Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei basio drwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026 (“Deddf 2026”) yn gwneud diwygiadau i’r maen prawf cymhwyso ar gyfer aelodaeth feddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; ac yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol gysylltiedig ynghylch dilysrwydd penodiadau blaenorol i’r Tribiwnlys hwnnw ac aelodaeth ohono.
Mae Deddf 2026:
- yn darparu bod rhaid i aelodau meddygol o’r Tribiwnlys hwnnw fod yn ymarferwyr meddygol cofrestredig (a ddiffinnir fel person cofrestredig llawn o fewn ystyr Deddf Meddygaeth 1983), ond nad oes angen iddynt ddal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno
- yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau hyfforddiant a gynhelir gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer aelodau meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru nad ydynt yn dal trwyddedau i ymarfer o dan Ddeddf Meddygaeth 1983 (o dan adran 60(5)(a) o Ddeddf Cymru 2017).
- yn gosod dyletswydd arall ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad o’r adolygiad heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Read the full Act:
Dod i rym
Yn unol ag adran 3 o Ddeddf 2026, daeth holl ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 22 Ionawr 2026. Nid oedd unrhyw orchmynion cychwyn yn ofynnol.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2026
Nid yw Deddf 2026 yn cynnwys unrhyw bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cafodd y Bil ei gyflwyno i’r Senedd o dan weithdrefnau brys ar 13 Ionawr 2026 gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 14 Ionawr 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Ionawr 2026.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
An Explanatory Memorandum was originally prepared for consideration by the Senedd alongside the Bill. This has now been revised and updated to reflect the final form of the 2026 Act:
