Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cytundeb yn gofyn am wybodaeth gan y milfeddyg am y prawf (neu’r profion) sydd heb ei ddilysu a fydd yn cael ei ddefnyddio a'r cynllun ar gyfer ei ddefnyddio. Mae'n rhoi cyfle i'r ceidwad:

ddefnyddio prawf (neu brofion) newydd i geisio adnabod anifeiliaid risg uchel y mae profion eraill yn eu methu, rheoli eu buchesi, heb orfod symud anifeiliaid sy’n cael canlyniad positif ar unwaith – e.e. mewn grwpiau ynysig hyd at ddiwedd y cyfnod llaetha a galluogi carfanau o anifeiliaid heintiedig i gael eu hadnabod o bosibl yn ôl oedran, neu ddull rheoli. Os bydd anifeiliaid sy’n cael canlyniad positif yn aros ar ôl cyfnod penodol, rhaid iddynt ddilyn trefn brofi sensitifrwydd uchel ac os yw’r profion yn bositif, byddant yn cael eu difa a bydd iawndal yn cael ei roi.

Mae’r diwydiant yn gallu helpu datblygwyr profion i gasglu mwy o ddata ar sut y caiff eu prawf ei gymhwyso yn y maes.  

Mae prawf wedi'i ddilysu yn brawf y derbyniwyd bod ei ddata dilysu profion yn bodloni safonau rhyngwladol gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (OIE).

Ystyr "prawf perthnasol" yw –

(a) prawf croen; neu

(b) unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

Mae'r prawf gwrthgyrff TB Buchol Enferplex (Serwm) yn brawf wedi'i ddilysu, ond nid yw'n cael ei ystyried yn "brawf perthnasol" yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae cynllun peilot ar wahân, a reolir gan filfeddyg preifat yn Sir Benfro, MV Diagnostics a Llywodraeth Cymru ar gyfer hyd at 10 o fuchesi heb TB yn swyddogol, neu fuchesi â TB i ddefnyddio'r prawf hwn yn breifat o dan feini prawf tebyg i'r rhai ar gyfer profion heb eu dilysu. Am fwy o fanylion cysylltwch â BovineTB@gov.cymru