Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
  • gwneud gorchmynion sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer personau a gyflogir mewn amaethyddiaeth yng Nghymru (“gweithwyr amaethyddol”)
  • gorfodi’r telerau a’r amodau hynny

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Yn unol ag adran 19 daeth darpariaethau'r Ddeddf hon i rym ar 30 Gorffennaf 2014, (y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol):

Is-deddfwriaeth sydd wedi wneud o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth sydd wedi wneud o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 293 (W. 59)6 Mawrth 202511 Mawrth 20252025 Rhif 293 (W. 59): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 390 (Cy. 69)15 Mawrth 20241 Ebrill 20242024 Rhif 390 (Cy. 69): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 260 (Cy. 37)2 Mawrth 20241 Ebrill 20242023 Rhif 260 (Cy. 37): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 (dirymwyd ar legislation.gov.uk)2022 Rhif 794 (Cy. 172)11 Gorffennaf 20226 Awst 20222022 Rhif 794 (Cy. 172): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 (dirymwyd) ar legislation.gov.uk2022 Rhif 417 (Cy. 102)31 Mawrth 202222 Ebrill 20222022 Rhif 417 (Cy. 102): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 ar legislation.gov.uk2020 Rhif 247 (Cy. 78)26 Mawrth 20201 Ebrill 20202020 Rhif 247 (Cy. 78): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 511 (Cy. 118)6 Mawrth 20191 Ebrill 20192019 Rhif 511 (Cy. 118): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 433 (Cy. 76)27 Mawrth 20181 Ebrill 2018Memorandwm 2018 Rhif 433 (Cy. 76): Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 515 (Cy. 89)    18 Ebrill 2018      19 Ebrill 2018  2018 Rhif 515 (Cy. 89): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 1058 (Cy. 271)2 Tachwedd 20173 Tachwedd 20172017 Rhif 1058 (Cy. 271): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 255 (Cy. 89)1 Mawrth 20161 Ebrill 20162016 Rhif 255 (Cy. 89): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 107 (Cy. 53)3 Chwefror 201626 Chwefror 2016M2016 Rhif 107 (Cy. 53): emorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 2001 (Cy. 304)  8 Rhagfyr 2015 9 Rhagfyr 2015    2015 Rhif 2001 (Cy. 304)  : Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cafodd y Bil hwn ei gyflwyno fel Bil brys ar 8 Gorffennaf 2013 gan Alun Davies AS, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd. 

Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Senedd yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Senedd Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:

“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”

Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 17 Gorffennaf 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014.