Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn nodi beth y mae hyn yn ei olygu a’r pethau y mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am leoedd di-fwg eu gwneud.

Y gyfraith cyn 1 Mawrth 2021

Ar 2 Ebrill 2007, daeth Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 ('Rheoliadau 2007') i rym. Cafodd y Rheoliadau hyn eu cyflwyno er mwyn achub bywydau ac atal clefydau a achosir gan fwg ail law. Gwnaed y Rheoliadau trwy ddefnyddio’r pwerau ym Mhennod 1 Rhan 1 o Ddeddf Iechyd 2006.

Golyga’r ddeddfwriaeth na chaiff smygu ei ganiatáu mewn mannau cyhoeddus ‘caeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’, yn cynnwys gweithleoedd. Rhaid arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn mangreoedd a cherbydau di-fwg, a chaiff y gyfraith ei gorfodi gan Awdurdodau Lleol. Bydd methu â chydymffurfio â’r gyfraith hon yn drosedd.

Y gyfraith o 1 Mawrth 2021

Ar 1 Mawrth 2021, daeth Pennod 1 Rhan 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ('Deddf 2017') a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”) i rym. Mae nifer o’r gofynion a sefydlwyd yn 2007 wedi aros yr un fath, ond trwy gyfrwng Deddf 2017 a Rheoliadau 2020 cafodd newidiadau eu gwneud i ymestyn y gofynion di-fwg i fwy o leoedd a lleoliadau yng Nghymru. Cafodd Rheoliadau 2007 effaith fawr ar nifer y bobl sy’n smygu, ond smygu yw prif achos marw cyn pryd yng Nghymru o hyd. Felly, rydym yn gwneud mwy i amddiffyn pobl rhag mwg ail law niweidiol a gwyddom y bydd lleihau nifer y bobl ifanc sy’n dechrau smygu yn arwain at achub bywydau.

Yn ogystal â’r newidiadau hynny a gyflwynwyd yn 2007, sy’n golygu nad yw smygu yn cael ei ganiatáu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd “caeedig” a “sylweddol gaeedig”, mae’r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2021, yn golygu y bydd yn ofynnol hefyd i diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd awyr agored, fod yn ddi-fwg.

Cafodd rhagor o newidiadau eu gwneud hefyd i leoliadau nad oedd yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg yn ôl y ddeddfwriaeth flaenorol. O 1 Mawrth 2022, ni fydd ystafelloedd smygu mewn gwestai a thai llety ac ati yn cael eu caniatáu mwyach, a bydd hi’n ofynnol i bob llety gwyliau hunangynhwysol (bythynnod, carafanau ac ati) fod yn ddi-fwg. Ymhellach,  ceir gwared yn raddol ag unrhyw ystafelloedd smygu mewn Unedau Iechyd Meddwl erbyn 1 Medi 2022, a diwygiwyd pwy a all ddefnyddio ystafelloedd smygu dynodedig mewn cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion. Mewn rhai amgylchiadau, bydd modd i’r rhai sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill hefyd allu gweithio mewn amgylchedd di-fwg, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn nwyddau neu wasanaethau o annedd.

Os hoffech gael mwy o fanylion neu gopïau o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, ewch i: https://llyw.cymru/ysmygu 

Os hoffech ofyn cwestiwn i ni, cysylltwch â PolisiTybaco@llyw.cymru

Cefndir

Cafodd Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 ('Rheoliadau 2007') eu cyflwyno i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail law. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn atal smygu mewn mannau cyhoeddus ‘caeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’, yn cynnwys gweithleoedd a cherbydau. Bu’r ddeddfwriaeth yn effeithiol iawn. Cafodd lawer iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd ac fe gydymffurfiwyd â hi i raddau helaeth iawn. Yn 2015, cafodd Rheoliadau 2007 eu diwygio er mwyn ei gwneud hi’n ofynnol i geir sy’n cludo plant fod yn ddi-fwg.

Mae smygu’n hynod o niweidiol ac andwyol i iechyd, a dyna yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru o hyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau effeithiau smygu ar iechyd a chymryd camau i wireddu ein nod o gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030.

Ar 1 Mawrth 2021, cafodd gofynion Pennod 1 Rhan 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ('Deddf 2017') a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”) eu rhoi ar waith gennym. Gyda’i gilydd, maent yn sefydlu’r gyfundrefn ddi-fwg yng Nghymru. Mae llawer o’r gofynion a sefydlwyd yn Rheoliadau 2007 wedi aros yr un fath, ond trwy gyfrwng Deddf 2017 a Rheoliadau 2020, gwnaethom  newidiadau i ymestyn y gofynion di-fwg i fwy o leoedd a lleoliadau yng Nghymru. Bydd hefyd yn ofynnol yn awr i diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd awyr agored, fod yn ddi-fwg.

Trwy ei gwneud hi’n ofynnol i fwy o fannau cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddi-fwg, mae modd helpu i leihau’r cysylltiad â mwg ail law niweidiol a helpu i leihau’r sbardun a allai beri i gyn-smygwyr ailddechrau smygu. Mae ein hysbytai yn fannau lle rydym yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol ynglŷn â’u hiechyd. Felly, trwy ei gwneud hi’n ofynnol i safleoedd ysbytai fod yn ddi-fwg, mae modd hybu amgylcheddau gofal iachach a helpu i gefnogi smygwyr sy’n defnyddio gwasanaethau ysbytai, yn ymweld ag ysbytai neu’n gweithio mewn ysbytai, i roi’r gorau iddi.

Gwyddom fod lleihau nifer y bobl ifanc sy’n dechrau smygu yn arwain at achub bywydau. Felly, mae gwahardd smygu mewn ardaloedd lle bydd plant a phobl ifanc yn mynd iddynt yn rheolaidd – fel meysydd chwarae cyhoeddus a thiroedd ysgolion – yn golygu nad yw’r arfer o smygu yn cael ei hystyried fel ymddygiad mor arferol ac mae’n lleihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau smygu. Mae Hawliau Plant wedi’u diogelu gan Gyfraith Cymru ac mae’r mesurau yr ydym wedi eu cyflwyno yn cefnogi hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Rheoliadau 2020, sydd ar gael yma: https://llyw.cymru/ysmygu

Smygu ac e-sigaréts

Ymdrin â smygu tybaco yn unig y mae’r ddeddfwriaeth yr ydym wedi ei rhoi ar waith. Nid yw’n cynnwys e-sigaréts. Mae pob cyfeiriad yn y Canllawiau hyn at ‘Smygu’ yn ymwneud â’r diffiniad yn y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu smygu sigaréts, pibau, sigârs, sigaréts llysieuol a phibau dŵr (a elwir yn aml yn bibau ‘hookah’ neu ‘shisha’) ac ati.

Felly, os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, gall y rhai sy’n gyfrifol am leoliadau a mannau penodol gyflwyno gofynion anneddfwriaethol, gwirfoddol yn ymwneud ag e-sigaréts os dymunant.

Gweithleoedd di-fwg a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd

  • Yn 2021, newidiwyd y diffiniadau o ‘gaeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’ mewn perthynas â gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd, er mwyn gwneud pethau’n gliriach.
  • Mae smygu mewn gweithleoedd neu fangreoedd di-fwg sydd ar agor i’r cyhoedd yn drosedd. Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y mangreoedd di-fwg gymryd camau rhesymol i atal smygu yno. Ar gyfer Anheddau sy’n cael eu defnyddio fel gweithleoedd, gweler yr adran Anheddau yn y canllawiau hyn.
  • Mae’n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn mangreoedd di-fwg.
  • Y rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n nodi’r manylion yw adrannau 6, 7 ac 8 o Ddeddf 2017 a rheoliad 3 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Ers 2 Ebrill 2007, mae’n rhaid i bob man cyhoeddus, yn cynnwys gweithleoedd a mangreoedd lle caiff gwaith gwirfoddol ei wneud, fod yn ddi-fwg. Mae’r ddeddfwriaeth yn gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus a ddiffinnir fel mannau ‘caeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’.

Yn ôl Rheoliadau 2007, ystyriwyd bod mangreoedd yn ‘gaeedig’ os oedd ganddynt nenfwd neu do (naill ai dyfais neu strwythur sefydlog neu symudadwy), ac os oeddent, ac eithrio drysau, ffenestri neu goridorau, yn hollol gaeedig, boed hynny’n barhaol neu dros dro. Roedd mangreoedd yn cael eu diffinio fel mannau ‘sylweddol gaeedig’ os oedd ganddynt nenfwd neu do (naill ai dyfais neu strwythur sefydlog neu symudadwy), ond bod agoriadau i’w cael yn y waliau, a oedd yn llai na hanner cyfanswm y waliau. Roedd y diffiniad hwn yn cynnwys strwythurau eraill a oedd yn gweithredu fel waliau ac a oedd yn ffurfio perimedr y mangreoedd. Wrth bennu maint agoriad, ni ddylid fod wedi ystyried yr agoriadau lle y gallai drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill fod ar agor neu ar gau.

Arwyddion

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn lle amlwg ar/wrth ymyl pob mynedfa i fangre ddi-fwg, er mwyn i bobl sy’n mynd i mewn i’r fangre eu gweld.

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

Yn achos gweithleoedd a mangreoedd ‘caeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’ sydd ar agor i’r cyhoedd, rhaid iddynt barhau i fod yn ddi-fwg, ond mae’r diffiniadau hyn wedi cael eu newid er mwyn iddynt fod yn gliriach.

Mewn rhai achosion, mae’r diffiniad o ‘gaeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’ wedi peri dryswch – yn enwedig o ran a ddylid rhoi ystyriaeth i strwythurau nad ydynt yn rhan o’r fangre, ond sy’n gweithredu fel waliau, ac felly yn rhan o berimedr y fangre, wrth asesu a yw’r fangre’n ‘gaeedig’ neu’n ‘sylweddol gaeedig’. Cafodd y diffiniadau o’r ystyron hyn eu diweddaru er mwyn ei gwneud hi’n glir y dylid cynnwys strwythurau eraill sy’n rhan o berimedr y fangre wrth asesu’r strwythur.

Dyletswydd i atal smygu a gorfodi hynny

Dylai’r sawl sy’n rheoli neu sy’n gysylltiedig â rheoli’r gweithle neu’r fangre ddi-fwg sydd ar agor i’r cyhoedd gymryd camau rhesymol i rwystro person sy’n smygu yno rhag smygu. Yn y Canllawiau hyn mae adran o’r enw Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth lle ceir awgrymiadau’n ymwneud â’r camau rhesymol y gall rheolwyr y lleoliadau hyn eu cymryd.

Ers 2007, mae smygu mewn gweithle a mangre gaeedig neu sylweddol gaeedig sydd ar agor i’r cyhoedd yn drosedd. Ymhellach, mae hefyd yn drosedd methu â chymryd camau rhesymol i rwystro person rhag smygu yno. Mae swyddogion awdurdodedig ym mhob Awdurdod Lleol yn gorfodi’r gyfraith ledled Cymru ac rydym yn parhau i ddisgwyl y bydd y cyhoedd yn cydymffurfio â’r rheolau i raddau helaeth iawn. Gellir cael mwy o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y Canllawiau hyn.

Arwyddion

Mae’n ofynnol arddangos arwyddion mewn mangreoedd di-fwg. Rydym wedi ei gwneud hi’n haws cydymffurfio â’r gofynion o ran arwyddion. Mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn.

Cerbydau di-fwg

  • Mae smygu mewn cerbyd a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion gwaith, neu i gludo aelodau o’r cyhoedd, yn erbyn y gyfraith. Mae angen arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’.
  • Mae smygu mewn cerbyd preifat sy’n cludo plentyn (person dan 18 oed) yn erbyn y gyfraith hefyd. Nid yw’n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ yn y cerbydau hyn.
  • Yn achos cerbydau lle caiff nwyddau neu wasanaethau y talwyd amdanynt, neu nwyddau neu wasanaethau gwirfoddol, eu darparu i berson arall mewn cerbyd, mae’n ofynnol i’r cerbydau hyn fod yn ddi-fwg pan fo’r nwyddau neu’r gwasanaethau’n cael eu darparu. Nid yw’n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’, oherwydd dim ond am rywfaint o’r amser y bydd yn ofynnol i’r cerbyd fod yn ddi-fwg.
  • Yn achos cerbydau di-fwg, rhaid i’r gyrrwr, y gweithredwr neu’r sawl sy’n gyfrifol am y cerbyd gymryd camau rhesymol i rwystro smygu yn y cerbyd.
  • Y rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n nodi’r manylion yw adran 15 o Ddeddf 2017 a rheoliadau 15, 16 ac 17 o Reoliadau 2020. Mae geiriad gofynnol yr arwydd i’w weld yn rheoliad 18 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021

Yn gyffredinol, nid oedd y ddeddfwriaeth yn cwmpasu anheddau cyn hynny, ond roedd eithriadau i hyn.

Os yw annedd yn weithle hefyd, dim ond y rhannau hynny o’r annedd a ddefnyddir yn unswydd ar gyfer gwaith yr oedd yn ofynnol iddynt o dan y ddeddfwriaeth (ac y mae’n parhau i fod yn ofynnol iddynt) fod yn ddi-fwg drwy’r adeg. Er enghraifft, os defnyddir ystafell mewn cartref yn unswydd at ddibenion gwaith, ac os bydd pobl eraill nad ydynt yn byw yn yr adeilad yn mynd i mewn i’r ystafell honno yng nghyswllt y gwaith a wneir yno (e.e. fel gweithwyr neu gwsmeriaid), yna mae’n ofynnol i’r ystafell fod yn ddi-fwg.

Yn achos unrhyw rannau o annedd a rennir gyda mangre arall, mae’n ofynnol i’r rhannau hynny fod yn ddi-fwg. Mae hyn yn berthnasol i gyfleusterau a rennir, fel lifftiau neu risiau cymunol mewn bloc o fflatiau a cheginau neu olchdai a rennir mewn noswylfeydd.

Arferai’r ddeddfwriaeth ddweud hefyd nad oedd yn rhaid i annedd fod yn ddi-fwg tra roedd gwasanaeth yn cael ei ddarparu i bersonau sy’n byw yno. Er enghraifft, gwasanaethau personol/gofal iechyd, fel gofalwyr yn cynorthwyo rhywun sy’n byw yn ei gartref neu gynorthwyo gyda gwaith domestig neu waith cynnal a chadw (e.e. glanhawyr a masnachwyr yn gweithio yn yr annedd honno).

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021

Yn achos anheddau a ddefnyddir hefyd fel gweithleoedd am rywfaint o’r amser, mae’n ofynnol i fwy ohonynt fod yn anheddau di-fwg yn awr. Cafodd y ddeddfwriaeth ei diwygio er mwyn amddiffyn mwy o weithwyr rhag effeithiau niweidiol mwg ail law tra byddant yn gweithio. 

Mae’r y ddeddfwriaeth a oedd ar waith cyn 1 Mawrth 2021 yn parhau i fod mewn grym. Yn achos cerbydau caeedig a ddefnyddir at ddibenion gwaith gan fwy nag un person, neu a ddefnyddir i gludo’r cyhoedd, golyga hyn fod yn rhaid iddynt barhau i fod yn ddi-fwg drwy’r adeg. Rhaid arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ yn y cerbyd, a’r awdurdodau lleol a fydd yn dal i fod yn gyfrifol am orfodi hyn.

Ymhellach, mae smygu mewn cerbyd preifat sy’n cludo plentyn yn dal i fod yn erbyn y gyfraith. Ni fydd yn ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ gan mai cerbyd preifat ydyw. Mae’r awdurdodau lleol a’r heddlu wedi’u hawdurdodi i orfodi’r gofyniad hwn. 

Ymestynodd y rhannau newydd o’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd o 1 Mawrth 2021 y gofynion di-fwg i gwmpasu pobl sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt, neu nwyddau neu wasanaethau gwirfoddol, i berson arall mewn cerbyd. Nid oedd cerbydau o’r fath yn cael eu cynnwys cyn hynny o dan y gofynion di-fwg  oherwydd nad oeddent yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion gwaith neu ddibenion trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym eisiau amddiffyn cynifer o bobl ag y bo modd rhag peryglon mwg ail law, felly, rydym wedi ymestyn y gofynion di-fwg fel eu bod yn berthnasol i fwy o gerbydau.

Isod ceir rhai enghreifftiau o sut gallai’r gofynion a gyflwynwyd gennym ar 1 Mawrth 2021 weithio:

  • Mae gofalwr yn defnyddio’i gar i fynd â’r person y mae’n gofalu amdano i’r feddygfa. Mae angen i’r car fod yn ddi-fwg yn ystod y siwrneiau hynny. Os defnyddir y car at ddibenion cymdeithasol, dibenion domestig neu ddibenion preifat eraill yn ystod gweddill yr amser, caiff smygu yn y car ei ganiatáu. Mae gofyniad tebyg ar waith ar gyfer ceir a ddefnyddir gan warchodwyr plant i fynd â phlant yn ôl a blaen i’r ysgol, ond a ddefnyddir fel arall at ddibenion preifat, cymdeithasol neu ddomestig.
  • Mae gwirfoddolwr yn casglu pobl yn ei gar ei hun er mwyn mynd â nhw i ganolfan ddydd. Mae’n rhaid i’r car fod yn ddi-fwg yn ystod y siwrneiau hyn, ond ni fydd yn rhaid iddo fod yn ddi-fwg ar adegau eraill.
  • Yn achos ceir a ddefnyddir yn rhan-amser yn unig i ddarparu gwasanaethau llogi preifat, bydd yn rhaid iddynt fod yn ddi-fwg tra caiff y gwasanaethau llogi preifat hynny eu darparu.

Nid yw’r gofynion yn y ddeddfwriaeth yn berthnasol i achosion pa na ddarperir nwyddau neu wasanaethau. Er enghraifft, yn achos car preifat a ddefnyddir gan rywun i gludo cydweithiwr i gyfarfod, ni fydd yn rhaid iddo fod yn ddi-fwg, oni bai bod y cydweithiwr hwnnw dan 18 oed.

Eithriadau

Os defnyddir carafanau neu garafanau modur i fyw ynddynt, nid yw’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg, pa un a ydynt ar y ffordd ai peidio.

Dyletswydd i atal smygu a gorfodi hynny

Mae gan y gyrrwr, y gweithredwr neu’r sawl sy’n gyfrifol am reoli cerbyd di-fwg ddyletswydd i atal smygu mewn cerbyd di-fwg. Bydd methu â gwneud hyn yn drosedd. Yn yr adran Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth yn y Canllawiau hyn, ceir awgrymiadau ynghylch y camau rhesymol y gellir eu cymryd.

Yr awdurdodau lleol (a’r heddlu yn achos ceir preifat sy’n cludo plant) sy’n gyfrifol am orfodi’r gofynion yn ymwneud â cherbydau di-fwg. Mae yna droseddau’n ymwneud â smygu mewn cerbyd di-fwg, troseddau’n ymwneud â pheidio ag arddangos arwyddion pan fo hynny’n ofynnol, yn ogystal â throseddau’n ymwneud â methu ag atal smygu. Mae rhagor o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y Canllawiau hyn.

Arwyddion

Mae’n ofynnol i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn cerbydau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion gwaith neu a ddefnyddir i gludo’r cyhoedd.

Rydym wedi ei gwneud hi’n haws cydymffurfio â’r gofynion arwyddion – mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn.

Nid oes unrhyw ofyniad i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn cerbydau preifat sy’n cludo plant neu mewn cerbydau preifat a ddefnyddir i ddarparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt neu nwyddau neu wasanaethau gwirfoddol i berson arall.

Anheddau

  • O 1 Mawrth 2021, gwnaethom hi’n ofynnol i ragor o anheddau a ddefnyddir fel mannau gweithio am rywfaint o amser, fod yn ddi-fwg. Dim ond y rhannau a ddefnyddir fel gweithle y bydd yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg, a dim ond tra cânt eu defnyddio fel gweithle.
  • Nid yw’n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ unrhyw bryd ar gyfer safle sy’n cael ei ddefnyddio i unrhyw raddau fel annedd.
  • Y rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n nodi’r manylion yw adrannau 7 ac 8 o Ddeddf 2017 a rheoliadau 4 a 13 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Yn gyffredinol, nid yw’r ddeddfwriaeth yn cwmpasu anheddau, ond mae eithriadau i hyn.

Os yw annedd yn weithle hefyd, dim ond y rhannau hynny o’r annedd a ddefnyddir yn unswydd ar gyfer gwaith mae’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg drwy’r adeg. Er enghraifft, os defnyddir ystafell mewn cartref yn unswydd at ddibenion gwaith, ac os bydd pobl eraill nad ydynt yn byw yn yr adeilad yn mynd i mewn i’r ystafell honno yng nghyswllt y gwaith a wneir yno (e.e. fel gweithwyr neu gwsmeriaid), yna mae’n ofynnol i’r ystafell fod yn ddi-fwg.

Yn achos unrhyw rannau o annedd a rennir gyda mangre arall, mae’n ofynnol i’r rhannau hynny fod yn ddi-fwg. Mae hyn yn berthnasol i gyfleusterau a rennir, fel lifftiau neu risiau cymunol mewn bloc o fflatiau a cheginau neu olchdai a rennir mewn noswylfeydd.

Dywed y ddeddfwriaeth bresennol hefyd nad oes yn rhaid i annedd fod yn ddi-fwg tra darperir gwasanaeth i bobl sy’n byw yno. Er enghraifft, gwasanaethau personol/gofal iechyd, fel gofalwyr yn cynorthwyo rhywun sy’n byw yn ei gartref neu gynorthwyo gyda gwaith domestig neu waith cynnal a chadw (e.e. glanhawyr a masnachwyr yn gweithio yn yr annedd honno).

Beth sy’n newid ar 1 Mawrth 2021?

Yn achos anheddau a ddefnyddir hefyd fel gweithleoedd am rywfaint o’r amser, bydd yn ofynnol i fwy ohonynt fod yn anheddau di-fwg. Mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei diwygio er mwyn amddiffyn mwy o weithwyr rhag effeithiau niweidiol mwg ail law tra byddant yn gweithio. Yn achos aelodau o’r cyhoedd sy’n ceisio neu’n derbyn nwyddau neu wasanaethau gan berson sy’n gweithio mewn annedd, bydd modd iddynt wneud hynny mewn amgylchedd di-fwg.

Rydym hefyd wedi cael gwared â’r eithriad presennol sy’n dweud nad oes yn rhaid i annedd fod yn ddi-fwg tra bydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu i rywun sy’n byw yn yr annedd. Golyga’r newid hwn y bydd pob math o weithgareddau gwaith yn cael eu cynnwys wrth asesu a yw annedd yn weithle, gan ei gwneud hi’n ofynnol felly i’r annedd fod yn ddi-fwg tra bydd pobl yn gweithio yno.

Pa anheddau y mae’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg? 

I gael ei hystyried yn weithle, rhaid i annedd berthyn i un o’r categorïau isod. Bydd annedd yn cael ei hystyried yn weithle os yw:

1.    Yn cael ei defnyddio fel gweithle gan fwy nag un person a naill ai:

a)    nid yw o leiaf un o’r gweithwyr hynny yn byw yno; neu

b)    mae pob gweithiwr yn byw yno, ond efallai y bydd aelodau o’r cyhoedd yn mynd i’r safle i geisio neu dderbyn nwyddau neu wasanaethau gan berson sy’n byw yno (hyd yn oed os nad yw aelodau o’r cyhoedd bob amser yn bresennol).

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol hyd yn oed pan fydd personau yn gweithio yno ar wahanol adegau neu o bryd i’w gilydd os yw: 

2.    Yn cael ei ddefnyddio fel gweithle gan dim mwy nag un person ond gallai aelodau o’r cyhoedd ddod i’r annedd er mwyn ceisio neu dderbyn nwyddau neu wasanaethau gan y person sy’n gweithio yno. Bydd yn parhau i fod yn weithle hyd yn oed os nad yw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol bob amser.    

Golyga hyn fod aelodau o’r cyhoedd sy’n ceisio neu’n derbyn nwyddau neu wasanaethau gan berson sy’n gweithio mewn annedd yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd di-fwg. 

Rydym hefyd wedi dileu’r esemptiad blaenorol a oedd yn dweud nad oedd yn rhaid i annedd fod yn ddi-fwg pan fo gwasanaeth yn cael ei ddarparu i berson sy’n byw yn yr annedd honno. Golyga hyn fod pob math o weithgareddau gwaith yn cael eu cynnwys yn yr asesiad i weld a ydy annedd yn weithle ac mae’n ofynnol felly iddynt fod yn ddi-fwg tra bo pobl yn gweithio yno.  

Beth mae bod 'yn ddi-fwg' yn ei olygu mewn annedd?

Mae yna derfynau ar y cyfyngiadau sy’n berthnasol i anheddau sy’n cael eu defnyddio fel gweithleoedd, sef:

  • Dim ond y rhannau hynny o’r annedd a ddefnyddir fel gweithle y mae’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg, h.y. ble bydd person yn gweithio.

Er enghraifft, os bydd aelod o’r cyhoedd yn cael ffisiotherapi a ddarperir yng nghartref y ffisiotherapydd, dim ond y rhannau o’r eiddo a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i’r cyhoedd y mae’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg (er enghraifft, y cyntedd, yr ystafell a ddefnyddir ac unrhyw gyfleusterau ystafell ymolchi a ddarperir).

Os bydd glanhäwr yn mynd i eiddo (lle mae person arall hefyd yn gweithio) i ddarparu gwasanaethau glanhau, mae’n ofynnol i’r rhannau y bydd y glanhäwr yn mynd iddynt tra bydd yn gweithio fod yn ddi-fwg.

  • Dim ond tra bydd y person yn gweithio y mae’n rhaid i’r annedd fod yn ddi-fwg.

Gan barhau â’r enghreifftiau uchod, gallai’r ffisiotherapydd smygu unrhyw le yn ei gartref pan nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith. Yn yr un modd, caiff y person sy’n derbyn y gwasanaethau glanhau smygu unrhyw le yn yr annedd, cyn belled nad yw’r glanhäwr yn gweithio.

  • Os defnyddir annedd fel gweithle, ac os bydd aelodau o’r cyhoedd yn mynd yno er mwyn ceisio neu dderbyn nwyddau neu wasanaethau, yna dim ond y rhan honno o’r annedd y gallai’r cyhoedd fynd iddi a fydd yn gorfod bod yn ddi-fwg. Mae hyn yn berthnasol heb ystyried a yw’r holl bobl sy’n gweithio yn yr annedd/gweithle yn byw yno hefyd.
  • Ym mhob achos, dim ond y rhannau o’r annedd sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig y bydd yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg.

Mae'n drosedd smygu mewn gweithle di-fwg.

Isod ceir enghreifftiau o sut y byddai’r gofynion yn gweithio mewn gwahanol sefyllfaoedd:

  • Mae gwarchodwr plant yn gofalu am blentyn yn ei chartref. Mae'n ofynnol i’r cartref fod yn ddi-fwg yn y rhannau a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau gwarchod plant tra bydd y plant yng nghartref y gwarchodwr plant
  • Mae gofalwr yn mynd i gartref person i’w gynorthwyo i ymolchi, gwisgo a pharatoi bwyd. Mae’r person felly’n derbyn gwasanaeth gan y gofalwr ac mae rhannau o’r annedd felly wedi dod yn weithle i’r gofalwr. Mae’r gofalwr yn cynorthwyo’r person yn yr ystafell wely, yr ystafell ymolchi a’r gegin. Tra bydd y gofalwr yng nghartref y person, ni fydd modd i’r person smygu yn y rhannau hyn o’i gartref gan mai gweithle’r gofalwr ydynt. Pe bai’r person yn dymuno smygu tra mae’r gofalwr yn gweithio yn y cartref, gall fynd i fan na chaiff ei ddefnyddio gan y gofalwr i weithio (er enghraifft, yr ystafell fyw neu’r ardd). Pe bai angen, gall y gofalwr ei gynorthwyo i symud i’r rhan honno o’i gartref i smygu. Ar ôl i’r gofalwr adael, gall y person smygu yn unrhyw le yn ei gartref, yn cynnwys yn y mannau hynny a ddefnyddir fel gweithle gan y gofalwr tra mae’r gofalwr yno.
  • Mae triniwr gwallt yn gweithio mewn ystafell yn ei chartref a drowyd yn salon trin gwallt. Mae’n ofynnol i’r salon ac i unrhyw le arall y bydd cwsmeriaid yn mynd iddo (y cyntedd a’r ystafell ymolchi, er enghraifft) fod yn ddi-fwg yn ystod oriau gwaith y triniwr gwallt. Ni fydd yn rhaid i fannau eraill yn yr annedd fod yn ddi-fwg, hyd yn oed pan fydd cwsmeriaid yn y salon. Y tu allan i oriau gwaith, gellir smygu yn unrhyw le yn yr annedd, yn cynnwys y mannau hynny a ddefnyddir fel gweithle gan y triniwr gwallt. Y rheswm dros hyn yw nad oes angen i’r mannau hyn fod yn ddi-fwg ond pan fyddant yn cael eu defnyddio fel gweithle’r triniwr gwallt.
  • Mae ficer yn byw mewn ficerdy ac yn cynorthwyo aelodau ei blwyf. Pan ddefnyddir y ficerdy fel man gwaith, a phan gaiff gwaith ei wneud yno (er enghraifft, pan fydd swyddogion yr eglwys neu aelodau o’r cyhoedd yno, neu pan fydd gwaith arbennig yn cael ei wneud yno, fel ysgrifennu pregethau neu gynllunio busnes yr eglwys), bydd yn rhaid i’r rhannau o’r ficerdy a ddefnyddir at ddibenion gwaith fod yn ddi-fwg. Pan na fydd gwaith yn cael ei wneud, ni fydd yn ofynnol i’r annedd fod yn ddi-fwg. Gall aelodau o’r gymuned ymweld â’r ficerdy heb ddim, neu fawr ddim, rhybudd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos o bosibl, er mwyn cael cyngor neu wasanaeth cwnsela. Mewn achosion o’r fath, bydd yn rhaid i’r rhannau o’r annedd a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaethau hyn (er enghraifft, y gegin neu’r ystafell eistedd) fod yn ddi-fwg yn ystod ymweliad y person. Unwaith y mae’r person a oedd yn ceisio cymorth wedi gadael, caiff y ficer a’r teulu smygu unrhyw le yn y cartref, gan gynnwys y mannau hynny a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymweliad fel gweithle. Nid yw hi bob amser yn hawdd gwahaniaethu rhwng ymwelydd sy’n galw oherwydd cyfeillgarwch personol â’r ficer ac ymwelydd sy’n galw i geisio gwasanaethau proffesiynol y ficer yn unig. Mae’n rhesymol i ficer ddefnyddio ei synnwyr cyffredin os bydd ymweliad personol yn troi’n ymweliad cysylltiedig â gwaith, neu fel arall. Os yw’n amlwg bod ymweliad wedi troi’n un proffesiynol, dylai’r annedd fod yn ddi-fwg tra mae’r ymwelydd yn bresennol.
  • Mae plymwr yn trwsio tap yng nghegin rhywun. Rhaid i’r gegin, yn ogystal ag unrhyw fannau eraill y bydd yn rhaid i’r plymwr fynd iddynt i wneud ei waith, fod yn ddi-fwg. Gellir smygu mewn rhan arall o’r cartref, cyn belled na fydd hynny’n digwydd yn y fan lle bydd y plymwr angen gweithio.
  • Mae glanhäwr yn gweithio mewn cartref unwaith yr wythnos. Yn ystod y cyfnod y bydd y glanhäwr yn y cartref, rhaid i’r mannau hynny lle bydd y glanhäwr yn gweithio fod yn ddi-fwg.
  • Mae garddwr yn gweithio yng ngardd cartref. Caniateir smygu yn yr ardd tra mae’r garddwr yn gweithio, cyn belled nad yw’r ardd yn gaeedig neu’n sylweddol gaeedig.

Fel y nodir uchod, un o’r amgylchiadau pan fo annedd yn cael ei hystyried yn weithle yw pan fydd yn cael ei defnyddio fel gweithle gan fwy nag un person ac nid yw o leiaf un o’r gweithwyr hynny yn byw yno. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan fydd pobl yn gweithio yno ar wahanol adegau neu o bryd i’w gilydd. Enghraifft yw glanhäwr sy’n ymweld â chartref bob dydd Iau. Un wythnos, mae plymwr yn mynd yno hefyd i drwsio tap. Gan fod y cartref yn weithle i ddau weithiwr (y glanhäwr a’r plymwr), ac er eu bod yn y cartref ar wahanol adegau, mae’n ofynnol i’r annedd fod yn ddi-fwg yn y rhannau hynny lle caiff y gwaith ei wneud tra bydd y naill neu’r llall o’r gweithwyr yno.

Yn achos person a gaiff ei gynorthwyo yn ei gartref gan ofalwr, yn aml bydd mwy nag un gofalwr yn ymweld ag ef, hyd yn oed os bydd y gofalwr yn ymweld â’r person ar ei ben ei hun. Mae’r rhan fwyaf o’r mathau hyn o drefniadau yn ffordd o sicrhau y bydd staff ar gael i gyflenwi yn ystod cyfnodau o wyliau a salwch, ac felly bydd mwy nag un gweithiwr yn mynd i gartref y person. Felly, mae cartref y person yn bodloni’r diffiniad o ‘weithle’ ac mae’n ofynnol iddo fod yn ddi-fwg tra mae’r gofalwyr yn gweithio yno ac yn y rhannau hynny y maent yn gweithio ynddynt.

Er ein bod o’r farn y bydd y rhan fwyaf o gartrefi yn bodloni’r diffiniad o ‘weithle’, os na fydd gweithwyr byth yn gweithio yn yr annedd (er enghraifft, plymwr/trydanwr ac ati) a/neu os na fydd unrhyw aelod o’r cyhoedd byth yn mynd yno i dderbyn nwyddau neu wasanaethau, yna ni fydd yn rhaid cael unrhyw ofynion di-fwg a gellir smygu yn unrhyw le yn yr annedd ar unrhyw adeg.

Nid yw’r gofynion di-fwg yn berthnasol i bobl sy’n gweithio yn eu cartref eu hunain, oni bai eu bod yn perthyn i un o’r categorïau a nodir uchod. Yr unig adeg y byddai’n rhaid i’r cartref fod yn ddi-fwg yw pe bai gweithiwr arall nad yw’n byw yno yn bresennol, neu os gallai aelod o’r cyhoedd fynd yno i dderbyn nwyddau neu wasanaethau gan y person sy’n gweithio yno.

Arwyddion

Nid oes unrhyw ofynion i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn anheddau, hyd yn oed os ystyrir bod yr annedd yn weithle parhaol.

Lleoliadau gofal awyr agored di-fwg ar gyfer plant

  • Mae’n ofynnol i leoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant, fel lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd awyr agored, fod yn ddi-fwg. 
  • Mae’n drosedd smygu yn y man awyr agored hwn. Rhaid i’r rheolwr neu’r gwarchodwr plant sy’n gyfrifol am y lleoliad gymryd camau rhesymol i rwystro smygu yno.
  • Ni yw’n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant.
  • Y rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n nodi’r manylion yw adran 9 ac adrannau 6(2) a 6(3) o Ddeddf 2017.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Nid oedd unrhyw gyfraith i atal smygu yn y mannau hyn yn flaenorol. Roedd rhai gofynion di-fwg anneddfwriaethol, gwirfoddol ar waith mewn ambell leoliad.

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

Mae’n ofynnol yn awr i bob lleoliad gofal awyr agored ar gyfer plant yng Nghymru fod yn ddi-fwg. 'Lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant' yw mannau awyr agored yn y mangreoedd hynny sydd wedi’u cofrestru o dan Ran 2 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef mangreoedd sy’n darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant i blentyn neu blant dan 12 oed. Er mwyn bod yn lleoliad gofal awyr agored, ni ddylai’r lleoliad dan sylw fod yn ‘gaeedig’ neu’n ‘sylweddol gaeedig’. Dim ond pan ddefnyddir y mangreoedd i ddarparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant y bydd yn ofynnol i’r mannau awyr agored hyn fod yn ddi-fwg. Pan fydd gwarchodwr plant yn darparu gofal yn ei gartref, rhaid i fannau awyr agored y cartref fod yn ddi-fwg os bydd un plentyn neu fwy yn y man awyr agored.

Dyletswydd i atal smygu a gorfodi hynny

Dylai gwarchodwyr plant cofrestredig, a’r rhai sy’n rheoli neu sy’n gysylltiedig â rheoli lleoliad gofal awyr agored ar gyfer plant, gymryd camau rhesymol i rwystro person sy’n smygu yno rhag smygu. Yn y Canllawiau hyn ceir adran o’r enw Sut i sicrhau cydmffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth lle ceir awgrymiadau’n ymwneud â’r camau rhesymol y gall gwarchodwyr plant a rheolwyr y lleoliadau hyn eu cymryd. Mae yna droseddau’n ymwneud â smygu mewn lleoliad gofal awyr agored ar gyfer plant, a hefyd yn ymwneud â methu â chymryd camau rhesymol i rwystro person rhag smygu yno. Bydd swyddogion awdurdodedig ym mhob Awdurdod Lleol yn gorfodi’r gyfraith ledled Cymru, ond disgwyliwn y bydd y cyhoedd yn cydymffurfio â’r rheolau i raddau helaeth iawn. Gellir cael mwy o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y Canllawiau hyn.

Arwyddion

Mae arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ y tu mewn i leoliadau gofal plant yn ofynnol (oni bai bod y lleoliad yn annedd hefyd, fel cartref gwarchodwr plant, lle nad yw’n ofynnol arddangos arwyddion o’r fath).

Nid oes unrhyw ofynion i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant. Yn aml, mae gwarchodwyr plant yn gofalu am blant yn eu cartrefi eu hunain, ac nid yw’n ofynnol arddangos arwyddion oddi mewn nac oddi allan i anheddau. Mae llawer o leoliadau gofal mewn mannau a ddefnyddir o bryd i’w gilydd yn unig, neu fannau a rennir gyda mangreoedd eraill. O’r herwydd, nid ydym o’r farn y byddai’n rhesymol disgwyl i reolwyr arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ bob tro y byddant yn mynd â’r plant i’r man awyr agored ac yna eu tynnu i lawr pan fyddant yn gadael. Fodd bynnag, gall rheolwyr a gwarchodwyr plant arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ yn eu mannau awyr agored os dymunant wneud hynny. Rydym wedi llunio templed ar gyfer arwyddion ‘Dim ysmygu’ ac mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Tir ysgolion di-fwg

  • Mae'n ofynnol i diroedd ysgolion yng Nghymru fod yn ddi-fwg.
  • Mae'n drosedd smygu ar diroedd ysgolion. Rhaid i’r rheolwr neu’r person sy’n gyfrifol am dir yr ysgol gymryd camau rhesymol i rwystro smygu yno.
  • Mae'n ofynnol arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’.
  • Gellir darparu mannau smygu dynodedig ar diroedd ysgolion preswyl.
  • Y rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n nodi’r manylion yw adran 10 o Ddeddf 2017 a rheoliadau 10 a 12 o Reoliadau 2020. Mae geiriad gofynnol yr arwydd ‘Dim ysmygu’ i’w weld yn rheoliad 14 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Mae smygu mewn ardaloedd caeedig neu sylweddol gaeedig mewn ysgolion wedi’i wahardd ers 2007. Nid oedd unrhyw gyfraith ar waith i atal smygu ar diroedd ysgolion. Roedd rhai gofynion di-fwg anneddfwriaethol, gwirfoddol ar waith, fodd bynnag.

Arwyddion

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn lle amlwg ar/wrth ymyl pob mynedfa i adeiladau’r ysgol, er mwyn i bobl sy’n mynd i mewn i’r adeiladau eu gweld.

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

O 1 Mawrth 2021, mae’n ofynnol i diroedd ysgolion hefyd fod yn ddi-fwg. Mae hyn yn ychwanegol at adeiladau’r ysgol (ardaloedd caeedig a sylweddol gaeedig yr ysgol), yr arferai fod yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg, ac y mae’n parhau’n ofynnol iddynt fod felly o dan y ddeddfwriaeth newydd.

Beth yw tir ysgol?

Yn achos 'ysgol', defnyddir yr ystyr a nodir yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996. Tir ysgolion yw’r mannau hynny nad ydynt yn gaeedig neu’n sylweddol gaeedig, a chânt eu defnyddio’n unig neu’n bennaf gan yr ysgol at ddibenion addysgol, chwaraeon neu ddibenion hamdden. Caiff pob ysgol yng Nghymru a chanddi dir ysgol ei chynnwys yn y ddeddfwriaeth – ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion meithrin a gynhelir. Mae Unedau Cyfeirio Disgyblion wedi’u cynnwys hefyd felly bydd yn ofynnol i dir yr Unedau hyn fod yn ddi-fwg. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cynnwys lleoliadau addysg bellach nac addysg uwch megis colegau Addysg Bellach neu golegau chweched dosbarth.

Yn achos tir ysgolion sydd wrth ymyl yr ysgol neu sy’n cyd-ffinio â’r ysgol, mae’n rhaid iddynt fod yn ddi-fwg pan ddefnyddir naill ai’r ysgol neu dir yr ysgol ar gyfer addysg neu ofal plant, er enghraifft cae chwaraeon yr ysgol. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i gae chwaraeon yr ysgol fod yn ddi-fwg yn ystod oriau ysgol. Yn achos tiroedd ysgolion nad ydynt yn cydffinio â’r ysgol, mae’n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg pan ddefnyddir y tir neu unrhyw ran o’r tir ar gyfer addysg neu ofal plant. Er enghraifft, os oes gan ysgol gae chwaraeon a ddefnyddir gan yr ysgol yn unig, ond os yw wedi’i leoli ar draws y lôn, dim ond pan gaiff y cae chwaraeon ei ddefnyddio gan yr ysgol y bydd yn ddi-fwg.

Mannau smygu dynodedig

Yn achos ysgolion sy’n darparu llety preswyl i’w disgyblion, os dymunant, bydd modd iddynt ddynodi man arbennig ar dir yr ysgol lle caniateir smygu. Gall yr ysgol ddewis dynodi man o’r fath os mai dyna yw ei pholisi lleol. Os penderfynir dynodi man smygu, rhaid rhoi ystyriaeth fanwl i’w leoliad o fewn tir yr ysgol.

Os darperir man smygu dynodedig, rhaid iddo fodloni’r amodau canlynol:

  • Rhaid i’r sawl sy’n rheoli tir yr ysgol bennu pwy a all ddefnyddio’r man smygu dynodedig. Gelwir y rhain yn “bersonau â chaniatâd”. Rhaid i bersonau â chaniatâd fod dros 18 oed, a gallant gynnwys staff sydd hefyd yn byw yn yr ysgol neu ymwelwyr.
  • Ni all maint y man dynodedig fod yn fwy nag 8.25 metr sgwâr.
  • Rhaid i’r man dynodedig fod 10 metr o leiaf oddi wrth unrhyw adeiladau di-fwg.
  • Rhaid dangos yn glir bod y man smygu dynodedig yn rhywle lle caniateir smygu.

Rhaid i’r sawl sy’n rheoli tir yr ysgol gadw cofnod o’r holl fannau sydd wedi’u dynodi hefyd a phwy yw’r personau a ganiateir. Gellir newid neu gael gwared â’r man dynodedig unrhyw amser. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn pennu sut dylid dangos bod smygu’n cael ei ganiatáu yn y man smygu dynodedig, felly gellir gwneud hyn yn ôl disgresiwn y sawl sy’n rheoli tir yr ysgol.

Anheddau ar dir yr ysgol

Nid  yw'r gofynion di-fwg yn berthnasol i annedd sydd o fewn tir ysgol. Er enghraifft, pe bai tŷ’r gofalwr ar dir yr ysgol, ni fyddai’n rhaid i’w ardd fod yn ddi-fwg.

Dyletswydd i atal smygu a gorfodi hynny

Dylai’r sawl sy’n rheoli neu sy’n gysylltiedig â rheoli tir yr ysgol gymryd camau rhesymol i rwystro person sy’n smygu yno rhag smygu. Yn y Canllawiau hyn mae adran o’r enw Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth lle ceir awgrymiadau ynghylch y camau rhesymol y gellir eu cymryd.

Mae yna droseddau’n ymwneud â smygu ar diroedd ysgolion, ac yn ymwneud â methu â chymryd camau rhesymol i rwystro person rhag smygu yno hefyd. Bydd swyddogion awdurdodedig ym mhob Awdurdod Lleol yn gorfodi’r gyfraith ddi-fwg ledled Cymru. Mae rhagor o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y Canllawiau hyn.

Arwyddion

Mae arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ yn ofynnol yn adeiladau’r ysgol. Rydym wedi ei gwneud hi’n haws cydymffurfio â’r gofynion arwyddion. Mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn.

Rhaid arddangos arwyddion ‘Dim ysmygu’ mewn lle amlwg ar/wrth ymyl pob mynedfa i dir yr ysgol er mwyn i ddefnyddwyr yr ysgol fod yn ymwybodol bod tir yr ysgol yn ddi-fwg. Os bydd gan yr ysgol fwy nag un fynedfa, yna rhaid arddangos arwyddion ar/wrth ymyl pob un o’r mynedfeydd.

Rhaid i’r arwyddion ‘Dim ysmygu’ ar dir yr ysgol gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét
  • Testun rhybuddio priodol, sef:

Mae ysmygu yn nhir yr ysgol hon yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in these school grounds

Nid oes unrhyw ofynion penodol yn ymwneud â maint, cynllun neu liw’r arwyddion ar gyfer tir ysgolion di-fwg. Rydym wedi llunio templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu’r arwyddion hyn. Mae’r templed hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae poster hefyd ar gael i’w arddangos wrth allanfeydd adeilad yr ysgol i atgoffa defnyddwyr yr ysgol fod smygu ar dir yr ysgol yn erbyn y gyfraith. Bydd hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i ysgolion ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Tir ysbytai di-fwg

  • Mae’n ofynnol i dir ysbytai Cymru fod yn ddi-fwg. 
  • Mae’n drosedd smygu ar dir ysbytai. Rhaid i'r rheolwr neu'r person sy'n gyfrifol am dir yr ysbyty gymryd camau rhesymol i atal pobl rhag smygu yno.
  • Mae’n ofynnol arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'. 
  • Gellir darparu mannau smygu dynodedig ar dir yr ysbyty os yw'r ysbyty'n dymuno gwneud hynny. 
  • Y rhannau o'r ddeddfwriaeth sy'n nodi'r manylion yw adran 11 o Ddeddf 2017 a rheoliadau 11 a 12 o Reoliadau 2020. Nodir y geiriad gofynnol ar gyfer yr arwydd yn rheoliad 14 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Mae smygu mewn mannau caeedig a sylweddol gaeedig o'r ysbyty wedi'i wahardd ers 2007. Nid oedd cyfraith ar waith i atal smygu ar dir ysbytai nac ardaloedd awyr agored ysbytai, er enghraifft ger allanfeydd adeiladau, ond roedd gan ysbytai yng Nghymru ofynion di-fwg anneddfwriaethol, gwirfoddol ar waith.

Arwyddion

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod arwydd 'Dim Ysmygu' yn cael ei arddangos mewn man amlwg ym mhob mynedfa i adeilad yr ysbyty neu'n agos ati fel y gall pobl sy’n cyrraedd ei weld.

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

O 1 Mawrth 2021, bydd yn awr yn ofynnol i dir ysbytai Cymru fod yn ddi-fwg. Mae hyn yn ychwanegol at adeiladau'r ysbyty (ardaloedd caeedig a sylweddol gaeedig yr ysbyty) y mae wedi bod yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg ers 2007, ac y mae’n parhau’n ofynnol iddynt fod felly o dan y ddeddfwriaeth newydd. 

Beth yw tir ysbyty?

Mae i ysbyty yr ystyr a roddir gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae tir ysbyty yn cynnwys pob tir sy'n ffinio â'r ysbyty, sy'n cael ei ddefnyddio neu ei feddiannu ganddo, ac nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig. Mae'r gofynion di-fwg yn berthnasol i holl ysbytai'r GIG a'r sector annibynnol yng Nghymru.

Ardaloedd smygu dynodedig 

Mae'r ddeddfwriaeth yn galluogi'r sawl sy'n gyfrifol am safle’r ysbyty i ddynodi ardal ar dir yr ysbyty lle caniateir smygu, os yw'n dymuno gwneud hynny. Gall yr ysbyty ddewis peidio â dynodi ardal os mai dyna yw eu polisi lleol. Os penderfynir cyflwyno man smygu dynodedig, mae angen ystyried y lleoliad o fewn tir yr ysbyty yn ofalus.

Os penderfynir darparu ardal ddynodedig, rhaid iddi fodloni'r amodau canlynol:

  • Bod y person â chyfrifoldeb am safle'r ysbyty yn nodi pwy all ddefnyddio'r man smygu dynodedig. 'Personau a ganiateir' yw’r rhain. Rhaid i bersonau a ganiateir fod dros 18 oed. Efallai mai cleifion ac ymwelwyr yw'r bobl a ganiateir, ond ni chaniateir i staff smygu yn yr ardal ddynodedig.
  • Ni all maint yr ardal ddynodedig fod yn fwy nag 8.25 metr sgwâr.
  • Rhaid i'r ardal ddynodedig fod o leiaf 10 metr i ffwrdd o unrhyw adeiladau di-fwg.
  • Rhaid ei marcio'n glir fel man lle gall person a ganiateir smygu.

Rhaid i'r person â chyfrifoldeb dros y safle gadw cofnod o'r holl ardaloedd sydd wedi'u dynodi a phwy sy'n bersonau a ganiateir hefyd. Gellir newid neu ddileu'r ardal ddynodedig unrhyw bryd. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi sut i farcio'r ystafell ddynodedig yn glir, felly gall y sawl sy'n gyfrifol am dir yr ysbyty benderfynu ynghylch hyn.

Anheddau ar dir yr ysbyty

Nid yw’r gofynion di-fwg yn berthnasol i annedd ar dir yr ysbyty. Er enghraifft, os oes gan aelod o staff lety a ddarperir iddynt ar dir yr ysbyty, nid yw’n ofynnol i ardd y cartref fod yn ddi-fwg.

Dyletswydd i atal smygu a gorfodi hynny

Rhaid i'r person sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli tir ysbyty gymryd camau rhesymol i atal person sy'n smygu yno rhag gwneud hynny. Mae'r adran yn y Canllawiau hyn ar Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth yn cynnig awgrymiadau ar y camau rhesymol y gellir eu cymryd.

Mae troseddau'n gysylltiedig â smygu ar dir ysbytai ac am fethu â chymryd camau rhesymol i atal person rhag smygu. Mae swyddogion awdurdodedig ym mhob Awdurdod Lleol yn gorfodi'r gyfraith newydd ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y canllawiau hyn.

Arwyddion

Mae’n ofynnol arddangos arwyddion 'Dim ysmygu' mewn adeiladau ysbytai. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i gydymffurfio â'r gofynion arwyddion – mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn.

Hefyd, rhaid arddangos arwyddion 'Dim ysmygu' mewn man amlwg ym mhrif fynedfa'r ysbyty, neu'n agos ati, fel bod holl ddefnyddwyr yr ysbyty yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod tir yr ysbyty’n ddi-fwg. Os oes mwy nag un brif fynedfa yn yr ysbyty, rhaid arddangos arwyddion yn yr holl fynedfeydd, neu'n agos atynt.

Rhaid i'r arwyddion 'Dim ysmygu' ar gyfer tir ysbytai gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
  • Y testun rhybudd priodol sef.

'Mae ysmygu yn nhir yr ysbyty hwn yn erbyn y gyfraith/ It is against the law to smoke in these hospital grounds'

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran maint, dyluniad na lliw arwyddion tir ysbyty di-fwg. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae poster hefyd ar gael i'w arddangos wrth allanfeydd yr ysbyty i dir yr ysbyty er mwyn atgoffa defnyddwyr yr ysbyty bod smygu ar dir ysbytai yn erbyn y gyfraith. Mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i ysbytai ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny: https://llyw.cymru/posteri-gwybodaeth-dim-ysmygu

Meysydd chwarae cyhoeddus di-fwg

  • Mae’n ofynnol i bob maes chwarae cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddi-fwg. 
  • Mae’n drosedd smygu ar faes chwarae cyhoeddus. Rhaid i'r rheolwr neu'r person sy'n gyfrifol am y maes chwarae cyhoeddus gymryd camau rhesymol i atal pobl rhag smygu yno.
  • Mae’n ofynnol arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'. 
  • Y rhannau o'r ddeddfwriaeth sy'n nodi'r manylion yw adran 12 o Ddeddf 2017 a rheoliad 12 o Reoliadau 2020. Nodir geiriad gofynnol yr arwydd yn rheoliad 14 o Reoliadau 2020.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Nid oedd cyfraith ar waith i atal smygu yn yr ardaloedd hyn. Arferai fod rhai gofynion di-fwg anneddfwriaethol, gwirfoddol ar waith mewn rhai meysydd chwarae cyhoeddus. Nid oedd unrhyw ofynion o ran arwyddion.

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Nid oedd cyfraith ar waith i atal smygu yn yr ardaloedd hyn. Arferai fod rhai gofynion di-fwg anneddfwriaethol, gwirfoddol ar waith mewn rhai meysydd chwarae cyhoeddus. Nid oedd unrhyw ofynion o ran arwyddion. 

Beth yw maes chwarae cyhoeddus?

Ardal awyr agored (nad yw'n gaeedig neu'n sylweddol gaeedig) sy'n cynnwys cyfarpar maes chwarae sy'n agored i'r cyhoedd er mwyn i blant chwarae arno. Er enghraifft, mae cyfarpar maes chwarae yn cynnwys siglen, pwll tywod, llithren, neu ramp. Nid yw'n cynnwys cyfarpar wedi'i bweru (fel cyfarpar sy'n cael ei bweru gan fodur trydan). 

Meysydd chwarae cyhoeddus y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â nhw sy'n rhan o'r gofynion hyn. Mae hyn yn golygu bod y maes chwarae naill ai'n cael ei reoli neu ei gynnal gan Awdurdod Lleol neu Gyngor Cymuned. Rhaid i'r maes chwarae gael ei gynllunio, neu ei addasu, i'w ddefnyddio gan blant a rhaid iddo gynnwys un neu fwy o ddarnau o gyfarpar maes chwarae.

Meysydd chwarae cyhoeddus â ffiniau a heb ffiniau

Mae'n ofynnol i'r maes chwarae cyhoeddus fod yn ddi-fwg bob amser o fewn ffin y maes chwarae. Gall ffiniau meysydd chwarae fod wedi’u marcio gan ffensys metel neu bren er enghraifft, neu gan lwyni.

Os nad oes ffin, yna bydd yr ardal ddi-fwg o fewn 5 metr i unrhyw gyfarpar maes chwarae. 

Dyletswydd i atal smygu ar y maes chwarae cyhoeddus, a gorfodi hynny

Rhaid i'r person sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli'r maes chwarae cyhoeddus gymryd camau rhesymol i atal rhywun sy’n smygu yno rhag smygu. Mae'r adran yn y Canllawiau hyn ar Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth newydd yn cynnig awgrymiadau ar y camau rhesymol y gellir eu cymryd.

Mae troseddau'n gysylltiedig â smygu mewn meysydd chwarae cyhoeddus ac am fethu â chymryd camau rhesymol i atal person rhag smygu. Mae swyddogion awdurdodedig pob Awdurdod Lleol yn gorfodi'r gyfraith newydd ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am orfodi yn yr adran Gwneud i bethau weithio – Gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn y canllawiau hyn.

Arwyddion

Rhaid dangos un arwydd o leiaf mewn maes chwarae cyhoeddus. 

Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus â ffin, rhaid i'r arwydd hwn fod mewn man amlwg wrth y brif fynedfa neu gerllaw’r fynedfa (os oes mwy nag un brif fynedfa, yna pob un ohonynt). 

Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus heb ffin, rhaid gosod arwydd mewn man amlwg ger y maes chwarae.

Rhaid i arwyddion 'Dim ysmygu' mewn meysydd chwarae cyhoeddus gynnwys y canlynol:

  • Ddarlun  graffig  eglur  o  sigarét  yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét, ac.
  • Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus o fewn ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir, 'Mae ysmygu  yn  y  maes  chwarae hwn yn erbyn  y  gyfraith/It  is  against  the  law to smoke in this playground'.
  • Ar   gyfer   meysydd   chwarae   cyhoeddus nad  ydynt  o  fewn  ffiniau  sydd  wedi  eu marcio’n  glir,  'Mae  ysmygu  o  fewn  5 metr i’r cyfarpar chwarae hwn yn erbyn y gyfraith/It  is  against  the  law  to  smoke within 5 metres of this play equipment'.
  • Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran maint, dyluniad na lliw arwyddion di-fwg mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Eithriadau i'r gofynion di-fwg

Caniateir smygu y tu mewn i leoedd penodol ar hyn o bryd a nodir y manylion isod. Mae hyn yn parhau i fod yn berthnasol yn achos rhai lleoliadau. Yn achos lleoliadau eraill, rydym wedi dileu'r esemptiad ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r lleoedd hyn ddod yn ddi-fwg.

  • Rydym yn dileu'r eithriad sy'n caniatáu smygu mewn llety gwyliau a llety dros dro. Byddwn yn dileu'r eithriad hefyd sy'n caniatáu i westai, tai llety, tafarndai ac ati gael ystafelloedd gwely dynodedig ar gyfer ysmygwyr. O 1 Mawrth 2022 mae’nofynnol i'r holl leoliadau hyn fod yn ddi-fwg.
  • Mae cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion yn parhau i allu cael ystafelloedd smygu dynodedig, ond gwnaed newidiadau o 1 Mawrth 2021 o ran pwy all ddefnyddio'r ystafelloedd hyn. 
  • Gall Unedau Iechyd Meddwl gael ystafelloedd smygu dynodedig ond dim ond am gyfnod cyfyngedig. O 1 Medi 2022, bydd yn ofynnol i fannau dan do Unedau Iechyd Meddwl fod yn ddi-fwg.
  • Mae cyfleusterau ymchwil a phrofi yn parhau i allu cael ystafelloedd smygu dynodedig. 
  • Y rhannau o'r ddeddfwriaeth sy'n nodi'r manylion yw adran 16 o Ddeddf 2017 a rheoliadau 5, 6, 7, 8, 9 a 14 o Reoliadau 2020.

Llety gwyliau a llety dros dro di-fwg Gwestai, tai llety, tafarnau, hosteli a chlybiau aelodau di-fwg

Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith yn darparu eithriad i'r gwaharddiad ar smygu ar gyfer llety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro. Felly, gall pobl smygu unrhyw le y tu mewn i'r mangreoedd hyn os yw'r perchennog yn caniatáu hynny.

Mae'r gyfraith yn caniatáu hefyd i ystafelloedd gwely dynodedig gael eu darparu ar gyfer smygu mewn gwestai, tai llety, tafarnau, hosteli neu glybiau aelodau. Yn yr ystafelloedd gwely hyn, gall gwesteion smygu os yw'r perchennog yn caniatáu hynny. Mae rhannau eraill o'r gwesty ac ati yn ddi-fwg ac mae angen arwyddion 'Dim ysmygu' wrth fynedfeydd y mangreoedd hyn.

Beth sy'n newid ar 1 Mawrth 2022?

Mae'r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2021, yn parhau i ganiatáu i smygu ddigwydd mewn llety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol os yw'r perchennog yn caniatáu hynny, ond dim ond am gyfnod cyfyngedig (tan 1 Mawrth 2022). Enghreifftiau o'r mathau hyn o lety yw bythynnod, carafanau, chalets a llety Airbnb.

Hefyd am gyfnod cyfyngedig (tan 1 Mawrth 2022), gellir darparu ystafelloedd gwely i ysmygwyr mewn gwestai, tai llety, tafarnau, hosteli neu glybiau aelodau. Yn yr ystafelloedd gwely hyn, gall gwesteion smygu, os yw'r perchennog yn caniatáu hynny. Os yw rheolwr y gwesty ac ati am ddarparu ystafell wely ddynodedig i smygwyr, mae dau amod newydd i'r dynodiad:

Amod 1 yw bod y sawl sy’n gyfrifol am y gwesty yn dynodi'r ystafell wely’n un y caniateir smygu ynddi ac yn cadw cofnod o'r holl ystafelloedd sydd wedi'u dynodi felly. Gellir dileu'r dynodiad unrhyw bryd.

Mae Amod 2 yn ymwneud â'r ystafell ac yn nodi ei gofynion. O ran yr ystafell dan sylw

a)    mae ganddi nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd

b)    nid oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre

c)    nid oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn syth ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d)    bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi

Ar 1 Mawrth 2022 , bydd yn ofynnol i bob math o lety hunangynhwysol a phob gwesty, tŷ llety a thafarn ac ati fod yn ddi-fwg bob amser. Bydd yn drosedd smygu yn yr ardaloedd di-fwg hyn. Gall smygu ddigwydd yn ardaloedd allanol y safleoedd hyn os yw'r perchennog yn caniatáu hynny. Caniatawyd cyfnod o 12 mis (o 1 Mawrth 2021 - 1 Mawrth 2022) er mwyn galluogi busnesau i gael gwared ar eu llety lle caniateir smygu a'i droi'n llety di-fwg.  

Os yw'r gwesty neu'r tŷ llety ac ati yn annedd hefyd

Os defnyddir unrhyw ran o'r fangre fel annedd hefyd, yna nid oes rhaid i'r rhan honno fod yn ddi-fwg. Gweler yr adran ar Anheddau yn y Canllawiau hyn am fwy o fanylion. 

Os yw'r llety hunangynhaliol yn annedd hefyd

Os mai annedd yw'r lle dan sylw bron bob amser, ond ei fod yn cael ei osod yn ysbeidiol at ddibenion gwyliau neu lety dros dro (tŷ neu fwthyn Airbnb), dim ond pan gaiff ei ddefnyddio fel hyn y byddai'n rhaid iddo fod yn safle di-fwg. Er enghraifft, pan fydd gwesteion yn defnyddio'r bwthyn fel cartref gwyliau. Pan nad yw'r eiddo yn cael ei osod, mae'n dychwelyd i fod yn annedd ac nid oes unrhyw ofynion di-fwg (oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio fel gweithle. Gweler yr adran ar Anheddau am fwy o fanylion.)

Yn achos carafán breifat, ni fyddai angen i'r garafán fod yn ddi-fwg os mai'r perchennog sy'n ei defnyddio. Pe bai person arall yn ei defnyddio at ddibenion gwyliau neu dros dro (h.y. mae aelod o'r cyhoedd yn ei rhentu) yna byddai'n ofynnol i'r garafán fod yn ddi-fwg. 

Arwyddion 

Tan 1 Mawrth 2022, rhaid i ystafelloedd gwely dynodedig ar gyfer smygu gael eu marcio'n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi sut y mae'r ystafell wely ddynodedig ar gyfer smygu yn cael ei marcio'n glir, felly gall y sawl sy'n gyfrifol am y safle benderfynu ynghylch hyn.

Mae arwyddion 'Dim ysmygu' yn parhau i fod yn ofynnol mewn gwesty, tai llety ac ati. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i gydymffurfio â'r gofynion arwyddion – mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn. 

Nid oes unrhyw ofynion i arwyddion gael eu harddangos mewn llety gwyliau hunangynhaliol na llety dros dro gan mai dim ond weithiau y cânt eu defnyddio ar gyfer llety gwyliau. Cânt eu defnyddio fel annedd ar adegau eraill. Fodd bynnag, gellir arddangos arwyddion os yw'r perchennog yn dymuno gwneud hynny. Mae templedi ar wefan Llywodraeth Cymru

Cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Mae’r gyfraith yn darparu eithriad i’r gwaharddiad ar smygu ar gyfer cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion. Mae hyn yn galluogi'r sawl sy’n gyfrifol am y cartref gofal i oedolion/hosbis i oedolion ddynodi ystafell ysmygu, y tu mewn i'r cartref neu hosbis. Mae rhannau eraill o'r cartref neu'r hosbis yn ddi-fwg ac mae angen arwyddion 'Dim ysmygu' wrth y mynedfeydd. 

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

Rydym wedi cadw'r eithriad ond cafodd amod ychwanegol ei greu ynglŷn â phwy all ddefnyddio'r ystafell ysmygu ddynodedig yn y lleoliadau hyn. Dim ond preswylwyr y cartref gofal oedolion neu'r hosbis i oedolion sy'n 18 oed a throsodd all ddefnyddio ystafell ddynodedig y caniateir smygu ynddi. Felly, ni all y staff nac ymwelwyr ddefnyddio'r ystafell i smygu a gwaherddir plant rhag mynd yno.  

Mae ystyr 'cartref gofal i oedolion' yn cyd-fynd â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy'n dweud mai "gwasanaeth cartref gofal" yw darparu llety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bobl oherwydd eu bod yn agored i niwed neu mewn angen. 

Ystyr 'hosbis i oedolion' yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu gofal lliniarol i bobl 18 oed neu hŷn, sy'n dioddef o glefyd sy'n gwaethygu yn ei gamau olaf, gan sefydliad neu ar ran sefydliad sy’n darparu gofal o'r fath fel ei brif swyddogaeth. 

Os yw rheolwr y cartref gofal i oedolion neu'r hosbis i oedolion am ddynodi ystafell y caniateir smygu ynddi, mae dau amod newydd i'r dynodiad:

Amod 1 yw bod y sawl sy'n gyfrifol am y cartref gofal i oedolion neu'r hosbis i oedolion yn dynodi ystafell fel un y caniateir i breswylwyr 18 oed neu’n hŷn smygu ynddi yn unig. Rhaid cadw cofnod o'r holl ystafelloedd sydd wedi'u dynodi felly. Gellir dileu'r dynodiad unrhyw bryd;

Mae Amod 2 yn ymwneud â'r ystafell ac yn nodi ei gofynion. O ran yr ystafell dan sylw

a)    mae ganddi nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd

b)    nid oedd ganddi system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre

c)    nid oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn syth ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d)    bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi

Yn ogystal ag ystafelloedd ysmygu dynodedig y tu mewn i'r cartref gofal i oedolion neu hosbis i oedolion, gellir smygu ar dir y mangreoedd hyn, os yw'r rheolwr yn cytuno i hynny. Er enghraifft, gardd hosbis i oedolion. Penderfyniad lleol yw neilltuo man dynodedig ar gyfer smygu yn yr awyr agored ai peidio.

Arwyddion

Rhaid i'r ystafell ddynodedig gael ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu sut i farcio'r ystafell ddynodedig yn glir, felly gall y sawl sy'n gyfrifol am y fangre benderfynu ynghylch hyn.

Mae angen dangos arwyddion 'Dim ysmygu' yn y cartref gofal i oedolion a'r hosbis i oedolion. Rydym wedi ei gwneud yn haws cydymffurfio â'r gofynion arwyddion – darperir mwy o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn. 

Nid yw'n ofynnol arddangos arwyddion 'Dim ysmygu' ar dir cartref gofal i oedolion neu hosbis i oedolion. 

Unedau iechyd meddwl

Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae’r gyfraith yn darparu eithriad i’r gwaharddiad smygu ar gyfer Unedau Iechyd Meddwl. Mae hyn yn galluogi'r sawl sy'n gyfrifol am yr Uned Iechyd Meddwl i ddynodi ystafell ysmygu y tu mewn i'r Uned. Mae rhannau eraill o'r Uned yn ddi-fwg ac mae angen arwyddion 'Dim Ysmygu' wrth fynedfeydd yr adeilad.

Beth sy'n newid ar 1 Medi 2022?

Mae'r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2021,yn parhau i ganiatáu ar gyfer ystafelloedd ysmygu dynodedig mewn Unedau Iechyd Meddwl am gyfnod cyfyngedig yn unig (tan 1 Medi 2022). Ystyr 'Uned Iechyd Meddwl' yw mangre, neu ran o fangre, a gynhelir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer derbyn a thrin unigolion sy'n dioddef o anhwylder meddwl fel y'u diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ond nad yw'n cynnwys cartref gofal i oedolion.

Fodd bynnag, mae hwn bellach yn eithriad cyfyngedig o ran amser ac mae dau amod newydd i'r dynodiad:

Amod 1 yw y gall y sawl sy’n gyfrifol am yr Uned ddynodi'r ystafell ysmygu fel un i'w defnyddio gan gleifion yr Uned sydd dros 18 oed yn unig. Rhaid cadw cofnod o'r holl ystafelloedd sydd wedi'u dynodi felly. Gellir dileu'r dynodiad unrhyw bryd.

Mae Amod 2 yn ymwneud â'r ystafell ac yn nodi ei gofynion. O ran yr ystafell dan sylw

a)    mae gan yr ystafell nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd

b)    nid oedd ganddi system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre

c)    nid oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn syth ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d)    bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi

Ni chaniateir ystafelloedd dynodedig mewn Unedau Iechyd Meddwl ar ôl 1 Medi 2022. O hynny ymlaen, bydd yn ofynnol i bob Uned Iechyd Meddwl yng Nghymru fod yn ddi-fwg. Mae'r eithriad amser cyfyngedig hwn yn galluogi rheolwyr Unedau Iechyd Meddwl i weithio tuag at gael gwared ar unrhyw ystafelloedd ysmygu dan do sydd ar gael ar hyn o bryd, ac yn helpu cleifion i addasu a cheisio cael cymorth i roi'r gorau i smygu os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. 

Ardal ysmygu ddynodedig

Gall y rheolwr ymchwilio i weld a ddylid sefydlu ardal ddynodedig i gleifion smygu ynddi ar dir yr Uned Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, dylid adolygu polisi'r sefydliad ar ardaloedd ysmygu dynodedig cyn gwneud penderfyniad. Mae Unedau Iechyd Meddwl o fewn ystyr tir ysbytai yn adran 11 o Ddeddf 2017. Nodir y gofynion ar gyfer ardaloedd ysmygu dynodedig ar dir ysbytai yn adran Tir ysbytai di-fwg y Canllawiau hyn.

Arwyddion 

Rhaid i'r ystafell ddynodedig gael ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu sut i farcio'r ystafell ddynodedig yn glir, felly gall y sawl sy'n gyfrifol am yr Uned benderfynu ynghylch hyn.

Mae arwyddion 'Dim ysmygu' yn ofynnol yn yr Uned Iechyd Meddwl. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i gydymffurfio â'r gofynion arwyddion – mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn. 

Mae Unedau Iechyd Meddwl o fewn ystyr tir ysbytai yn adran 11 o Ddeddf 2017. Felly, fel gyda thir ysbyty arall, mae’n ofynnol i dir Uned Iechyd Meddwl fod yn ddi-fwg a rhaid cael arwyddion. Rhaid i bob arwydd 'Dim ysmygu' ar dir ysbytai, gan gynnwys Unedau Iechyd Meddwl gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
  • Testun rhybudd priodol sef.

Mae ysmygu yn nhir yr ysbyty hwn yn erbyn y gyfraith/ It is against the law to smoke in these hospital grounds.

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran maint, dyluniad na lliw arwyddion tir yr ysbyty di-fwg. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae poster hefyd ar gael i'w arddangos wrth allanfeydd yr Uned Iechyd Meddwl i dir yr ysbyty i atgoffa defnyddwyr ei bod yn erbyn y gyfraith i smygu ar dir yr ysbyty. Mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i unedau fel y gallant ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Smygu mewn cyfleusterau ymchwil a phrofi

Beth oedd y sefyllfa cyn 1 Mawrth 2021?

Mae’r gyfraith yn darparu eithriad i’r gwaharddiad smygu ar gyfer cyfleusterau ymchwil a phrofi. Mae hyn yn galluogi'r sawl sy'n gyfrifol am gyfleusterau ymchwil a phrofi penodol i ddynodi ystafell y gellir smygu ynddi y tu mewn i'r cyfleuster. Mae rhannau eraill o'r cyfleuster yn ddi-fwg ac mae angen arwyddion 'Dim ysmygu' wrth fynedfeydd yr adeilad.

Beth yw’r sefyllfa o 1 Mawrth 2021?

Ni fu unrhyw newid i'r gofynion na'r eithriad ar gyfer y cyfleusterau hyn. Felly, mae’rddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn 2007 yn parhau i fod mewn grym, yn union fel ag yr oedd.

Er mwyn dod yn ystafell ddynodedig, mae'r gyfraith yn nodi tri amod y mae’n rhaid eu bodloni. Gellir dileu dynodiad yr ystafell fel ystafell ysmygu ar unrhyw adeg:

Amod 1 yw bod y sawl sy'n gyfrifol am y fangre

a)    yn dynodi ystafell fel un y caniateir smygu ynddi, ac

b)    yn cadw cofnod o bob ystafell sydd wedi'i dynodi felly

Amod 2 yw bod yr ystafell yn cael ei defnyddio ar gyfer profion ac ymchwil sy’n ymwneud â’r canlynol

a)    allyriadau yn sgil ysmygu

b)    datblygu cynhyrchion ar gyfer ysmygu â llai o berygl o ran tân

c)    cynnal profion diogelwch tân ar ddeunyddiau sy’n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer smygu

d)    datblygu cynhyrchion ysmygu neu fferyllol a allai olygu gweithgynhyrchu cynhyrchion llai peryglus ar gyfer smygu, neu

e)    raglenni rhoi'r gorau i smygu

Amod 3 yw

a)    bod gan yr ystafell nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd

b)    nad oes gan yr ystafell system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre

c)    nad oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn syth ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d)    bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir yn ystafell y caniateir smygu ynddi

Arwyddion  

Rhaid i'r ystafell ddynodedig gael ei marcio’n glir fel ystafell y caniateir smygu ynddi. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu sut i farcio'r ystafell ddynodedig yn glir, felly gall y sawl sy'n gyfrifol am y cyfleuster benderfynu ynghylch hyn.

Mae angen arwyddion 'Dim ysmygu' yn y cyfleuster o hyd. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i gydymffurfio â'r gofynion arwyddion – mae rhagor o fanylion yn adran Arwyddion y Canllawiau hyn. 

Sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth

Mae angen i bob busnes a sefydliad yng Nghymru y mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn berthnasol iddynt gymryd camau i sicrhau nad yw cyflogeion, cleifion, cwsmeriaid ac ymwelwyr eraill yn smygu mewn mangreoedd a lleoliadau y mae’nofynnol iddynt fod yn ddi-fwg.

Mae'r adran hon yn egluro'r camau y cynghorir y rhai sydd â chyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth i'w cymryd.

Y camau gofynnol y dylech eu cymryd i sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yw:

  • arddangos arwyddion 'Dim ysmygu' mewn mangreoedd a cherbydau di-fwg os yw’n ofynnol
  • deall y ddyletswydd i atal smygu a chymryd camau rhesymol i atal pobl rhag smygu yn yr ardal ddi-fwg

Yn ogystal â'r camau gofynnol sydd eu hangen, rydym wedi nodi gwybodaeth a chyngor ychwanegol ar gamau gweithredu eraill y gellir eu hystyried i gefnogi holl ddefnyddwyr yr ardaloedd di-fwg i addasu i'r gofynion newydd.

Arwyddion

Mae arwyddion dim ysmygu yn ffordd bwysig o ddweud wrth y cyhoedd pa ardaloedd y mae'n ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg. Mae gan y ddeddfwriaeth nifer o ofynion ar gyfer arwyddion 'Dim ysmygu' - rhai ohonynt sydd eisoes ar waith ers 2007 ac eraill a gafodd eu cyflwyno ar 1 Mawrth 2021. Mae hefyd rai lleoedd di-fwg lle nad oes rhaid arddangos arwyddion 'Dim ysmygu', er enghraifft unrhyw le a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd. Nodir y rhain isod.

Yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth ar 1 Mawrth 2021, mae dau grŵp o arwyddion 'Dim ysmygu' yn awr, sef:

  1. Arwyddion sy'n dangos graffig o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
  2. Arwyddion sy'n dangos graffig o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét a "thestun rhybuddio priodol” dwyieithog.

Arwyddion 'Dim ysmygu' gyda graffig

Mae lefelau uchel o gydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg sydd wedi bod ar waith ers 2007. Mae arwyddion yn cael eu harddangos yn eang, eu cydnabod yn eang ac ychydig o bobl sy'n smygu mewn ardaloedd di-fwg.

Rydym wedi'i gwneud hi'n haws cydymffurfio â'r gofynion arwyddion drwy lacio'r gofynion. Nid yw’n ofynnol mwyach i arwyddion 'Dim ysmygu' fod yn faint neu liw penodol neu gynnwys testun rhybudd penodol. Yr unig ofyniad yw bod yr arwydd yn cynnwys symbol graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét. 

Mannau di-fwg lle mae'n rhaid arddangos yr arwyddion hyn

Mae'n ofynnol i bob mangre ddi-fwg (gweithleoedd a'r rhai sy'n agored i'r cyhoedd) arddangos o leiaf un arwydd 'Dim ysmygu. Er nad oes unrhyw ofynion mwyach o ran lleoliad yr arwyddion yn y safleoedd hyn, gellid gosod arwyddion mewn man amlwg ym mhob neu ger pob mynedfa i fangre ddi-fwg, megis tafarn neu fwyty fel y gall pobl sy'n dod i mewn i'r safle ei weld.

Rydym wedi darparu templed ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae'n ofynnol i bob cerbyd di-fwg a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion gwaith neu sy'n cario aelodau o'r cyhoedd arddangos arwydd 'Dim ysmygu. Er nad oes unrhyw ofynion mwyach ar leoliad yr arwydd, gellid gosod yr arwydd mewn man amlwg yn y cerbyd fel y gall pobl yn y cerbyd ei weld.

Rydym wedi darparu templed ar wefan Llywodraeth Cymru

Mannau di-fwg lle nad oes rhaid arddangos yr arwyddion hyn

Cafodd y lleoedd di-fwg yng Nghymru eu hymestyn gan y newidiadau a wnaed ar 1 Mawrth 2021. Er ei bod yn ofynnol iddynt fod yn ddi-fwg, nid oes rhaid i bob un o'r lleoedd arddangos arwydd 'Dim ysmygu. Y lleoedd di-fwg nad oes rhaid iddynt arddangos arwydd 'Dim ysmygu' yw:

  • Anheddau. Er y bydd rhai achosion pan fu'r annedd yn ddi-fwg (pan fydd person nad yw'n byw yno yn gweithio er enghraifft), nid oes angen arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'.
  • Lleoliadau gofal awyr agored i blant. Darperir y lleoliadau hyn yn aml yng nghartref y gwarchodwr plant neu mewn mangreoedd a ddefnyddir yn ysbeidiol neu a rennir â mangreoedd eraill. Nid oes angen arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'.
  • Cerbydau preifat sy'n cludo plant. Nid oes angen arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'.
  • Cerbydau preifat lle mae nwyddau neu wasanaethau’n cael eu darparu i berson arall yn y cerbyd, naill ai am dâl neu'n wirfoddol. Nid oes angen arddangos arwyddion 'Dim ysmygu' gan mai dim ond rhywfaint o'r amser y mae'n ofynnol i'r cerbyd fod yn ddi-fwg.
  • Llety gwyliau hunangynhaliol neu lety dros dro. Nid yw'n ofynnol i'r llety hwn fod yn ddi-fwg drwy'r amser, dim ond pan fydd yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn. Nid oes angen arddangos arwyddion 'Dim ysmygu'.

Arwyddion 'Dim ysmygu' gyda graffig a 'thestun rhybudd priodol'

Mae tri lle di-fwg lle mae’n rhaid arddangos yr arwyddion hyn. Tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Dylid sicrhau bod yr arwyddion hyn yn weladwy i bob defnyddiwr.  

Tir ysgolion

Rhaid arddangos o leiaf un arwydd 'Dim ysmygu' ar dir yr ysgol.

Rhaid arddangos yr arwydd 'Dim ysmygu' mewn man amlwg ym mhrif fynedfa tir yr ysgol, neu'n agos ati, i sicrhau bod holl ddefnyddwyr yr ysgol yn ymwybodol bod tir yr ysgol yn ddi-fwg. Os oes gan yr ysgol fwy nag un brif fynedfa, yna rhaid arddangos arwydd ym mhob un o'r mynedfeydd, neu'n agos atynt.

Rhaid i bob arwydd dim ysmygu ar dir yr ysgol gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
  • Testun rhybuddio priodol sef:

Mae ysmygu yn nhir yr ysgol hon yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in these school grounds

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran mai https://llyw.cymru/posteri-gwybodaeth-dim-ysmygunt, dyluniad na lliw arwyddion tir ysgol di-fwg. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Mae poster hefyd ar gael i'w arddangos wrth allanfeydd adeilad yr ysgol i dir yr ysgol er mwyn atgoffa defnyddwyr yr ysgol fod smygu wedi'i wahardd ar dir yr ysgol. Mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i ysgolion ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Tir ysbytai

Rhaid arddangos o leiaf un arwydd 'Dim ysmygu' ar dir yr ysbyty.

Rhaid arddangos yr arwydd 'Dim ysmygu' mewn man amlwg ym mhrif fynedfa tir yr ysbyty, neu’n agos ati, er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr yr ysbyty’n ymwybodol bod tir yr ysbyty yn ddi-fwg. Os oes gan dir yr ysbyty fwy nag un brif fynedfa, yna rhaid arddangos arwydd ym mhob un ohonynt neu’n agos atynt.

Rhaid i bob arwydd dim ysmygu ar gyfer tir ysbyty gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
  • Testun rhybuddio priodol sef:

Mae ysmygu yn nhir yr ysbyty hwn yn erbyn y gyfraith/ It is against the law to smoke in these hospital grounds.

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran maint, dyluniad na lliw arwyddion 'Dim ysmygu’ tir ysbytai. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Mae poster hefyd ar gael i'w arddangos wrth allanfeydd yr ysbyty i dir yr ysbyty er mwyn atgoffa pobl ei bod yn erbyn y gyfraith i smygu ar dir yr ysbyty. Bydd hwn yn cael ei ddarparu i ysbytai ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny

Meysydd chwarae cyhoeddus

Rhaid dangos un arwydd o leiaf mewn maes chwarae cyhoeddus. 

Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus â ffin, rhaid i'r arwydd hwn fod mewn man amlwg wrth y brif fynedfa neu gerllaw’r fynedfa honno (os oes mwy nag un brif fynedfa, yna pob un ohonynt). 

Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus heb ffin, rhaid gosod arwydd mewn man amlwg ger y maes chwarae.

Rhaid i bob arwydd gynnwys y canlynol:

  • Darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét, ac
  • Ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, 'Mae ysmygu yn y maes chwarae hwn yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in this playground'.
  • Ar gyfer meysydd chwarae heb unrhyw ffiniau clir “Mae ysmygu o fewn 5 metr i’r cyfarpar chwarae hwn yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke within 5 metres of this play equipment.

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran maint, dyluniad na lliw arwyddion di-fwg mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Rydym wedi creu templed y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu'r arwyddion hyn. Mae'r templed ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i ysgolion ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny:Mae poster hefyd ar gael i'w arddangos wrth allanfeydd yr ysbyty i dir yr ysbyty er mwyn atgoffa pobl ei bod yn erbyn y gyfraith i smygu ar dir yr ysbyty. Mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i ysbytai ei arddangos os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dyletswydd i atal smygu a chamau rhesymol

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli mangreoedd di-fwg gymryd camau rhesymol i achosi i rywun sy'n smygu yno roi'r gorau i smygu. Er bod cefnogaeth eang i'r ddeddfwriaeth, yn enwedig pan ddeellir y gallai troseddau gael eu cyflawni, dylai sefydliadau fod yn barod i ddweud wrth unrhyw un sy'n smygu mewn ardal ddi-fwg eu bod yn cyflawni trosedd, a chymryd unrhyw gamau rhesymol eraill i'w hatal rhag smygu. Ar ddiwedd y canllawiau hyn, darperir siart llif sy'n nodi'r camau i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw sefyllfa o ddiffyg cydymffurfio yn y modd priodol. Mae cyngor a chymorth ar ddulliau atal ar gael gan yr Awdurdod Lleol hefyd. Yn ogystal, efallai yr hoffai rhai safleoedd ysbytai drafod â’u Hawdurdod Lleol y posibilrwydd o awdurdodi staff ysbyty i gyflawni dyletswyddau gorfodi penodol ar ran yr Awdurdod Lleol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn glir y byddai angen i’r Awdurdod Lleol awdurdodi hyn, gan mai’r Awdurdod sy’n gyfrifol am y swyddogaethau gorfodi.

Isod ceir awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu ychwanegol y gellir eu cymryd er mwyn helpu pawb i gydymffurfio â'r gofynion di-fwg. Hefyd, dylid ystyried a oes unrhyw gamau rhesymol eraill y gallwch eu cymryd yn eich lleoliad. Argymhellir cofnodi a chadw tystiolaeth o’r camau a gymerwyd a pham yr oedd yn addas. Dylid cymryd camau hefyd i sicrhau bod yr arwyddion gorfodol yn dal i gael eu harddangos ac nad ydynt, er enghraifft, wedi’u cuddio neu eu difrodi.

Codi ymwybyddiaeth

Cafodd deunyddiau codi ymwybyddiaeth dwyieithog eu darparu i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd a darparwyr gofal iechyd annibynnol, cyn i’r newidiadau ddod yn weithredol ar 1 Mawrth 2021. Gall sefydliadau barhau i ddefnyddio’r deunyddiau hyn i'w helpu gyda'r broses o gyfathrebu’n lleol, a chyda’u gweithgareddau a'u negeseuon ynglŷn â’r gofynion di-fwg. Hefyd, dylai lleoliadau ystyried defnyddio eu dulliau cyfathrebu lleol i godi ymwybyddiaeth a sut y gellir cefnogi staff i herio unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio. Yn achos lleoliadau gofal plant, gallai hyn olygu cyfathrebu â rhieni/gofalwyr a diwygio contractau gyda rhieni/gofalwyr a staff i sicrhau bod y gofynion di-fwg yn gwbl glir. Ar gyfer ysgolion, gallai hyn fod yn negeseuon i rieni/gofalwyr ysgol, diweddariadau ar wefan yr ysgol neu arddangos posteri. Mewn ysbytai, gall negeseuon i gleifion, contractwyr ac ymwelwyr cyn iddynt ymweld â’r ysbyty fod o gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r gofynion di-fwg. Gall negeseuon ar lythyrau gwahoddiad cleifion mewnol a chleifion allanol, negeseuon staff a byrddau negeseuon helpu i wneud y gofynion yn glir.

Mae’n bwysig bod yr holl ddeunyddiau cyfathrebu yn hygyrch ac yn cadw at ofynion y sefydliad o ran y Gymraeg. 

Arddangos arwyddion ar ddrysau 

Argymhellir bod arwyddion/posteri yn cael eu gosod wrth allanfeydd o adeilad i’r tir di-fwg i atgoffa defnyddwyr ei bod yn erbyn y gyfraith i smygu yno. Mae’r rhain ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Diweddaru eich polisi di-fwg

Er mwyn cyfleu'r ddeddfwriaeth a'i goblygiadau, dylid adolygu'r polisi di-fwg a'i ddiweddaru i adlewyrchu'r gofynion di-fwg newydd fel bo'r angen. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i ysbytai fel bod gweithdrefnau clir ar waith i ymdrin ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio gan gleifion, ymwelwyr, staff a chontractwyr.

Helpu'r rhai sydd am roi'r gorau i smygu

Y gobaith yw y bydd llawer o bobl yn defnyddio'r cyfyngiadau ar smygu fel cyfle i smygu llai neu roi'r gorau iddi'n llwyr. Mae rhoi'r gorau i smygu yn dod â manteision uniongyrchol i iechyd. Gallai eich busnes neu'ch sefydliad hyrwyddo manteision rhoi'r gorau iddi ac annog unrhyw un sydd am roi'r gorau i smygu i ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim y GIG yng Nghymru, Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 www.helpafiistopo.cymru.

Gwneud i bethau weithio - gorfodi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg

Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru. Mae'r gwaharddiad ar smygu a gyflwynwyd yn 2007 a’r newidiadau a wnaed o 1 Mawrth 2021 yn cael eu hunan-blismona i raddau helaeth, gyda chefnogaeth a chydymffurfiaeth gyhoeddus sylweddol. 

Swyddogion awdurdodedig ym mhob Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru. Mae'r heddlu hefyd wedi’u hawdurdodi i orfodi'r gofynion di-fwg mewn perthynas â cheir preifat sy’n cludo plant. Mae'r naill a'r llall yn gweithio'n agos gyda busnesau i feithrin cydymffurfiaeth trwy roi cyngor a chymorth. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn dweud y gellir cymryd camau gorfodi, drwy hysbysiadau cosb benodedig, os yw rhywun yn troseddu. Y troseddau a'r lefelau dirwyon y darperir ar eu cyfer yw:

  • Y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu mewn cerbyd di-fwg - £100, gyda gostyngiad i £75.
  • Y drosedd o fethu ag arddangos arwydd - £200, gyda gostyngiad i £150.
  • Y drosedd o smygu mewn cerbyd lle mae plentyn yn bresennol - £100, gyda gostyngiad i £75.
  • Y drosedd o fethu ag atal smygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg (gan gynnwys lleoliadau gofal awyr agored i blant, tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus) - os caiff ei ddyfarnu'n euog, bydd unigolyn yn atebol i euogfarn ddiannod o ddirwy heb fod dros lefel 4 ar y raddfa safonol.

Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw ymchwilio i bob cwyn, ac ystyririr camau gorfodi dim ond pan fydd difrifoldeb y sefyllfa'n cyfiawnhau hynny ac y bydd y cam gweithredu hwnnw'n un teg, cymesur a chyson. Mae arolygiadau gorfodi’n seiliedig ar risg a, lle bo'n bosibl, yn cael eu cyfuno ag arolygiadau rheoleiddio eraill er mwyn helpu i leihau'r baich ar fusnesau.

Camau i'w hystyried os bydd rhywun yn anwybyddu'r gwaharddiad ar smygu

Rydym yn hyderus bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn parchu'r gyfraith ar smygu. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gan y rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd a cherbydau di-fwg (gan gynnwys yr ardaloedd di-fwg awyr agored hynny) strategaeth i ymdrin â rhywun sy'n penderfynu smygu mewn lle di-fwg. Mae'r siart canlynol yn nodi rhai o'r camau y gellid eu cymryd.

Mynd at yr unigolyn a thynnu sylw at yr arwyddion ‘Dim ysmygu’ (os yw’r unigolyn yn smygu mewn man lle mae arwydd yn ofynnol). Gofyn yn gwrtais iddyn nhw roi'r gorau i smygu.

Rhoi gwybod i'r unigolyn ei bod hi'n drosedd i chi (fel perchennog, rheolwr ac ati) adael i unrhyw un smygu. Dylech ddweud wrthynt hefyd eu bod nhw'n cyflawni trosedd drwy smygu mewn ardal ddi-fwg.

Os yw'r person sy'n smygu'n gyflogai ac yn parhau i smygu, dylech:

  • esbonio mai diben y ddeddfwriaeth ddi-fwg yw sicrhau amgylchedd diogel i bawb, yn rhydd o niwed mwg ail-law
  • os oes angen, defnyddiwch eich gweithdrefn ddisgyblu ar gyfer diffyg cydymffurfio â pholisi di-fwg eich gweithle

Os yw'r sawl sy'n smygu yn gwsmer, ymwelydd ac ati ac yn parhau i smygu:

  • gofynnwch iddyn nhw adael y fangre ddi-fwg (a, lle bo'n berthnasol, dweud lle gallant smygu)
  • os byddant yn gwrthod gadael, ewch ati i ddefnyddio gweithdrefn arferol ymddygiad gwrthgymdeithasol/anghyfreithlon y fangre
  • cofiwch gadw cofnod o bob digwyddiad a chanlyniad o'r fath

Ym mhob achos lle bydd rhywun yn wynebu trais corfforol neu fygythiad o hynny, gofynnwch am gymorth yr heddlu.