Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn diwygio Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 i ddatgymhwyso darpariaethau penodol a oedd wedi’u cymhwyso i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru drwy newidiadau a wnaed i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Undebau Llafur 2016. Effaith Deddf 2017 yw nad yw'r materion canlynol yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru:

  • y trothwy o 40% o’r bleidlais o blaid gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig 
  • pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am amser cyfleuster (sef pan fydd gweithiwr cyflogedig yn cymryd amser i ffwrdd i gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau fel cynrychiolydd undeb llafur) yn cael ei chyhoeddi ac i osod gofynion ar gyflogwyr y sector cyhoeddus mewn perthynas ag amser cyfleuster â thâl 
  • cyfyngiadau ar gyflogwyr yn tynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau eu gweithwyr.

Mae Deddf 2017 hefyd yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus Cymru rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol swyddogol. Mae awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru yn cynnwys GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, awdurdodau tân a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2017 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2017 i rym ar 8 Medi 2017, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 3:

Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod adrannau 1 a 2 yn dod i rym ar ddyddiau a bennir mewn gorchymyn (neu orchmynion) a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, ar 16 Ionawr 2017. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (a oedd yn cael ei adnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Gorffennaf 2017.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):