Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio AI mewn modd cyfrifol wrth baratoi sylwadau, tystiolaeth neu gyflwyniadau ar gyfer achosion cynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Gall offerynnau deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi ymgysylltu â’r broses gynllunio. Gall hyn fod yn beth cadarnhaol pan gaiff ei ddefnyddio’n gywir ac yn dryloyw. Gan fod gallu offerynnau AI a’r defnydd ohonynt yn esblygu, byddwn yn cadw’r arweiniad hwn dan arolwg.

Offerynnau AI a’r risgiau

Gall offerynnau AI greu cynnwys ar ffurf testun, delweddau, fideos, sain, cod cyfrifiadurol a mathau eraill o ddata. Gall hefyd newid neu wella cynnwys presennol. Mewn achosion o’r fath, mae AI yn defnyddio gwybodaeth bresennol, fel arfer o gronfa ddata fawr neu o’r rhyngrwyd, i ddarparu ymateb i anogwyr neu geisiadau’r defnyddiwr.

Er ein bod yn cydnabod y buddion effeithlonrwydd a ddaw yn sgil AI, mae hefyd yn arwain at risgiau, a gall fod yn wrthgynhyrchiol os caiff ei ddefnyddio’n amhriodol. Gall y risgiau hyn gynnwys:

  • gwybodaeth anghywir neu sydd wedi dyddio, 
  • tuedd,
  • materion yn ymwneud â phreifatrwydd a diogelu data,
  • colli naws. 

Caiff rhai o’r risgiau hyn eu harchwilio’n fanylach isod. 

Defnyddio AI i wneud sylwadau ar achosion

Mae PCAC yn gwerthfawrogi safbwyntiau partïon â buddiant. Yn aml, mae sylwadau’n fwyaf defnyddiol pan maent wedi’u seilio ar eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun o’r achos.

Dylech osgoi cyflwyno cynnwys AI generig, hir. Gall fod yn llai effeithiol o ran cyflwyno dadleuon cymhellol ar gyfer achos. Gall hefyd fod yn annefnyddiol i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad. 

Gellir craffu ar gyflwyniadau ysgrifenedig mewn gwrandawiadau llafar ac ymchwiliadau. Efallai y bydd angen i chi esbonio eich cyflwyniad ac ateb cwestiynau amdano. Gallai hyn gynnwys cwestiynau dan groesholiad. 

Ni ddylech fyth wneud cyflwyniadau ysgrifenedig nad ydych yn eu deall nac yn gwybod eu bod yn gywir.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau os byddwch yn cyflwyno tystiolaeth anghywir. Gallai hyn ddigwydd os bydd PCAC neu bartïon eraill yn yr apêl yn mynd i gostau wrth wirio’r dystiolaeth honno neu ymateb iddi.

Canllawiau ar gyfer defnyddio AI mewn cyflwyniadau

Wrth ddefnyddio AI i lunio tystiolaeth, dylech ddilyn y canllawiau canlynol:

1. Tryloywder

Cyfeiriwch at y ffynhonnell wreiddiol

Os yw’r AI yn defnyddio data neu wybodaeth o ffynhonnell arall, darparwch ddolen we i’r ffynhonnell neu’r ddogfen wreiddiol. Peidiwch â rhestru’r offeryn AI ei hun fel y ffynhonnell. Gallai’r Arolygydd wrthod tystiolaeth os yw’r ffynhonnell wreiddiol yn aneglur.

Defnyddiwch ffynonellau cynllunio swyddogol

Gall AI helpu i esbonio gwybodaeth, ond rhaid i chi ddefnyddio a chyfeirio at ffynonellau cynllunio swyddogol.

2. Cywirdeb a chyfanrwydd cynnwys

Peidiwch â newid delweddau neu fideos

Ni ddylech ddefnyddio AI nac unrhyw offeryn arall i olygu neu newid delweddau neu fideos sy’n cael eu cyflwyno fel tystiolaeth.

Yr unig eithriad yw pan fyddwch yn datgan y newidiadau a’u bod yn helpu’r Arolygydd i ddeall y dystiolaeth.

Bydd PCAC yn diystyru unrhyw ddelweddau neu recordiadau sydd wedi’u newid ond lle nad yw hynny wedi’i ddatgan. Gallai cyflwyno tystiolaeth sydd wedi’i newid hefyd arwain at ddyfarnu costau yn eich erbyn am ymddygiad afresymol.

Gwiriwch gynnwys sydd wedi’i greu gan AI

Gall AI greu atebion sy’n swnio’n hyderus ond a allai fod yn anghywir neu wedi dyddio. Weithiau, caiff y rhain eu galw’n ‘rhithweledigaeth’.

Chi sy’n gyfrifol am gywirdeb unrhyw gynnwys y byddwch yn ei greu gydag AI. Dylech wirio geirwiredd tystiolaeth rydych yn dibynnu arni bob tro.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth gywir sy’n berthnasol yng Nghymru. 

Dylech hefyd wirio bod unrhyw gyfraith achosion y cyfeirir ati yn berthnasol ac wedi’i dehongli’n gywir. Byddai cyflwyno tystiolaeth anghywir yn fwriadol neu’n esgeulus yn gyfystyr ag ‘ymddygiad afresymol’. 

Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad o ymddygiad afresymol yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu (Adran 12 atodiad: dyfarnu costau). Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau os byddwch yn cyflwyno tystiolaeth anghywir. Gallai hyn ddigwydd os bydd PCAC neu bartïon eraill yn yr apêl yn mynd i gostau wrth wirio’r dystiolaeth honno neu ymateb iddi.

Peidiwch â chyflwyno cynnwys annerbyniol

Ni fydd yr Arolygydd yn gweld sylwadau sy’n cynnwys sylwadau difrïol, hiliol neu a all fod yn enllibus. Bydd y sylwadau’n cael eu dychwelyd i chi a’u dileu o systemau PCAC.

3. Preifatrwydd a diogelu data

Sicrhewch fod data personol wedi’i ddiogelu

Gall rhoi data personol, cyfeiriadau neu ddogfennau sensitif mewn offerynnau AI arwain at risgiau preifatrwydd.

Rhaid i unrhyw gynnwys sydd wedi’i greu gan AI y byddwch yn ei anfon at PCAC gydymffurfio â’r deddfau diogelu data perthnasol.

Am fanylion, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

4. Eiddo deallusol (IP) a hawlfraint

Dilynwch ddeddfau hawlfraint

Gallai testun neu ddelweddau sy’n cael eu creu gan AI arwain at gwestiynau ynghylch hawlfraint neu berchnogaeth. 

Chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr fod pob cynnwys sy’n cael ei greu gan AI yn dilyn rheolau hawlfraint. Rhaid i chi gael y caniatâd angenrheidiol, yn ôl yr angen.

Peidiwch â chyflwyno deunydd sydd â hawlfraint i unrhyw wasanaeth AI i greu crynodebau o gynnwys arall. Mae hyn yn cynnwys deunydd sydd â hawlfraint o Borth Gwaith Achos Apeliadau PCAC.

5. Adolygu a goruchwylio

Adolygwch gynnwys sy’n cael ei greu gan AI yn rheolaidd

Os byddwch yn defnyddio cynnwys sydd wedi’i greu gan AI fwy nag unwaith, fel ar draws sawl achos dros gyfnod, dylech ei adolygu’n rheolaidd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cynnwys yn gywir ac yn berthnasol o hyd.

Cadwch oruchwyliaeth ddynol

Gall offerynnau AI newid dros gyfnod, pan gânt eu diweddaru neu eu hyfforddi ar ddata newydd. 

Sicrhewch fod rhywun yn parhau’n gyfrifol am benderfyniadau, cyngor a chyflwyniadau bob amser. Dylech wneud yn siŵr fod allbynnau AI yn briodol ac yn gywir o ran eu cyd-destun.