Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Hydref 2012.

Cyfnod ymgynghori:
24 Gorffennaf 2012 i 16 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem wybod a ydych yn defnyddio dangosyddion Cyflwr yr Amgylchedd, yr hyn rydych yn eu defnyddio ar eu cyfer, a pha mor ddefnyddiol yw'r adroddiad Cyflwr yr Amgylchedd.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr am:

  • ba ddangosyddion yr amgylchedd maent yn defnyddio.
  • ba ddefnydd y gwnânt o’r wybodaeth.
  • ba mor ddefnyddiol maent yn gweld y wybodaeth a gyflwynir yn yr adroddiad ‘Cyflwr yr Amgylchedd’.

Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i ymestyn ein gwybodaeth am sut mae defnyddwyr – yn arbennig y rhai tu allan i’r Llywodraeth – yn defnyddio dangosyddion yr adroddiad blynyddol.  Bydd hyn o gymorth er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ystod eang o ddefnyddwyr.  Mae hyn yn unol â gofynion y Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol a'r gofynion o'r adroddiad asesu Awdurdod Ystadegau'r DU.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 87 KB

PDF
87 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.