Esboniad o'r ffordd rydym yn rheoli ac yn disgwyl i bobl ddefnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae gyda ni sianeli ar wahanol blatfformau i'n helpu i gyfathrebu'r gwaith rydym yn ei wneud.
Rydym yn defnyddio meddalwedd i ymateb i ac i nodi cwestiynau, themâu a barn ar ein polisïau a'n gwaith.
Rydym am i'n cyfrifon fod yn llefydd diogel a pharchus i bawb. Rydym yn eich annog i ymateb gydag adborth, cwestiynau, eich straeon a'ch profiadau.
Rydym hefyd yn gofyn eich bod yn dilyn rhai rheolau syml:
- rydych chi'n gyfrifol am unrhyw gynnwys yr ydych yn ei bostio, gan gynnwys cynnwys yr ydych yn dewis ei rannu
- byddwn yn tynnu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw bostiadau yr ydym yn teimlo sy'n amhriodol neu sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol
- byddwn yn adrodd am unrhyw broffiliau sy'n defnyddio delweddau, gan gynnwys ffontiau, Llywodraeth Cymru heb ganiatâd
Byddwn yn blocio ac adrodd unrhyw ddefnyddwyr lle mae eu postiadau:
- yn sarhaus neu'n aflan, er enghraifft yn hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu'n benodol rhywiol
- yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol
- yn torri unrhyw gyfraith neu reoliadau
- yn torri unrhyw hawliau eiddo deallusol
- yn spam (postiadau negyddol neu sarhaus parhaus sy'n ceisio pryfocio ymateb)
- yn hysbysiadau neu hyrwyddiadau
Byddwn yn cadw manylion postiadau cyhoeddus sy'n torri ein rheolau a bydd y cyfrif yn cael ei flocio.
Sut rydym yn rheoli ein cyfrifon
Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnal gan weision sifil sy'n gorfod dilyn Cod y Gwasanaeth Sifil.
Rydym yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid gwyliau cyhoeddus).
Byddwn yn ceisio ateb eich cwestiynau, ond gyda chynifer o negeseuon, efallai na fydd modd i ni ymateb i bob ymholiad.
Lle na fyddwn yn gallu ateb cwestiynau trwy gyfryngau cymdeithasol, byddwn yn eu cyfeirio at y man cywir lle bo'n briodol.
Rydym yn ceisio'n gorau i roi'r wybodaeth gywir i chi. Os fyddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ceisio cywiro'r sefyllfa a rhoi'r wybodaeth gywir cyn gynted â phosibl.
Rhowch wybod os credwch ein bod wedi gwneud camgymeriad neu os ydych yn gweld rhywbeth y credwch i fod yn amhriodol neu eich bod yn poeni amdano.
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ac i ddiweddaru neu newid yr amodau hyn ar unrhyw adeg.