Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr o’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yr ydym wedi cyflwyno i fodloni ein hymrwymiadau Cymru ddi-fwg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Mae’r Ddeddf yn ymdrin â nifer o bryderon iechyd y cyhoedd penodol, gan gynnwys cynhyrchion tybaco a nicotin.

Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Mae’r Rheoliadau hyn gwahardd ysmygu mewn mangreoedd, lleoedd a cherbydau penodol.

Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015 

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn drosedd i oedolyn brynu tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin ar ran person o dan 18 mlwydd oed.

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion mewn perthynas ag arddangos prisiau cynhyrchion tybaco.

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012

Mae’r Rheoliadau hyn yn atal tybaco rhag cael ei hysbysebu a chynhyrchion tybaco rhag cael eu harddangos mewn siopau manwerthu.

Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu.