Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Trosolwg

Arweiniodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) at newidiadau enfawr i’r gyfraith ym maes tai yng Nghymru. Bwriad y newidiadau yw darparu eiddo o well safon o fewn y sector rhentu preifat a gosod rhwymedigaeth ar landlordiaid i gadw strwythurau a thu mewn eu heiddo mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddynt.  

O safbwynt tenantiaid, mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf yn cynnwys:

•    cael contract meddiannaeth ysgrifenedig yn nodi eu hawliau a’u cyfrifoldebau, 
•    cynyddu’r cyfnod rhybudd ‘dim bai’ o ddau fis i chwe mis,
•    gwell amddiffyniad rhag cael eu taflu allan,
•    gwell hawliau olyniaeth, gan osod allan pwy sydd â’r hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft, ar ôl i’r tenant presennol farw,
•    trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud hi’n haws ychwanegu eraill at gontract meddiannaeth neu eu tynnu oddi arno.

O safbwynt landlordiaid, mae’r prif ddarpariaethau yn cynnwys:

•    system symlach, gyda dau fath o gontract: ‘diogel’ ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a ‘safonol’ ar gyfer y sector rhentu preifat,
•    sicrhau bod cartrefi yn addas i bobl fyw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys cynnal profion diogelwch trydan a sicrhau bod larymau mwg a datgelyddion carbon monocsid wedi eu gosod, a’u bod yn gweithio,
•    gall eiddo gadawedig gael eu hadfeddiannu heb fod angen gorchymyn llys.

Mae sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol i’w gweld yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 11 o’r Ddeddf i rym ar 19 Ionawr 2016, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 257(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy ac Atebolrwydd Perchnogion) (Diwygio) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 8820 Mawrth 20263 Mehefin 20262026 Rhif 88: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 4111 Chwefror 20261 Mehefin 20262026 Rhif 41: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 673 (Cy. 111)11 Mehefin 202513 Mehefin 20252025 Rhif 673 (Cy. 111): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 ar legislation.gov.uk
 
2023 Rhif. 1277 (Cy. 225)28 Tachwedd 202330 Tachwedd 20232023 Rhif. 1277 (Cy. 225): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 1199 (Cy. 210)8 Tachwedd 20236 Rhagfyr 20232023 Rhif 1199 (Cy. 210): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 ar legislation.gov.uk
 
2023 Rhif 556 (Cy. 87)18 Mai 20231 Mehefin 20232023 Rhif 556 (Cy. 87): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 550 (Cy. 85)17 Mai 202318 Mai 20232023 Rhif 550 (Cy. 85): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 ar legislation.gov.uk
 
2022 No. 1258 (W. 256)30 Tachwedd 202230 Tachwedd 20222022 No. 1258 (W. 256): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 1172 (W. 242)  9 Tachwedd 2022  1 Rhagfyr 20222022 No. 1172 (W. 242): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 1166 (W. 241) 9 Tachwedd 2022  1 Rhagfyr 20222022 No. 1166 (W. 241): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 1078 (W. 229) 24 Hydref 2022 30 Tachwedd 20222022 No. 1078 (W. 229): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 1077 (W. 228)24 Hydref 2022 30 Tachwedd 20222022 No. 1077 (W. 228): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 1076 (W. 227) 24 Hydref 2022 30 Tachwedd 20222022 No. 1076 (W. 227): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 907 (W. 198)   12 Awst 2022    1 Rhagfyr 2022M2022 No. 907 (W. 198): emorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 803 (W. 179)   13 Gorffennaf 2022    1 Rhagfyr 20222022 No. 803 (W. 179): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 799 (W. 176)    13 Gorffennaf 2022  1 Rhagfyr 2022  2022 No. 799 (W. 176) : Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) ar legislation.gov.uk20222022 No. 795 (W. 173) 13 Gorffennaf 2022   14 Gorffennaf 20222022 No. 795 (W. 173): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No 781 (W. 170)15 Gorffennaf 20221 Rhagfyr 20222022 No 781 (W. 170): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 256 (W. 78)8 Mawrth 2022   1 Rhagfyr 20222022 No. 256 (W. 78): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 250 (W. 76) 8 Mawrth 20221 Rhagfyr 2022    2022 No. 250 (W. 76): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 245 (W. 73)   8 Mawrth 2022    1 Rhagfyr 20222022 No. 245 (W. 73): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 244 (W. 72)8 Mawrth 20221 Rhagfyr 20222022 No. 244 (W. 72): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 143 (W. 46)16 Chwefror 2022 1 Rhagfyr 20222022 No. 143 (W. 46): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 28 (W. 13)   7 Ionawr 2022    1 Rhagfyr 20222022 No. 28 (W. 13): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 24 (W. 12)7 Ionawr 20221 Rhagfyr 20222022 No. 24 (W. 12): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 23 (W. 11)      7 Ionawr 2022  1 Rhagfyr 20222022 No. 23 (W. 11): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 No. 22 (W. 10)    7 Ionawr 2022    1 Rhagfyr 20222022 No. 22 (W. 10): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk

 

2022 No. 6 (W. 4)  7 Ionawr 2022    1 Rhagfyr 20222022 No. 6 (W. 4): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 9 Chwefror 2015 gan Lesley Griffiths AS, a oedd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pryd. Cafodd ei basio ar 17 Tachwedd 2015.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016.