Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 (y Ddeddf) yn diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i roi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn sefydlu ‘Cynllun Atebolrwyddau Presennol) (CAP). Pwrpas y cynllun yw indemnio meddygon teulu yng Nghymru rhag hawliadau hanesyddol o esgeuluster clinigol sy’n ymwneud â gofal a roddwyd cyn 1 Ebrill 2019. Bwriedir i’r CAP ategu’r Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol sydd ar gyfer hawliadau sy’n codi ar ôl 1 Ebrill 2019.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Ddeddf i rym ar 27 Medi 2020, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 2:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Vaughan Gethin AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 14 Hydref 2019, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 14 Ionawr 2020.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2020.