Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Tachwedd 2020.

Cyfnod ymgynghori:
5 Hydref 2020 i 2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau posibl i Ddeddf y Coronafeirws 2020. Mae angen eich sylwadau arnom erbyn 2 Tachwedd 2020.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Y newidiadau posibl yw cynnal neu atal darpariaethau adran 15 o Ddeddf y Coronafeirws 2020, a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi.

Mae’r rheini yn newid dyletswyddau penodol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r rhain yn cyfeirio at asesiadau a diwallu anghenion gofal a chymorth. Rydym yn gofyn ichi fynegi’ch barn a darparu tystiolaeth ategol.

Bydd eich ymateb yn cynorthwyo ein penderfyniadau i gynnal neu atal darpariaethau adran 15 o Ddeddf y Coronafeirws 2020, a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi.

Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch SocialCareCoordination@llyw.wales