Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Prentisiaethau

  • Mae cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim (PYD) yn yr ysgol uwchradd yn fesur ystyrlon o amddifadedd ar gyfer deilliannau prentisiaeth.
  • Y gwahaniaeth yn 2021/22 yn y gyfradd lwyddo rhwng prentisiaid nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim a phrentisiaid a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg oedd 13 pwynt canran.
  • Roedd y bwlch mewn deilliannau dair gwaith yn ehangach na chyn pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn 2018/19.
  • Yn 2021/22, po fwyaf o flynyddoedd yr oedd yn hysbys bod dysgwr yn gymwys am brydau ysgol am ddim, yr isaf yw'r gyfradd lwyddo.
  • Mae'r bwlch rhwng y deilliannau ar gyfer y rhai nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg yn bodoli hyd yn oed rhwng prentisiaid sy'n byw mewn cymdogaethau difreintiedig tebyg.
  • Mae data ar gymhwystra i gael prydau ysgol am ddim ar gael ar gyfer 91% o brentisiaid a ddechreuodd yn 24 oed neu'n iau.
  • Yn gyffredinol, cafwyd data ynghylch cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim ar gyfer 7,670 allan o 17,200 o brentisiaid yn 2021/22.

Dysgu oedolion

  • Nid yw cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn fesur addas ar gyfer deilliannau dysgu oedolion ar hyn o bryd, oherwydd y gyfran isel o ddysgwyr y mae data cymhwystra ar gael ar eu cyfer.

Cymhwystra i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYD) fel mesur amddifadedd

Defnyddir cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn aml fel dangosydd o amddifadedd mewn ystadegau addysg.

Mae'r holl fesurau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfnod yr ysgol uwchradd: 

  • Mae ‘cymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg’ yn golygu bod dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg yn yr ysgol uwchradd
  • Mae ‘erioed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim’ yn golygu nad oedd dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn yr ysgol uwchradd

Gweler yr adran cwmpas y data i gael rhagor o wybodaeth.

Prentisiaethau

Mae'n rhaid i ddysgwyr ar raglenni prentisiaeth gyflawni ystod o gymwysterau i gael eu prentisiaeth. Y gyfradd lwyddo yw canran y rhai sy'n gadael prentisiaethau a gyflawnodd y fframwaith prentisiaeth llawn.

Ffigur 1: Y gyfradd lwyddo ar gyfer prentisiaethau ar gyfer dysgwyr nad oeddent erioed yn gymwys am PYD a'r rhai a oedd yn gymwys am PYD, yn ôl blwyddyn academaidd 2016/17 i 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart yn dangos bod prentisiaid a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd yn llai tebygol o gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus na'r rhai nad oeddent erioed yn gymwys.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED)

[Nodyn 1] Ni chynhyrchwyd mesurau deilliannau ar gyfer 2019/20 a 2020/21, gweler y nodiadau.

Mae data i'w weld yn Nhabl 1 o'r daenlen ategol

Yn 2021/22, roedd gan brentisiaid a oedd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg yn yr ysgol uwchradd gyfradd lwyddo o 56%. Roedd gan brentisiaid nad oeddent erioed wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim gyfradd lwyddo o 69%.

Cyn y pandemig y coronafeirws (COVID-19), roedd gan brentisiaid nad oeddent erioed wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim gyfraddau llwyddo uwch na'r rhai a oedd wedi bod yn gymwys, ond roedd y bwlch yn lleihau. Yn 2021/22, cynyddodd y bwlch i fwy na thair gwaith y gwahaniaeth yn 2018/19.

Gostyngodd y gyfradd lwyddo i bob dysgwr rhwng 2018/19 a 2021/22, ond roedd y gostyngiad yn llawer mwy i'r rhai a oedd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg.

Ffigur 2: Y gyfradd lwyddo ar gyfer prentisiaethau, yn ôl nifer y blynyddoedd yr oedd yn hysbys bod dysgwr yn gymwys am PYD, blynyddoedd academaidd 2018/19 a 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar yn dangos bod y gyfradd lwyddo prentisiaethau yn is i brentisiaid yr oedd yn hysbys eu bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim am gyfnod hwy yn 2021/22. Nid oedd hyn yn wir yn 2018/19.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED)

Mae data i'w weld yn Nhabl 2 o'r daenlen ategol

Yn 2021/22, roedd yn hysbys bod 610 o brentisiaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim am 5 mlynedd. Llwyddodd ychydig dros hanner (51%) ohonynt i gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus. Roedd y gyfradd lwyddo ar gyfer y prentisiaid hyn 18 pwynt canran yn is nag ar gyfer dysgwyr nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim (69%).

Ffigur 3: Y gyfradd lwyddo ar gyfer prentisiaethau ar gyfer dysgwyr nad oeddent erioed yn gymwys am PYD  a'r rhai oedd yn gymwys, yn ôl rhyw, blynyddoedd academaidd 2018/19 a 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos bod y bwlch rhwng y rhai nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai a oedd yn gymwys ar ryw adeg wedi ehangu ar gyfer dynion a menywod rhwng 2018/19 a 2021/22, ond yn fwy felly ar gyfer menywod.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED)

Mae data i'w weld yn Nhabl 4 o'r daenlen ategol

Cyn y pandemig roedd y gwahaniaeth yn y cyfraddau llwyddo rhwng y rhai nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai a oedd yn gymwys ar ryw adeg yn ehangach i ddynion nag i fenywod. Cafodd y duedd ei gwrthdroi yn 2021/22, pan oedd y bwlch yn 10 pwynt canran ar gyfer dynion a 13 pwynt canran ar gyfer menywod.

Roedd gan fenywod a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg gyfradd lwyddo gyfartalog o 80% yn 2018/19. Fe wnaeth hyn ostwng i 49% yn 2021-22. Roedd gan dynion a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg gyfradd lwyddo o 78% yn 2018/19 a 63% yn 2021/22.

Ffigur 4: Y gyfradd lwyddo ar gyfer prentisiaethau ar gyfer dysgwyr nad oeddent erioed yn gymwys am PYD a'r rhai oedd yn gymwys, yn ôl amddifadedd y gymdogaeth gartref, blwyddyn academaidd 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart yn dangos y cyfraddau llwyddo yn ôl degradd amddifadedd cymdogaeth gartref y dysgwr. Mae'r degradd 1af yn cynrychioli'r 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig gyda'r 10fed degradd yn cynrychioli'r 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd gan ddysgwyr a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar ryw adeg ganlyniadau is na'r rhai nad oeddent erioed yn gymwys, hyd yn oed pan oedd eu cymdogaethau cartref yr un mor ddifreintiedig.

[Nodyn 1] Degraddau amddifadedd yn seiliedig ar brif fynegai Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), 2019.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED), Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Mae data i'w weld yn Nhabl 5 o'r daenlen ategol

Mae'r mesur presennol o amddifadedd a ddefnyddir ar gyfer ystadegau prentisiaethau ein Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn seiliedig ar amddifadedd yr ardal lle mae'r dysgwr yn byw ar adeg ei brentisiaeth ac nid amgylchiadau'r dysgwr ei hun. Mae cymhwystra hanesyddol i gael prydau ysgol am ddim yn darparu gwybodaeth am y dysgwr unigol.

O fewn pob degradd o amddifadedd, roedd gan ddysgwyr nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim gyfradd lwyddo uwch na'r rhai a oedd yn gymwys. Roedd y bwlch yn llai mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Ar gyfer prentisiaid nad oeddent erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim, roedd y cyfraddau llwyddo yn 2021/22 yn cynyddu'n gyffredinol wrth i amddifadedd eu hardal gartref leihau. Nid oedd patrwm clir ar gyfer prentisiaid a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Cwmpas y data

Ceir hanes y dysgwr o ran cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim drwy baru cofnodion prentisiaeth a dysgu oedolion â chofnodion ysgol hanesyddol. Mae hyn yn defnyddio'r Set Ddata Addysg wedi'i Pharu. Mae'r Set Ddata Addysg wedi'i Pharu yn cysylltu setiau data i olrhain cynnydd dysgwr drwy'r system addysg yng Nghymru. Mae'n paru cofnodion sy'n mynd yn ôl i 2010/11. Ni ellir paru cofnodion pob dysgwr.

Nid yw hanes dysgwr o ran cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim ar gael i ddysgwyr a aeth i'r ysgol cyn 2010/11 neu a aeth i'r ysgol y tu allan i Gymru.

Tabl 1: Cyfran y prentisiaid yr oedd eu statws o ran cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn hysbys, yn ôl oedran a blwyddyn academaidd
Grŵp oedran 2016/17 2017/18 2018/19 2021/22
16 96% 96% 94% 94%
17 95% 96% 96% 94%
18 93% 94% 95% 93%
19 92% 93% 93% 94%
20 i 24 33% 49% 65% 87%
25 i 29 [isel] [isel] 2% 30%
30 i 64 [isel] [isel] [isel] [isel]
Pob grŵp 38% 32% 33% 45%

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED)

Mae [isel] yn cynrychioli gwerth sy'n llai na 0.5% ond yn fwy na sero.

Mae data i'w weld yn Nhabl 6 o'r daenlen ategol

Yn 2021/22, roedd hanes 45% o brentisiaid o ran eu cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn hysbys. Mae hyn yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Roedd y gyfradd baru yn well i brentisiaid iau. I ddysgwyr a oedd yn 19 oed neu'n iau ar ddechrau eu prentisiaeth, roedd y gyfradd dros 90% am y pedair blynedd i gyd. Mae'r gyfradd baru ar gyfer grwpiau oedran hŷn wedi gwella dros amser wrth i fwy o ddysgwyr gael eu cynnwys yn y Set Ddata Addysg wedi’i Pharu, a dylent barhau i wella. Yn 2021/22, roedd 59% o brentisiaid yn 29 oed neu'n iau ar ddechrau eu prentisiaeth.

Dysgu oedolion

Nid yw cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn fesur addas ar gyfer deilliannau addysg oedolion ar hyn o bryd, oherwydd y gyfran isel o ddysgwyr y mae gwybodaeth ar gael am eu cymhwystra.

Yn 2021/22, roedd data ynghylch cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim ar gael ar gyfer 10% yn unig o weithgareddau dysgu oedolion. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n oedolion wedi mynychu'r ysgol uwchradd cyn y cyfnod a gwmpesir gan y Set Ddata Addysg wedi'i Pharu. Yn 2021/22, roedd 78% o ddysgwyr sy'n oedolion yn 25 oed neu'n hŷn pan wnaethant ddechrau ar eu cwrs.

Nodiadau

Mae'r holl ddata a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn y daenlen ategol.

Gellir dod o hyd i ragor o ddata ar ddeilliannau prentisiaethau a dysgu oedolion yn yr adroddiadau Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion, yn ogystal â gwybodaeth allweddol am ansawdd y mesurau. Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am ddeilliannau prentisiaethau yn ôl y mesurau cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim a archwiliwyd yma. Bydd y mesurau sy'n seiliedig ar MALlC yn parhau i gael eu defnyddio hefyd.

Ffynonellau data

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) - dyma'r ffynhonnell swyddogol o ystadegau ar ddysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yng Nghymru. Mae darparwyr dysgu yn cyflwyno'r data i Lywodraeth Cymru. Caiff ei gasglu ar sail dreigl. Mae'r data a ddefnyddir ar gyfer ystadegau swyddogol yn cael eu casglu ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd berthnasol.

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) - dyma gasgliad blynyddol o ddata disgyblion a lefel ysgol. Mae'n cael ei ddarparu gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ym mis Ionawr bob blwyddyn.

Set Ddata Addysg wedi'i Pharu (MED) - mae hyn yn cysylltu setiau data i olrhain cynnydd dysgwr drwy'r system addysg yng Nghymru. Mae'n paru cofnodion sy'n mynd yn ôl i 2010/11. Caiff ei diweddaru bob blwyddyn.

Atal mesurau perfformiad yn 2019/20 a 2020/21

Yn ystod dwy flynedd gyntaf y pandemig y coronafeirws (COVID-19), fe wnaeth ddysgu ddigwydd ar gyfer prentisiaethau ond effeithiwyd ar rai prentisiaid gan ffyrlo a diswyddiadau. Cynhaliwyd addysg oedolion mewn lleoliadau a oedd ar gael, ond fel arall cafodd dysgu ei symud ar-lein. Ar gyfer y ddau fath o ddarpariaeth cafodd rhai asesiadau eu canslo, eu gohirio neu eu haddasu.

Oherwydd y tarfu ar ddysgu a achoswyd gan y pandemig, ni chynhyrchodd Llywodraeth Cymru unrhyw un o'i mesurau perfformiad arferol ar gyfer dysgu ôl-16 yn 2019/20 na 2020/21.

Cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn rhai budd-daliadau prawf modd neu daliadau cymorth.Yn yr adroddiad hwn, cyfrifir cymhwystra hanesyddol i gael prydau ysgol am ddim drwy baru dysgwyr yn ôl i'r cofnod ysgol.. Caiff y paru ei wneud trwy'r Set Ddata Addysg wedi'i Pharu. Ni ellir paru pob dysgwr.

Nid chafodd y dysgwyr canlynol eu paru i'w cofnod ysgol:

  • dysgwyr a aeth i'r ysgol y tu allan i Gymru
  • dysgwyr a orffennodd yr ysgol cyn 2010/11
  • dysgwyr sydd â rhif adnabod dysgwyr coll na ellid eu paru drwy wybodaeth arall chwaith.

Ar ôl paru dysgwr â'i gofnod ysgol, defnyddiwyd ei gymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11) i gyfrifo'r mesurau canlynol:

Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg

Roedd dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg yn yr ysgol uwchradd

Erioed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Nid oedd dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn yr ysgol uwchradd

Blynyddoedd PYD

Nifer y blynyddoedd yn yr ysgol uwchradd lle'r oedd dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

PYD ym Mlwyddyn 11

A oedd y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mlwyddyn 11.

Nodwyd statws cymhwystra dysgwr fel anhysbys os nad oedd cofnodion ysgol uwchradd ar gael i'r dysgwr.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oedd modd paru dysgwr â chofnod ar gyfer pob blwyddyn yn yr ysgol uwchradd. Cyfrifwyd y mesurau ar gyfer y blynyddoedd y llwyddwyd eu paru.

Os oedd dysgwr yn gymwys a ddim yn gymwys mewn cofnodion ar gyfer yr un flwyddyn, ystyriwyd ei fod yn gymwys. Gallai hyn gynnwys pan aeth dysgwr i sawl ysgol o fewn blwyddyn.

Mae'n bosibl bod nifer y disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cael eu gor-gofnodi rhwng 2020 a 2022. Ysgrifennodd y Prif Ystadegydd flog cyhoeddi data wedi’i ddiweddaru ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dilyn ymarfer dilysu ychwanegol sy'n rhoi rhagor o fanylion. Gallai hyn effeithio ar rai pobl ifanc 16 ac 17 oed a ddechreuodd eu prentisiaeth yn 2021/22. Byddai'r mater yn effeithio ar y data ynghylch nifer y blynyddoedd yr oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mlwyddyn 11, ond nid a oeddent yn gymwys ar ryw adeg i gael prydau ysgol am ddim.

Talgrynnu

Mae'r holl ffigyrau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Mae canrannau'n cael eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau unigol lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a’u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu’r data a ddefnyddir
  • rhesymau eraill a nodir

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond efallai ei fod yn seiliedig ar
‌allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl ‌cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellid defnyddio’r dadansoddiad, a disgrifiad o’r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau'n ddarostyngedig i'r arferion cyhoeddi fel y'u diffinnir gan yr protocol arferion cyhoeddi, ac felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ‑a bennir ymlaen llaw yn yr un modd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Catherine Singleton
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099