi gwybod iddynt am y newid yn y gyfraith ac i ystyried a allai fod angen mwy o gymorth, cyngor a gwybodaeth.

Mae’r pwyslais ar hyn o bryd ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy’n cynnwys rhoi cyflwyniadau rhagarweiniol i ystod eang o randdeiliaid trwy asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus (mae’r manylion yn y llythyr newyddion). Yn ystod y cyfnod hwn, caiff ystod o adnoddau eu datblygu ar gyfer yr ymgyrch hefyd, sy’n cynnwys nodyn briffio un dudalen am y ddeddfwriaeth.

Gofynnwyd i aelodau’r Grŵp Gweithredu Strategol ystyried a fyddai cyflwyniadau rhithwir yn ddefnyddiol ar gyfer eu sefydliadau nhw neu sefydliadau sy’n bartneriaid iddynt, a gofynnwyd iddynt drosglwyddo unrhyw geisiadau am gyflwyniadau i’r tîm gweithredu.

5. Ystyriaeth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i’r modd y gellid cynorthwyo athrawon i addysgu plant fel rhieni’r dyfodol

Cafwyd trafodaeth ynghylch sut y gellid cynorthwyo athrawon pan fydd y gyfraith wedi newid. Roedd consensws cryf ymhlith aelodau’r Gymdeithas y byddai angen adnoddau ar gyfer athrawon ac y dylai addysgu pobl ifanc am y newid yn y gyfraith gael ei wneud yng nghyd-destun hawliau plant.

6. Ystyriaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gasglu Data a Monitro i gynnwys posibl adroddiad adolygu ar ôl gweithredu

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi ystyried y dulliau arfaethedig o asesu effaith y ddeddfwriaeth, at ddiben adolygiad ar ôl gweithredu. Mae’r Grŵp eisoes wedi pennu dull y cytunwyd arno ar gyfer casglu data’n ymwneud â’r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol. Dylai fod digon o amser i gasglu digon o ddata sylfaenol cyn cychwyn y Ddeddf ym mis Mawrth 2022.

7. Diweddariad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. 

Yn ystod y cyfarfod ym mis Medi, bu’r grŵp yn archwilio opsiynau ar gyfer cynllun dargyfeirio ac yn trafod y broses ddiogelu a sut y mae hynny’n cysylltu â dargyfeirio pobl o’r system cyfiawnder troseddol.

Cytunwyd y byddai prawf yn cael ei roi ar y broses ddechrau 2021.

8. Unrhyw fater arall

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 27 Ionawr 2021